Stori newyddion

Cyhoeddi hwb o 1.2 biliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael chwistrelliad gwerth 1.2 biliwn i’w chyllideb

Yng Nghyllideb yr Hydref, mae’r Canghellor heddiw (22 Tachwedd 2017) yn nodi cynlluniau i sicrhau cynnydd o £1.2 biliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru, ac i adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cynnydd hwn i’r gyllideb yn cynnwys hwb o 5% yng nghyllid Barnett, sy’n gyfanswm o £67 miliwn, fel y cytunwyd yn Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru. Mae’r Gyllideb yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu’n deg, a bydd ei grant bloc yn cynyddu mewn termau real dros Gyfnod yr Adolygiad o Wariant rhwng 2015 a 2020.

Bydd manteision go iawn i bobl Cymru. Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru yn gallu tyfu ei heconomi, denu buddsoddiadau, cynnal ei gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi pobl sy’n gweithio’n galed ar hyd a lled Cymru.

O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, gan roi pwerau codi refeniw gwerth dros £250 miliwn iddi. Am y tro cyntaf yng Nghyllideb yr Hydref, bydd Llywodraeth y DU yn addasu grant bloc Llywodraeth Cymru i ystyried hyn, gan roi rhagor o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru dros osod rhai o’i threthi.

Hefyd, mae Cyllideb yr Hydref yn cynnwys mesurau penodol a fydd o fudd uniongyrchol i Gymru. Yn ogystal â pharhau i gefnogi’r Bargeinion Dinesig ar gyfer Caerdydd ac Abertawe drwy fuddsoddi £615 miliwn dros yr 20 mlynedd nesaf, cyhoeddodd y Canghellor heddiw bod Llywodraeth y DU yn croesawu cynigion ar gyfer Bargen Twf i Ganolbarth Cymru ac y byddai’n dechrau trafodaethau ffurfiol ar gyfer Bargen Twf i Ogledd Cymru. Ar ôl cytuno ar hynny, bydd y bargeinion yn adeiladu ar gryfderau’r ardaloedd hynny ac yn rhoi hwb i’r economi leol.

Bydd gan Orllewin Cymru gysylltiadau gwell oherwydd buddsoddiad i uwchraddio trafnidiaeth a fydd yn darparu gwasanaethau uniongyrchol o Ddoc Penfro i Lundain drwy Gaerfyrddin, a hynny ar drenau newydd modern Intercity Express. Mae’r Canghellor wedi amlinellu gwaith ar gyfer y dyfodol hefyd, i lunio cynigion ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd posibl eraill ar hyd a lled rhwydwaith Cymru.

Bydd elusennau ledled Cymru yn elwa a bydd dros £660,000 o gyllid LIBOR sy’n deillio o’r dirwyon a godir ar fanciau yn cael eu dosbarthu i achosion da. Mae hyn yn cynnwys Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru Cyfyngedig, sy’n rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i gyn-filwyr.

Mae Llywodraeth y DU yn rhewi treth tanwydd am yr wythfed flwyddyn yn olynol er mwyn helpu pobl ledled y wlad. Bydd hyn yn helpu’r gyrrwr cyffredin yng Nghymru i arbed hyd at £9 bob tro y mae’n llenwi ei gar. O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £7.50 i £7.83, gan sicrhau codiad cyflog blynyddol o £600 i weithiwr amser llawn yng Nghymru.

Bydd y lwfans personol – sef y swm y gallwch ei ennill cyn talu treth incwm – yn codi o £11,500 i £11,850 fis Ebrill 2018, a bydd trothwy’r gyfradd uwch o dreth incwm yn codi i £46,350. Yn 2018-19, bydd dros 1.4 miliwn o bobl yng Nghymru yn elwa ar y codiadau sydd wedi’u gwneud gan y llywodraeth i’r lwfans personol ac i drothwy’r gyfradd uwch o dreth incwm. Byddant wedi ennill £183 ar gyfartaledd, o gymharu â 2015-16. Hefyd, bydd £2.3 biliwn ychwanegol yn cael ei wario ar waith Ymchwil a Datblygu ledled y DU yn 2021/22.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Canghellor heddiw wedi cyflwyno pecyn grymus o fesurau a fydd yn helpu i lunio economi Cymru fel ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymrwymiad i ddechrau ar drafodaethau am fargen dwf i Ogledd Cymru, yn ogystal â rhoi hwb i drafodaethau cynnar am raglen dwf i Ganolbarth Cymru, yn gyhoeddiadau arwyddocaol ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r symud tuag at wella gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer busnesau, gweithwyr ac ymwelwyr o’r ddwy ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn ogystal â’r penderfyniad i ddiddymu Tollau Hafren, hefyd yn brawf clir o uchelgais Llywodraeth y DU i symud economi Cymru yn ei blaen yn gyflym.

Mae Llywodraeth Cymru yn galw’n rheolaidd am hwb i’w chyllidebau cyfalaf, a heddiw mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid eto i sicrhau newid go iawn. Yn awr, mae’n rhaid iddi fwrw ymlaen â’r gwaith o ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi i wella bywydau pobl Cymru drwy adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar ein gwlad, adeiladu’r rhwydwaith ffyrdd y mae Cymru’n ei haeddu a sicrhau cynnydd go iawn yn y gwaith o wella safonau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus.

Gyda’i gilydd, does dim amheuaeth nad yw Cyllideb Llywodraeth y DU yn un sy’n sicrhau manteision i Gymru.

Cyhoeddwyd ar 22 November 2017