Stori newyddion

Alun Cairns: “Mae hwn yn gyfnod lle mae angen i’r genedl ddod at ei gilydd i sicrhau'r ymadawiad gorau â’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn gwahodd pysgotwyr, ffermwyr a busnesau i ddod ynghyd ar gyfer sgyrsiau cyntaf ar y cyd ar Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Heddiw, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlinellu ei hymrwymiad i ddiogelu dyfodol diwydiannau ffermio, pysgota a’r amgylchedd yng Nghymru yn y cyfarfod Brexit ar y cyd cyntaf o amgylch y bwrdd gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd (7 Mehefin).

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, yn cynnal cyfarfod ar y cyd yn y brifddinas gyda physgotwyr, ffermwyr a busnesau fel rhan o ymgysylltiad parhaus y Llywodraeth ar ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y sesiwn 90 munud yng Nghaerdydd yn archwilio materion yn cynnwys sut dylid arfer pwerau sy’n dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol; sut gallai fframweithiau o’r fath weithredu orau yn ymarferol a sut mae rhanddeiliaid yn paratoi ar gyfer Brexit er mwyn sicrhau bod ein diwydiannau bwyd, ffermio a physgota yn parhau i ffynnu yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Gan siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae diwydiannau ffermio, pysgodfeydd a’r amgylchedd yn elfennau sylfaenol o’n heconomi wledig, ac rydym eisiau ymgysylltu ag arbenigwyr y diwydiant a gwrando arnynt wrth i ni barhau ar y daith i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Gyda’r trafodaethau ar y gweill, dyma adeg pan fydd angen i’r genedl ddod at ei gilydd i sicrhau’r fargen orau ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae cyfarfod pwysig heddiw yn arwydd cadarn bod Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi’r sectorau pwysig hyn yng Nghymru, sy’n cyfrannu cymaint at ffyniant ein cymunedau ar draws y wlad.

Caiff y Gweinidogion gwmni Emily Miles, Cyfarwyddwr Materion Domestig a Materion Cyfansoddiadol Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn y cyfarfod.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd wedi sefydlu Panel Arbenigol i weithio gydag ef i gyflawni ymadawiad llyfn a threfnus o’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru.

Mae’r cyfarfod heddiw yn adeiladu ar y sgyrsiau adeiladol y maent eisoes wedi eu cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys David Lidington, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Liam Fox, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, a Robin Walker, Gweinidog yn yr Adran Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd ar 7 June 2018