Stori newyddion

Data Pris a Dalwyd Ychwanegol i gael ei ryddhau ym mis Hydref

Bydd Data Pris a Dalwyd Ychwanegol yn rhoi mynediad i chi i tua 6,600 o drafodion ychwanegol pob mis.

Additional Price Paid Data

Ddwy flynedd ar ôl rhyddhau ein Data Pris a Dalwyd, rydym yn bwriadu rhyddhau ein Data Pris a Dalwyd Ychwanegol ar 28 Hydref 2015 am 11 y bore o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae ein Data Pris a Dalwyd Ychwanegol yn cynnwys trafodion o 14 Hydref 2013 i’r mis cyfredol a bydd ar gael o fewn ein ffeiliau Data Pris a Dalwyd presennol. Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i tua 6,600 o drafodion ychwanegol pob mis.

Bydd maes math o eiddo ‘arall’ newydd yn cael ei ychwanegu at y meysydd presennol er mwyn dangos eiddo nad yw’n eiddo preswyl. Yn yr un modd, bydd categori trafodion ychwanegol yn helpu i wahanu’r data newydd o’n data safonol. Byddwch yn gallu penderfynu cynnwys neu eithrio’r wybodaeth ychwanegol o’ch dadansoddiad gyda labelu clir. Gan fod y wybodaeth newydd yn adlewyrchu adborth gan gwsmeriaid, rydym yn hyderus y byddwch yn cael dealltwriaeth well o’n trafodion eiddo.

Wedi’u cynnwys yn y categori newydd mae:

  • gwerthiannau i unigolion nad ydynt yn breifat
  • trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu/adfeddiannau
  • trafodion prynu i osod lle y gellir eu hadnabod gan weithred morgais

Sylwer, nid yw’r categori newydd hwn yn adnabod y mathau o drafodion a nodir uchod ar wahân.

Yr hyn sydd angen i ddefnyddwyr Data Cysylltiedig ei wybod

Ar ôl cynnwys Data Pris a Dalwyd Ychwanegol, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r cofnodion trafodion data cysylltiedig. Yn flaenorol, pan ddiweddarwyd cofnod trafodiad, tynnwyd yr hen gofnod trafodiad ymaith ac ychwanegwyd cofnod newydd gyda Dynodwr Adnodd Unffurf (DAU) newydd. Gallai hyn arwain at gyfeirnodau toredig i’r cofnod trafodiad a dynnwyd ymaith. Er mwyn datrys y mater, rhoddir DAU sefydlog i’r cofnod na fydd yn newid os gwneir cywiriadau i’r data. Byddwn yn parhau i newid priodweddau/nodweddion unigol cofnod trafodiad os caiff y data ei gywiro mewn unrhyw ffordd.

Yn ogystal, rydym yn tynnu ‘ppi:publishDate property’ ymaith.

Gwybodaeth bellach

Rydym yn parhau i gefnogi agendâu tryloywder a data agored y Llywodraeth ac rydym wedi ymrwymo i ryddhau ein holl setiau data trwyddedadwy erbyn 2018. Mae gwneud ein trafodion eiddo yn fwy hygyrch yn creu cyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaid a sefydliadau i ddefnyddio ac ail-ddefnyddio’r data er mwyn dyfeisio gwasanaethau a chymwysiadau newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mynediad i’r ffeil Data Pris a Dalwyd Ychwanegol prawf, cysylltwch â’r Tîm Add Value ar 0300 006 0478 neu ebost commercial.services@landregistry.gov.uk. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK pan gyhoeddir y set ddata.

Cyhoeddwyd ar 2 October 2015