Datganiad i'r wasg

Aston Martin yn cyhoeddi y bydd yn buddsoddi’n sylweddol yng Nghymru

Stephen Crabb: Newyddion yn atgyfnerthu sefyllfa Cymru fel gwlad sy’n arloesi ac yn arwain yn y sector cerbydau.

Aston Martin DBX concept car

Heddiw, mae’r cwmni cynhyrchu ceir o Brydain, Aston Martin, wedi cadarnhau ei fod wedi dewis Sain Tathan ym Morgannwg fel lleoliad ar gyfer ei ail ffatri cynhyrchu.

Bydd cerbyd moethus DBX newydd y cwmni yn cael ei gynhyrchu ar y safle, yn dilyn buddsoddiad a fydd yn creu 750 o swyddi uniongyrchol sgiliau uwch ac yn cefnogi 1,000 yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn hwb enfawr i Sain Tathan, i Gymru ac i’r diwydiant ceir ym Mhrydain. Mae’n enghraifft go iawn o’r hyn y mae modd ei gyflawni fel un genedl, gyda Llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio i ddenu’r gweithgynhyrchwr hwn sy’n fawr ei fri i Gymru.

Mae’r penderfyniad hwn wedi atgyfnerthu sefyllfa Cymru fel gwlad sy’n arloesi ac yn arwain yn y sector cerbydau. Mae hefyd yn dangos pa mor gryf a chystadleuol yw ein sector gweithgynhyrchu, a’r sylfaen sgiliau lefel uchaf sy’n gyrru ein heconomi ymlaen.

“Bydd Sain Tathan yn cyflwyno llu o gyfleoedd i Aston Martin. Rwy’n edrych ymlaen at weld Sied Fawr yr Awyrennau’n cael ei thrawsnewid yn safle gweithgynhyrchu mawr, a gweld Cymru’n tynnu sylw at ei chyfraniad pwysig o ran adfywio’r diwydiant cerbydau yn y DU.

Bydd ffatri newydd Aston Martin yn Sain Tathan yn cymryd tua 90 erw, a bydd yn ailwampio rhai o’r cyfleusterau sy’n cael eu defnyddio ar y safle ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd y gwaith adeiladu’n canolbwyntio ar drawsnewid y tair sied fawr i awyrennau yn safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, a bwriedir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017, gyda’r gwaith o gynhyrchu cerbydau’n dechrau yn 2020.

Sain Tathan fydd yr unig safle cynhyrchu ar gyfer cerbyd newydd Aston Martin. Cafodd car cysyniadol o’r enw ‘DBX’ ei ddangos am y tro cyntaf yn gynnar yn 2015, ac roedd yn nodi bwriad a chyfeiriad y cwmni yn y rhan hon o’r farchnad foethus sy’n tyfu’n gyflym. Gyda mwy a mwy o alw am y mathau hyn o gerbydau mewn marchnadoedd fel China a’r Unol Daleithiau, disgwylir y bydd dros 90% o’r ceir a gaiff eu cynhyrchu yn Sain Tathan yn cael eu hallforio o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Mae Aston Martin yn frand eiconig ym Mhrydain, ac mae’r penderfyniad i fuddsoddi yma yn dangos gwir hyder yn ein heconomi. Gyda’n cryfderau economaidd a’r mynediad hwylus i farchnadoedd Ewrop, mae sector cerbydau’r DU yn ffynnu.

Mae’n un o’r rhai mwyaf yn Ewrop - a’r mwyaf cynhyrchiol - ac mae’r ffaith fod Aston yn creu hyd at 1,000 o swyddi newydd yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn newyddion da iawn.

Cyhoeddwyd ar 24 February 2016