Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn siarad Cymraeg am y tro cyntaf yn yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn San Steffan

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn annerch ASau yn Gymraeg yn nhrafodaeth y pwyllgor

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn agor trafodaeth yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed yn nes ymlaen heddiw (7 Chwefror).

Mae hyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU y llynedd i gefnogi defnydd y Gymraeg mewn trafodaethau seneddol.

Wrth annerch yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn ei famiaith yn San Steffan heddiw, bydd Mr Cairns yn achub ar y cyfle i amlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni dros Gymru a’r camau gweithredu pendant mae’n eu cymryd i sicrhau bod economi’r wlad ar lwybr tuag at ffyniant tymor hir.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch o fod yn siarad yr iaith y cefais fy magu ynddi. Mae’r iaith yn bwysig iawn i mi, i fy nheulu ac i’r cymunedau mae Aelodau Seneddol Cymru yn eu cynrychioli, ac mae’n ganolog i hanes a diwylliant Cymru.

Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i’r Senedd ac i Gymru ac rwy’n llongyfarch y pwyllgor sydd wedi ymgyrchu dros y newid hwn ers nifer o flynyddoedd.

Yn ei araith, bydd Ysgrifennydd Cymru yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth y DU i gryfhau economi Cymru drwy dwf trawsffiniol, gan gynnwys cyhoeddi carreg filltir bwysig, sef diddymu tollau Afon Hafren erbyn diwedd y flwyddyn – penderfyniad a fydd yn arbed £1,440 i’r cymudwr cyffredin bob blwyddyn.

Bydd yn amlinellu sut mae Cyllideb yr Hydref y llynedd yn cyflwyno pecyn grymus o fesurau a fydd yn helpu i lunio economi Cymru er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymrwymiad i ddechrau ar drafodaethau am fargen dwf i Ogledd Cymru er mwyn sicrhau ei safle fel rhan o Bwerdy’r Gogledd, yn ogystal â rhoi hwb i drafodaethau cynnar am raglen dwf i Ganolbarth Cymru, yn gyhoeddiadau arwyddocaol ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd hefyd yn dweud y bydd buddsoddiadau arfaethedig yn seilwaith y rheilffyrdd yn rhoi hwb ychwanegol i’r cyfleoedd twf trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y rheilffordd o Wrecsam i Bidston yn cael ei gwella, a bydd £16m yn cael ei fuddsoddi yn Halton Curve, a fydd yn cyflwyno gwasanaethau trên uniongyrchol o Ogledd Cymru i Lerpwl.

Bydd pobl yng Ngorllewin Cymru hefyd yn cael budd o’r trenau IEP newydd a bydd y seilwaith yn cael ei uwchraddio er mwyn darparu gwasanaethau uniongyrchol o Ddoc Penfro i Lundain drwy Gaerfyrddin.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar gyllidebau a thwf trawsffiniol, disgwylir y bydd y trafodaethau’n canolbwyntio ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’i hannog i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i sicrhau twf economaidd i Gymru.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Rwy’n gwybod bod Cymru mewn safle cryf i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond ni allwn gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen ar Gymru ar ein pen ein hunain. Rwyf yn edrych ymlaen at gael rhagor o drafodaethau â Phrif Weinidog Cymru wrth i ni negodi amodau a fydd yn sicrhau bod Cymru’n gadael yr UE ar delerau llwyddiannus, ac rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol yng nghyswllt economi er mwyn i bawb deimlo effaith y ffyniant.

Bydd Stuart Andrew AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y drafodaeth. Hon fydd ei drafodaeth gyntaf â’r Uwch-Bwyllgor Cymreig fel Gweinidog Swyddfa Cymru.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru Stuart Andrew:

Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i Gymru yn y dyfodol, ac mae cyllideb Llywodraeth y DU yn enghraifft o sut rydym yn sicrhau twf a ffyniant drwy ystod o ymrwymiadau.

Yn fy rôl byddaf yn defnyddio pob cyfle i wneud yn siŵr fod Cymru gyfan yn cyfrannu ac yn elwa o’r ymrwymiadau hyn. Mae’r Fargen Twf yng Ngogledd Cymru yn un enghraifft a fydd yn trawsnewid y ffordd mae trefi a phentrefi Gogledd Cymru yn llywodraethu eu hunain, gan symud pwerau i arweinwyr lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau dros eu cymunedau.

O’r mentrau hyn, mae’n glir bod Cymru yn parhau i fod yn gyrchfan deniadol i weithio, buddsoddi a gwneud busnes, a bydd Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod hyn yn parhau.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r Uwch-Bwyllgor Cymreig, sy’n cynnwys 40 o ASau Cymru a phum aelod gwadd, yn cwrdd i drafod materion sy’n berthnasol i Gymru ac yn rhoi cyfle i’r ASau holi gweinidogion a thrafod materion cyfoes, yn ogystal â rhoi cyfle i weinidogion wneud datganiadau.
  • Fe wnaeth y Pwyllgor gwrdd ddiwethaf yn 2016, ond mae ASau wedi siarad Cymraeg pan mae’r Pwyllgor wedi cwrdd yng Nghymru.
  • Ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno cais i ganiatáu i ASau siarad Cymraeg pan mae’r Uwch-Bwyllgor Cymreig yn cwrdd yn San Steffan.
Cyhoeddwyd ar 7 February 2018