Consultation outcome

Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO - Adolygu’r Rhestr Enwebiadau Posibl: Gwybodaeth i ymgeiswyr

Updated 4 July 2023

Mae’r ddogfen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bwysig i’r ymgeiswyr fod yn ymwybodol ohoni. Disgwylir i’r ymgeiswyr ymgyfarwyddo â chefndir UNESCO, Confensiwn Treftadaeth y Byd, rhwymedigaethau’r Gwladwriaethau sy’n Barti a phroses y Rhestr Enwebiadau Posibl, a hynny drwy edrych ar https://whc.unesco.org/en/convention/

Cefndir UNESCO

Mae Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig, a sefydlwyd yn Llundain yn 1945,

i gyfrannu at heddwch a diogelwch drwy hybu cydweithredu ymhlith y cenhedloedd drwy addysg, gwyddoniaeth a diwylliant er mwyn hybu parch cyffredinol at gyfiawnder, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol sy’n cael eu cadarnhau i bobloedd y byd, heb wahaniaethu ar sail hil, rhyw, iaith neu grefydd, gan Siarter y Cenhedloedd Unedig.

Mae pencadlys UNESCO ym Mharis ac mae ganddo rwydwaith o swyddfeydd rhanbarthol ledled y byd. Mae gan bob aelod-wladwriaeth hefyd Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO, nad yw’n rhan o UNESCO, ond a sefydlwyd gan eu llywodraeth i fod yn ganolbwynt ac yn gysylltiad rhwng y Llywodraeth, y gymdeithas ac UNESCO. Mae Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig hefyd yn cynghori’r Llywodraeth ar faterion UNESCO.

Mae UNESCO yn cynnal ymchwil ac yn datblygu polisïau, yn gosod safonau, ac yn monitro canlyniadau ar lefel fyd-eang, ranbarthol a gwladol ac mae’n gweithredu fel catalydd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol. Ledled y byd, dyma’r prif gorff rhynglywodraethol rhyngwladol sy’n delio â threftadaeth, ddiwylliannol a naturiol. Fel un o Asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, mae UNESCO yn cysoni ei waith yn llawn â gweithredu a chyflawni 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig erbyn 2030.

Nodau cyffredinol Strategaeth Tymor Canolig gyfredol UNESCO (2022-29) yw:

  1. Ateb yr her addysgol: Sicrhau addysg deg a chynhwysol o safon a hybu dysgu gydol oes i bawb, er mwyn lleihau anghydraddoldebau a hybu cymdeithasau sy’n dysgu ac yn greadigol, yn enwedig yn yr oes ddigidol

  2. Ateb yr her amgylcheddol: Gweithio tuag at gymdeithasau cynaliadwy a diogelu’r amgylchedd drwy hybu gwyddoniaeth, technoleg, arloesi a’r dreftadaeth naturiol

  3. Ateb heriau cydlyniant cymdeithasol: Adeiladu cymdeithasau cynhwysol, cyfiawn a heddychlon drwy hybu rhyddid mynegiant, amrywiaeth diwylliannol, addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang, a diogelu’r dreftadaeth

  4. Ateb yr her dechnolegol: Meithrin amgylchedd technolegol i wasanaethu’r ddynoliaeth drwy ddatblygu a lledaenu gwybodaeth a sgiliau a datblygu safonau moesegol.

Pwy sy’n gwneud beth: Llywodraethau Gwladol, Pwyllgor Treftadaeth y Byd a’i gynghorwyr

Mae Confensiwn Treftadaeth y Byd yn cydnabod mai gwladwriaethau unigol sy’n bennaf cyfrifol am ofalu am dreftadaeth y byd a’i gwarchod ac wrth ymuno â’r Confensiwn, mae pob llywodraeth yn cydnabod ei dyletswydd i ddiogelu Treftadaeth y Byd. Fel un o lofnodwyr y Confensiwn, Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r Wladwriaeth sy’n Barti ac mae wedi ymrwymo i weithredu’r Confensiwn.

Prif adran y llywodraeth ar UNESCO yw’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu, tra bo’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn arwain ar faterion diwylliannol a pholisi Treftadaeth y Byd gan weithredu fel y Wladwriaeth sy’n Barti, a chynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar weithredu’r Confensiwn.

Goruchwylir gweithrediad y Confensiwn gan Bwyllgor Treftadaeth Byd rhynglywodraethol UNESCO, sy’n cynnwys 21 o wladwriaethau a etholir mewn cylchdro o blith y 193 o aelod-wladwriaethau’r Confensiwn. Yn ei gyfarfod blynyddol, mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn penderfynu pa safleoedd fydd yn cael eu harysgrifio ar Restr Treftadaeth y Byd. Mae’r Pwyllgor hefyd yn monitro pa mor dda y mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu cadw a gallant ymyrryd gyda’r llywodraethau unigol os ydynt o’r farn bod yna broblemau.

Cynghorir Pwyllgor Treftadaeth y Byd ar enwebiadau gan yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Natur a Chyfoeth Naturiol (IUCN) o ran safleoedd naturiol, ac mae’r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) yn cynghori ar safleoedd diwylliannol a hefyd yn cynghori ar warchod safleoedd. Mae gan y ddau gorff bwyllgorau cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, ond nid oes gan y rhain gysylltiadau uniongyrchol ffurfiol ag UNESCO.

Darperir ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor gan Ganolfan Treftadaeth Byd UNESCO. Mae eu gwefan yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog.

Cynghorwyr arbenigol y Wladwriaeth sy’n Barti yn y Deyrnas Unedig yw Historic England yn achos safleoedd diwylliannol, a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn achos safleoedd naturiol.

Dull adolygu Rhestr Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig

Mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi Rhestr newydd o Enwebiadau Posibl ar gyfer safleoedd naturiol, diwylliannol a chymysg i’w harysgrifio ar Restr Treftadaeth Byd UNESCO, i’w chyflwyno i UNESCO yn nes ymlaen eleni, gyda golwg ar gyflwyno enwebiadau i Bwyllgor Treftadaeth y Byd o 2024 ymlaen.

Mae arysgrifiad fel Safle Treftadaeth Byd UNESCO yn gydnabyddiaeth o arwyddocâd gwirioneddol fyd-eang lleoedd o’r fath. Mae’n anrhydedd ac yn fraint ac fe all ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd. Am fod rhaid i bob Safle Treftadaeth Byd fod o bwysigrwydd gwirioneddol fyd-eang, mae’n anochel bod Rhestr Treftadaeth y Byd yn un ddethol iawn ac na fydd llawer o leoedd o arwyddocâd cenedlaethol neu hyd yn oed o arwyddocâd rhyngwladol yn cyrraedd y rhestr.

Nod Strategaeth Fyd-eang UNESCO yw mynd i’r afael â’r anghydbwysedd yn Rhestr Treftadaeth y Byd lle mae’r mwyafrif llethol o’r safleoedd wedi’u lleoli mewn rhanbarthau datblygedig o’r byd. Ers 2001 mae’r Deyrnas Unedig wedi dilyn cais Canolfan Treftadaeth y Byd i wledydd sydd wedi’u cynrychioli’n dda ar Restr Treftadaeth y Byd ymatal rhag enwebu rhagor o safleoedd er mwyn sicrhau Rhestr Treftadaeth Byd fwy cytbwys.

Arfer diweddar yn y Deyrnas Unedig (ers 2012) fu mynd ati bob dwy flynedd ac felly dim ond cyflwyno 1 enwebiad bob yn ail flwyddyn. Yr unig eithriad yw pan fo safle yn y Deyrnas Unedig yn rhan o gais trawswladol (fel Sba Caerfaddon fel rhan o Drefi Sba Mawr Ewrop – a restrwyd yn 2021 ac a arweiniwyd gan y Weriniaeth Tsiec).

Dros y degawd nesaf, bydd y Deyrnas Unedig yn dal i ddilyn y dull hwn o enwebu bob dwy flynedd, ac eithrio unrhyw enwebiadau sy’n rhan o gais trawswladol.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd rhwng y gwledydd a gynrychiolir ar y rhestr fyd-eang, cafwyd galwadau am ail-gydbwyso Safleoedd Treftadaeth Byd byd-eang a chenedlaethol o ran themâu safleoedd a chysoni rhestrau â gwledydd eraill.

Wrth ystyried y 33 Safle Treftadaeth Byd presennol yn y Deyrnas Unedig, rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan safleoedd sy’n cael eu dosbarthu fel safleoedd naturiol neu gymysg, neu sydd wedi’u lleoli yn y Tiriogaethau Tramor neu Ddibyniaethau’r Goron.

Bydd yn dal yn ofynnol i bob cais ddangos Gwerth Cyffredinol Eithriadol posibl fel rhan o asesiad y panel arbenigol annibynnol o’r Rhestr Enwebiadau Posibl. Disgwylir mai dim ond safleoedd eithriadol fydd yn cael eu cynnwys ar y Rhestr honno.

Mae arysgrifiad o reidrwydd yn dod â chyfrifoldebau dros ddiogelu a chadw Gwerth Cyffredinol Eithriadol y safle a’i drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae paratoi enwebiad a rheoli safleoedd ar gyfer y tymor hir yn gostus. Ni ddylid tanbrisio’r ymrwymiadau hyn a dylid eu hystyried yn ofalus cyn i unrhyw gais gael ei wneud.

Bydd rhagor o wybodaeth am y broses yn cael ei darparu mewn gweithdai y bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy’n cyflwyno datganiad o ddiddordeb ddod iddo.

Y broses ar gyfer adolygu Rhestr Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig

I wneud cais am gael eich ystyried ar gyfer Enwebiadau Posibl y Deyrnas Unedig rydym yn gofyn ichi lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb a’r ffurflen Gais lawn. Rhaid cwblhau a chyflwyno’r ddwy ran yn brydlon er mwyn bod yn gymwys i gael eich ystyried.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen mynegi diddordeb yw dydd Gwener 6 Mai 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen gais yw dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022.

Rydym yn cynnal dau sesiwn gwybodaeth ar-lein agored ddydd Dydd Iau 31 Mawrth a dydd Mercher 22 Mawrth 2022. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth gyda’r broses ar hyn o bryd, anfonwch neges ebost at tentativelist@dcms.gov.uk i gael y ddolen fideo.

Ar ôl i’ch ffurflen mynegi diddordeb ddod i law, cewch eich gwahodd i weithdy. Bydd y gweithdy gorfodol yn darparu gwybodaeth a chymorth manylach ynglŷn â chwblhau’r cais llawn.

Rydym yn cynnal dau weithdy ar-lein, ddydd Mawrth 29 Mawrth a dydd Iau 5 Mai 2022. Hoffem annog yr ymgeiswyr i anfon eu datganiad o ddiddordeb yn gynnar a dod i’r gweithdy cyntaf er mwyn caniatáu mwy o amser i lenwi’r ffurflen gais lawn. Gwahoddir yr holl ymgeiswyr eraill i’r ail weithdy.

Sylwch: dim ond ymgeiswyr sydd wedi cwblhau datganiad o ddiddordeb fydd yn cael eu gwahodd i weithdy ac i gyflwyno cais llawn. Rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau datganiad o ddiddordeb a dod i’r gweithdy cyn cyflwyno’u ffurflen gais lawn.

Yna bydd y ffurflenni cais llawn yn cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr annibynnol a benodir gan y llywodraeth. Bydd rhestr o’r safleoedd a argymhellir ar gyfer y Rhestr Enwebiadau Posibl yn cael ei chyflwyno i’r Gweinidogion i’w cymeradwyo cyn cael ei chofrestru yn UNESCO yn nes ymlaen eleni.

Deunyddiau darllen

Enghreifftiau o Gynlluniau Rheoli a dogfennau eraill gan gynnwys Adroddiadau Cyflwr Cadwraeth:

Ymchwil, astudiaethau a chyhoeddiadau perthnasol: