Stori newyddion

‘Cefnogwch Brydain’ wrth inni nesau at Brexit, fydd geiriau Davis i arweinwyr busnesau

Mewn araith yng nghinio blynyddol CBI Cymru ddydd Iau 1 Rhagfyr, cafodd arweinwyr busnesau Cymru eu hannog gan David Davis i gefnogi’r ffordd y mae Prydain yn mynd ati i drafod y modd y bydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

David Davis

CBI Speech

Gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd (DExEU) i fusnesau fod yn hyderus am y dyfodol, wrth i’r D.U. geisio cael ‘perthynas well, nid ysgariad chwerw’ gyda’r U.E.

Yn ei ail ymweliad â Chaerdydd ers y refferendwm ym mis Mehefin, cafodd tua 400 o arweinwyr busnesau o amrywiaeth eang o sectorau eu hannerch gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn digwyddiad a gynhelir yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:

Wrth adael, perthynas well nid ysgariad chwerw ydym ni eisiau. Dyna uchelgais y Llywodraeth.

Felly, cais syml sydd gennyf i chi, arweinwyr diwydiant yma yng Nghymru a ledled y D.U. Helpwch ni i ysgrifennu’r bennod newydd a chyffrous yma yn hanes y wlad.

Ychwanegu:

Yr her i ni yw llywio’r cyfnod o ansicrwydd anochel heb golli ein pennau, gyda synnwyr unedig o bwrpas a hyder.

Mae awgrymu y gallai’r Deyrnas Unedig rywsut wrthdroi ei phenderfyniad nid yn unig yn gamarweiniol ond mae hefyd mewn perygl o danseilio ein sefyllfa yn y trafodaethau ac o gynyddu ansicrwydd.

A byddai ail refferendwm yn ysgogi’r rhai sydd ar yr ochr arall yn y trafodaethau i roi’r fargen waethaf bosibl inni er mwyn ceisio gorfodi pobl Prydain i newid eu meddyliau.

Rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei araith ar ôl treulio’r diwrnod yn ne Cymru lle bu’n ymweld ag SPTS, y cynhyrchwyr lled-ddargludwyr yng Nghasnewydd, a’r busnes bach ac annibynnol, Elephant and Bun.

Ymunodd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cains, i glywed sut gall Llywodraeth y D.U. barhau i gefnogi busnesau Cymru cyn y trafodaethau i adael yr U.E.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydym yn wynebu heriau a chyfleoedd yn dilyn Brexit. Byddwn yn darparu bargen a fydd yn sicrhau bod ein hymadawiad â’r U.E. yn llwyddiannus i bob rhan o’r D.U., gan gynnwys Cymru.

Mae economi Cymru mewn cyflwr da ar gyfer y ffordd o’n blaenau ac mae’n parhau’n gryf yn y bôn, yn hynod gystadleuol ac yn agored ar gyfer busnes.

Dywedodd David Jones, Gweinidog DExEU:

Bydd gadael yr U.E. yn golygu mwy o gyfleoedd yng Nghymru i’n busnesau, i’n heconomi, i’n twristiaeth ac i’n prifysgolion.

Er mwyn i Gymru a’r D.U. fod yn llwyddiannus, mae angen i bob un ohonom weithio gyda’i gilydd i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit. Dyna pam rwyf fi yma’n gwrando ar Lywodraeth Cymru a busnesau wrth inni baratoi ar gyfer y trafodaethau.

Cyhoeddwyd ar 5 December 2016