Stori newyddion

Rhyddhau Data Pris a Dalwyd Ychwanegol yn gwella mewnwelediad y farchnad

Gwybodaeth newydd am drafodion eiddo ar gael am ddim.

This news article was withdrawn on

The definition for property type has changed. See Explanations of column headers in the PPD for the latest definition.

Data picture

O heddiw gallwch gael mynediad i’n Data Pris a Dalwyd Ychwanegol (DPDY) o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

Yn 2013, cyhoeddwyd ein Data Pris a Dalwyd (DPD) fel data agored, gan alluogi datblygwyr a busnesau i ddefnyddio ac ail-ddefnyddio un o’n cronfeydd data mwyaf. Mae’r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth am werthiannau eiddo preswyl unigol a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, a werthwyd am bris llawn y farchnad.

Yr hyn y mae’n ei olygu i chi

Mae rhyddhau DPDY yn adlewyrchu adborth gan gwsmeriaid ac mae’n cyflwyno gwybodaeth newydd am drafodion eiddo oedd wedi’i heithrio’n flaenorol o DPD. Mae’r wybodaeth newydd yn cynnwys:

  • trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu (adfeddiannau)
  • pryniannau i osod lle y gellir eu hadnabod gan forgais
  • trosglwyddiadau i unigolion nad ydynt yn breifat

Gyda thua 6,600 o drafodion newydd yn cael eu cofnodi bob mis oddi ar 14 Hydref 2013, mae’r data hwn yn cynyddu gwerth ein gwybodaeth pris a dalwyd ac mae’n creu cyfleoedd pellach ar gyfer arloesi a allai danio twf economaidd.

Ffeiliau data sydd ar gael

Er mwyn lleihau’r ymyrraeth i’n cyhoeddiadau data arferol, mae’r data newydd wedi’i gofnodi ar yr un ffurf â’r DPD safonol presennol. Bydd categorïau adnabod clir yn galluogi defnyddwyr i gynnwys neu eithrio’r data ychwanegol o’u prosesau.

Mae’r categorïau canlynol wedi’u cynnwys fel nodwedd data newydd ym mhob trafodiad:

  • categori A – cofnod Pris a Dalwyd safonol sy’n cynnwys eiddo preswyl unigol a werthwyd am bris llawn y farchnad. Data ar gael oddi ar 1 Ionawr 1995
  • categori B – cofnod Pris a Dalwyd Ychwanegol sy’n cynnwys trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu (adfeddiannau), pryniannau i osod lle y gellir eu hadnabod gan forgais a throsglwyddiadau i unigolion nad ydynt yn unigolion preifat. Data ar gael oddi ar 14 Hydref 2013

Sylwer nad yw categori B yn nodi’r mathau o drafodiad a nodir ar wahân. Ychwanegwyd math o eiddo ‘arall’ newydd at y set ddata sy’n adnabod eiddo nad ydynt yn eiddo preswyl.

Yn ogystal â’r ffeil ‘diweddariad yn unig’ misol, byddwn yn darparu rhifyn cyfyngedig o’r ffeil hanesyddol sy’n ymgorffori DPDY bob mis hefyd. Bydd y Ffeil unigol neu’r Ffeiliau blynyddol yn parhau i gael eu diweddaru’n fisol a byddwn yn ymgorffori’r data diweddaraf.

Sut i gael gafael ar y data

Gallwch gael mynediad i’r Data Pris a Dalwyd Ychwanegol ar ffurf txt, csv a data cysylltiedig y gellir ei ddarllen ar beiriant.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau rydym wedi’u gwneud i gofnodion data trafodiad a’r ‘triplestore’.

Mae ein lluniwr adroddiad Data Pris a Dalwyd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r data ychwanegol hefyd.

Cyhoeddwyd ar 28 October 2015