Skip to main content
Consultation outcome

Summary of responses and government response (Welsh version)

Updated 9 July 2026

Cefndir

Diben

Mae’r atodiad hwn yn crynhoi ymatebion i ymgynghoriad Defra ar ddiwygiadau posibl i Ddeddf Milfeddygon 1966. Roedd yr ymgynghoriad ar agor o 28 Ionawr 2026 i 25 Mawrth 2026 ac roedd yn gofyn am farn ar gynigion yn ymwneud â rheoleiddio gweithwyr milfeddygol proffesiynol, addasrwydd i ymarfer, rheoleiddio busnesau milfeddygol a gofal iechyd anifeiliaid, a llywodraethiant y rheoleiddiwr. Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yma wedi llywio datblygiad safbwynt polisi’r llywodraeth.

Cyhoeddir adroddiad mwy cyflawn yn nodi dadansoddiad yr ymgynghoriad a’r ymchwil ansoddol gysylltiedig ar wahân ar dudalennau gwyddoniaeth ac ymchwil Defra maes o law.

Ymatebion a chyfranogiad

Derbyniodd yr ymgynghoriad 6,219 o ymatebion. Cyflwynwyd ymatebion drwy Citizen Space (6,034), drwy e-bost (184) a thrwy’r post (1).

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ysgrifenedig, cynhaliwyd ymchwil ansoddol ychwanegol i archwilio safbwyntiau yn fanylach. Roedd hyn yn cynnwys:

  • 3 gweithdy i randdeiliaid, a fynychwyd gan 45 o gyfranogwyr ar draws cyrff rheoleiddio, gweithwyr milfeddygol proffesiynol, busnesau a sefydliadau lles
  • 20 cyfweliad manwl â rhanddeiliaid
  • 4 grŵp ffocws, gyda 26 o berchnogion a cheidwaid anifeiliaid, gan gynnwys perchnogion anifeiliaid anwes, perchnogion ceffylau a ffermwyr

Cynlluniwyd y gweithgareddau hyn i gasglu amrywiaeth o safbwyntiau gan bobl a sefydliadau â gwahanol safbwyntiau ar y diwygiadau arfaethedig.

Dull dadansoddi

Cynhaliwyd y dadansoddiad ymgynghori gan Ipsos ar ran Defra. Gwiriwyd ansawdd yr holl ymatebion cyn eu dadansoddi.

Dadansoddwyd cwestiynau caeedig yn ddisgrifiadol. Mae’r tablau isod yn dangos nifer a chanran yr ymatebwyr a ddewisodd bob ateb. Mae meintiau sylfaen yn amrywio oherwydd nad yw pob ymatebydd wedi ateb pob cwestiwn. Cyfrifir canrannau fel cyfran o’r rhai a atebodd bob cwestiwn.

Cafodd ymatebion testun agored eu codio’n systematig gan ymchwilwyr Ipsos hyfforddedig gan ddefnyddio fframwaith codio strwythuredig. Cynhaliwyd y codio â llaw gan ddefnyddio’r platfform Ascribe. Cynhaliwyd gwiriadau sicrwydd ansawdd ar 5–10% o’r ymatebion wedi’u codio i gefnogi cysondeb. Ni ddefnyddiwyd unrhyw offer AI cynhyrchiol wrth godio na dadansoddi ymatebion i’r ymgynghoriad na’r ymchwil ansoddol.

Dadansoddwyd yr ymchwil ansoddol cysylltiedig yn thematig i nodi materion cyffredin, gwahaniaethau mewn persbectif ac enghreifftiau darluniadol ar draws gweithdai rhanddeiliaid, cyfweliadau a grwpiau ffocws.

Sut i ddarllen y canlyniadau

Mae ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus yn hunanddewisol: unigolion a sefydliadau sy’n penderfynu a ydynt am ymateb, ac efallai y bydd rhai grwpiau’n fwy tebygol o gymryd rhan nag eraill. Felly ni ddylid dehongli’r canfyddiadau fel rhai sy’n cynrychioli’r boblogaeth ehangach yn ystadegol, y proffesiynau milfeddygol, busnesau milfeddygol a gofal iechyd anifeiliaid, perchnogion a cheidwaid anifeiliaid, na’r holl grwpiau yr effeithir arnynt.

Mae canrannau o gwestiynau caeedig yn dangos cyfran yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwnnw. Ni ddylid eu darllen fel amcangyfrifon o farn ehangach. Ar gyfer cwestiynau lle gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn, gall cyfanswm y canrannau fod yn fwy na 100%. Yn yr achosion hynny, ni ddangosir cyfansymiau oherwydd gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un ymateb.

Mae canfyddiadau testun agored ac ansoddol yn crynhoi ystod a natur y safbwyntiau a fynegwyd gan ymatebwyr a chyfranogwyr. Lle rhestrir themâu allweddol, bwriedir iddynt ddangos y prif faterion a godwyd ac ni ddylid eu dehongli fel mesur o gyffredinolrwydd oni bai bod cyfrifiadau yn cael eu dangos.

Wrth adolygu’r data, nodwch:

  • Tablau ymateb sengl: Sylfaen = nifer yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn. Efallai na fydd canrannau’n cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu.
  • Tablau dewiswch bob un sy’n berthnasol: Sylfaen = nifer yr ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn. Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un opsiwn, felly gallai cyfanswm y canrannau fod yn fwy na 100%.
  • Rhestrau themâu testun agored: Mae themâu’n crynhoi’r prif faterion a godwyd mewn ymatebion testun agored ac nid ydynt yn gynhwysfawr oni nodir yn wahanol.

Ansawdd a thryloywder

Cyhoeddir y dadansoddiad yn yr atodiad hwn i gefnogi tryloywder ynghylch y dystiolaeth a ddefnyddir i lywio datblygu polisi. Mae Defra wedi adolygu allbynnau Ipsos ac wedi defnyddio’r canfyddiadau ochr yn ochr â thystiolaeth ehangach, gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymchwiliad i’r farchnad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i wasanaethau milfeddygol ar gyfer anifeiliaid anwes.

Cwestiynau Rhagarweiniol

Gofynnodd C1 am wybodaeth gyswllt; gofynnodd C2 a oedd pobl eisiau i’w hymateb fod yn gyhoeddus ai peidio.
C3. Os ydych chi’n ymateb fel unigolyn, nodwch y wlad neu’r genedl rydych chi’n byw ynddi. Os ydych chi’n ymateb ar ran busnes neu sefydliad, nodwch ble mae eich busnes neu sefydliad wedi’i leoli’n bennaf neu ble mae’n gweithredu fwyaf. Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 6054

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Lloegr 4947 82%
Yr Alban 589 10%
Cymru 335 6%
Gogledd Iwerddon 89 1%
Y tu allan i’r DU – nodwch os gwelwch yn dda 72 1%
Dewis peidio â dweud 22 * (mae seren yn dynodi <0.5%)
CYFANSWM 6054  

Roedd yr ymatebion o’r tu allan i’r DU yn cynnwys:

  • Awstralia
  • Canada
  • Ynysoedd y Sianel
  • Dubai
  • Yr Almaen
  • Groeg
  • Iwerddon
  • Ynys Manaw
  • Seland Newydd
  • De Affrica
  • Sbaen

C4. Ydych chi’n ymateb ar ran busnes neu sefydliad?  Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 6213

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Ydw - ar ran busnes neu sefydliad 437 7%
Nac ydw – nid ar ran busnes neu sefydliad 5776 93%
CYFANSWM 6213  

C5. Pa gategori o fusnes neu sefydliad ydych chi’n ei gynrychioli? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 420

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Elusen 17 4%
Grŵp Defnyddwyr 3 1%
Sefydliad addysgol/academaidd 20 5%
Corff cynrychioliadol 67 16%
Practis/busnes milfeddygol 153 37%
Sefydliad iechyd y cyhoedd milfeddygol 3 1%
Busnes neu sefydliad arall – nodwch 157 37%
CYFANSWM 420  

Ymatebion busnes neu sefydliad arall:

  • Undeb
  • Mentoriaid
  • Practisau AVP
  • Bridiwr
  • Sefydliad yr Awdurdod Lleol
  • Cynhyrchydd bwyd
  • Cwmni technoleg ar gyfer y sector milfeddygol
  • Sefydliad ymchwil
  • Ysgol farchogaeth

C6 Ydych chi’n weithiwr milfeddygol proffesiynol neu ydych chi’n gweithio’n broffesiynol gydag anifeiliaid? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 6054

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Ydw – rwy’n weithiwr milfeddygol proffesiynol (mae gen i gymhwyster proffesiynol sy’n ymwneud ag iechyd a/neu les anifeiliaid er enghraifft, milfeddyg, nyrs filfeddygol gofrestredig ac ati) 5505 91%
Ydw – rwy’n gweithio’n broffesiynol gydag anifeiliaid (ond nid oes gennyf gymhwyster proffesiynol penodol er enghraifft triniwr, gwas fferm, cerddwr cŵn ac ati) 226 4%
Na, dydw i ddim yn gweithio’n broffesiynol gydag anifeiliaid 324 5%
CYFANSWM 6054  

C7. Os ydych chi’n weithiwr milfeddygol proffesiynol neu’n gweithio mewn proffesiwn sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid, nodwch eich rôl. Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5540

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: ymddygiadwr 95 2%
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: triniwr carnau gwartheg 46 1%
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: technegydd deintyddol ceffylau 56 1%
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: ffarier neu driniwr troednoeth 232 4%
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: gweithiwr cyhyrysgerbydol 328 6%
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: technegydd milfeddygol 12 *
Gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol: arall 44 1%
Ffermwr 9 *
Myfyriwr: gweithiwr milfeddygol proffesiynol perthynol 18 *
Myfyriwr: nyrs filfeddygol 141 3%
Myfyriwr: milfeddyg 90 2%
Nyrs filfeddygol 1509 27%
Milfeddyg 2737 49%
Arall 214 4%
Dewis peidio â dweud 9 *
CYFANSWM 5540  

Roedd ymatebion eraill yn cynnwys:

  • Hydrotherapydd
  • Derbynnydd
  • Hyfforddwr
  • Gweithiwr academaidd
  • Cynorthwyydd gofal milfeddygol
  • Gweithiwr milfeddygol proffesiynol wedi ymddeol

C8. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich rhywedd orau?  Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5974

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr Ymatebion
Dyn 1255 21%
Menyw 4563 76%
Anneuaidd 22 *
Nid yw fy rhywedd wedi’i restru 1 *
Dewis peidio â dweud 133 2%
CYFANSWM 5974  

C9. Beth yw eich grŵp oedran? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5983

Ateb Nifer yr Ymatebion Canran yr ymatebion
18 i 24 308 5%
25 i 34 1606 27%
35 i 44 1770 30%
45 i 54 1248 21%
55 i 64 657 11%
65 to 74 217 4%
Dros 75 57 1%
Dewis peidio â dweud 120 2%
CYFANSWM 5983  

C10. Pa un o’r canlynol sy’n eich disgrifio orau?  Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5746

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: 1% (65 ymatebydd)

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Indiaidd 28 *
Pacistanaidd 4 *
Bangladeshaidd 2 *
Tsieineaidd 19 *
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig 12 *
CYFANSWM 65  

Du/ Affricanaidd/ Caribïaidd/ Du Prydeinig: <0.5% (13 ymatebydd)

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Affricanaidd 7 *
Caribïaidd 3 *
Du/Affricanaidd/Caribïaidd Arall 3 *
CYFANSWM 13  

Grwpiau ethnig cymysg/lluosog: 1% (81 ymatebydd)

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Gwyn a Du Caribïaidd 16 *
Gwyn a Du Affricanaidd 8 *
Gwyn ac Asiaidd 31 1%
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog eraill: 26 *
CYFANSWM 81  

Gwyn: 97% (5,575 ymatebydd)

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cymro/Cymraes/Sais/Saesnes/Albanwr/Albanes/Gwyddel /Gwyddeles o Ogledd Iwerddon/Prydeinig 5,074 88%
Gwyddel/Gwyddeles 107 2%
Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig 2 *
Gwyn Arall 392 7%
CYFANSWM 5755  

Grŵp ethnig arall: <0.5% (12 ymatebydd)

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Arabaidd 2 *
Grŵp ethnig arall 10 *
CYFANSWM 12  

C11. Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich tueddfryd rhywiol orau?  Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5947

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Syth/Heterorywiol 4879 82%
Hoyw neu lesbiaidd 201 3%
Deurywiol 246 4%
Tueddfryd rhywiol arall 61 1%
Dewis peidio â dweud 560 9%
CYFANSWM 5947  

C12. Ydych chi’n ystyried eich hun neu unrhyw un yn eich aelwyd yn anabl yn swyddogol? Wedi’i ddiffinio gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel ‘Amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd’ Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5965

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Ydw 688 12%
Nac ydw 4945 83%
Dewis peidio â dweud 332 6%
CYFANSWM 5965  

Trwydded i Ymarfer Cwestiynau

L2PC1. Dim ond y rhai sydd â thrwydded briodol (neu sydd ag eithriad) all gyflawni gweithredoedd milfeddygol. Byddai milfeddyg â thrwydded lawn i ymarfer yn cael ymgymryd â phob gweithred filfeddygol. Bydd nyrsys milfeddygol a gweithwyr milfeddygol proffesiynol perthynol yn gallu ymgymryd â rhai gweithredoedd milfeddygol, fel y pennir gan y rheoleiddiwr.  Pa rai o’r canlynol ydych chi’n credu y dylid eu hystyried yn weithredoedd milfeddygol: Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5892

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cyflawni llawdriniaethau ar anifeiliaid 5430 92%
Diagnosis o glefydau mewn anifeiliaid, ac anafiadau iddynt 5371 91%
Triniaeth feddygol anifeiliaid 5148 87%
Llofnodi ardystiad swyddogol 5086 86%
Rhoi cyngor yn seiliedig ar ddiagnosis 4933 84%
Cynnal profion ar anifeiliaid at ddibenion diagnostig 4854 82%
Dim un o’r rhain 35 1%
Ddim yn gwybod 33 1%

L2PC2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad canlynol: Dim ond unigolion sydd â thrwydded briodol ddilys i ymarfer (neu’r rhai sydd â gorchymyn eithrio i ymgymryd â gweithredoedd penodol) ddylai gael caniatâd i gyflawni gweithredoedd milfeddygol, fel y manylir yn y bennod uchod? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5910

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cytuno’n gryf 5092 86%
Tueddu i gytuno 679 11%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 42 1%
Tueddu i anghytuno 39 1%
Anghytuno’n gryf 36 1%
Ddim yn gwybod 22 *
CYFANSWM 5910  

L2PC3. Pa gosbau, os o gwbl, y dylid eu gosod ar unrhyw un sy’n cyflawni gweithredoedd milfeddygol heb drwydded ddilys i ymarfer y gweithredoedd penodol hynny? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5886

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Atal trwydded 4327 74%
Dirwyon a chosbau ariannol 4055 69%
Camau cyfreithiol a allai arwain at euogfarnau troseddol - yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd 4014 68%
Anghymhwyso proffesiynol - atal unigolion rhag ymarfer yn y maes milfeddygol yn y dyfodol 3891 66%
Dirymu trwydded 3474 59%
Niwed i enw da drwy gyhoeddi’n gyhoeddus y gosb y mae’r unigolyn yn ei hwynebu 1601 27%
Cosb arall (manylwch)    
Dim cosb 23 *
Ddim yn gwybod 257 4%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Yn dibynnu ar y cyd-destun
    • Dull gwahanol ar gyfer y rhai sy’n ymarfer heb drwydded o’i gymharu â’r rhai sydd â thrwydded sy’n ymarfer y tu allan i gwmpas eu trwydded
  • Ailhyfforddi a/neu DPP gorfodol
  • Rhybuddion

L2PC4. Ehangu’r diffiniad o anifeiliaid

Pa mor briodol yw defnyddio Deddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) 2022 i ddiffinio pa rywogaethau sydd wedi’u cynnwys o dan ofal milfeddygol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5866

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Amhriodol iawn 419 7%
Rhywfaint yn amhriodol 630 11%
Niwtral 915 16%
Rhywfaint yn briodol 1627 28%
Priodol iawn 1780 30%
Ddim yn gwybod 495 8%
CYFANSWM 5866  

L2PC4b. Os ateboch chi “amhriodol iawn” neu “rhywfaint amhriodol”, rhowch fanylion pam eich bod chi’n ei chael hi’n amhriodol i’r diffiniad o anifeiliaid fod yr un fath â Deddf Lles Anifeiliaid (Ymdeimladoldeb) 2022.

n = 372

Themâu allweddol:

  • Mae’r diffiniad yn rhy gul:
    • Dylai gynnwys infertebratau
  • Mae’r diffiniad yn rhy eang:
    • Dylai gynnwys mamaliaid yn unig
  • Anodd profi ymdeimladoldeb

L2PC5. Mae’r fideo rydych chi wedi’i weld yn dangos y broses i filfeddygon, nyrsys milfeddygol a gweithwyr milfeddygol proffesiynol perthynol gael trwydded i ymarfer.  Pa mor hyderus ydych chi fod hyn yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gwbl gymwys, yn hyddysg yn Saesneg ac nad ydynt wedi cyflawni troseddau difrifol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n =5840

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Hyderus iawn 1306 22%
Eithaf hyderus 3573 61%
Ddim yn hyderus iawn 487 8%
Ddim yn hyderus o gwbl 128 2%
Ddim yn gwybod 346 6%
CYFANSWM 5840  

L2PC5b. Os ateboch chi “ddim yn hyderus iawn” neu “ddim yn hyderus o gwbl”, beth, os o gwbl, fyddai’n eich gwneud chi’n fwy hyderus?

n = 441

Themâu allweddol:

  • Diffiniadau clir o ddeddfau milfeddygol
  • Gwiriadau Cefndir/DBS
  • Aliniad â safonau presennol
  • Mwy o eglurder ynghylch y gofynion cymhwyso
  • Proses gwynion glir ac atebol
  • Costau yswiriant indemniad yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai nad ydynt yn  ymarfer
  • Pryderon y gallai wahaniaethau yn erbyn y rhai ag anabledd ac yn cefnogi y gallai gynorthwyo’r rhai ag anabledd

L2PC6. Ar hyn o bryd, dim ond os cânt eu dirprwyo gan filfeddyg sy’n cael ei gyflogi gan yr un busnes y gall nyrsys milfeddygol cofrestredig gyflawni tasgau milfeddygol. A ddylai nyrsys milfeddygol cofrestredig allu cyflawni rolau penodol, fel nyrsio ardal, heb ddirprwyaeth uniongyrchol gan filfeddyg? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5881

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Dylent, dylent ei wneud yn bendant 1907 32%
Dylent, dylent ei wneud fwy na thebyg 2381 40%
Na, mae’n debyg na ddylent wneud 888 15%
Na, yn bendant na ddylent wneud 444 8%
Ddim yn gwybod 261 4%
CYFANSWM 5881  

L2PC7. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ehangu rheoleiddio i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol, er enghraifft, Technegwyr Deintyddol Ceffylau, Ymddygiadwyr, gweithwyr proffesiynol cyhyrysgerbydol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5949

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cytuno’n gryf 3549 60%
Tueddu i gytuno 1587 27%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 240 4%
Tueddu i anghytuno 248 4%
Anghytuno’n gryf 252 4%
Ddim yn gwybod 73 1%
CYFANSWM 5949  

L2PC7b. Beth yw eich barn chi ar ehangu’r rheoliad i gynnwys gweithwyr milfeddygol perthynol?

n = 4008

Themâu allweddol:

  • Dylent i gyd fod yn gymwys, yn alluog ac wedi’u hyswirio
  • Byddai’n diogelu a/neu’n gwella lles anifeiliaid
  • Sicrhau safonau cyson ac uchel
  • Gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd/cleientiaid
  • Caniatáu ar gyfer timau amlddisgyblaethol

L2PC8. I ba raddau y mae’n bwysig, neu beidio, bod teitlau proffesiynol nyrsys milfeddygol a gweithwyr milfeddygol proffesiynol perthynol yn cael eu diogelu’n gyfreithiol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5954

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 5446 91%
Eithaf pwysig 386 6%
Ddim yn bwysig iawn 53 1%
Ddim yn bwysig o gwbl 22 *
Ddim yn gwybod 47 1%
CYFANSWM 5954  

L2PC9. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid ymgorffori ffarieriaid yn y VSA gyda’r gweithwyr milfeddygol proffesiynol perthynol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5870

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cytuno’n gryf 2178 37%
Tueddu i gytuno 2007 34%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 679 12%
Tueddu i anghytuno 298 5%
Anghytuno’n gryf 249 4%
Ddim yn gwybod 459 8%
CYFANSWM 5870  

L2PC9b. Os ateboch chi “ddim yn cytuno nac yn anghytuno”, “yn tueddu i anghytuno”, neu “yn anghytuno’n gryf”, esboniwch eich ateb.

n = 826

Themâu allweddol:

  • Ar hyn o bryd mae ffarieriaid yn cael eu rheoleiddio ym Mhrydain Fawr, ac mae’r system yn gweithio’n dda ar hyn o bryd
  • Mae rheoleiddio ffarieriaid eisoes wedi’i sefydlu’n dda
  • Peidio ag ystyried ffarieriaid fel gweithiwr milfeddygol proffesiynol
  • Ffarieriaid yn aros yn annibynnol ar filfeddygon
  • Ni fyddai hyn yn diogelu nac yn gwella lles anifeiliaid

L2PC10. Ydych chi’n meddwl y dylid, neu na ddylid, rheoleiddio trinwyr troednoeth ceffylau? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5876

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Ydw, dylid eu rheoleiddio yn bendant 3133 53%
Ydw, dylid eu rheoleiddio fwy na thebyg 1851 32%
Na, mae’n debyg na ddylid eu rheoleiddio 154 3%
Na, yn bendant na ddylid eu rheoleiddio 48 1%
Ddim yn gwybod 690 12%
CYFANSWM 5876  

L2PC11. Oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech chi eu gwneud ar y cynigion Trwydded i Ymarfer?

n = 2495

Themâu allweddol:

  • Mae ei angen i ddiogelu/gwella lles anifeiliaid
  • Bydd yn sicrhau bod gweithwyr milfeddygol proffesiynol yn gymwys, yn alluog a wedi’u hyswirio
  • Mae hyn yn angenrheidiol ac mae’n hen bryd iddo ddigwydd
  • Mae angen diogelu teitlau ochr yn ochr â chyflwyno rheoleiddio ar gyfer y tîm milfeddygol cyfan.
  • Gallai arwain at gostau, biwrocratiaeth a gweinyddiaeth uwch i’r proffesiynau milfeddygol

Cwestiynau Addasrwydd i Ymarfer

F2PC1. Gan feddwl am y broses rydych chi newydd ddarllen amdani a/neu’r fideo rydych chi wedi’i wylio. I ba raddau ydych chi’n cytuno, neu’n anghytuno, bod y broses Addasrwydd i Ymarfer gyffredinol arfaethedig yn briodol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5419

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cytuno’n gryf 1329 25%
Tueddu i gytuno 3053 56%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 439 8%
Tueddu i anghytuno 212 4%
Anghytuno’n gryf 140 3%
Ddim yn gwybod 246 5%
CYFANSWM 5419  

F2PC1b. Rhowch resymau dros eich ateb

n = 2346

Themâu allweddol:

  • Angen am degwch a chymesuredd
  • Angen am eglurder a thryloywder prosesau
  • Sicrhau bod y prosesau’n cael eu gweithredu’n gyson ac yn amserol

F2PC2. Gan feddwl am rywun yn y tîm milfeddygol y canfyddir bod ganddo  amhariad cyfredol. Pa rai, os o gwbl, o’r sancsiynau canlynol y dylid eu hystyried ar gam y tribiwnlys?

Mae ‘amhariad cyfredol’ yn cyfeirio at —

  • Camymddwyn difrifol (yn groes i’r Cod Ymddygiad Proffesiynol);
  • perfformiad proffesiynol yn sylweddol islaw’r disgwyl;
  • euogfarn am drosedd;
  • cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor (neu anabledd); 5. lle na all rhywun weithio’n ddiogel (i’w hunain/i’w cleifion) yn y maes y maent yn gweithio ynddo gydag addasiadau rhesymol ar waith, gan gynnwys oherwydd camddefnyddio sylweddau/alcoholiaeth.

Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5371

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Ymrwymiadau (addewid ffurfiol am gamau i’w cymryd/stopio, er enghraifft, gofynion DPP) 4344 81%
Amodau ar eu trwydded (er enghraifft, cyfyngiadau gwaith, goruchwyliaeth) 4090 76%
Atal eu trwydded 3791 71%
Dileu eu trwydded 2662 50%
Gwybodaeth arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim un o’r rhain 35 1%
Ddim yn gwybod 213 4%
CYFANSWM 5371  

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Yn dibynnu ar y cyd-destun
  • Ni ddylai sancsiynau fod yn berthnasol neu’r un peth i bobl ag anableddau, neu gyflyrau iechyd corfforol/meddyliol
  • Dylai sancsiynau fod yn gymesur

F2PC3. Os byddai’r rheoleiddiwr yn dileu trwydded ymarfer gweithiwr milfeddygol proffesiynol, pa mor hir ydych chi’n meddwl y dylai’r cyfnod gofynnol fod cyn caniatáu iddynt wneud cais i adfer eu trwydded, o gwbl? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5402

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Blwyddyn 417 8%
2 flynedd 249 5%
3 blynedd 289 5%
5 mlynedd 260 5%
7 mlynedd 5 *
10 mlynedd 21 *
Mwy na 10 mlynedd 5 *
Ddim yn gallu gwneud cais i adfer eu trwydded 144 3%
Ni ddylai’r rheoleiddiwr allu dileu trwydded i ymarfer 47 1%
Yn dibynnu ar y rheswm dros y dileu 3896 72%
Ddim yn gwybod 69 1%
CYFANSWM 5402  

F2PC4. Mewn sefyllfa lle honnir bod gan weithiwr milfeddygol proffesiynol amhariad ar ei gymhwysedd i ymarfer ar hyn o bryd (gan gynnwys am resymau iechyd fel anabledd, camddefnyddio/caethiwed i sylweddau, salwch cronig), pa wybodaeth, os o gwbl, y dylid caniatáu i’r rheoleiddiwr gael mynediad ati?

Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5378

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Adroddiad asesu perfformiad annibynnol gyda gwybodaeth iechyd berthnasol 4426 82%
Llythyr gan feddyg(on) gyda gwybodaeth iechyd berthnasol a/neu asesiad o’r gallu i weithio 3837 71%
Cofnodion meddygol sy’n ymwneud ag eitemau sy’n berthnasol i’r achos yn unig 2073 39%
Gwybodaeth arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim 103 2%
Ddim yn gwybod 213 4%
CYFANSWM 5378  

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Dylai fod angen cydsyniad i rannu nodiadau meddygol
  • Tystiolaethau gan gydweithwyr, cleientiaid, gweithwyr proffesiynol trwyddedig eraill
  • Dogfennaeth gan y cyflogwr presennol/blaenorol

F2PC5. Oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech chi eu gwneud ar y cynigion trwydded i ymarfer?

n = 6219

Themâu allweddol:

  • Angen gwelliannau i wella lles anifeiliaid a sicrhau bod y system yn deg
  • Pwysigrwydd mesurau cefnogol i weithwyr proffesiynol
  • Pwysigrwydd safonau a phrosesau tryloyw a chyson
  • Sicrhau nad yw hyn yn gwahaniaethu

Cwestiynau Rheoleiddio Busnesau Milfeddygol neu Gofal Iechyd Anifeiliaid

BusC1. Pa rai, os o gwbl, o’r busnesau Milfeddygol/Gofal Iechyd Anifeiliaid canlynol y dylid eu rheoleiddio o dan y ddeddfwriaeth newydd arfaethedig?  Roedd rhai ymatebion yn unigryw (fel y nodir yn y tabl)

n = 5477

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pob busnes milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid [UNIGRYW] 4790 87%
Busnesau milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid gyda lleoliad ffisegol 305 6%
Busnesau milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid gyda phresenoldeb ar-lein yn unig 270 5%
Busnesau milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid a redir gan filfeddygon trwyddedig 221 4%
Busnesau milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid a redir gan nyrys milfeddygol trwyddedig 182 3%
Busnesau Milfeddygol/Gofal Iechyd Anifeiliaid a redir gan weithwyr milfeddygol proffesiynol perthynol rheoleiddiedig 171 3%
Arall (nodwch)    
Ni ddylai Busnesau Milfeddygol/Gofal Iechyd Anifeiliaid gael eu rheoleiddio [UNIGRYW] 139 3%
Ddim yn gwybod [UNIGRYW] 101 2%
CYFANSWM 5477  

BusC2. Gan feddwl am senario busnes milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid sydd â sawl safle/lleoliad (h.y. gwahanol ganghennau) ar draws nifer o wahanol leoliadau daearyddol. Pa un o’r opsiynau isod ddylai person cyfrifol a enwir fod yn gyfrifol amdano? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5435

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Un safle/lleoliad YN UNIG 627 12%
Pob safle/lleoliad A pherson ychwanegol sy’n gyfrifol am y busnes canolog cyffredinol 3742 69%
Un person cyfrifol a enwir dynodedig yn goruchwylio sawl safle/lleoliad 545 10%
NI ddylai fod person cyfrifol a enwir ar lefel y safle na’r busnes 190 3%
Ddim yn gwybod 331 6%
CYFANSWM 5435  

Os dewiswyd “d”, esboniwch eich ateb

n = 107

Themâu allweddol:

  • Risg gor-reoleiddio
  • Dylai’r busnes fod yn gyfrifol
  • Yn dibynnu ar y busnes
  • Gormod o gyfrifoldeb i un person
    • Dylai pawb fod yn gyfrifol

BusC3. Pa rai, os o gwbl, o’r canlynol ddylai’r rheoleiddiwr eu hasesu? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5486

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Cymwysterau’r gweithiwr proffesiynol rheoleiddiedig 4986 91%
Polisïau lles anifeiliaid 4958 90%
Cadw cofnodion yn unol â gofynion proffesiynol a chyfreithiol 4821 88%
Rheoli, storio a defnyddio meddyginiaethau 4767 87%
Hyfforddi’r gweithiwr proffesiynol rheoleiddiedig 4483 82%
Y polisïau iechyd a diogelwch 4417 81%
Amgylchedd gwaith gan gynnwys offer a chyfleusterau 4294 78%
Polisïau lles staff 4220 77%
Trin defnyddwyr/cwsmeriaid 3546 65%
Gwybodaeth weladwy am brisiau 3511 64%
Arweinyddiaeth y practis 3151 57%
Cyfranogiad gyda gwasanaeth cyfryngu/dyfarnu allanol 2810 51%
Dim un o’r rhain 58 1%
Ddim yn gwybod 162 3%
CYFANSWM 5486  

BusC4. Byddai angen i fusnes milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid gael trwydded gan y rheoleiddiwr cyn iddo agor safle. Pa rai, os o gwbl, o’r canlynol ydych chi’n credu y dylai’r safle   eu rhoi ar waith cyn i’r drwydded gael ei chyhoeddi? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5434

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Datganiad gan y busnes ei fod yn bodloni gofynion trwydded 4656 86%
Person cyfrifol a enwir ar y safle 4339 80%
Person cyfrifol a enwir ar lefel busnes (ar gyfer grwpiau) 3874 71%
Archwiliad gan y rheoleiddiwr o’r safle (neu ddogfennaeth ar gyfer busnesau ar-lein yn unig) 3612 66%
Archwiliad o’r safle yn seiliedig ar risg 2469 45%
Rhywbeth arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim un o’r rhain 46 1%
Ddim yn gwybod 211 4%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Mae angen i hyn fod yn gymesur
  • Archwilio ar ôl trwyddedu

BusC5. Os yw’r rheoleiddiwr yn pryderu am fusnes milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid, ym mha rai o’r sefyllfaoedd canlynol, os o gwbl, ydych chi’n credu y dylai’r rheoleiddiwr gael pwerau mynediad i archwilio’r practis? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5191

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwerau mynediad ar gyfer archwiliadau ar hap seiliedig ar risg ar gyfer safleoedd busnes/practis 3752 72%
Pwerau mynediad ar gyfer archwiliadau arferol ar gyfer safleoedd busnes/practis 3586 69%
Pwerau mynediad ar gyfer archwiliadau ar hap ar gyfer safleoedd busnes/practis 2726 53%
Pwerau mynediad â gwarant (gan yr heddlu) ar gyfer safle busnes/practis 2567 49%
Pwerau mynediad â gwarant (gan yr heddlu) ar gyfer anheddau preifat 2329 45%
Pwerau mynediad ar gyfer archwiliadau arferol ar gyfer anheddau preifat ynghylch busnesau symudol/o bell (lle cedwir y gwaith papur yn eu hanheddau preifat) 2055 40%
Pwerau mynediad ar gyfer sefyllfa arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim pwerau mynediad 208 4%
Ddim yn gwybod 150 3%
CYFANSWM 5191  

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Angen i hyn fod yn gymesur
  • Rhybudd ymlaen llaw yn cael ei roi cyn yr archwiliad

BusC6. Pa rai, os o gwbl, o’r sancsiynau a’r camau gweithredu canlynol ydych chi’n credu y dylai’r rheoleiddiwr eu gosod am beidio â chydymffurfio â gofynion busnes milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5417

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Cyhoeddi ‘hysbysiad gwella’ o waith y mae’n rhaid iddo ddigwydd o fewn amserlen a bennir gan y rheoleiddiwr yn seiliedig ar ddifrifoldeb a risg 4747 88%
Darparu arweiniad a chyngor ar welliannau 4567 84%
Gosod dirwyon yn seiliedig ar yr achosion o beidio â chydymffurfio a pha mor ddifrifol ydynt. 3541 65%
Cyhuddo perchennog busnes o drosedd os yw’r busnes yn gweithredu heb drwydded. 3485 64%
Atal y drwydded ymarfer 3436 63%
Cyhoeddi ‘hysbysiad atal ar unwaith’ i’r safle atal gwaith ar weithgareddau penodol 3151 58%
Atal y drwydded fusnes (h.y. pob safle o fewn y busnes) 2473 46%
Dileu’r drwydded yn barhaol 1893 35%
Sancsiwn/camau gweithredu eraill (ysgrifennwch i mewn)    
Dim un o’r rhain 41 1%
Ddim yn gwybod 215 4%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Yn dibynnu ar y cyd-destun
  • Dylai pob sancsiwn fod yn gymesur â’r risg
  • Erlyn am beidio â chydymffurfio

BusC7. Oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech chi eu gwneud am y rheoleiddio arfaethedig ar fusnesau milfeddygol/gofal iechyd anifeiliaid?

n = 2052

Themâu allweddol:

  • Mae angen rheoleiddio busnesau, ond mae angen iddo fod yn briodol ac yn gymesur
  • Gwella lles anifeiliaid a sicrhau safonau uchel cyson
  • Dylai gofynion rheoleiddio fod yn wahanol yn seiliedig ar wahanol fathau o fusnesau
  • Pryderon ynghylch mwy o gostau/biwrocratiaeth, yn enwedig i fusnesau bach a masnachwyr unigol
  • Ni ddylid cosbi person cyfrifol a enwir am gamgymeriadau gan berchnogion corfforaethol
  • Dylid cynnwys cost archwiliadau yn y ffioedd trwyddedu

Cwestiynau Llywodraethu

LlywC1. Pa un o’r ddau opsiwn dangosol ydych chi’n credu fyddai’n gwasanaethu’r sector milfeddygol yn fwyaf effeithiol yn y dyfodol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5338

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
1. Rheoleiddiwr â swyddogaeth arweinyddiaeth broffesiynol 2475 46%
2. Model rhanedig: corff arweinyddiaeth broffesiynol ar wahân 1764 33%
Dim un o’r rhain 177 3%
Ddim yn gwybod 922 17%
CYFANSWM 5338  

LlywC2a. Pa fanteision, os o gwbl, ydych chi’n credu y byddai cynnal un corff, gan gynnwys y rheoleiddiwr a’r arweinyddiaeth broffesiynol, yn eu dwyn i’r proffesiwn milfeddygol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5288

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Llinellau cyfathrebu clir rhwng y rheoleiddiwr ac arweinyddiaeth broffesiynol y proffesiynau milfeddygol 3634 69%
Peidio â gorfod talu cost sefydlu sefydliad newydd 3425 65%
Effeithlonrwydd rheoleiddio ac arweinyddiaeth broffesiynol sy’n digwydd o fewn un sefydliad 3174 60%
Cynnal system y mae’r cyhoedd a’r proffesiynau wedi arfer â hi 2972 56%
Cadw llythrennau ôl-enw (er wedi’u diwygio) ar gyfer gweithwyr milfeddygol proffesiynol 2873 54%
Mwy o eglurder a thryloywder swyddogaethau arweinyddiaeth rheoleiddio a phroffesiynol i’r cyhoedd a’r proffesiynau 2620 50%
Cynnal y Siarter Frenhinol 1911 36%
Manteision eraill (ysgrifennwch i mewn)    
Dim manteision 264 5%
Ddim yn gwybod 349 7%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Yn gostwng ffioedd
  • Gweithio cydweithredol ac amlddisgyblaethol gwell

LlywC2b Pa fanteision, os o gwbl, ydych chi’n credu y byddai Model Rhanedig arfaethedig gyda chorff arweinyddiaeth broffesiynol newydd ar wahân yn eu dwyn i’r proffesiwn milfeddygol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5166

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Rolau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer carfanau’r rheoleiddiwr ac arweinyddiaeth broffesiynol fel corff/cyrff annibynnol 3066 59%
Y gallu i weithwyr proffesiynol benderfynu beth (os o gwbl) maen nhw ei eisiau gan gorff arweinyddiaeth proffesiynol 2732 53%
Osgoi’r potensial i’r rhai yn y corff arweinyddiaeth proffesiynol gael dylanwad ar y rheoleiddiwr ac i’r gwrthwyneb 2513 49%
Hyblygrwydd gwell ar gyfer gweithgareddau cyrff arweinyddiaeth proffesiynol nad ydynt wedi’u cyfyngu drwy fod yn gysylltiedig â rheoleiddiwr 2490 48%
Cadw sefydliadau’n gryno ac yn symlach 1247 24%
Mae technoleg fodern yn golygu nad yw cyfathrebu rhwng dau gorff yn cael ei effeithio mewn gwirionedd 1097 21%
Manteision eraill (ysgrifennwch i mewn)    
Dim manteision 555 11%
Ddim yn gwybod 629 12%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Gwella ymddiriedaeth perchnogion/anifeiliaid cleientiaid
  • Sicrhau dealltwriaeth sy’n benodol i’r sector
  • Hyder y proffesiynau

LlywC3 A ydych chi’n credu bod unrhyw risgiau gydag un corff yn cael swyddogaethau rheoleiddio ac arweinyddiaeth broffesiynol?

n = 2630

Themâu allweddol:

  • Gwrthdaro buddiannau
  • Rhagfarn gynyddol a diffyg didueddrwydd
  • Cyfrifoldebau wedi’u diffinio’n wael
  • Diffyg cefnogaeth i broffesiynau
  • Llai o ymddiriedaeth gyhoeddus
  • Diffyg eglurder a thryloywder

LlywC3b Sut gellid lliniaru unrhyw rai o’r risgiau rydych chi wedi’u nodi?

n = 2020

Themâu allweddol:

  • Rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir
  • Sicrhau tegwch a didueddrwydd
  • Canolbwyntio ar les anifeiliaid
  • Eglurder a thryloywder

LlywC4. Ydych chi’n credu bod unrhyw risgiau gyda’r Model Rhanedig arfaethedig gyda chorff arweinyddiaeth broffesiynol newydd ar wahân?

n = 2596

Themâu allweddol:

  • Mwy o gostau
  • Diffyg cydlynu rhwng sefydliadau ar wahân
  • Diffyg cynrychiolaeth/cefnogaeth i’r proffesiynau
  • Dyblygu ymdrech

LlywC4b. Sut gellid lliniaru unrhyw rai o’r risgiau rydych chi wedi’u nodi?

n = 1763

Themâu allweddol:

  • Cyfathrebu rhwng cyrff
  • Rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir
  • Sicrhau bod ffioedd yn gymesur
  • Penodi arweinyddiaeth yn briodol

LlywC5. I ba raddau mae pob un o’r canlynol yn bwysig, neu beidio, fel amcanion sylfaenol y rheoleiddiwr i sicrhau Rheoleiddio effeithiol? Dewiswch un opsiwn yn unig ar gyfer pob un

a. Diogelu iechyd a lles anifeiliaid

n = 5340

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 5173 97%
Eithaf pwysig 132 2%
Ddim yn bwysig iawn 8 *
Ddim yn bwysig o gwbl 5 *
Ddim yn gwybod 22 *
CYFANSWM 5340  

b. Hyrwyddo hyder y cyhoedd

n = 5332

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 3583 67%
Eithaf pwysig 1588 30%
Ddim yn bwysig iawn 123 2%
Ddim yn bwysig o gwbl 13 *
Ddim yn gwybod 25 *
CYFANSWM 5332  

c. Cynnal safonau proffesiynol

n = 5334

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 4980 93%
Eithaf pwysig 311 6%
Ddim yn bwysig iawn 13 *
Ddim yn bwysig o gwbl 7 *
Ddim yn gwybod 23 *
CYFANSWM 5334  

d. Diogelu defnyddwyr

n = 5326

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 2679 50%
Eithaf pwysig 2242 42%
Ddim yn bwysig iawn 289 5%
Ddim yn bwysig o gwbl 70 1%
Ddim yn gwybod 46 1%
CYFANSWM 5326  

e. Sicrhau cystadleuaeth deg

n = 5321

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 2042 38%
Eithaf pwysig 2226 42%
Ddim yn bwysig iawn 760 14%
Ddim yn bwysig o gwbl 220 4%
Ddim yn gwybod 73 1%
CYFANSWM 5321  

LlywC6. I ba raddau mae corff arweinyddiaeth broffesiynol yn bwysig? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5329

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 3470 65%
Eithaf pwysig 1477 28%
Ddim yn bwysig nac yn ddibwys 158 3%
Ddim yn bwysig iawn 35 1%
Ddim yn bwysig o gwbl 23 *
Ddim yn gwybod 166 3%
CYFANSWM 5329  

LlywC7. Pa rai, os o gwbl, o’r canlynol ydych chi’n eu hystyried yn brif swyddogaethau corff arweinyddiaeth broffesiynol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5301

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Arweinyddiaeth broffesiynol, gan ysgogi eu proffesiwn i fod y gorau y gall fod 4454 84%
Canllawiau penodol i’r proffesiynau ar weithgareddau ac ymddygiad, yn seiliedig ar y codau ymddygiad cyffredinol a bennir gan bwyllgorau 4200 79%
Addysgu’r cyhoedd ar ofalu am anifeiliaid a sut i ryngweithio â’r proffesiwn 3674 69%
Sefydlu safonau penodol i arbenigwyr uwchlaw’r lefel orfodol ar gyfer arbenigeddau 3500 66%
Swyddogaeth arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim un o’r rhain 27 1%
Ddim yn gwybod 196 4%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Cefnogi gweithwyr proffesiynol drwy DPP
  • Amddiffyn ac eiriol dros y proffesiwn a’i ddiogelu
  • Gwneud cyflwyniadau i’r llywodraeth
  • Cymorth ar gyfer llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr proffesiynol

LlywC8. Pa rai o’r canlynol, os o gwbl, y dylid eu blaenoriaethu wrth benodi unigolion i Fyrddau a Phwyllgorau’r rheoleiddiwr? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5323

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Cefndir proffesiynol (Milfeddyg, Nyrs Filfeddygol Gofrestredig, Gweithiwr Milfeddygol Proffesiynol Perthynol) 4821 91%
Maes (meysydd) arbenigedd (er enghraifft, iechyd y cyhoedd, ceffylau, anifeiliaid bach) 4806 90%
Profiad rheoleiddio neu addysgol 3266 61%
Sbectrwm o sgiliau 2678 50%
Cynrychiolaeth ddaearyddol (ar draws y DU) 2652 50%
Cydraddoldeb lleyg (mae hyn yn golygu y byddai nifer cyfartal o weithwyr milfeddygol proffesiynol a’r rhai heb gymwysterau milfeddygol ar y Bwrdd) 2003 38%
Arall (ysgrifennwch i mewn)    
Dim un o’r rhain 7 *
Ddim yn gwybod 128 2%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Profiad ymarferol o fewn y sector milfeddygol
  • Didueddrwydd a diffyg rhagfarn
  • Demograffeg amrywiol (hil, rhyw, oedran ac ati)
  • Dim cydraddoldeb lleyg
  • Etholiadau

LlywC9. I ba raddau mae goruchwyliaeth annibynnol o’r rheoleiddiwr yn bwysig neu beidio mewn perthynas â’r agweddau canlynol? Dewiswch un opsiwn yn unig ar gyfer pob un

a. Prosesau penodi

n = 5210

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 2959 57%
Eithaf pwysig 1543 30%
Ddim yn bwysig iawn 226 4%
Ddim yn bwysig o gwbl 42 1%
Ddim yn gwybod 440 8%
CYFANSWM 5210  

b. Achosion addasrwydd i ymarfer

n = 5206

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 3210 62%
Eithaf pwysig 1409 27%
Ddim yn bwysig iawn 217 4%
Ddim yn bwysig o gwbl 65 1%
Ddim yn gwybod 305 6%
CYFANSWM 5206  

c. Perfformiad cyffredinol

n = 5208

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 3019 58%
Eithaf pwysig 1647 32%
Ddim yn bwysig iawn 161 3%
Ddim yn bwysig o gwbl 36 1%
Ddim yn gwybod 345 7%
CYFANSWM 5208  

LlywC10. Y rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am bennu ffioedd ar gyfer trwyddedau gweithwyr milfeddygol proffesiynol. Ar ba rai, os o gwbl, o’r agweddau canlynol sy’n ymwneud â phennu ffioedd ar gyfer trwyddedau gweithwyr milfeddygol proffesiynol y dylai’r rheoleiddiwr ymgynghori? Dewiswch bob un sy’n berthnasol

n = 5297

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb
Lefelau ffioedd: y symiau ffioedd arfaethedig i sicrhau eu bod yn deg ac yn gyfiawn 4679 88%
Effaith economaidd: casglu adborth ar sut y gallai’r ffioedd arfaethedig effeithio ar fusnesau milfeddygol yn ariannol 3886 73%
Dyraniadau costau a blaenoriaethau: ymgysylltu â gweithwyr milfeddygol proffesiynol ynghylch sut y dylid defnyddio arian o ffioedd ar gyfer gwahanol weithgareddau rheoleiddio 3540 67%
Adborth gwasanaeth: gofyn am farn ar ansawdd a chwmpas y gwasanaethau y bydd y ffioedd yn eu cefnogi 3510 66%
Newidiadau a gofynion rheoleiddio: diweddaru ac ymgynghori ar unrhyw newidiadau cyfreithiol neu weithdrefnol sy’n effeithio ar ffioedd a thrwyddedu 3257 61%
Anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid: deall anghenion a disgwyliadau gweithwyr milfeddygol proffesiynol o ran arferion rheoleiddio 2806 53%
Arall (nodwch)    
Dim un o’r rhain 24 *
Ddim yn gwybod 230 4%

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Ffioedd cymesur
  • Eglurder ynghylch ar beth mae ffioedd yn cael eu gwario
  • Sut y bydd ffioedd yn effeithio ar gleientiaid/cwsmeriaid
  • Y gallu i dalu mewn rhandaliadau

LlywC11. Pa mor bwysig, neu beidio, yw hi i weithwyr milfeddygol proffesiynol gael llythrennau ôl-enw (yn ogystal â rhif trwyddedu gan y rheoleiddiwr)? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5330

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Pwysig iawn 4022 75%
Eithaf pwysig 890 17%
Ddim yn bwysig iawn 152 3%
Ddim yn bwysig o gwbl 42 1%
Ddim yn gwybod 224 4%
CYFANSWM 5330  

LlywC12. Pa ddull ar gyfer llythrennau ôl-enw sydd orau gennych chi ar gyfer gweithwyr milfeddygol proffesiynol? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5339

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Llythrennau ôl-enw proffesiwn-benodol (RVS, RVN, RAVP) 3277 61%
Llythrennau ôl-enw sy’n gysylltiedig â’r rheoleiddiwr (er enghraifft, MRCVS gyda’r proffesiwn wedi’i nodi) 1060 20%
Arall (nodwch) 702 13%
Dim llythrennau ôl-enw 29 1%
Ddim yn gwybod 271 5%
CYFANSWM 5339  

Os arall:

Themâu allweddol:

  • Dim ond milfeddygon ddylai fod yn MRCVS
  • Cyfuniad o’r ddau (er enghraifft MRCVS RVS, MRCVS RVN, MRCVS RAVP)
  • Pryder ynghylch dryswch rhwng AVP yn golygu Gweithiwr Milfeddygol Proffesiynol Perthynol ac Ymarferydd Milfeddygol Uwch

LlywC13. Pa ran o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ddylai glywed apeliadau statudol: tribiwnlys rheoleiddio (megis y Tribiwnlys Haen Gyntaf) neu’r Uchel Lys? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5231

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Tribiwnlys rheoleiddio 2604 50%
Uchel Lys 318 6%
Arall (nodwch) 51 1%
Dim un o’r rhain 53 1%
Ddim yn gwybod 2205 42%
CYFANSWM 5231  

Themâu allweddol:

  • Yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos
  • Angen bod yn gost-effeithiol
  • Mae angen i apeliadau fod yn deg

LlywC14. A ddylai apeliadau fod ar sail rhinweddau llawn (wedi’u penderfynu ar ffeithiau a rhinweddau’r achos cyfan, nid dim ond ar bwynt cyfreithiol penodol), ar bwyntiau cyfreithiol yn unig, neu gyfuniad o’r ddau? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5244

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Sail rhinweddau llawn 1685 32%
Ar bwyntiau cyfreithiol yn unig 84 2%
Cyfuniad 2533 48%
Ddim yn gwybod 942 18%
CYFANSWM 5244  

LlywC15. Oes gennych chi unrhyw sylwadau yr hoffech chi eu gwneud ynglŷn â llywodraethiant?

n = 1160

Themâu allweddol:

  • Cefnogaeth i’r cynigion
  • Bydd yn gwella ymddiriedaeth gan gleientiaid a’r cyhoedd
  • Mae angen newid
  • Angen eglurder ar rolau
  • Pwysigrwydd cydraddoldeb lleyg
  • Angen am fframwaith rheoleiddio cadarn
  • Pwysigrwydd rheoleiddio pob gweithiwr milfeddygol proffesiynol
  • Mae angen ystyried lles anifeiliaid
  • Angen sicrhau eglurder ac atebolrwydd

Cwestiynau Effaith Gyffredinol

OIC1 A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r diwygiad arfaethedig i Ddeddf Milfeddygon 1966, a pham? Dewiswch un opsiwn yn unig

n = 5867

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Cytuno 4889 83%
Anghytuno 393 7%
Ddim yn gwybod 584 10%
CYFANSWM 5867  

Rhesymau dros ymateb:

  • Mae VSA wedi dyddio ac mae angen ei ddiwygio
  • Byddai diwygiadau yn diogelu/gwella lles anifeiliaid
  • Dylai gweithwyr milfeddygol proffesiynol gael eu rheoleiddio a chael teitlau gwarchodedig

OIQ2. Oes gennych unrhyw bwyntiau ychwanegol i’w codi ynghylch y cynigion nad ydych wedi cael cyfle i’w mynegi yn yr ymgynghoriad hwn eto?

n = 1487

  • Mae VSA wedi dyddio ac mae angen ei ddiwygio
  • Byddai diwygiadau yn diogelu/gwella lles anifeiliaid
  • Dylai gweithwyr milfeddygol proffesiynol gael eu rheoleiddio a chael teitlau gwarchodedig
  • Dylai diwygiadau gynyddu cwmpas ymarfer nyrsys milfeddygol
  • Dylai diwygiadau sicrhau safonau uchel cyson

OIQ3. A ydych chi’n credu y bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Ddeddf  Milfeddygon 1966 yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig neu o fudd iddynt?

n = 1883

  • Byddai o fudd iddyn nhw – ni roddwyd disgrifydd arall
  • Byddai o fudd i’r rhai sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol menywod neu feichiogrwydd
  • Mae’n dibynnu ar weithredu’r Ddeddf
  • Pryder y gallai wahaniaethu yn erbyn y rhai ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol, menywod neu feichiogrwydd

OIQ4. Adborth ar yr Offeryn Ymgynghori: Ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi â’n teclyn ymgynghori ar-lein?

n = 5610

Ateb Nifer yr ymatebion Canran yr ymatebion
Bodlon iawn 958 17%
Bodlon 2499 45%
Ddim yn fodlon nac yn anfodlon 1449 26%
Anfodlon 478 9%
Anfodlon iawn 151 3%
Ddim yn gwybod 75 1%
CYFANSWM 5610