Datganiad i'r wasg

Cwmni ar Ynys Môn yn creu 500 o swyddi newydd lleol

Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yn cychwyn ei ymweliadau â chwmnïau yng ngogledd Cymru i weld swyddi a thwf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Ar frig yr agenda heddiw roedd creu swyddi a thwf economïau lleol gogledd Cymru wrth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns groesawu’r newyddion y bydd y cwmni Orthios Eco Parks, sydd ar Ynys Môn, yn creu 500 o swyddi newydd (9 Mawrth 2017).

Mae’r cwmni yn arbenigo mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy, ac mae’n ehangu ei safle 213 acer i ddarparu lle i dechnoleg newydd mewn biomas, ynni gwynt a chynnyrch gwastraff. Bydd hyn yn darparu pŵer i’r Grid Cenedlaethol yn ogystal â chreu digon o bŵer hefyd ar gyfer 650,000 o gartrefi lleol yn barhaol. Mae’r tir yn cael ei drin hefyd ar gyfer cynhyrchu bwyd, gan arbenigo mewn cynaeafu ffrwythau, llysiau a chorgimychiaid.

Wrth ymweld â pharc Orthios yng Nghaergybi, dywedodd Alun Cairns:

Mae’r prosiect hwn yn gyffrous ac yn arloesol, ac mae ganddo’r potensial i roi hwb sylweddol i’r economi leol.

Mae ynni adnewyddadwy yn hanfodol i Gymru wrth i ni symud ymlaen i sicrhau dyfodol carbon isel, ac mae safle Orthios yn rhywbeth werth ei weld. Mae lleoliad y cwmni ar yr ynys, sy’n cynnwys glanfa breifat a phen lein drenau, yn werthfawr yn strategol.

Mae’r cwmni mewn lleoliad gwych i allforio yn y wlad hon ac ar draws y byd o’i iard gefn ei hun.

Wrth i ni wynebu’r cyfnod hwn o newid ar lefel genedlaethol, mae’n rhaid i fusnesau fel Orthios esblygu ac edrych ar ffyrdd o fanteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae safle allforio Gogledd Cymru a’i enw da am brosiectau ynni mawr yn gwneud y rhanbarth yn bartner perffaith ar gyfer cydweithredu gwell er mwyn ehangu economi’r gogledd.

Rwy’n falch o weld Orthios yn cynnig mynediad i fusnesau lleol at y seilwaith ac, wrth greu 500 o swyddi newydd dros bum mlynedd, ni ellir gorbwysleisio’r effaith ar yr economi leol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Orthios, Sean McCormick:

Rwyf wrth fy modd bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld ag Ynys Môn i weld drosto’i hun y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i gael hen safle alwminiwm segur Rio Tinto yn barod ar gyfer y cyfleoedd cynhyrchu a fydd yn cael eu creu drwy’r bio-economi ar y safle.

Bydd y busnesau cynhyrchu a gaiff eu creu ar y safle yn elwa o’r seilwaith sydd eisoes ar waith. Bydd hyn yn cynnig platfform i hwyluso’r gwaith o greu 500 o swyddi parhaol yn lleol ac yn cefnogi’r dasg barhaus o adfywio economi gogledd Cymru.

Bydd Mr Cairns yn ymweld hefyd â busnesau eraill yng ngogledd Cymru sy’n parhau i gefnogi swyddi a chynnal twf yn y rhanbarth. Bydd yn ymweld â Qioptiq yn Llanelwy a lwyddodd, y mis diwethaf, i sicrhau contract gwerth £82 miliwn gan Lywodraeth y DU i ddarparu cymorth ar gyfer offer targedu a chadw golwg hanfodol i luoedd arfog y DU.

Bydd yn ymweld wedyn â Phorthladd Caergybi, cwmni ‘Menai Oysters’ sy’n ffermio pysgod cregyn a Halen Môn ar Ynys Môn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mawrth 2017