Alun Cairns: "Mae cwmnïau o Abertawe yn ffurfio dyfodol digidol Cymru"
Bu Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns AS yn ymweld â Fujitsu a TechHub yn Abertawe.

Bu Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns AS yn ymweld â Fujitsu – cwmni TG sy’n cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch, gwasanaethau ac atebion sy’n amrywio o ddiogelu data i reoli uwchgyfrifaduron ym mhob rhan o’r byd – i weld sut maent yn helpu i ffurfio dyfodol digidol Cymru.
Mae’r byd digidol yng Nghymru wedi cael ei weddnewid yn llwyr gyda miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru’n awr yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn. Mae Caerdydd ac Abertawe erbyn hyn wedi cyflawni statws dinasoedd uwch-gysylltiedig, gyda Chyfnewidfa Rhyngrwyd newydd Caerdydd a’r cyhoeddiad diweddaraf mai de Cymru yw un o’r clystyrau technoleg sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Fujitsu yn rhan bwysig o’r llwyddiant hwn, gyda dros 40% o rwydwaith band eang y DU yn cael ei adeiladu ar seilwaith Fujitsu.
Yn ystod yr ymweliad â swyddfa Fujitsu yn Abertawe, clywodd y Gweinidog sut maent yn rheoli seilwaith TG y DVLA – sy’n amrywio o ganolfannau data mawr i ofynion desgiau unigol. Pob blwyddyn, mae Fujitsu yn helpu’r DVLA i brosesu dros 850,000 o drwyddedau gyrru newydd ac i ddiweddaru ac adnewyddu dros 10 miliwn o drwyddedau. Mae’r systemau TG hefyd yn rheoli cofnodion y 39 miliwn o yrwyr a’r 32 miliwn o gerbydau ar ffyrdd y DU.
Bu hefyd yn ymweld â TechHub – cymyned fyd-eang gyda phartneriaid fel Google, sy’n creu gofod ffisegol a rhithiol lle gall entrepreneuriaid technolegol gwrdd, gweithio â chydweithredu. Gwelodd y Gweinidog sut mae TechHub yn helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid a busnesau technolegol drwy gynnig gofod gweithio hyblyg, mynediad at gymuned fywiog ac adnoddau cwmni byd-eang.
Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:
Mae datblygiadau technolegol ym mhob rhan o’r byd yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i Gymru o ran twf a datblygu. Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith enfawr ar ein bywydau bob dydd – gan weddnewid sut yr ydym yn siopa i sut yr ydym yn cyfathrebu.
Mae cwmnïau fel Fujitsu a’r gymuned TechHub yma yn Abertawe yn manteisio ar y cyfle hwn ac maent yn arloesi yn eu hymdrechion i greu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau a gwasanaethau TG.
Mae darparu’r seilwaith sydd ei angen ar fusnesau technolegol i dyfu yn rhan o’n cynllun economaidd tymor hir. Gyda phedwar rhwydwaith symudol pwysig yn dod â gwasanaethau data symudol modern i nifer o rannau o Gymru am y tro cyntaf a buddsoddiad o £1.7 biliwn mewn band eang cyflym iawn – mae pob £1 sy’n cael ei buddsoddi gan y Llywodraeth yn dod â buddiannau gwerth £20 i’r economi.
Meddai Clark Vasey, Pennaeth Materion Corfforaethol â Fujitsu:
Mae Fujitsu yn falch iawn o’i waith yng Nghymru, lle’r ydym yn cyflogi 400 o bobl sy’n gweithio ar raglenni TGCh ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Rydym yn hapus iawn o gael croesawu Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru i swyddfa Fujitsu yn Abertawe i weld ein gwaith drosto’i hun ac i weld y cyfraniad y mae Fujitsu yn ei wneud at economi Cymru.
Mae Fujitsu yn chwarae rhan bwysig yn y Sector Uwch Dechnoleg yng Nghymru, yn sgil ein gwaith ar uwch gyfrifiadur Cymru, ‘HPC Cymru’, ac rydym yn awyddus i adeiladu at y cyfraniad hwn i hybu arloesi pellach yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol.
Meddai Adam Curtis, Cyd-sylfaenydd TechHub Abertawe a Phrif Swyddog Gweithredol Hoowla:
Rydym yn croesawu ymweliad y Gweinidog â TechHub i gwrdd â’n holl fusnesau newydd. Mae Llywodraeth y DU yn gefnogol iawn i’r diwydiant technolegol ac mae’r ymweliad hwn yn dangos ei hymrwymiad i barhau â’r gefnogaeth hon.
Rydym yn rhedeg TechHub Abertawe fel gwirfoddolwyr i amlygu ac i hybu’r byd technolegol llewyrchus sy’n bodoli eisoes yn Ne Cymru. Mae gan Abertawe gyfle gwirioneddol i sefydlu ei hun fel y ddinas dechnolegol yng Nghymru ac i ennill ei lle ar y rhestr o glystyrau technolegol mawr y DU.
Mae gennym un o’r cwmnïau meddalwedd mwyaf yn y DU, mae’r DVLA, sydd wedi’i leoli yma a gyda Syr Terry Mathews yn arwain ein dinas-ranbarth, mae datblygiadau technolegol a meddalwedd yn prysur ddod yn ddiwydiant allweddol i Abertawe. Mae’r ddwy brifysgol leol yn creu talent datblygu meddalwedd gwych ac maent yn gefnogol iawn i TechHub. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewis Sant wedi bod yn noddi’r gofod ers ei sefydlu yn 2013.