£214miliwn o gyllid newydd i gymunedau Cymru i wella cymdogaethau ac adfer balchder
Mae cyllid Balchder Bro Llywodraeth y DU yn mynd i bob awdurdod lleol yng Nghymru

£214 million for Wales through new UK Government Pride in Place funding.
- Bydd pobl leol yn gwneud penderfyniadau ynghylch sut bydd y cyllid yn trawsnewid y stryd fawr, yn achub cyfleusterau lleol gwerthfawr ac yn meithrin balchder yn eu hardal leol
- £214 miliwn mewn cyllid newydd i Gymru fel rhan o ddegawd o adnewyddu drwy’r Cynllun ar gyfer Newid
- Mae cyllid Balchder Bro Llywodraeth y DU yn mynd i bob awdurdod lleol yng Nghymru
Bydd trigolion ledled Cymru yn gallu achub tafarndai neu lyfrgelloedd gwerthfawr a glanhau doluriau llygad yn eu hardal drwy raglen Balchder Bro gwerth miliynau o bunnoedd, a lansiwyd gan y Prif Weinidog heddiw.
Ochr yn ochr â’r buddsoddiad digynsail hwn, bydd dull newydd chwyldroadol o ddarparu’r arian, gyda chymunedau’n nodi lle a sut y bydd yr arian yn cael ei wario i lanhau eu cymunedau ac adfywio eu stryd fawr.
Bydd yn rhoi rheolaeth i gymunedau, gyda’r grym ariannol i unioni’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Bydd yr arian hwn yn grymuso pobl leol i fynd i’r afael â’r materion sy’n difetha eu cymunedau - boed hynny’n lanhau graffiti neu fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol - yn ogystal â chyllid i helpu i gefnogi cydlyniant cymunedol.
Bydd y rhaglen Balchder Bro yn golygu bod naw cymuned arall sydd fwyaf mewn angen yn cael hyd at £20 miliwn yr un. Bydd yr ardaloedd hyn yn ymuno â phum cymuned lle mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo, gan ddod â’r cyfanswm i bedwar ar ddeg o awdurdodau lleol ledled Cymru yn rhannu £280 miliwn.
Y lleoedd ychwanegol i dderbyn £20 miliwn yr un yw:
- Blaenau Gwent
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Rhondda Cynon Taf
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Caerdydd
- Abertawe
Ar ben hyn, bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael cyfran o £34.5 miliwn o gyllid cyfalaf i wella eu mannau cyhoeddus, gan gynnwys trwsio llochesi bysiau sydd wedi torri, ailagor toiledau mewn parciau, rhagor o finiau i helpu i atal sbwriel ac ailwampio canolfannau hamdden sydd wedi dirywio.
Mae’r buddsoddiad newydd hwn yn adeiladu ar gyhoeddiadau blaenorol ac mae’n mynd â chyfanswm y cyllid o’r cronfeydd hyn i gymunedau Cymru i dros £300 miliwn. Mae hyn ar ben y gwaith sy’n cael ei wneud gan fentrau Trawsnewid Trefi a Chreu Lleoedd Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Keir Starmer, y Prif Weinidog:
Rydym ni’n buddsoddi yn nyfodol y Deyrnas Unedig, drwy gefnogi’r gwir wladgarwyr sy’n adeiladu ein cymunedau mewn cymdogaethau ym mhob cwr o’r wlad. Oherwydd pobl sy’n dod â balchder, gobaith a bywyd i’n cymunedau.
Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr, ond yr hyn sydd bwysicaf yw pwy sy’n penderfynu sut mae’n cael ei wario: y cymdogion, y gwirfoddolwyr a’r rhieni sy’n adnabod eu cymunedau orau - y bobl sydd â buddsoddiad yn y gymuned.
Rydym ni’n dewis adnewyddu dros ddirywiad, undod dros raniadau. Dyma’r Cynllun ar gyfer Newid ar waith - rhoi grym a balchder yn ôl i’r bobl sy’n gwneud Prydain yn wych.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar gyflawni twf economaidd a rhoi cyfle i bawb, ac mae rhaglen Balchder Bro yn rhan allweddol o sut rydym ni’n gwneud hynny.
Bydd dros £200 miliwn o fuddsoddiad newydd yn arwain at welliannau i gymunedau ar hyd a lled Cymru, gan eu gwneud yn llefydd gwell byth i fyw a gweithio ynddyn nhw.
Rydym ni eisiau gweithio gyda’n holl bartneriaid i wneud gwelliannau sy’n bwysig i bobl leol ac sy’n creu swyddi a ffyniant.
Dywedodd Steve Reed, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol:
Mae meithrin balchder bro yn dechrau gyda phobl, nid gwleidyddiaeth. Mae pobl leol yn gwybod beth maen nhw eisiau ei weld yn eu cymdogaethau - a does dim angen llywodraeth arnyn nhw i bennu hynny.
Bydd y cynllun hwn yn sbarduno mudiad hanesyddol ar lawr gwlad a fydd yn adfer pŵer pobl leol, yn rhoi hwb i falchder cenedlaethol a helpu pobl i symud ymlaen mewn bywyd ledled y DU fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid.
Yng Nghymru, mae awdurdodau lleol yn cael eu gwahodd i gynnig cymunedau yn eu hardaloedd i gymryd rhan yn y Rhaglen Balchder Bro i’w cymeradwyo gan Lywodraeth y DU. Bydd hon yn broses gynhwysol lle bydd yr awdurdod lleol yn ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau presennol fel cynlluniau creu lleoedd a’r fenter Trawsnewid Trefi.