Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn darparu cymorth gan y Lluoedd Arfog i gyflwyno brechlynnau yng Nghymru

Y brechlyn Pfizer yw'r brechlyn COVID-19 cyntaf a gymeradwywyd yn y byd

Bydd aelodau’r Lluoedd Arfog yn cael eu defnyddio ledled Cymru’r gaeaf hwn i helpu i sefydlu a gweithredu canolfannau brechu yn y gymuned.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a Gweinidog Amddiffyn y Lluoedd Arfog James Heappey wedi cymeradwyo cais Cymorth Milwrol i’r Awdurdodau Dinesig (MACA) ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r MACA yn darparu mwy na 90 o bersonél y lluoedd arfog i gefnogi Byrddau Iechyd Cymru i sefydlu a gweithredu canolfannau brechu yn gyflym.

Wrth i’r rhaglen frechu gael ei chyflwyno yn ystod gweddill mis Rhagfyr ac i mewn i fis Ionawr, bydd personél milwrol yn cefnogi sefydlu capasiti ychwanegol gan fod mwy o frechlyn ar gael. Ac am y tro cyntaf ers i’r brechlyn gael ei gyflwyno, bydd meddygon amddiffyn hyfforddedig hefyd yn cefnogi gweinyddu’r brechlyn.

Mae’r cais am gymorth milwrol yn rhedeg rhwng 4 Ionawr a 28 Chwefror 2021 a bydd aelodau o’r Lluoedd Arfog yn darparu’r brechlyn, yn ogystal â sefydlu offer ac yn cyflawni nifer o swyddogaethau eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae cyflwyno’r brechlyn yn her logistaidd sylweddol, felly rydym wedi cymeradwyo defnyddio personél y Lluoedd Arfog i helpu i’w ddosbarthu yng Nghymru.

Mae defnyddio’r fyddin i helpu gyda’r gwaith hanfodol hwn yn dangos sut y gallwn dynnu at ein gilydd i gwrdd ag anghenion y Deyrnas Unedig gyfan wrth i ni fynd i’r afael â’r pandemig.

Gyda chyfraddau achosion yn uchel ar draws sawl ardal yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru. Bydd y nifer enfawr o frechlynnau y mae Llywodraeth y DU wedi’u caffael a chymorth y Lluoedd Arfog i’w dosbarthu yn helpu i droi’r llanw yn y frwydr hon.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn James Heappey:

Ers dechrau’r pandemig, mae ein Lluoedd Arfog wedi gwella cefnogi gwasanaethau iechyd ledled y DU.

Yng Nghymru, mae ein personél eisoes wedi helpu i ddosbarthu PPE, adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd ac, yn fwyaf diweddar, cyflwyno profion cymunedol yng nghymoedd de Cymru.

Rwy’n falch y gallwn nawr gefnogi cyflwyno’r brechlyn ac rwy’n falch bod amddiffyn wedi ymateb yn gyflym i gefnogi’r dasg frys hon.

Ar ôl dod y wlad gyntaf i gymeradwyo brechlyn i’w ddefnyddio, mae Llywodraeth y DU wedi prynu brechlynnau ar ran pob rhan o’r DU a’u dosbarthu ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn cyflwyno’r rhaglen gychwynnol yr wythnos diwethaf (8 Rhagfyr).

Bydd brechlynnau sydd wedi eu cymeradwyo ar gael ledled y DU am ddim yn y man dosbarthu ac yn ôl yr angen.

Caiff brechu ei reoli gan y gwasanaethau iechyd ym mhob gwlad: GIG Lloegr ac NHS Improvement, GIG Cymru, GIG yr Alban, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Defnyddiwyd personél y Lluoedd Arfog i gynorthwyo’r GIG a’r Gwledydd Datganoledig gyda chymorth cynllunio a logistaidd i ddarparu’r brechlyn.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi buddsoddi dros £230m mewn gweithgynhyrchu brechlyn. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn talu cost brechlynnau a fydd yn cael eu dosbarthu i holl wledydd y DU, Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron a Thiriogaethau Tramor.

Ar hyn o bryd mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn tua 14,000 o bersonél a gedwir ar barodrwydd graddedig fel rhan o Becyn Parodrwydd y Gaeaf 2020. Bydd y pecyn hwn yn sicrhau bod cymorth amddiffyn yn parhau i fod yn barod i ymateb i geisiadau am gymorth ar gyflymder angenrheidiol, gan gynnwys cymorth ar gyfer COVID-19, ond heb fod yn gyfyngedig iddo.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 18 December 2020