Publication

Ocsid nitrus: defnydd cyfreithlon a rheolaethau priodol

Published 15 June 2023

Rhagair

Mae’r llywodraeth yn glir bod ocsid nitrus yn cael effaith negyddol ar unigolion a chymunedau. Dyma’r trydydd cyffur mwyaf cyffredin a gaiff ei gamddefnyddio, gyda chyfraddau defnydd yn peri pryder arbennig ymysg plant oedran ysgol ac oedolion iau. Yn ei adolygiad yn 2023, daeth y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau i’r casgliad nad oedd y niwed cyffredinol yn ddigon i gyfiawnhau ei reoli. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau anecdotaidd am gynnydd mewn niwed cymdeithasol fel gyrru ar gyffuriau a thaflu cynwysyddion gwag, ochr yn ochr ag argaeledd eang ocsid nitrus ar gyfer defnydd anghyfreithlon a’r risg o niwed niwrolegol i ddefnyddwyr pan fydd llawer ohono’n cael ei ddefnyddio.

Gwyddom fod peth o’r niwed hwn yn effeithio’n drwm ar gymunedau, felly cyhoeddodd y Prif Weinidog yng Nghynllun Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y llywodraeth, a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth, y byddwn yn cymryd camau pendant i wahardd ocsid nitrus drwy ei wneud yn gyffur Dosbarth C dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Er ein bod yn glir bod angen rheoli ocsid nitrus, mae’r llywodraeth, serch hynny, yn cydnabod bod defnydd cyfreithlon ohono mewn llawer o sectorau, gan gynnwys y sectorau meddygol, diwydiannol ac arlwyo. Rydym yn bwriadu sicrhau bod y rheini sy’n dymuno defnyddio ocsid nitrus at ddibenion cyfreithlon yn gallu gwneud hynny’n gyfreithlon a heb faich gormodol.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw deall yr ystod lawn o ddefnyddiau cyfreithlon o ocsid nitrus, ac mae’n cynnig tri opsiwn ar gyfer ei reoli. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn lleihau’r beichiau a roddir ar y rheini sy’n ceisio defnyddio a delio ag ocsid nitrus at ddibenion cyfreithlon.

Rwy’n ddiolchgar i chi am ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Bydd eich cyfraniadau’n helpu i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i leihau effaith rheoli ocsid nitrus ar y rheini sy’n ceisio ei ddefnyddio at ddibenion cyfreithlon, gan gyfyngu ar ei argaeledd i’r rheini sy’n ceisio ei gamddefnyddio.

Y Gwir Anrhydeddus Chris Philp AS

Y Gweinidog Gwladol dros Droseddu, Plismona a Thân

Crynodeb gweithredol

Mae’r llywodraeth wedi penderfynu rheoli ocsid nitrus fel cyffur Dosbarth C o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (“Deddf 1971”). Mae rheoli o dan Ddeddf 1971 yn golygu y bydd yn anghyfreithlon meddu, cyflenwi, mewnforio, allforio neu gynhyrchu’r sylwedd, oni bai fod esemptiad yn berthnasol (er enghraifft, i’w ddefnyddio mewn gofal iechyd) neu fod y sawl sy’n ymgymryd â’r gweithgaredd yn dal trwydded briodol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd safbwyntiau ynglŷn â pha esemptiadau ddylai fod yn berthnasol.

Nwy di-liw yw ocsid nitrus, a elwir hefyd yn ‘nwy chwerthin’. Gellir ei gamddefnyddio am ei effeithiau seicoweithredol drwy fewnanadlu, a all achosi ewfforia am ennyd, mân newidiadau canfyddiadol a chwerthin afreolus. Gall defnyddio llawer o ocsid nitrus arwain at niwed difrifol i iechyd fel niwed niwrolegol, ac mae cymunedau’n teimlo ei effeithiau ehangach gan gynnwys canlyniadau digwyddiadau gyrru ar gyffuriau a thaflu’r cynwysyddion gwag. Yn 2020/21, ocsid nitrus oedd y trydydd cyffur mwyaf cyffredin a ddefnyddir ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru a Lloegr.

Mae ocsid nitrus hefyd yn cael ei ddefnyddio’n eang at ddibenion cyfreithlon a buddiol, gan gynnwys mewn lleoliadau meddygol, deintyddol a milfeddygol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn tanwydd, ychwanegyn bwyd a thoddydd echdynnu bwyd, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn prosesau diwydiannol. Mae’r llywodraeth yn dymuno lleihau effaith rheoli ocsid nitrus ar y rheini sy’n ceisio ei ddefnyddio at ddibenion cyfreithlon, gan gyfyngu ar ei argaeledd i’r rheini sy’n ceisio ei gamddefnyddio.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i ddeall ystod a graddfa lawn y defnyddiau cyfreithlon o ocsid nitrus er mwyn llunio fframwaith cyfreithiol sy’n caniatáu ei ddefnyddio at ddibenion cyfreithlon pan ddaw’n gyffur rheoledig Dosbarth ‘C’ o dan Ddeddf 1971. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, mae ‘defnydd cyfreithlon’ yn cyfeirio at ddefnyddio ocsid nitrus yn adloniadol lle nad yw hynny’n cael ei wneud am ei effaith seicoweithredol.

Mae’n gwneud hyn drwy ofyn am eich barn chi ynghylch ein tri dull gweithredu arfaethedig. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys sefydlu gofyniad i gael trwydded ar gyfer rhai gweithredoedd a dibenion. Mae hefyd yn gofyn cyfres o gwestiynau i ganfod ystod a graddfa lawn y defnyddiau cyfreithlon o ocsid nitrus, yn ogystal â’r mecanweithiau a’r cynnyrch ocsid nitrus sydd eu hangen at y dibenion hyn.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi tri dull arfaethedig o hwyluso defnydd cyfreithlon, sef:

  1. Cyflwyno gofynion trwyddedu i fewnforio, allforio, meddu, cynhyrchu neu gyflenwi ocsid nitrus pan fydd hyn at ddiben cyfreithlon.
  2. Eithrio rhag gofynion trwyddedu i fewnforio, allforio, meddu, cynhyrchu a chyflenwi ocsid nitrus pan fydd hyn at ddibenion cyfreithlon. Byddai hyn yn golygu na fyddai gofynion trwyddedu ar gyfer dibenion cyfreithlon.
  3. Cyflwyno gofynion trwyddedu ar gyfer mewnforio, allforio, cynhyrchu a chyflenwi ocsid nitrus a darparu esemptiad ar gyfer bod ym meddiant ocsid nitrus pan fydd hyn at ddiben cyfreithlon.

Disgwylir y bydd angen dull gwahanol ar gyfer defnydd meddygol, deintyddol a milfeddygol, yn unol â’r dulliau presennol o restru o dan Reoliadau 2001.

Bydd y llywodraeth yn gwneud penderfyniad terfynol ar y dull priodol gan ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Cyflwyniad

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i ddeall ystod a graddfa’r defnyddiau cyfreithlon o ocsid nitrus er mwyn llunio caniatâd priodol yn y gyfraith i ganiatáu ei ddefnyddio at ddibenion cyfreithlon pan fydd yn cael ei reoli o dan Ddosbarth C o Ddeddf 1971.

Mae’r ymgynghoriad wedi’i anelu at unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n defnyddio ocsid nitrus, neu sy’n dymuno ei ddefnyddio yn y dyfodol, at ddibenion cyfreithlon fel chwaraeon moduro, cynhyrchu bwyd, lleoliadau meddygol, lleoliadau diwydiannol, lleoliadau manwerthu, lleoliadau ymchwil ac arlwyo, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fodd bynnag, ni fwriedir i’r rhestr hon gynnwys pawb na chau neb allan, a byddwn yn croesawu ymatebion gan bawb sydd â diddordeb yn y pwnc a drafodir yn y papur hwn, neu sydd â safbwynt yn ei gylch.

Bydd unrhyw ddeddfwriaeth derfynol yn cael ei hategu gan asesiad effaith a fydd yn nodi costau a manteision llawn y polisi ac yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Bydd copi o’r papur ymgynghori yn cael ei anfon at y British Compressed Gas Association.

Gellir rhannu gwybodaeth â’r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau i helpu â’r broses o ystyried rhestru ocsid nitrus yn briodol o dan Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001.

Y cynigion

Mae rheoli cyffur o dan Ddeddf 1971 yn ei gwneud yn anghyfreithlon meddu, cyflenwi, cynhyrchu, mewnforio neu allforio’r cyffur, oni bai fod eithriad neu awdurdodiad yn berthnasol.

O dan Ddeddf 1971, os cewch eich dyfarnu’n euog o feddu ar gyffur Dosbarth C gallech wynebu hyd at 2 mlynedd yn y carchar, dirwy heb uchafswm, neu’r ddau. Os cewch eich dyfarnu’n euog o gyflenwi cyffur Dosbarth C, gallech wynebu hyd at 14 mlynedd yn y carchar, dirwy heb uchafswm, neu’r ddau. Gellir gweld rhagor o fanylion am droseddau’n ymwneud â chyffuriau yma.

Mae’r llywodraeth yn ystyried y ffordd orau o gydbwyso galluogi defnydd cyfreithlon o ocsid nitrus ar yr un pryd â sicrhau nad yw ocsid nitrus yn cael ei gamddefnyddio am ei effaith seicoweithredol. Nid ydym yn bwriadu rhoi baich gormodol ar ddefnyddwyr cyfreithlon, nac ychwaith yn bwriadu gwneud y rheini sy’n dymuno defnyddio ocsid nitrus am resymau cyfreithlon yn droseddwyr yn anfwriadol. Mae’r llywodraeth o’r farn y gallai fod angen trefniadau trwyddedu er mwyn rhoi lefel ddigonol o reolaeth ar waith yn effeithiol. Mae’r cynigion canlynol yn cael eu hystyried:

Cynnig 1 – Trwyddedu ar gyfer pob diben cyfreithlon (y tu allan i ofal iechyd)

Cyflwyno gofyniad trwyddedu ar gyfer pob defnydd o ocsid nitrus. Yn y senario hwn:

  • byddai angen trwydded ar unrhyw gwmni neu unigolyn sy’n dymuno mewnforio, allforio, meddu, cynhyrchu neu gyflenwi ocsid nitrus ar gyfer pob diben
  • byddai esemptiadau’n berthnasol i’w defnyddio ym maes gofal iechyd, yn yr un modd â chyffuriau eraill

Cynnig 2 – Dim gofynion ar gyfer trwyddedu ar gyfer dibenion cyfreithlon

Eithrio mewnforio, allforio, meddu, cynhyrchu a chyflenwi ocsid nitrus o’r troseddau dan Ddeddf 1971 pan fydd hyn at ddibenion cyfreithlon.

Yn y senario hwn:

  • ni fyddai angen trwydded os yw ocsid nitrus yn cael ei ddefnyddio neu ei drin ar gyfer diben cyfreithlon (fel y’i diffinnir yn y ddeddfwriaeth)
  • os yw busnes neu unigolyn yn mewnforio, allforio, meddu, cynhyrchu neu’n cyflenwi ocsid nitrus at ddiben nad yw wedi’i ddiffinio fel un cyfreithlon, bydd angen cael trwydded
  • byddai esemptiadau’n berthnasol i’w defnyddio ym maes gofal iechyd, yn yr un modd â chyffuriau eraill.

Bydd dibenion cyfreithlon yn cael eu diffinio mewn deddfwriaeth, a bydd yr wybodaeth a gesglir drwy’r ymgynghoriad hwn yn sail i gwmpas a chynnwys y diffiniad hwnnw.

Cynnig 3 – Trwyddedu ar gyfer mewnforio/allforio, cynhyrchu, cyflenwi ac esemptiad ar gyfer meddu am resymau cyfreithlon

Cyflwyno gofynion trwyddedu ar gyfer mewnforio, allforio, cynhyrchu a chyflenwi ocsid nitrus a darparu esemptiad ar gyfer bod ym meddiant ocsid nitrus pan fydd hyn at ddiben cyfreithlon.

Yn y senario hwn:

  • byddai angen trwydded ar unrhyw gwmni neu unigolyn sy’n dymuno mewnforio, allforio, cynhyrchu neu gyflenwi ocsid nitrus.
  • ni fyddai unigolyn neu sefydliad sy’n dymuno meddu ar ocsid nitrus at ddiben cyfreithlon (fel y’i diffinnir yn y ddeddfwriaeth) angen trwydded ar gyfer y gweithgaredd hwn.
  • byddai esemptiadau’n berthnasol i’w defnyddio ym maes gofal iechyd, yn yr un modd â chyffuriau eraill.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Llenwch y ffurflen y gellir ei llwytho i lawr o’r we

E-bost: nitrousoxideconsultation@homeoffice.gov.uk

Cwynion neu sylwadau

Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref gan ddefnyddio’r cyfeiriad uchod.

Grwpiau cynrychioliadol

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi disgrifiad cryno o’r bobl a’r sefydliadau maent yn eu cynrychioli pan fyddant yn ymateb.

Cyfrinachedd

Mae’n bosibl y cyhoeddir neu y datgelir gwybodaeth a roddir wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r trefniadau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os ydych am i ni drin yr wybodaeth a rowch i ni’n gyfrinachol, cofiwch, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Cod Ymarfer statudol ar waith y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef. Mae hwn, ymhlith pethau eraill, yn ymwneud â dyletswyddau i gadw cyfrinachedd. Yng ngoleuni hyn, byddai’n help i ni petaech yn esbonio pam rydych o’r farn bod yr wybodaeth rydych wedi’i darparu yn gyfrinachol. Os cawn gais am ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn sicrhau y gallwn gadw cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni ystyrir unrhyw ymwrthodiad cyfrinachedd a gynhyrchir yn awtomatig gan eich system Technoleg Gwybodaeth, ynddo’i hun, yn rhwymedigaeth ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a dan y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.