Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn galw ar fusnesau Cymru i gamu ymlaen a rhoi cynnig ar her allforio uchelgeisiol

Gweinidog Swyddfa Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant busnesau Gŵyr mewn marchnadoedd tramor cyn ‘sioe deithiol allforio’ Llywodraeth y DU

“Mae’n bryd i fusnesau Cymru gamu ymlaen a neidio am y cyfleoedd i allforio,” - dyma fydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn ei ddweud heddiw wrth ymweld â busnesau Gŵyr sy’n gwneud eu marc mewn marchnadoedd byd-eang.

Bydd Mr Cairns yn ymweld ag A1K9, y cwmni hyfforddi cŵn amddiffyn personol a theuluoedd mwyaf blaenllaw yn y byd, sydd wedi gwerthu dros 1,000 o gŵn sydd wedi’u hyfforddi’n dda iawn i gwsmeriaid a’u teuluoedd mewn dros 30 o wledydd ar draws y byd.

Bydd Mr Cairns hefyd yn ymweld ag Adwell Foods, sy’n cynhyrchu amrywiaeth o ddiodydd poeth, fel Welsh Brew Tea, ac sydd wedi cael llwyddiant ysgubol wrth allforio i’r UDA.

Daw’r ymweliad cyn i ‘sioe deithiol allforio’ Llywodraeth y DU ddod i Gymru, sy’n rhan o ymgyrch Mae Allforio yn GRÊT - cynllun cenedlaethol newydd pum mlynedd a fydd yn darparu cyngor ac arbenigedd i gefnogi busnesau ym mhob cam ar eu taith allforio. Y nod yw cael 100,000 yn ychwanegol o gwmnïau yn y DU yn allforio erbyn 2020.

Bydd tryc Hwb Allforio UKTI, sy’n 32 tunnell a 40 troedfedd, yn dechrau ar ei daith a fydd yn para pythefnos yn Noc Penfro ar 15 Chwefror. Bydd yn ymweld â deg lleoliad ledled de Cymru, y canolbarth a gogledd Cymru, a bydd yn cynnal cyfres o seminarau, sesiynau galw heibio a chyfarfodydd un-i-un gydag arbenigwyr ar allforio sy’n gweithio mewn marchnadoedd ledled y byd.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae llu o gwmnïau arloesol ac o’r radd flaenaf yng Nghymru, sy’n rhoi hwb i’r economi, yn creu swyddi ac yn newid bywydau ar draws y wlad. Ond nawr yw’r amser i godi’r safon a dangos i’r byd yn union beth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio’n ddiflino i wneud y Deyrnas Unedig y lle gorau yn y byd i wneud busnes ag ef - gan ei gwneud yn haws, yn gyflymach ac yn symlach i gwmnïau ddechrau allforio.

Nawr mae’n bryd i fusnesau Cymru gamu ymlaen a neidio am y cyfleoedd hyn. Gallai ymweld â’r hwb allforio pan fydd ar daith o amgylch Cymru fod eu cam cyntaf.

Ein nod yw dod yn genedl allforio fwyaf y byd, gan danio dychymyg y cyhoedd yng Nghymru, hybu hyder busnesau a balchder cenedlaethol a grymuso mwy o gwmnïau Cymru i fynd allan a llwyddo mewn marchnadoedd byd eang.

Yn ystod ymweliad diweddar â gogledd Cymru, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb a’r Gweinidog Masnach a Buddsoddi, yr Arglwydd Maude, her i fusnesau a Llywodraeth Cymru, sef gwneud 2016 yn “flwyddyn lwyddiannus ar gyfer allforio o Gymru.

Mae busnesau o bob cwr o Gymru’n cael eu hannog i fynd i un o ddigwyddiadau Mae Allforio yn GRÊT rhwng 15 a 26 Chwefror, pan fydd y sioe deithiol yn ymweld â deg lleoliad gwahanol yn ne Cymru, y canolbarth a gogledd Cymru, er mwyn siarad ag arbenigwyr am amrywiaeth o faterion allforio, gan gynnwys:

  • Cyllid allforio
  • Dogfennaeth allforio
  • Materion cyfreithiol, fel cytundebau rhwng asiantaethau a dosbarthwyr
  • Arian tramor
  • Cefnogaeth ar gyfer tyfu eich busnes allforio
  • Mynediad at gyfleoedd allforio
Cyhoeddwyd ar 11 February 2016