The Rt Hon Kit Malthouse MP

Bywgraffiad

Penodwyd Kit Malthouse yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Cymorth i Deuluoedd, Tai a Chynhaliaeth Plant yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 9 Ionawr 2018. Etholwyd ef yn AS Ceidwadol Gogledd Orllewin Hampshire ym mis Mai 2015.

Addysg

Gwnaeth Kit fynychu Ysgol Gynradd Sirol Sudley ac yna Coleg Lerpwl cyn astudio Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Newcastle.

Gyrfa wleidyddol

Roedd Kit yn gynghorydd ar Gyngor San Steffan rhwng 1998 a 2006. Bu’n aelod o Gynulliad Llundain o 2008 i 2016. Bu’n Ddirprwy Faer ar gyfer Plismona 2008 i 2012 a’r Dirprwy Faer ar gyfer Busnes a Menter o 2012 i 2015.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Mae Kit yn gyfrifydd siartredig, a wnaeth sefydlu cwmni cyllid yng Nghanolbarth Lloegr, y mae bellach yn ei gadeirio.

Bywyd personol

Mae Kit yn briod gyda 3 o blant.