Closed consultation

Gwella perfformiad ynni cartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat

Updated 18 December 2020

Applies to England and Wales

Crynodeb

Rydym yn gwahodd sylwadau ar gynigion ynghylch codi safonau perfformiad ynni ar gyfer y sector rhentu preifat domestig yng Nghymru a Lloegr.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben am 11:45pm ar 8 Ionawr 2021.

Disgrifiad o’r ymgynghoriad

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i uwchraddio cynifer â phosibl o gartrefi’r sector rhentu preifat i Fand C y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) erbyn 2030, lle bo hynny’n ymarferol, yn gost-effeithiol ac yn fforddiadwy. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cyfres o gynigion polisi tuag at gyflawni hyn. Bydd y cynigion hyn yn dod â manteision arwyddocaol i landlordiaid, tenantiaid a’n hamgylchedd gan gynnwys:

  • gostwng biliau ynni a chynyddu cysur i denantiaid a helpu i gyflawni’n targed tlodi tanwydd statudol o Fand C EPC erbyn 2030
  • gwelliannau posibl yng ngwerth eiddo i landlordiaid
  • sicrhau arbedion mewn allyriadau carbon dros Gyllidebau Carbon 4 a 5, gan wneud cynnydd tuag at ein targed sero net

Rydym wedi cyhoeddi asesiad o’r effaith ar gyfer y cyfnod ymgynghori ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn. Gweld hysbysiad preifatrwydd ymgyngoriadau’r BEIS.

Peidiwch ag anfon ymatebion at yr adran drwy’r post ar hyn o bryd gan ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu cael gafael arnynt.

Ffyrdd i ymateb

Ymateb ar-lein

neu

Ebost at: PRStrajectoryConsultation@beis.gov.uk