Datganiad i'r wasg

£1 miliwn i leihau troseddau’n ymwneud â chyffuriau ym Mae Abertawe

Mae Prosiect ADDER yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i leihau troseddau a thrais sy'n ymwneud â chyffuriau

Image of police officers

Heddiw (20 Ionawr 2021) mae’r Gweinidog Troseddu a Phlismona wedi cyhoeddi y bydd £1 miliwn yn cael ei fuddsoddi ym Mae Abertawe i leihau troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau.

Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi yn nhreialu Prosiect ADDER – dull dwys newydd o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau, sy’n cyfuno plismona caletach wedi’i dargedu a gwasanaethau adfer a thriniaeth gwell.

Bydd Prosiect ADDER (sef Caethiwed (Addiction), Dargyfeirio (Diversion), Tarfu (Disruption), Gorfodi (Enforcement) ac Adferiad (Recovery)) yn dod â phartneriaid yn yr ardal leol at ei gilydd, gan gynnwys yr heddlu, cynghorau a gwasanaethau iechyd, ac yn rhedeg am dair blynedd ariannol.

Bydd Bae Abertawe yn atgyfnerthu gweithgarwch yr heddlu lleol ac ymchwiliadau’r heddlu, wedi’u targedu at darfu ar y cyflenwad cyffuriau.

Bydd gwaith hefyd yn sefydlu rhaglenni dargyfeirio i ddefnyddio’r system cyfiawnder troseddol i ddargyfeirio pobl sy’n defnyddio cyffuriau oddi wrth droseddu ac i ymyriadau iechyd, drwy raglenni fel Profi am Gyffuriau ar ôl Arestio a datrysiadau y tu allan i’r llys.

Bydd mwy o wasanaethau allgymorth ym maes cyffuriau, lleihau niwed, triniaeth a chymorth gydag adferiad hefyd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

Mae cyflenwi a chamddefnyddio cyffuriau yn achosi niwed ofnadwy i lawer o’n cymunedau ledled Cymru. Mae’n hanfodol bod yr asiantaethau sy’n mynd i’r afael â’r fasnach erchyll hon yn cael yr holl gefnogaeth y mae ei hangen arnynt.

Bydd y buddsoddiad mewn gwasanaethau ym Mae Abertawe yn helpu’r heddlu a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â’r broblem hon yng nghalon y cymunedau lle mae fwyaf angen dull gweithredu dwys.

Dywedodd y Gweinidog Troseddu a Phlismona, Kit Malthouse:

Mae’r fasnach gyffuriau yn wenwyn yn ein cymdeithas, yn difetha bywydau ac yn dinistrio cymunedau.

Rydym yn cyflawni blaenoriaethau pobl Bae Abertawe, nad ydynt eisiau i gyffuriau ddifetha eu cymunedau. Bydd y gwaith a gyflawnir drwy’r Project ADDER yn helpu yn yr ymdrech unedig a chydlynol i fynd i’r afael â’r broblem yn ei gwraidd, o darfu ar y cyflenwad hyd at adsefydlu pobl sy’n brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau.

Rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â phroblem cyffuriau ledled y DU a chyflawni dros y cyhoedd drwy wneud ein strydoedd yn fwy diogel ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed

Mae Bae Abertawe yn un o’r pum ardal beilot ar gyfer Prosiect ADDER, sy’n cael ei ategu gan £28 miliwn o gyllid, a bydd yn rhedeg ar draws tair blynedd ariannol.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, yn 2017 - 2019, Abertawe oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau am bob 100,000 yng Nghymru, sef 17.6. Mae cyfradd y marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yn Abertawe 1.8 gwaith yn uwch nag yr oedd ddegawd yn ôl.

Castell-nedd Port Talbot sydd â’r gyfradd drydedd uchaf o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau sef 12.7 am bob 100,000 ac mae wedi bod yn un o’r pum lleoliad uchaf o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yng Nghymru a Lloegr rhwng 2014 a 2017.

Mae cyllid heddiw yn rhan o ymgyrch gynhwysfawr gwerth £148 miliwn gan y llywodraeth i adeiladu’n fwy diogel drwy helpu pobl i dorri’n rhydd o ddefnyddio cyffuriau a lleihau troseddau a thrais sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

Mae tua £40 miliwn wedi’i ddyrannu i heddluoedd i chwalu gangiau llinellau cyffuriau a mynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau tra mae £80 miliwn wedi mynd tuag at wasanaethau triniaeth am gyffuriau i atal aildroseddu – y cynnydd mwyaf mewn cyllid triniaeth cyffuriau ers 15 mlynedd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 21 January 2021