Open consultation

Ymgynghoriad Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Ehangu Cwmpas - Allyriadau o deithiau morol rhyngwladol

Published 25 November 2025

Cyflwyniad

Daeth Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r cynllun yn rhan allweddol o’n dull o ymdrin â newid hinsawdd, gan osod terfyn ar allyriadau o’r sectorau a gwmpesir a sicrhau bod pris priodol yn cael ei gymhwyso iddynt. Mae’r cynllun yn cael ei redeg ar y cyd gan Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (neu’r ‘Awdurdod’), sy’n cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Ym mis Gorffennaf 2023, yn dilyn ymgynghoriad, cadarnhaodd yr Awdurdod ei fwriad i ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o forol domestig o 2026 [footnote 1]. Dilynwyd hyn gan ymgynghoriad pellach ym mis Tachwedd 2024 [footnote 2] ar fanylion technegol gweithredu, yn ogystal ag ehangu posibl yn y dyfodol i allyriadau morol ychwanegol.

Cadarnhaodd yr Awdurdod rai o agweddau technegol y cynllun mewn Ymateb interim gan yr Awdurdod [footnote 3]. Roedd hyn yn cynnwys y bwriad i ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol. Rydym yn nodi manylion pellach, llawn ehangu’r cynllun domestig ym mhrif Ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad blaenorol, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ddogfen hon.

Allyriadau mordeithiau rhyngwladol: cyd-destun

Yn ymgynghoriad Ymestyn Cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: morwrol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024, gwnaethom ymgynghori ar fanylion gweithredu technegol ar gyfer sut i ehangu Cynllun presennol Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau morol. Er bod y rhan fwyaf o’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar weithredu ehangu’r cynllun i allyriadau domestig, gwnaethom hefyd ystyried sut y gellid dod â chyfran o’r allyriadau o deithiau rhyngwladol i’r cynllun hwn yn y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Strategaeth Datgarboneiddio Morol [footnote 4]. Roedd hyn yn nodi’r llwybr i ddyfodol morol glân, sy’n ofynnol i gyflawni yn erbyn cyllidebau carbon sydd wedi’u rhwymo mewn cyfraith y DU, gan ddarparu sicrwydd ac eglurder i’r sector. Roedd y strategaeth yn canolbwyntio ar bum polisi allweddol, ac un ohonynt oedd gosod pris ar allyriadau o’r sector morol, megis drwy Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Ers hynny bu newidiadau sylweddol yn y maes polisi ehangach, ac yn enwedig yn rhyngwladol. Ym mis Hydref 2025, cafodd mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol ei oedi yng nghyfarfod Pwyllgor Diogelu Amgylchedd Morol y Sefydliad Morol Rhyngwladol. Roedd y DU yn siomedig yn y canlyniad hwn a bydd yn parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol fel y gallwn gyrraedd sefyllfa o gonsensws yn y dyfodol. Yn ein hymgynghoriad blaenorol, gwnaethom ymrwymo i archwilio sut y gallai cynnwys allyriadau rhyngwladol o bosibl weithio yn y dyfodol, pe bai camau amlochrog drwy’r Sefydliad Morol Rhyngwladol yn cael eu gohirio, neu’n profi i fod yn annigonol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol.

Ochr yn ochr â hyn, ym mis Mai 2025 cytunodd y DU a’r UE i weithio tuag at gysylltu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a System Masnachu Allyriadau’r UE yn Uwchgynhadledd y DU-UE. Yn Ymateb interim yr Awdurdod a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, gwnaethom nodi ein bod yn bwriadu ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol, gan adeiladu ar y Ddealltwriaeth Gyffredin [footnote 5] a sefydlwyd yn yr uwchgynhadledd a nododd y byddai morol domestig a rhyngwladol o fewn cwmpas cynllun cysylltiedig.

O ystyried y digwyddiadau hyn, mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion polisi ar ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau ar gyfer teithiau morol rhyngwladol.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Fel rhan o ymgynghoriad Tachwedd 2024, gwnaethom gynnwys cwestiynau ar gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol yn y dyfodol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o blaid a dadleuwyd y byddai hyn yn sicrhau cydweddu â’r UE, yn osgoi dadleoli carbon a bylchau posibl, yn cymell datgarboneiddio, ac yn dangos uchelgais hinsawdd. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon, gan gynnwys y dylai’r DU aros i gydweddu ag unrhyw fesur y cytunwyd arno yn sesiwn Pwyllgor Diogelu’r Amgylchedd Morol (MEPC) Ebrill 2025 y Sefydliad Morol Rhyngwladol (a oedd ar y gweill ar y pryd). 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar ymgynghoriad mis Tachwedd 2024 ac yn amlinellu cynigion penodol ar gyfer sut rydym yn bwriadu ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol yn unol â’r Ddealltwriaeth Gyffredin ym mis Mai 2025 a’r oedi i fabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol.

Dim ond i’r cwestiynau sydd o ddiddordeb iddynt, neu y mae ganddynt farn arnynt, y mae angen i’r ymatebwyr ateb. Nid oes angen na disgwyl iddynt ymateb i bob cwestiwn yn yr ymgynghoriad hwn.

Gwybodaeth gyffredinol

Pam rydym yn ymgynghori

Yn dilyn cytundeb rhwng y DU a’r UE i weithio tuag at gysylltu Cynlluniau Masnachu Allyriadau priodol, mae’r Awdurdod yn ceisio mewnbwn ar gynigion ar gyfer ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer sut rydym yn bwriadu gwneud hyn. Yn gyffredinol, mae’r cynigion ar gyfer ehangu i allyriadau rhyngwladol yn cydweddu yn fras â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE, yn enwedig y cwmpas allyriadau. Mae’n gofyn am farn ar:

  • Sut i ehangu i fordeithiau rhyngwladol, gan gynnwys y cwmpas allyriadau.
  • P’un a fyddai angen newid cwmpas presennol polisi morol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, neu reoliad perthnasol i ganiatáu ar gyfer yr ehangu rhyngwladol.
  • Addasu’r cap ar gyfer cynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol.
  • Adolygu’r cynllun yn y dyfodol, yn sgil y mesurau byd-eang a ddatblygwyd yn y Sefydliad Morol Rhyngwladol.
  • Effeithiau’r cynllun, gan gynnwys effeithiau datgarboneiddio ac effeithiau dosbarthiadol posibl.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyhoeddwyd:        25 Tachwedd 2025

Ymatebwch erbyn: 20 Ionawr 2026

Ymholiadau i:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero 3rd Floor
3-8 Whitehall Place
London
SW1A 2EG

E-bost: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk

Cyfeirnod yr ymgynghoriad: Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Ehangu Cwmpas: Allyriadau o deithiau morol rhyngwladol

Cynulleidfaoedd:

Disgwylir i’r ymgynghoriad hwn fod o ddiddordeb i’r diwydiant morgludiant, cyrff anllywodraethol, academyddion a melinau trafod yn bennaf.  

Rydym hefyd yn croesawu barn unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd â diddordeb, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a/neu’r addasiad i gap y cynllun.

Hoffem glywed eich barn am y dull arfaethedig o ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Hoffem wybod a ydych yn credu bod y newidiadau polisi arfaethedig yn ymarferol ac y byddant yn cyflawni ein hamcanion.  

Cwmpas tiriogaethol:

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â chynigion i ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, sy’n weithredol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn, wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Sut i ymateb

Ymatebwch ar-lein yn: energygovuk.citizenspace.com/energy-markets/uk-ets-scope-international-maritime-emissions

neu

E-bost: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk

Llythyr:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero 3rd Floor
3-8 Whitehall Place
London
SW1A 2EG  

Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli safbwyntiau sefydliad.

Bydd eich ymateb yn fwy defnyddiol os yw’n ymateb uniongyrchol i’r cwestiynau a ofynnir, er y bydd sylwadau a thystiolaeth bellach hefyd yn cael eu croesawu.

Cyfrinachedd a diogelu data

Gall y wybodaeth a roddir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei datgelu yn unol â deddfwriaeth y DU (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Rhennir yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar draws Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Os hoffech i’r wybodaeth rydych yn ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dywedwch wrthym, ond byddwch yn ymwybodol na allwn addo y’i cedwir yn gyfrinachol bob amser. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a grëir gan eich system TG yn cael ei ystyried gennym ni yn gais cyfrinachedd.

Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r holl gyfreithiau diogelu data cymwys. Gweler ein polisi preifatrwydd.

Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi’r crynodeb hwn ar GOV.UK. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau neu sefydliadau sydd wedi ymateb, ond ni fydd enwau personol, cyfeiriadau na manylion cyswllt pobl yn cael eu cyhoeddi.

Sicrhau ansawdd

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori y llywodraeth.

Os oes gennych unrhyw gwynion ynglŷn â’r modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch: bru@energysecurity.gov.uk.

Crynodeb o’r Cynigion

Cynnig Ehangu i Deithiau Morol Rhyngwladol

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn ymgynghori ar gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol sy’n dechrau neu’n gorffen yn y DU. Rydym yn cynnig y dylai’r ehangu hwn ddigwydd o 2028. Rydym hefyd yn bwriadu bod teithiau rhyngwladol dim ond yn ddarostyngedig i bris carbon Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar gyfer 50% o’u hallyriadau, yn unol â chwmpas presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE.

Rydym yn cynnig y byddai’r ehangu i deithiau rhyngwladol yn berthnasol i longau a fydd eisoes o fewn cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU oherwydd eu teithiau domestig neu allyriadau mewn porthladdoedd [footnote 6] yn y DU a byddai’n cwmpasu’r un nwyon tŷ gwydr. Mae’r rhain wedi’u nodi yn ymateb interim a phrif ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad ar Ehangu Cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: Morol.

Beth yw cwmpas presennol morol yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU?

O fis Gorffennaf 2026 ymlaen, bydd cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fel a ganlyn:

  • Llongau 5000 tunelledd gros ac uwch sy’n cyflawni gweithgarwch morol cymwys.
  • Yn gyffredinol, bydd gweithgarwch morol y llywodraeth wedi’i eithrio o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau milwrol, tollau a gweithgareddau Llu’r Ffiniau, gweithgareddau’r heddlu, gwylwyr y glannau a gweithgareddau chwilio ac achub eraill, llongau meddygol brys, gweithgareddau ymchwil y llywodraeth, a gweithgarwch yr Awdurdod Goleudai Cyffredinol.
  • Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer fferïau sy’n gwasanaethu cymunedau ynysoedd a phenrhyn yr Alban, ac ar gyfer llongau dal pysgod a phrosesu pysgod, i’w hadolygu yn 2028.
  • Bydd llongau ar y môr yn cael eu cynnwys yn y cynllun o fis Ionawr 2027.
  • Cynnwys carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus.

Cwmpas y Cynnig

Rydym yn cynnig y byddai mordaith ryngwladol o fewn cwmpas y cynigion hyn yn fordaith i’r naill gyfeiriad neu’r llall rhwng porthladd y DU a phorthladd y tu allan i’r DU. Rydym hefyd yn cynnig bod allyriadau o fordeithiau i diriogaethau dibynnol ar y Goron a Thiriogaethau Tramor ac o’r tiriogaethau hyn yn cael eu cynnwys o dan y cynigion hyn. Fel yr amlinellwyd mewn ymgyngoriadau blaenorol ac ym mhrif Ymateb yr Awdurdod, rydym o’r farn y dylai fod bar uchel ar gyfer unrhyw eithriadau o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Rydym yn awyddus i gasglu barn rhanddeiliaid ar y dull hwn drwy’r ymgynghoriad, gan gynnwys tystiolaeth o’r effeithiau ar y cymunedau hyn. 

Yn ymarferol, rydym yn cynnig y byddai cyfranogwyr yn monitro ac yn adrodd 100% o’u hallyriadau nwyon tŷ gwydr ar fordaith rhwng porthladd y DU a phorthladd y tu allan i’r DU. Fodd bynnag, byddai’n ofynnol i weithredwyr ildio lwfansau i gwmpasu 50% o’u hallyriadau yn unig. Yn ogystal â hyn, byddai’n ofynnol i gyfranogwyr ildio lwfansau ar gyfer 100% o’u hallyriadau tra mewn porthladd yn y DU, fel y cadarnhawyd eisoes yn Ymateb interim yr Awdurdod, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.

Mae’r DU wedi ymrwymo i fasnach rydd ac agored, ein hymrwymiadau newid hinsawdd domestig a rhyngwladol, ac anghenion diwydiant a defnyddwyr. Mae cynnal Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr (UNCLOS) fel y fframwaith cyfreithiol ar gyfer pob gweithgaredd yn y cefnfor a’r moroedd yn sail i bob agwedd ar bolisi cefnforoedd y DU. Felly, byddwn yn sicrhau bod unrhyw fesurau a ddatblygir yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys ein hawliau a’n rhwymedigaethau o dan UNCLOS, ein hymrwymiadau o dan Sefydliad Masnach y Byd a chytundebau masnach, a chytundebau hinsawdd gan gynnwys Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC) a Chytundeb Paris.

Yn seiliedig ar amcangyfrifon o fodel allyriadau morol yr Adran Drafnidiaeth, yn 2019, cyfran y DU o allyriadau morol rhyngwladol [footnote 7] oedd tua 7.5MtCO2e ar sail tanc i’r ôl llong. O’r allyriadau hyn, amcangyfrifir bod tua 6.9MtCO2e (92%) wedi’u cynhyrchu gan longau dros 5000GT a byddent yn cael eu dwyn i gwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU, yn amodol ar unrhyw eithriadau.    O ystyried bod yr holl allyriadau mewn porthladdoedd, gan gynnwys y rhai o longau ar fordeithiau rhyngwladol, wedi’u cynnwys o fewn cwmpas y cynllun morol domestig, byddai’r holl allyriadau sy’n cael eu dwyn i’r cwmpas o dan yr ehangu hwn yn allyriadau a gynhyrchir yn ystod mordeithiau.

Ar gyfer llongau dros 5000GT, amcangyfrifir bod tua 3.5MtCO2e wedi’u hallyrru ar deithiau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, a 3.4MtCO2e ar deithiau rhwng y DU a Gweddill y Byd [footnote 8]. Llongau cynhwysydd (1.74MtCO2e), fferïau ro-pax (0.96MtCO2e), a thanceri olew (0.88MtCO2e) oedd y mathau o longau yr amcangyfrifir eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf at gyfran y DU o allyriadau teithiau morol rhyngwladol.

Er bod pleidlais ar fabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol wedi’i gohirio, bydd y DU yn parhau i weithio gydag eraill i symud ymlaen â’i ddatblygiad, a’i fabwysiadu. Ar ôl ei fabwysiadu, disgwylir iddo gwmpasu’r allyriadau o longau 5000GT ac uwch a gynhaliodd unrhyw fordeithiau rhyngwladol mewn blwyddyn benodol. Mae hyn yn cynnwys allyriadau domestig o longau a gynhaliodd gymysgedd o deithiau domestig (mordeithiau porthladd DU-DU) a rhyngwladol (mordeithiau porthladd DU-rhyngwladol). Byddwn yn adolygu cwmpas allyriadau morol yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar ôl mabwysiadu’r Fframwaith Sero Net.

Goblygiadau ar gyfer Llwybrau Prydain Fawr-Gogledd Iwerddon

Rydym wedi ymgynghori’n flaenorol ar ddau opsiwn i oresgyn y gwahaniaethau mewn rhwymedigaethau prisio carbon ar lwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, a Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain Fawr, oherwydd cwmpas allyriadau gwahanol gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE a Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Mae prif ymateb yr Awdurdod yn amlinellu, er mwyn sicrhau cyfwerthedd prisiau carbon ar y llwybrau hyn, y bydd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn darparu didyniad ildio 50% ar gyfer mordeithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, o’r gweithredu ym mis Gorffennaf 2026.

Nododd prif Ymateb yr Awdurdod mai dim ond cyhyd ag y bydd y gwahaniaethau yn parhau y bydd y mesur hwn yn parhau ar waith. Mae hyn yn golygu na fydd y didyniad ildio 50% ar gyfer llwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr bellach yn berthnasol o’r pwynt y bwriedir i fordeithiau rhyngwladol gael eu dwyn i mewn i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU, sef 2028. Bydd hyn yn golygu y bydd rhwymedigaeth ildio 100% yn berthnasol ar gyfer mordeithiau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr ar ôl y pwynt hwn.

Goblygiadau i gwmpas y cynllun

Fel y nodir ym mhrif Ymateb yr Awdurdod, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar gyfer llongau ar y môr mewn canllawiau a deddfwriaeth. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig y bydd rhwymedigaeth ildio hefyd yn berthnasol i longau ar y môr am 50% o’u hallyriadau nwyon tŷ gwydr o fordeithiau rhyngwladol.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, mae gan Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ddiddordeb mewn deall a fyddai angen diwygio cwmpas y cynllun, fel yr amlinellir ym mhrif Ymateb yr Awdurdod, os penderfynir bwrw ymlaen â’r ehangu i gynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol. Er enghraifft, rydym yn cydnabod polisi llongau dosbarth iâ Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE sy’n caniatáu i longau o’r fath ildio 5% yn llai o lwfansau tan 31 Rhagfyr 2030. Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu cyflwyno gostyngiad tebyg yn y lwfans ildio ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb mewn casglu barn ynghylch a oes angen gwneud rhai addasiadau ar gyfer llongau dosbarth iâ, neu ar gyfer unrhyw fathau eraill o longau mewn cyd-destun rhyngwladol.

Goblygiadau ar gyfer darpariaethau rheoleiddio

Yn olaf, byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn deall a fyddai angen newid unrhyw un o’r darpariaethau rheoleiddio a nodir ym mhrif Ymateb yr Awdurdod mewn ymateb i gynigion i ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol. Er enghraifft, ym mhrif Ymateb yr Awdurdod, gwnaethom nodi y byddwn yn dileu’r gofyniad am Ddogfen Cydymffurfio ar gyfer yr ehangu domestig. Mae hyn oherwydd y bydd cydymffurfio â Chynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei reoli gan reoleiddwyr Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU drwy’r system Rheoli eich Cynllun Masnachu Allyriadau (METS) a Chofrestrfa Masnachu Allyriadau’r DU.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, byddem yn awyddus i ddeall a fyddai angen newid y dull hwnnw pe bai Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei ehangu i gynnwys allyriadau ar gyfer teithiau rhyngwladol. Rydym hefyd yn ymwybodol bod cynlluniau rhanbarthol eraill, fel Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE, yn cynnwys pwerau gorfodi pellach gan gynnwys pwerau diarddel a gwaharddiadau porthladdoedd. Rydym yn awyddus i ddeall a yw rhanddeiliaid o’r farn y byddai pwerau o’r fath yn fuddiol wrth orfodi’r cynllun. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw farn arall ar newidiadau rheoleiddio pellach a awgrymir.

Cwestiynau

1. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i gynnwys 50% o allyriadau o fordeithiau rhyngwladol o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU o 1 Ionawr 2028? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

2. Ydych chi’n meddwl y dylid cynnwys yr allyriadau o fordeithiau i diriogaethau dibynnol ar y Goron a Thiriogaethau Tramor ac o’r tiriogaethau hyn o dan gwmpas y cynllun? (Ydw/Nac ydw) A fydd yn arwain at unrhyw fanipwleiddio, osgoi neu effeithiau andwyol pe baent yn cael eu heithrio? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

3. Ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys llongau ar y môr o fewn cwmpas y cynllun wedi’i ehangu? (Ydw/Nac ydw) A fydd yn arwain at unrhyw fanipwleiddio, osgoi neu effeithiau andwyol? Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

4. Ydych chi’n cytuno â’r bwriad i beidio â darparu gostyngiad 5% mewn ildio lwfansau ar gyfer llongau dosbarth iâ? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

5. A oes angen diwygio cwmpas y cynllun fel yr amlinellir ym mhrif Ymateb yr Awdurdod ymhellach yn sgil cynigion i gynnwys mordeithiau rhyngwladol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

6. A oes angen i’r darpariaethau rheoleiddio fel y’u hamlinellir ym mhrif Ymateb yr Awdurdod newid yn sgil cynigion i gynnwys mordeithiau rhyngwladol? Er enghraifft, a oes angen adfer y gofyniad am Ddogfen Cydymffurfio, neu a oes angen ychwanegu pwerau rheoleiddio pellach fel gwaharddiadau porthladdoedd neu ddiarddel? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Addasu’r cap

Ym mhrif Ymateb yr Awdurdod, gwnaethom gadarnhau y byddwn yn addasu’r cap i roi cyfrif am ehangu’r Cynllun Masnachu Allyriadau i forol domestig. Mae nifer y lwfansau a fydd yn cael eu hychwanegu yn unol â Strategaeth Datgarboneiddio Morol Llywodraeth y DU a’i llwybr cyson â sero net ar gyfer morol domestig.

Roedd hyn yn adlewyrchu ein cynnig yn yr ymgynghoriad ac mae’n gyson â’r egwyddor a gefnogwyd gan randdeiliaid yn yr ymgynghoriad blaenorol y dylai ehangu cwmpas yn gyffredinol gael ei ategu gan addasu cyfatebol i’r cap.

Fel yr amlinellwyd yn y prif ymateb, nododd yr Awdurdod argymhelliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd i beidio ag addasu’r cap pan fydd morol domestig yn cael ei ychwanegu at Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Fodd bynnag, yn dilyn cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ailwerthusodd yr Awdurdod drywydd cap presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i brofi ei gysondeb â sero net a chanfu nad oedd unrhyw newid sylweddol yn y rhagdybiaethau sylfaenol a lywiodd y trywydd cap cyson â sero net gwreiddiol. Felly, roedd yr Awdurdod o’r farn bod cyfiawnhad cyfyngedig dros ailagor y sefyllfa cap y cytunwyd arni fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Mae’r Awdurdod yn cynnig dilyn dull tebyg ar gyfer ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o fordeithiau rhyngwladol. Felly, rydym yn bwriadu addasu’r cap gan ddefnyddio’r trywydd cyson â sero net diweddaraf ar gyfer allyriadau o fordeithiau rhyngwladol, fel y nodir yn y Strategaeth Datgarboneiddio Morol [footnote 9]. Bydd hyn yn sicrhau bod cap Cynllun Masnachu Allyriadau cyffredinol y DU yn parhau i fod yn gyson â sero net ac yn parhau i gefnogi cyflawni targedau hinsawdd y DU.

Mae’r Awdurdod wedi penderfynu ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i Gam II o 2031 ymlaen, a byddwn yn ceisio ymgynghori ar drywydd cap Cam II penodol cyn gynted â phosibl. Bydd angen i unrhyw drywydd cap Cam II gydweddu â chynlluniau datgarboneiddio traws-economi ar draws y pedair gwlad. Mae’r Awdurdod yn credu y bydd yr addasiad i’r cap yn cadw hygrededd y cynllun ac yn sicrhau cysondeb â bwriad polisi’r cynllun masnachu allyriadau, gan hyrwyddo datgarboneiddio cost-effeithiol.

Tabl 1: Ffigurau addasu cap dangosol ar gyfer ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i deithiau morol rhyngwladol o dan gap Cam I (2028-2030).

Blwyddyn Allyriadau Nwyon Gwydr Blynyddol a ychwanegir at Gwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU o gynnwys 50% teithiau morol rhyngwladol (Tanc i’r ôl Llong, MtCO₂e)
2028 5.0
2029 4.9
2030 4.7

Mae’r ffigurau a gyflwynir ar gyfer cwmpas allyriadau o dan ehangu cwmpas mordaith ryngwladol 50% yn ddangosol yn unig ac nid ydynt yn adlewyrchu safbwynt polisi terfynol. Maent yn seiliedig ar fodelu o’r Strategaeth Datgarboneiddio Morol a gyhoeddwyd ar ddechrau 2025 ac maent yn destun newid wrth i bolisi a modelu ddatblygu. Bwriad yr amcangyfrifon hyn yw darparu ymdeimlad o raddfa ar gyfer addasiadau cap posibl yng Ngham I y cynllun (sy’n rhedeg tan ddiwedd blwyddyn y cynllun sy’n dechrau 1 Ionawr 2030), o dan gap deddfwriaethol presennol Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Gall diweddariadau i fodelu yn y dyfodol arwain at ffigurau diwygiedig, a bydd unrhyw benderfyniadau polisi terfynol yn cael eu llywio gan ddadansoddiad ac ymgynghori pellach.

Cwestiynau

7. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i addasu’r cap gan ddefnyddio’r trywydd cyson â sero net fel y nodir yn y trywydd cyhoeddedig mwy diweddar ar bwynt Ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad hwn? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

Adolygiad yn y Dyfodol

Bydd Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol unwaith y bydd wedi’i fabwysiadu yn helpu i gymell llongau i drosglwyddo i danwyddau glanach, gyda refeniw yn rhoi hwb i drawsnewidiad y sector i danwyddau a thechnolegau gwyrdd, a hyrwyddo trosglwyddiad cyfiawn a theg mewn gwledydd datblygol, yn enwedig y Gwledydd Lleiaf Datblygedig ac Ynys-wladwriaethau Bach Datblygol. 

Er y bydd y DU yn gweithio gydag eraill i fwrw ymlaen â datblygu a mabwysiadu Fframwaith Sero Net, mae’r oedi diweddar i fabwysiadu yn golygu bod angen cymryd camau ar unwaith i ysgogi ymdrechion datgarboneiddio morol byd-eang. 

Rydym yn cydnabod bod gan randdeiliaid bryderon am faich gweinyddol ychwanegol i weithredwyr ac rydym yn awyddus i leihau hyn.  Wrth wneud hynny, rydym yn anelu at greu mesurau effeithiol a chydlynol sy’n darparu sicrwydd i fuddsoddwyr a chynnydd diriaethol i ddatgarboneiddio’r sector morol.    

Mae’r UE wedi ymrwymo i adolygu dull Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE ar gyfer morol, ar ôl mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol [footnote 10]. Mae hyn yn cynnwys cynigion deddfwriaethol i archwilio’r angen i gymhwyso dyrannu lwfansau a gofynion ildio i fwy na hanner cant y cant (50%) o’r allyriadau o longau sy’n cyflawni mordeithiau rhyngwladol, ac mae disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi o fewn 18 mis i fabwysiadu’r Fframwaith Sero Net.  

Ar ôl mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, byddwn yn adolygu rhyngweithio Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, a byddwn yn archwilio’r opsiynau ar gyfer rheoli unrhyw ryngweithiadau yn y dyfodol, gan gynnwys adolygu unrhyw newidiadau i Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE yn y dyfodol. 

Cwestiynau

8. Pa fesurau ddylai Llywodraeth y DU eu cynnal i sicrhau y gall Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, ar ôl eu mabwysiadu, gefnogi datgarboneiddio sector morol y DU yn effeithiol? Rhowch dystiolaeth ategol i’ch barn, gan gynnwys costau a buddiannau.

Effeithiau

Disgwylir i gynnwys 50% o allyriadau o fordeithiau rhyngwladol fod yn sbardun sylweddol ar gyfer datgarboneiddio. Bydd yn sicrhau bod 100% o’r allyriadau yn cael eu cwmpasu ar deithiau rhwng y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, o’r cyfuniad o Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Bydd y 50% ychwanegol o’r cwmpas allyriadau ar lwybrau rhyngwladol eraill yn cefnogi datgarboneiddio’r llwybrau hyn. Bydd effeithiau sy’n gysylltiedig â’r polisi hwn yn cael eu dadansoddi fel rhan o’r Asesiad o Effaith (AoE) i’w gyhoeddi ochr yn ochr ag Ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad hwn.

Effeithiau posibl ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i deithiau morol rhyngwladol

Mae’r Asesiad o Effaith [footnote 11] sy’n ategu prif Ymateb yr Awdurdod ar ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i forol domestig yn nodi’r dystiolaeth ar effeithiau disgwyliedig ehangu domestig. Mae’r buddiannau yn cynnwys arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr a buddiannau ansawdd aer yn y sector morol, ac mae’r costau’n cynnwys costau i weithredwyr morol yn sgil buddsoddi mewn technolegau lleihau, costau gweinyddol i weithredwyr o gydymffurfio â’r cynllun, a chost prynu lwfansau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU. Disgwylir i ehangu’r cynllun arfaethedig i deithiau morol rhyngwladol y DU gael effeithiau tebyg ar arbedion allyriadau nwyon tŷ gwydr a manteision ansawdd aer. Fodd bynnag, mae union raddau hyn yn ansicr, yn rhannol oherwydd rhyngweithiadau rhwng Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE, a rhyngweithiadau rhwng y cynlluniau hyn a Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol, a fydd ill dau yn destun adolygiad ar ôl mabwysiadu Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol i roi cyfrif am y rhyngweithiadau hyn.

Gan fod yr ehangu i allyriadau morol domestig yn cynnwys yr holl allyriadau a gynhyrchir mewn porthladdoedd domestig, waeth beth fo’r fordaith, ni fyddai’r ehangu arfaethedig i deithiau morol rhyngwladol yn dod ag unrhyw weithredwyr morol newydd i’r cwmpas. Yn ogystal, bydd llawer o weithredwyr hefyd eisoes yn ddarostyngedig i ofynion Systemau Casglu Data Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE a’r Sefydliad Morol Rhyngwladol. Felly, disgwylir i gostau gweinyddol ychwanegol yn sgil ehangu i deithiau morol rhyngwladol fod yn fach. Fodd bynnag, bydd gweithredwyr sy’n cynnal mordeithiau domestig a rhyngwladol yn gweld cyfran uwch o’u hallyriadau yn cael eu cwmpasu gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU, a allai gynyddu eu costau lleihau a phrynu lwfansau cyffredinol.

Mae tystiolaeth gynnar o ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE i forol yn dangos bod tystiolaeth gyfyngedig o newidiadau llwybr i osgoi cwmpas y Cynllun Masnachu Allyriadau. Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth o longau yn galw mewn porthladdoedd ychwanegol yn y DU er mwyn osgoi talu cwmpas llawn ar deithiau o fewn Ewrop [footnote 12]. Drwy ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gwmpasu 50% o allyriadau teithiau rhyngwladol, byddai hyn yn dileu’r cymhelliant i weithredwyr llongau alw mewn porthladdoedd ychwanegol yn y DU, gan leihau’r risg o fanipwleiddio a dadleoli carbon, er y gallai hyn arwain at lai o weithgarwch ym mhorthladdoedd y DU.

Mae tystiolaeth arall o’r un adroddiad gan yr UE [footnote 13] wedi dangos bod disgwyl i’r costau ychwanegol a osodir gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE ar gludo nwyddau drwy forol fod yn isel. Fodd bynnag, mae gweithredwyr morol wedi dechrau gweithredu gordaloedd i dalu am y costau hyn a’u trosglwyddo. Mae’n ansicr i ba raddau y mae costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau yn cael eu trosglwyddo i gostau terfynol nwyddau, ond disgwylir i hyn fod yn fach yn seiliedig ar dystiolaeth bresennol, a nodir yn yr Asesiad o Effaith ar gyfer ehangu morol domestig. Archwilir tystiolaeth bellach ar effaith bosibl ehangu’r Cynllun Masnachu Allyriadau i forol domestig yn yr Asesiad o Effaith. I raddau helaeth, disgwylir i’r dystiolaeth hon fod yn berthnasol hefyd ar gyfer ehangu i deithiau morol rhyngwladol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai effeithiau sy’n fwy perthnasol i’r DU - mae ehangu teithiau morol rhyngwladol, er enghraifft, yn effeithio ar fasnach ryngwladol, a risgiau o newid dulliau teithio o forol i ddulliau trafnidiaeth nad ydynt wedi’u cwmpasu gan Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Cwestiynau

9. Ydych chi’n cytuno â’n dealltwriaeth o effeithiau cynnwys mordeithiau rhyngwladol yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

10. Ydych chi’n meddwl y gallai’r ehangu arfaethedig i deithiau morol rhyngwladol arwain at unrhyw effeithiau andwyol? (Ydw/Nac ydw) Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, effeithiau ar brisiau ac argaeledd nwyddau i ddefnyddwyr, effeithiau ar gystadleurwydd sector morol y DU, effeithiau ar gadwyni cyflenwi, newid i ddulliau trafnidiaeth eraill, neu effeithiau masnach. Eglurwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl.

11. Ydych chi’n meddwl bod angen i ni gymryd unrhyw gamau yn erbyn manipwleiddio, trawslwytho, neu osgoi os yw Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn ymestyn i gwmpasu allyriadau o deithiau morol rhyngwladol? (Ydw/Nac ydw) Esboniwch eich ymateb, gan roi tystiolaeth lle y bo’n bosibl

12. A fyddai newidiadau i’r dirwedd prisio carbon byd-eang (e.e. Fframwaith Sero Net y Sefydliad Morol Rhyngwladol neu Gynllun Masnachu Allyriadau’r UE) yn effeithio ar effeithiau ehangu arfaethedig Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i deithiau morol rhyngwladol? Os felly, sut?

Effeithiau ar y Gymraeg

Mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Mae gan ei Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ddau darged cyffredinol: cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.

Mae’r strategaeth yn cael ei chyflwyno ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwahanol feysydd polisi fel tai, yr economi, amaethyddiaeth ac addysg. Felly, mae’n bwysig ein bod yn asesu effeithiau posibl atebion polisi arfaethedig ar y Gymraeg a chyflawni ein Strategaeth y Gymraeg. Hoffem gael eich barn ar sut y gallai unrhyw newidiadau arfaethedig mewn perthynas ag ehangu cwmpas y Cynllun Masnachu Allyriadau i gynnwys teithiau morol rhyngwladol gefnogi ein hymdrechion i gynyddu nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg, osgoi unrhyw effeithiau negyddol, a sicrhau ein bod yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth y Gymraeg.

Cwestiwn

13. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol cynyddu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys teithiau morol rhyngwladol ar y Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

a. Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

b. Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

14. Yn eich barn chi, a allai cynyddu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys teithiau morol rhyngwladol gael ei lunio neu ei newid er mwyn:

a. cael effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu

b. lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Camau nesaf

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i ddatblygu penderfyniadau polisi terfynol ynghylch ehangu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i gynnwys allyriadau o deithiau morol rhyngwladol.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 8 wythnos cyn ei gau. Yna bydd yr Awdurdod yn gweithio drwy’r ymatebion ac yn anelu at gyhoeddi Ymateb yr Awdurdod maes o law. 

  1. Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU - GOV.UK

  2. Ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: sector morol

  3. Ehangu cwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU: morol - ymateb interim

  4. Maritime decarbonisation strategy - GOV.UK

  5. Uwchgynhadledd y DU-UE - Dealltwriaeth Gyffredin (HTML) - GOV.UK

  6. Mae ‘allyriadau mewn porthladdoedd’ yn cynnwys allyriadau wrth y ddocfa mewn porthladdoedd y DU ac allyriadau o symudiadau o fewn porthladdoedd y DU. 

  7. Diffinnir cyfran y DU o allyriadau teithiau morol rhyngwladol fel 50% o allyriadau o bob taith rhwng porthladd y DU (neu osodiad alltraeth ym Mharth Economaidd Neilltuedig DU) a phorthladd mewn gwlad arall, ac eithrio unrhyw allyriadau a gynhyrchir mewn porthladd. 

  8. Cynhyrchwyd y 0.05MtCO2e sy’n weddill ar deithiau rhwng y DU a phorthladd anhysbys. Mae teithiau lle nad yw’r porthladd galw cychwynnol na diwedd yn hysbys yn digwydd pan fydd y llong wrthi’n teithio ar ddechrau neu ddiwedd y flwyddyn. 

  9. Maritime decarbonisation strategy - GOV.UK

  10. Cyfarwyddeb - 2023/959 - EN - EUR-Lex

  11. UK ETS scope expansion: maritime sector

  12. Monitoring of the implementation of Directive 2003/87/EC in relation to maritime

  13. Gweler y ddolen yn nhroednodyn 12.