Gweithredwch nawr. 864,000 o unig fasnachwyr a landlordiaid yn wynebu rheolau treth newydd mewn dau fis
Mae angen i fwy na 860,000 o unig fasnachwyr a landlordiaid ddechrau defnyddio adrodd treth digidol o 6 Ebrill ymlaen.
- Mae meddalwedd ar gael i helpu i rannu gweinyddiaeth treth drwy gydol y flwyddyn, gyda miloedd eisoes yn profi’r system yn llwyddiannus.
- Mae’r gwaith cyflwyno yn rhan o gynllun y Llywodraeth i drawsnewid system dreth y DU i gefnogi twf economaidd.
Mae unig fasnachwyr a landlordiaid sy’n ennill mwy na £50,000 o hunangyflogaeth ac eiddo yn cael eu hannog i weithredu nawr gyda dau fis ar ôl i baratoi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Treth Incwm.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i’r rhai sy’n gymwys ddefnyddio meddalwedd gydnabyddedig i gadw cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol ysgafn at Gyllid a Thollau EF (CThEF) o’u hincwm a’u treuliau. Nid Ffurflenni Treth ychwanegol yw’r rhain.
Mae CThEF yn darparu ystod o gymorth rhad ac am ddim i helpu pobl i baratoi, gan gynnwys arweiniad ar-lein, gweminarau a fideos. Gall y rhai sydd wir yn methu defnyddio offer digidol wneud cais am esemptiad. Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar gael ar GOV.UK
Mae opsiynau meddalwedd rhad ac am ddim ar gael ac unwaith y bydd incwm a threuliau wedi’u cofnodi, mae’r feddalwedd yn cynhyrchu crynodeb syml i’w anfon at CThEF.
Ar ddiwedd blwyddyn dreth, bydd angen i’r rhai o fewn Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gyflwyno Ffurflen Dreth erbyn y 31 Ionawr canlynol o hyd – ond bydd y feddalwedd eisoes yn dal yr wybodaeth o’r diweddariadau chwarterol, felly does dim rhaid chwilio am gofnodion na derbynebau ar y funud olaf.
Meddai Craig Ogilvie, Cyfarwyddwr Troi Treth yn Ddigidol, CThEF:
Gyda dau fis i fynd cyn lansio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, nawr yw’r amser i weithredu. Mae amrywiaeth o feddalwedd rhad ac am ddim ar gael ac mae’r system yn syml ac yn helpu i leihau gwallau. Mae miloedd o wirfoddolwyr eisoes wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus.
Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i unig fasnachwyr a landlordiaid gadw ar ben eu materion treth a helpu i sicrhau bod pawb yn talu’r swm cywir o dreth.
Mae rhannu’ch gwaith gweinyddu treth drwy gydol y flwyddyn yn golygu osgoi’r frwydr funud olaf honno i gwblhau Ffurflen Dreth bob mis Ionawr. Ewch i GOV.UK a dechreuwch baratoi heddiw.
Mae miloedd o unig fasnachwyr a landlordiaid eisoes wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gyda mwy na 12,000 o ddiweddariadau chwarterol wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus trwy raglen brofi wirfoddol.
Bydd y rhai sy’n ymuno a Throi Treth yn Ddigidol ym mis Ebrill 2026 yn dal i gyflwyno eu Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yn y ffordd arferol erbyn 31 Ionawr 2027, gan fod hyn yn cwmpasu’r cyfnod cyn i Droi Treth yn Ddigidol ddechrau. Bydd y Ffurflen Dreth Troi Treth yn Ddigidol gyntaf, sy’n cwmpasu’r flwyddyn dreth 2026 i 2027, yn ddyledus erbyn 31 Ionawr 2028.
I gynorthwyo’r cyfnod pontio, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi na fydd cwsmeriaid sy’n ymuno a Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ym mis Ebrill 2026 yn cael pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol hwyr, am y 12 mis cyntaf.
O dan y system newydd, rhoddir pwyntiau cosb am bob cyflwyniad hwyr, gyda dirwy o £200 yn cael ei rhoi dim ond ar ôl cyrraedd pedwar pwynt. Mae hyn yn golygu bod camgymeriadau achlysurol yn arwain at ddirwyon yn syth.
Mae CThEF yn annog y rhai sydd o fewn cwmpas Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i weithredu nawr: darllenwch yr arweiniad, dewiswch feddalwedd a chofrestrwch ar GOV.UK. Dylai’r rhai sy’n defnyddio asiant treth siarad â nhw ynglŷn â pharatoi.
Rhagor o Wybodaeth
Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael ei chyflwyno fesul cam ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid:
| Dyddiad ymuno â Throi Treth yn Ddigidol | Incwm cymhwysol | Q1 diweddariad i’w gyflwyno | Q2 diweddariad i’w gyflwyno | Q3 diweddariad i’w gyflwyno | Q4 diweddariad i’w gyflwyno | Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ddyledus |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 06 Ebrill 2026 | Enillodd £50,000+ yn ystod blwyddyn dreth 2024-25 | 07/08/2026 | 07/11/2026 | 07/02/2027 | 07/05/2027 | 31/01/2028 |
| 06 Ebrill 2027 | Enillodd £30,000+ yn ystod blwyddyn dreth 2025-26 | 07/08/2027 | 07/11/2027 | 07/02/2028 | 07/05/2028 | 31/01/2029 |
| 06 Ebrill 2028 | Enillodd £20,000+ yn ystod blwyddyn dreth 2026-27 | 07/08/2028 | 07/11/2028 | 07/02/2029 | 07/05/2029 | 31/01/2030 |