Datganiad i'r wasg

Cynnydd uwch na chwyddiant I'R isafswm cyflog cenedlaethol

Mwy na 100,000 o'r rheiny ar y cyflog isaf yng Nghymru i fuddio wrth i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ddod i rym ar draws Prydain.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y gyfradd yn codi i £6.50 yr awr, y cynnydd cyntaf mewn cyllid real ers 2008, ac mae’n dilyn argymhellion gan y Comisiwn Cyflogau Isel (LPC) annibynnol ym Mawrth eleni a’r galw am gynnydd cyflymach, fforddiadwy gan yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable.

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 1 Hydref 2014, fel y’u hargymhellwyd gan yr LPC yw:

  • cynnydd o 19c (3%) yn y gyfradd oedolion (o £6.31 i £6.50 yr awr)
  • cynnydd o 10c (2%) yn y gyfradd ar gyfer pobl ifanc 18 – 20 oed (o £5.03 i £5.13 yr awr)
  • cynnydd o 7c (2%) yn y gyfradd ar gyfer pobl ifanc 16 – 17 oed (o £3.72 i £3.79 yr awr)
  • cynnydd o 5c (2%) yn y gyfradd ar gyfer prentisiaid (o £2.68 i £2.73 yr awr)

Bydd y cynnydd yn y cyfraddau’n golygu bod un filiwn o bobl am weld eu cyflog yn cynyddu gan gymaint â £355 y flwyddyn.

Dywedodd Vince Cable, yr Ysgrifennydd Busnes:

Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn darparu ‘rhwyd ddiogelwch’ hanfodol ar gyfer y rhai ar y cyflogau isaf, gan sicrhau eu bod yn cael cyflog teg, heb i hynny gostio swyddi. Bydd y cynnydd eleni’n golygu y byddant yn cael y cynnydd ariannol mwyaf yn y cyflog yn eu poced ers argyfwng y banciau, gan roi budd i gyfanswm o dros un filiwn o bobl.

Rwyf o’r farn ei bod yn hanfodol i argymhellion y Comisiwn Cyflogau Isel – nid ystyriaethau gwleidyddol – bennu cyfraddau’r isafswm cyflog cenedlaethol. Wrth i arwyddion economi gryfach ddechrau ymddangos, mae angen i ni wneud mwy i sicrhau fod manteision twf yn cael eu rhannu’n deg i bawb.

Bydd y Comisiwn Cyflogau Isel yn parhau i gynghori’r Llywodraeth ar godiadau cyflog i’r dyfodol ac yn sicrhau bod yr isafswm cyflog yn cadw i fyny â chwyddiant.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n glir fy mod am i’r adferiad hwn fod ar gyfer pawb ar draws Cymru gyfan.

Trwy godi’r isafswm cyflog rydym yn sicrhau bod miloedd o’r rheiny ar draws Cymru sy’n gweithio galetaf yn mynd adref â mwy o arian ar ddiwedd pob mis.

Yn gynharach eleni gofynnodd yr Ysgrifennydd Busnes i’r LPC ymestyn ei arbenigedd i gynorthwyo’r Llywodraeth a busnes i ddeall sut y gallwn ddelio â mater cyflogau isel yn yr economi. Yn benodol, gofynnodd iddo edrych ar ba amodau economaidd fyddai’n angenrheidiol i ganiatáu i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol gynyddu yn y dyfodol gan fwy nag y mae’r amodau cyfredol yn eu caniatáu, ac adfer ei wir werth.

Croesawodd yr Ysgrifennydd Busnes asesiad yr LPC y bydd 2014 yn nodi cychwyn cyfnod newydd o gynnydd mwy, ar yr amod y bydd cyflwr yr economi’n parhau i wella. Dyma’r tro cyntaf i’r Llywodraeth gael gwerthusiad ehangach o’r materion sy’n effeithio ar gyflogau isel.

Mae talu llai na’r isafswm cyflog yn anghyfreithlon. Os bydd cyflogwyr yn torri’r gyfraith bydd y Llywodraeth yn cymryd camau llym, gan gynnwys gorfodi cosbau ariannol uchel ac enwi’r rhai sy’n euog yn gyhoeddus.

Dylai unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio gysylltu â’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gwaith, sy’n gyfrinachol a rhad ac am ddim, ar 0800 917 2368.

Cyhoeddwyd ar 1 October 2014