Ymgynghoriad caeedig

Newidiadau i god ymddygiad yr MCA a gweithredu’r LPS

Applies to England and Wales

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar newidiadau a gynigir i God Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a rheoliadau'r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid (LPS).

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau a gynigir i God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA), sy’n cynnwys canllawiau ar y system Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS) newydd. Mae’r ymgynghoriad hwn hefyd yn gofyn am farn ar y rheoliadau LPS, a fydd yn ategu’r system newydd.

Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).

Mae’r MCA yn berthnasol yn Lloegr ac yng Nghymru ond mae rhai agweddau o’i weithrediad yn ddatganoledig yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r ymgynghoriad hwn felly.

Bydd yr LPS yn berthnasol i bobl dros 16 oed, ac mae’r Adran Addysg (DfE) wedi bod ynghlwm â datblygiad y system newydd hon.

Mae’r llywodraeth yn ymgynghori ar nifer o ddogfennau.

Cod Ymarfer

Cafodd yr MCA ei weithredu ar y cyd â Chod Ymarfer y mae angen ei ddiweddaru nawr am 2 reswm allweddol:

  1. mae angen diweddaru canllawiau’r Cod cyfredol yng ngoleuni deddfwriaeth a chyfraith achosion newydd, newidiadau o ran y sefydliad a therminoleg, a datblygiadau mewn ffyrdd o weithio ac arfer da
  2. mae’r system LPS newydd yn golygu bod angen ychwanegu canllawiau ychwanegol at y Cod

Rheoliadau’r LPS

Cyflwynwyd yr LPS yn Neddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) 2019. Mae Llywodraeth y DU nawr yn ymgynghori ar chwe set o reoliadau drafft a fydd yn ategu’r system newydd. Pan fydd yn cael ei weithredu, byddai pedair o’r setiau o reoliadau hyn yn berthnasol yn Lloegr yn unig. Byddai’r ddwy set o reoliadau sy’n weddill yn berthnasol yn Lloegr ac yng Nghymru.

Ar wahân, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedair set o reoliadau a fyddai’n berthnasol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â hynny, mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y rheoliadau penodol i Gymru a fydd yn ategu camau gweithredu’r LPS yng Nghymru.

Os ydych chi’n gweithio yn system gofal iechyd a chymdeithasol Cymru, neu’n ymgysylltu â hi, ystyriwch ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau

Dogfen ymgynghori

Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Cod Ymarfer

LPS – Darpariaethau Canlyniadol

Hysbysiad preifatrwydd

Rhestr termau

Cyhoeddwyd ar 17 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 June 2022 + show all updates
  1. The closing date has been extended to 14 July 2022.

  2. Added 'Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Cod Ymarfer – Crynodeb'.

  3. First published.