Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ebrill 2014

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.

Land Registry: Croydon
  • Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 1.5 y cant oddi ar fis Mawrth 2014
  • Prisiau Tai mis Ebrill wedi codi 6.7 y cant oddi ar fis Ebrill 2013
  • Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,069 o gymharu â’r brig o £181, 572 ym mis Tachwedd 2007
  • 936 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Chwefror 2014
  • Cyflwynwyd dros 69,830 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i’w cofrestru ym mis Ebrill yn amrywio o £8,000 i £27.9 miliwn

Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.7 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £172,069. Mae’r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn dangos cynnydd o 1.5 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 33 y cant ym mis Chwefror2014 i 936 o gymharu â 1,387 ym mis Chwefror 2013.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 17 y cant
  • Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 4.2 y cant
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 2.9 y cant
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau misol hefyd o 1.9 y cant
  • Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2014 gynyddu 38 y cant i 62,368 o gymharu â 45,236 ym mis Chwefror 2013
  • Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 65 y cant i 836 o 507 ym mis Chwefror 2013
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr oedd y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Chwefror 2014
Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Mawrth 2014 Newid misol oddi ar fis Ebrill 2013 Pris cyfartalog Ebrill 2014
Llundain 4.2% 17% £435,034
Gogledd Orllewin Lloegr 3.0% 3.8% £112,064
Cymru 2.9% 3.0% £117,581
Swydd Gaerefrog a’r Humber 2.3% 5.5% £120,118
De Ddwyrain Lloegr 1.9% 7.5% £225,650
Dwyrain Lloegr 1.9% 7.8% £187,963
Cymru a Lloegr 1.5% 6.7% £172,069
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1.2% 5.7% £135,150
Dwyrain Lloegr Midlands 0.8% 6.4% £128,988
Dwyrain Canolbarth Lloegr 0.2% 3.8% £178,918
Gogledd Ddwyrain Lloegr -1.9% 2.9% £99,001

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Ebrill 2014 Ebrill 2013 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £269,666 £255,125 5.7%
Tŷ pâr £162,059 £153,064 5.9%
Tŷ teras £129,329 £122,087 5.9%
Fflat/Fflat deulawr £166,952 £151,764 10%
Holl £172,069 £161,259 6.7%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2012 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 43,384 43,784 -1%
Chwefror 45,236 44,874 1%
Mawrth 54,697 61,377 -11%
Ebrill 50,984 43,278 18%
Mai 66,266 52,558 26%
Mehefin 66,018 59,893 10%
Gorffennaf 73,595 59,176 24%
Awst 79,340 65,044 22%
Medi 69,714 52,894 32%
Hydref 76,832 59,242 30%
Tachwedd 82,787 63,989 29%
Rhagfyr 78,892 56,716 39%
Cyfanswm 787,745 662,825 19%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 64,271 43,384 48%
Chwefror 62,368 45,236 38%

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Chwefror 2014 Chwefror 2013 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 63 102 -38%  
Dwyrain Lloegr Midlands 81 135 -40%
Llundain 91 130 -30%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 36 45 -20%
Gogledd Orllewin Lloegr 216 343 -37%
De Ddwyrain Lloegr 109 167 -35%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 47 76 -38%
Cymru 83 98 -15%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 86 102 -16%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 124 189 -34%
Holl 936 1,387 -33%

Mae’r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 69,830 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Ebrill 2014. Mae’r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ebrill 2014 wedi’i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £24 miliwn. Mae’r gwerthiant rhataf ym mis Ebrill 2014 wedi’i leoli yn Bishop Auckland, Swydd Durham a werthwyd am £12,000.

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata Pris a Dalwyd mis Mai ar ddydd Gwener 27 Mehefin am 9.30 y bore.
  2. Mae calendar rhyddhau dyddiadau’r prif ffigur a’r Mynegai ar gael yn http://www.gov.uk/government/publications/about-the-house-prices-index.
  3. Symudwyd cyhoeddi’r Data Trafodiad iddo fod ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set ddata trafodiad mis Mai ar 20 Mehefin 2014 am 11 y bore.
  4. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  5. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 18 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  6. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  7. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  8. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai i gael rhagor o wybodaeth.
  9. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  10. Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo
  11. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  12. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  13. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion bron 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 30 May 2014