Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: Bydd y Bil Diddymu yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i bawb

Datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y Bil Diddymu

Eu Exit

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y Bil Diddymu yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau, i weithwyr ac i ddefnyddwyr wrth i’r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Bil yn troi cyfraith bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig y DU, sy’n golygu y bydd y safonau, y rheolau, y rheoliadau, y mesurau a’r rhwymedigaethau yr un fath ar y diwrnod ar ôl gadael ag yr oeddent y diwrnod cynt.

Yn bwysicach na dim, bydd yn gwireddu ein haddewid i roi diwedd ar oruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn y DU fel y bydd ein deddfau yn y dyfodol yn cael eu gwneud yn Llundain, Caerdydd, Caeredin a Belfast.

Drwy’r broses i gyd, bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â busnesau, awdurdodau lleol, y trydydd sector, Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn gwrando arnynt, er mwyn gwneud yn siŵr bod y broses o adael yr UE yn gweithio i Gymru ac i’r DU i gyd.

Cyhoeddwyd ar 13 July 2017