Ymgynghoriad agored

Ymgynghoriad ar y cynllun trwyddedu gwasanaethau awtomataidd i deithwyr

Cyhoeddwyd 11 Awst 2025

Cyflwyniad

Bydd y cynllun trwyddedu Gwasanaethau Awtomataidd i Deithwyr (APS) yn darparu llwybr cyfreithiol clir i ddefnyddio gwasanaethau teithwyr masnachol heb yrrwr, gan roi sicrwydd i weithredwyr ymuno â marchnad Prydain Fawr. Bydd yn cael ei gyflwyno drwy Ddeddf Cerbydau Awtomataidd 2024[troednodyn 1], sy’n sefydlu fframwaith rheoleiddio lefel uchel wedi’i dargedu.

Er ei fod yn cael ei gyflwyno cyn rhannau eraill o’r Ddeddf Cerbydau Awtomataidd, bydd yr offeryn statudol arfaethedig yn parhau i fod mewn grym ar ôl cyflwyno’r Ddeddf Cerbydau Awtomataidd lawn. Mae hyn yn golygu y bydd yr offeryn statudol arfaethedig yn berthnasol i gynlluniau peilot cychwynnol o wanwyn 2026 ymlaen ac ar gyfer cyflwyno ar ôl rhoi’r Ddeddf Cerbydau Awtomataidd ar waith yn llawn yn ail hanner 2027.

Mae trwyddedau APS wedi cael eu datblygu fel llwybr pwrpasol ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau i deithwyr sydd naill ai’n gweithredu heb yrrwr neu sy’n treialu gwasanaethau y gellid eu defnyddio heb yrrwr. Heb y sicrwydd hwn, nododd dau Gomisiwn y Gyfraith y gall gwasanaethau awtomataidd i deithwyr ‘gael eu gwahardd neu eu rheoleiddio’n llwyr’.[troednodyn 2]

Mae cynllun trwyddedu’r APS yn bwriadu darparu dull gweithredu hyblyg sy’n galluogi’r potensial i fodelau gwasanaeth newydd ddod i’r amlwg ar yr un pryd â chynnal diogelwch teithwyr.

Ar gyfer gwasanaethau sydd wedi cael trwydded APS, bydd deddfwriaeth tacsis, cerbydau hurio preifat (PHV) a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus (PSV) yn cael ei datgymhwyso. Nid yw cynllun trwyddedu’r APS yn disodli’r llwybrau trwyddedu presennol hyn ar gyfer cerbydau cludo teithwyr. Mae’n gorwedd ochr yn ochr â nhw fel llwybr ychwanegol wedi’i dargedu’n benodol at gerbydau hunan-yrru.

Bwriedir nodi manylion cynllun trwyddedu’r APS mewn is-ddeddfwriaeth. Mae’r Ganolfan Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CCAV) nawr yn gofyn am farn ar y cynllun ac is-ddeddfwriaeth arfaethedig drwy’r ymgynghoriad hwn.

Mae 7 pennod i’r ymgynghoriad:

  1. Amlinelliad o’r cynllun deddfwriaethol
  2. Cydsyniad lleol
  3. Hygyrchedd
  4. Y broses ymgeisio ac adnewyddu
  5. Amrywiad, atal dros dro neu dynnu’n ôl
  6. Adolygu’r penderfyniad
  7. Datgelu a defnyddio gwybodaeth

1. Amlinelliad o’r cynllun deddfwriaethol

Mae Rhan 5 o Ddeddf Cerbydau Awtomataidd 2024 (y ddeddf) yn cyflwyno trwyddedau APS, a gynlluniwyd i ddarparu cynllun newydd, hyblyg i roi trwyddedau ar gyfer gwasanaethau awtomataidd i deithwyr a rhoi’r hyder rheoleiddiol i fusnesau fuddsoddi mewn profi a defnyddio’r gwasanaethau arloesol hyn.

Mae trwyddedau APS nid yn unig yn berthnasol i gerbydau hunan-yrru (sef y rheini heb yrrwr go iawn ac sydd wedi’u rhestru neu eu hawdurdodi fel rhai sy’n hunan-yrru). Maent hefyd ar gael, fel y nodir yn y ddeddf, ar gyfer treialon ‘gyda’r nod o ddatblygu cerbydau’ sy’n gallu cludo teithwyr heb yrrwr.[troednodyn 3]

O ystyried pwysigrwydd trwyddedau APS o ran darparu eglurder i alluogi gwasanaethau masnachol cludo teithwyr, gan gynnwys ar gyfer treialon gyda gyrrwr diogelwch neu hebddo, mae’r llywodraeth yn bwriadu dod â Rhan 5 o’r ddeddf i rym yn ystod gwanwyn 2026.

Byddai hyn yn golygu darparu Rhan 5 cyn gweithredu’r ddeddf yn llawn, gan gynnwys, er enghraifft, cyn y cynlluniau awdurdodi llawn a thrwyddedu gweithredwr ‘dim defnyddiwr mewn gofal’ (NUICO).

Yn ogystal â rhoi eglurder i sefydliadau sy’n dymuno cyflwyno gwasanaeth masnachol, bydd gweithredu cynllun trwyddedu’r APS yn helpu i lywio ymhellach:

  • y Llywodraeth am yr heriau o ran defnydd
  • manteision gwasanaethau awtomataidd i deithwyr

Gallai gweithredwyr ddefnyddio’r rheoliadau arfaethedig hyn i gyflwyno gwasanaethau i deithwyr mewn un o dair ffordd:

  1. Gyda gyrrwr diogelwch, fel rhan o dreial i ddatblygu gwasanaethau awtomataidd.

  2. Cyn gweithredu’r Ddeddf Cerbydau Awtomataidd yn llawn, mewn cerbyd sydd wedi’i restru fel cerbyd sy’n gallu gyrru ei hun yn ddiogel o dan adran 1 o Ddeddf Cerbydau Awtomataidd a Thrydan 2018.

  3. Ar ôl gweithredu’r Ddeddf Cerbydau Awtomataidd yn llawn (mewn cerbyd awdurdodedig) lle bydd trwydded APS yn gweithredu ochr yn ochr ag awdurdodiad a thrwyddedu dim defnyddiwr mewn gofal. Bydd cynllun trwyddedu’r APS yn parhau, ond efallai y bydd agweddau ar y canllawiau’n cael eu symleiddio i adlewyrchu’r ffaith y bydd rhai materion yn cael sylw yn nhrwyddedau gweithredwyr dim defnyddiwr mewn gofal.

Mae’r canlynol yn rhoi cefndir rhai o’r agweddau ar gynllun trwyddedu’r APS.

Fframwaith statudol

Er bod llawer o gynllun trwyddedu’r APS wedi’i nodi ar wyneb y ddeddf, mae rhannau eraill o’r cynllun yn cael eu rhoi mewn is-ddeddfwriaeth.

Er enghraifft, er bod y ddeddf yn nodi diffiniad APS[troednodyn 4] datgymhwyso deddfwriaeth bresennol, [troednodyn 5] a’r gofynion cydsynio, [troednodyn 6] nid yw’n nodi ffurf a chynnwys cais, sut y gellir amrywio trwydded, atal trwydded dros dro neu dynnu trwydded yn ôl na beth yw’r cyfnod hwyaf y gall trwydded fod yn ddilys.

Yn yr ymgynghoriad hwn, nid ydym yn gofyn am farn ar ddarpariaethau’r ddeddf ei hun: mae hynny eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan Senedd y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgynghori ar y rheoliadau cychwynnol sydd i’w gwneud o dan y cynllun.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cael barn ar ymarferoldeb rhedeg y cynllun yn ystod ei gam cychwynnol ac ar ôl rhoi’r ddeddf ar waith.

Awdurdod cenedlaethol priodol

Mae adran 82 yn rhoi’r pŵer i roi trwydded i’r ‘awdurdod cenedlaethol priodol’, sy’n dibynnu ar y model gwasanaeth y bwriedir ei ddefnyddio.

Ar gyfer gwasanaethau sy’n debyg i PSV (fel bws), yr awdurdod cenedlaethol priodol, fel mater a gedwir yn ôl, fyddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

Ar gyfer gwasanaethau datganoledig sy’n debyg i dacsi neu PHV yn Lloegr, yr awdurdod cenedlaethol priodol fyddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, tra bo’r pŵer yng Nghymru a’r Alban yn perthyn i Weinidogion Cymru a’r Alban [troednodyn 7].

Nid yw cynllun trwyddedu’r APS yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gyfyngu i bwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fel yr awdurdod cenedlaethol priodol. Felly, mae’n ymdrin â’r canlynol:

  • gwasanaethau sy’n debyg i dacsis neu gerbydau hurio preifat sy’n gweithredu yn Lloegr
  • gwasanaethau tebyg i fws sy’n gweithredu yn unrhyw le yng ngwledydd Prydain

O’r pwynt hwn ymlaen, cyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn yr ymgynghoriad yn ei rôl fel yr awdurdod cenedlaethol priodol.

Mae’r ddeddf yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddirprwyo rhai neu’r cyfan o’i swyddogaethau i’r comisiynwyr traffig [troednodyn 8]. Fodd bynnag, y bwriad ar y cychwyn yw i geisiadau am drwyddedau APS gael eu rhoi gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

Cydsyniad

Pan fydd gwasanaeth yn debyg i dacsi neu PHV, dim ond gyda chydsyniad yr awdurdod trwyddedu ar gyfer pob man lle darperir y gwasanaeth y gellir rhoi trwydded [troednodyn 9].

Pan fydd gwasanaeth sy’n debyg i fws yn gweithredu mewn ardal sy’n dod o dan gynllun masnachfreinio, mae angen cydsyniad gan awdurdodau masnachfreinio perthnasol [troednodyn 10].

Ar gyfer ardaloedd nad ydynt yn rhan o gynllun masnachfreinio, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth arfer disgresiwn ynghylch i ba raddau mae’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gofrestru amserlenni neu gymryd rhan mewn partneriaethau lleol (er enghraifft, drwy ymuno â chynlluniau tocynnau) [troednodyn 11].

Rydym yn trafod y weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad ym Mhennod 2: cydsyniad lleol.

Anghenion teithwyr hŷn ac anabl

O dan adran 87(3), rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ystyried a ddylid rhoi trwydded ac i ba raddau:

mae’n debygol o arwain at wella’r ddealltwriaeth o’r ffordd orau o ddylunio a darparu gwasanaethau awtomataidd i deithwyr hŷn ac anabl [troednodyn 12]

Mae hyn yn ychwanegol at ddyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wrth wneud y canlynol:

  • penderfynu a ddylid rhoi trwydded
  • rhoi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfle cyfartal
  • meithrin perthnasoedd da

Bydd gweithredu cynllun trwyddedu’r APS yn gynnar yn rhoi cyfle i ddysgu’n gyflym cyn gweithredu’r ddeddf yn llawn.

Byddai unrhyw adleoliad yn rhoi cyfle i feithrin dealltwriaeth o sut i wireddu hyd a lled y manteision o’r gwasanaethau hyn i bobl hŷn ac anabl, ochr yn ochr ag eraill sydd â gallu cyfyngedig i symud.

Ym Mhennod 3, rydym yn amlinellu ystyriaethau hygyrchedd.

Ymgynghori ag awdurdodau traffig a’r gwasanaethau brys

O dan adran 87(1), cyn rhoi trwydded, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ymgynghori ag awdurdodau traffig a gwasanaethau brys y mae’r drwydded yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt [troednodyn 13].

Rydym yn trafod y weithdrefn ymgynghori ym Mhennod 4 fel rhan o’r cais.

Amodau trwydded

Pan fydd trwydded yn cale ei roi, mae’r ddeddf yn mynnu bod y drwydded yn nodi’r ardal lle gellir darparu’r gwasanaeth, sy’n cynnwys:

  • y cerbydau (neu ddisgrifiad o’r cerbydau) y darperir y gwasanaeth ynddynt
  • y cyfnod y mae’r drwydded yn ddilys [troednodyn 14]

Bydd trwyddedau hefyd yn amodol ar amodau. Gall amodau gyfyngu’r gwasanaeth, er enghraifft, i adegau penodol o’r dydd, neu osod rhwymedigaethau ar ddeiliad y drwydded [troednodyn 15].

Mae rhai amodau’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth: er enghraifft, rhaid i ddeiliad y drwydded gyhoeddi adroddiadau am ei wasanaeth. [troednodyn 16]

Bydd amodau eraill yn ddewisol, a gallant, er enghraifft, fod yn gysylltiedig â chydsyniad a roddir gan awdurdodau trwyddedu priodol neu’n adlewyrchu pryderon a godir gan y gwasanaethau brys neu awdurdodau traffig.

Rydym yn trafod amodau ochr yn ochr â’r broses ymgeisio yn fwy cyffredinol ym Mhennod 4.

Ffioedd

Mae’r ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch ffioedd, gan gynnwys y rhai ar gyfer rhoi, cadw ac adnewyddu trwydded. [troednodyn 17] Mae hysbysiadau costau, i dalu am gost gorchmynion cydymffurfio a chosbau ariannol, wedi’u nodi yn y ddeddf ei hun. [troednodyn 18]

Rydym yn trafod ffioedd ochr yn ochr â’r broses ymgeisio yn fwy cyffredinol ym Mhennod 4.

Cosbau sifil

Pan gaiff ei weithredu’n llawn, mae’r ddeddf yn darparu ar gyfer sancsiynau sifil os bydd deiliad y drwydded yn torri amodau’r cynllun. Nid ydym yn bwriadu gweithredu’r cynllun sancsiynau sifil ar gyfer cynlluniau peilot oherwydd gallai fod risg bod sancsiynau sifil yn rhy gosbol, o ystyried eu natur.

Amrywiadau, atal dros dro neu dynnu’n ôl

Fel opsiwn ychwanegol neu ddewis arall yn lle defnyddio sancsiynau sifil, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ymateb i dor-amod drwy amrywio’r drwydded, atal y drwydded dros dro neu dynnu’r drwydded yn ôl.

Nid yw’r Ddeddf ei hun yn ymdrin â’r mater hwn, sy’n nodi y gellir gwneud rheoliadau i bennu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio trwydded, atal trwydded dros dro neu dynnu trwydded yn ôl, a’r weithdrefn i’w dilyn mewn perthynas â’r camau hyn. [troednodyn 19]

Caiff rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer adolygiadau ac apeliadau yn erbyn y penderfyniad. [troednodyn 20]

Rydym yn trafod amrywiadau, atal dros dro a thynnu’n ôl ym Mhennod 5.

Adolygu’r penderfyniad

Pan fydd deiliad trwydded yn credu nad yw penderfyniad wedi cael ei wneud yn gywir, o dan y rheoliadau arfaethedig, gall ofyn i’r DVSA gynnal adolygiad mewnol.

Trafodir hyn ym mhennod 6.

Datgelu a rhannu data

Bydd amodau trwydded yn ei gwneud yn ofynnol i rywfaint o wybodaeth gael ei chyhoeddi ac efallai y bydd angen rhannu gwybodaeth arall â’r canlynol:

  • awdurdodau cyhoeddus
  • busnesau preifat, ar sail gyfrinachol [troednodyn 21]

Mae adran 88 o’r ddeddf yn diogelu gwybodaeth gyfrinachol ac yn ei gwneud yn drosedd i’r derbynnydd ei datgelu [troednodyn 22] ac eithrio at ddiben a bennir mewn rheoliadau neu pan awdurdodir hynny gan ddeddfiad arall.

Rydym yn trafod datgelu a rhannu data ym Mhennod 7.

2. Cydsyniad lleol

Bydd gwasanaeth awtomataidd i deithwyr sy’n debyg i dacsi, PHV neu fws yn gofyn am gael cydsyniad gan yr awdurdod trwyddedu lleol priodol neu’r corff masnachfreinio priodol. O hyn ymlaen, cyfeirir at y cyrff hyn fel ‘awdurdodau cydsynio’.

Er mwyn darparu cynllun trwyddedu’r APS yn llwyddiannus, mae eglurder cydsyniad yn hanfodol ar gyfer:

  • awdurdodau cydsynio
  • sefydliadau sy’n dymuno cyflwyno gwasanaeth
  • rhanddeiliaid eraill sy’n dymuno deall gofynion defnyddio

Mae’r bennod hon yn egluro pryd y mae angen cydsyniad ac yn amlinellu’r weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad.

Rydym am wybod pa ganllawiau a dulliau cydlynu a allai fod yn ddefnyddiol i’r awdurdodau cydsynio a pha wybodaeth sydd ei hangen ar yr awdurdodau hyn i wneud penderfyniad.

Gwasanaethau sy’n debyg i dacsis neu gerbydau hurio preifat

Diffiniad tebyg i dacsi neu gerbyd hurio preifat (PHV)

Byddai gwasanaeth sy’n ‘debyg i dacsi neu gerbyd hurio preifat’ yn gorfod cael trwydded tacsi neu gerbyd hurio preifat os oes ganddo yrrwr ac nad yw wedi’i eithrio o’r ddeddfwriaeth [troednodyn 23]. Mae dibynnu ar y diffiniad hwn ar ddeddfwriaeth bresennol sy’n llywodraethu tacsis a cherbydau hurio preifat yn gwneud hyn yn gymhleth.

Dim ond gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat yn Lloegr sy’n cael sylw yn yr ymgynghoriad hwn. Mater i Weinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban yw trwyddedu APS ar gyfer gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat yng Nghymru a’r Alban.

Yn Lloegr, mae deddfwriaeth ar wahân yn berthnasol i Lundain, Plymouth a gweddill y wlad. [troednodyn 24]

Mae hyn yn golygu bod y diffiniad yn berthnasol i wasanaethau teithwyr masnachol sy’n defnyddio cerbydau sydd wedi’u dylunio i gludo llai na 9 teithiwr a lle mae teithwyr yn talu un pris am y daith. Fodd bynnag, mae sawl eithriad, er enghraifft, ar gyfer ceir priodas ac angladd. [troednodyn 25]

Gelwir gwasanaethau i deithwyr sy’n defnyddio cerbydau mwy, neu sy’n codi tâl ar wahân, yn PSVs a byddent fel arfer yn cael eu hystyried yn fysiau.

Pwy sy’n gorfod cydsynio?

Os yw’r gwasanaeth yn debyg i dacsi neu gerbyd hurio preifat, mae angen cydsyniad bob awdurdod trwyddedu y gellir darparu’r gwasanaeth yn yr ardal, ac roedd 263 o’r rhain yn Lloegr ym mis Ebrill 2024. [troednodyn 26]

Awdurdodau lleol unedol neu haen is yw’r rhain fel arfer, fel cynghorau bwrdeistref a dosbarth. Fodd bynnag, Trafnidiaeth i Lundain (TfL) yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer Llundain Fwyaf.

Roedd papur gwyn y Llywodraeth ar ddatganoli yn Lloegr yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar roi cyfrifoldeb dros drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat i bob awdurdod trafnidiaeth lleol (gan gynnwys awdurdodau strategol) [troednodyn 27].

Byddai’r pŵer cydsynio ar gyfer tacsis a PHVs yn cyd-fynd ag unrhyw newidiadau sy’n cael eu rhoi ar waith ar ôl yr ymgynghoriad.

Gwasanaethau sy’n debyg i fysiau

Nid oes angen cydsyniad ar y rhan fwyaf o wasanaethau bws i gael trwydded PSV. Mater i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fydd penderfynu a ddylid rhoi trwydded APS ar gyfer gwasanaeth ‘tebyg i fws’, boed y gwasanaeth yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Yr unig wasanaethau tebyg i fws y mae angen cydsyniad arnynt i gael trwydded APS yw ‘gwasanaethau lleol’ – fel y’u diffinnir gan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 – sy’n gweithredu mewn ardal sy’n ddarostyngedig i gynllun masnachfreinio bysiau. Er enghraifft, gwasanaeth bws lleol sy’n defnyddio cerbyd sy’n gweithredu gyda thrwydded PSV ac sy’n cludo teithwyr ar y ffordd am bris siwrnai ar wahân.

Gall y llwybr fod yn unrhyw hyd os gall teithwyr ddod oddi ar y gwasanaeth o fewn 15 milltir i’r man cychwyn (wedi’i fesur mewn llinell syth). Mae nifer o eithriadau, er enghraifft, ar gyfer gwibdeithiau, bysiau ysgol a gwasanaethau bws yn lle trenau.

TfL a Trafnidiaeth ar gyfer Manceinion Fwyaf (TfGM) yw’r unig gyrff masnachfreinio bysiau ar hyn o bryd. Pan fydd rhagor o gyrff yn cael pwerau masnachfreinio, bydd angen eu cydsyniad nhw hefyd.

Y weithdrefn gydsynio

O dan y ddeddfwriaeth, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn gofyn am gydsyniad yr awdurdod neu’r awdurdodau cydsynio lle byddai’r gwasanaeth yn gweithredu ar draws ffiniau trwyddedu.

Mae gan awdurdodau cydsynio rôl allweddol yn y broses hon, lle mae ganddynt gyfnod o 6 wythnos i wneud y canlynol:

  • gwerthuso’r gwasanaeth arfaethedig a’r effaith bosibl ar yr ardal leol
  • ymateb gyda’u penderfyniad a’u rhesymeg yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth

Os na ddarperir ymateb neu reswm ysgrifenedig o fewn y cyfnod hwnnw, bydd cydsyniad yn cael ei roi’n awtomatig. [troednodyn 28]

Darpariaethau cydsynio ar waith

Trafodaethau cychwynnol

Mae’n fuddiol i awdurdodau cydsynio ddeall cymaint â phosibl am y defnydd arfaethedig cyn cael y cais ffurfiol am gydsyniad.

Er mwyn galluogi hyn, dylai ymgeiswyr drafod eu cynigion gyda’r awdurdod (neu awdurdodau) cydsynio a rhanddeiliaid allweddol eraill cyn gwneud cais ffurfiol.

Er ei bod yn debygol y byddai angen ystyried llawer o fanylion, gallai gwybodaeth gychwynnol ddefnyddiol gynnwys:

  • yr ardal gyflwyno arfaethedig
  • unrhyw bwyntiau allweddol yn hyn o beth, er enghraifft, mynediad at fannau casglu/gollwng mewn gorsafoedd trên
  • nifer y cerbydau a’r math o gerbydau
  • beth fydd cerbydau’n ei wneud rhwng teithiau
  • oriau gweithredu’r gwasanaeth

Pan fydd DVSA yn cael cais, gall hefyd gynnal trafodaethau rhagarweiniol, anffurfiol gyda’r awdurdod trwyddedu neu’r corff masnachfreinio cyn y cais ffurfiol os yw’n ddefnyddiol.

Helpu awdurdodau cydsynio gyda’r penderfyniad

Mae cydsyniad yn bŵer eang a phwysig yn y ddeddf. Rhaid i sefydliadau sy’n dymuno cyflwyno gwasanaeth ac awdurdodau cydsynio ddeall y cydsyniad.

Cydlynu

Pan fyddai gwasanaeth arfaethedig yn gweithredu mewn gwahanol ardaloedd awdurdod cydsynio, bydd angen lefel o gysondeb o ran ystyriaethau ynghylch a ddylid rhoi cydsyniad ai peidio.

Rydym yn croesawu barn ynghylch a ddylai’r Llywodraeth fod yn rhan o’r gwaith o gefnogi unrhyw gydlynu gwybodaeth a rhannu arferion gorau.

Canllawiau

Mae’r Llywodraeth yn ystyried cyhoeddi canllawiau, gan gynnwys ar gyfer awdurdodau cydsynio, i helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau awtomataidd i deithwyr a deall beth sydd ei angen i wneud cais a’r broses y mae’n ei dilyn.

Nod canllawiau ar gyfer awdurdodau cydsynio fyddai egluro beth yw eu rôl. Er enghraifft, bydd proses asesu diogelwch yn cael ei dilyn cyn y gellir defnyddio cerbyd yn gyfreithlon, felly ni fyddem yn disgwyl i hyn fod yn sail i benderfyniadau cydsynio.

Fel rhan o’r broses o ystyried rhoi trwydded APS, byddai’r Llywodraeth yn gofyn am dystiolaeth bod cerbydau wedi’u hyswirio ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol, a chynigir bod staff perthnasol yn cael archwiliadau diogelu, gan gynnwys diogelu teithwyr yn briodol.

Bwriad y polisi cydsynio, fel yr amlinellir yn nodiadau esboniadol y ddeddf, yw ei fod yn sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i faterion lleol sy’n ymwneud â pholisi a safonau ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat a’r rheini sy’n cael eu defnyddio drwy fasnachfreinio bysiau.

Pan gyhoeddir canllawiau, byddwn yn ceisio eu gwneud mor ddefnyddiol ac ymarferol â phosibl i bawb sydd â rôl o ran galluogi defnyddio unrhyw wasanaethau arfaethedig.

Cais ffurfiol

Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn gwneud cais ffurfiol am gydsyniad, mae’n bwysig bod awdurdodau cydsynio’n cael gwybodaeth sy’n galluogi penderfyniad cydsyniad gwybodus i gael ei wneud o fewn y cyfnod o 6 wythnos.

Felly, mae’n bwysig bod y broses ymgeisio yn gofyn am wybodaeth berthnasol y gellir ei rhannu ag awdurdodau cydsynio.

Rydym yn gofyn am farn ynghylch pa wybodaeth y byddai awdurdodau cydsynio yn ei hystyried yn ddefnyddiol i wneud penderfyniad.

Cwestiynau cydsynio i awdurdodau

Cwestiwn 1: pa ganllawiau, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y dylai’r Llywodraeth eu darparu i alluogi trafodaethau rhagarweiniol rhwng y rheini sy’n dymuno gwneud cais am drwydded APS ac awdurdodau?

Cwestiwn 2: yn eich barn chi, a ddylem gefnogi unrhyw gydlynu, rhannu gwybodaeth a rhannu arferion gorau rhwng awdurdodau?

Cwestiwn 3: beth fyddech chi’n disgwyl ei weld yn cael ei gynnwys er mwyn gwneud y canllawiau arfaethedig mor ddefnyddiol â phosibl i’ch awdurdod?

Cwestiwn 4: pa wybodaeth y mae awdurdodau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn debygol o’i hystyried yn ddefnyddiol wrth benderfynu a ddylid cydsynio ai peidio?

Cwestiwn 5: pa wybodaeth y mae cyrff masnachfreinio bysiau yn debygol o’i hystyried yn ddefnyddiol wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ai peidio?

3. Hygyrchedd

Mae tua 1 o bob 4 o bobl yn y DU yn dweud bod ganddynt anabledd. Yn unol â Strategaeth Drafnidiaeth Gynhwysol y Llywodraeth, mae gwasanaethau hunan-yrru i deithwyr yn gyfle i wella dewisiadau trafnidiaeth i bobl anabl a allai fel arall gael trafferth teithio.

Mae manteision hefyd yn debygol o gael eu gweld gan bobl eraill sydd â gallu cyfyngedig i symud. Gallai APS hygyrch gynnig cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch yn gyfyngedig ar hyn o bryd.

Hygyrchedd yn y ddeddf

Yn adran 87 o’r ddeddf:

Wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried a yw rhoi’r drwydded yn debygol o arwain at wella’r ddealltwriaeth, ac i ba raddau, o’r ffordd orau o gynllunio a darparu gwasanaethau awtomataidd i deithwyr hŷn neu anabl.

Mae’r ddeddf hefyd yn nodi, pan fydd trwydded wedi cael ei rhoi, bod yn rhaid iddi gynnwys:

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gyhoeddi adroddiadau am y gwasanaethau awtomataidd i deithwyr y mae’n eu darparu, ac yn benodol am y camau y mae’n eu cymryd i ddiwallu anghenion teithwyr hŷn neu anabl, ac i ddiogelu teithwyr yn fwy cyffredinol.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Y tu hwnt i’r ddeddf, mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol i holl swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan y cynllun trwyddedau. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut byddai’r penderfyniad i roi trwydded, gosod amodau, amrywio neu adnewyddu trwydded yn cefnogi gofyniad Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus hefyd yn berthnasol i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus (fel awdurdodau cydsynio) ac i sefydliadau (fel darparwyr gwasanaethau) sy’n cyflawni rôl ar ran awdurdod cyhoeddus. Er enghraifft, lle maen nhw dan gontract i wneud hynny.

Amod adrodd

Roedd adroddiad ar y cyd terfynol Comisiwn y Gyfraith yn argymell y dylai deiliad y drwydded gyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at sut roedd y gwasanaeth yn diogelu teithwyr a sut roedd yn diwallu anghenion teithwyr hŷn ac anabl.

Bydd yr adroddiadau hyn yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth o ran deall darpariaeth hygyrchedd ar yr hyn a allai fod yn ddulliau newydd o ddarparu trafnidiaeth i deithwyr.

Rydym yn croesawu barn ar hyn.

Canllawiau hygyrchedd

Fel yr amlinellwyd yn gynharach yn yr ymgynghoriad hwn, mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatblygu canllawiau. Mae’r ystyriaeth bresennol yn cynnwys darparu canllawiau ar hygyrchedd.

Rydym yn croesawu barn ar hyn.

Cwestiynau am hygyrchedd

Cwestiwn 6: pa wybodaeth fyddech chi’n disgwyl ei gweld yn cael ei chyhoeddi gan ddeiliaid trwyddedau ar ddiogelu teithwyr?

Cwestiwn 7: pa wybodaeth fyddech chi’n disgwyl ei gweld yn cael ei chyhoeddi gan ddeiliaid trwyddedau ynghylch sut roedd y gwasanaeth yn diwallu anghenion pobl hŷn a phobl anabl?

4. Y broses ymgeisio ac adnewyddu

Bwriedir i’r prosesau ymgeisio ac adnewyddu fod yn hyblyg yn hytrach na chael eu pennu gan ddeddfwriaeth. Bwriad y dull hwn yw galluogi’r Llywodraeth i adolygu a datblygu’r broses ac unrhyw ganllawiau ategol dros amser. Er enghraifft, wrth ennill profiad neu er mwyn ymateb i adborth gan ymgeiswyr.

Gan nad yw’r rhan fwyaf o’r agweddau wedi’u pennu mewn rheoliadau ac nad ydynt yn rhan o’r ymgynghoriad statudol ar y rheoliadau, mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar wybodaeth y gellid gofyn i ymgeiswyr ei darparu yn ystod y broses ymgeisio.

Mae hyn er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder a chyfeiriad ar syniadau presennol y llywodraeth. Bydd yr wybodaeth hon y gofynnir amdani yn cael ei defnyddio i gefnogi awdurdodau trwyddedu/rhoi masnachfreintiau gyda’u penderfyniadau cydsynio:

  • gan DVSA i benderfynu a ddylid caniatáu’r cais
  • llunio amodau trwyddedau

Mae rheoliad arfaethedig 4 yn nodi’r cyfnod adnewyddu ar gyfer deiliaid trwyddedau presennol, lle gellir gwneud cais i adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn dyddiad dod i ben y drwydded APS bresennol.

Pan wneir cais i adnewyddu o fewn y cyfnod arfaethedig hwn, cynigir y bydd y drwydded yn parhau nes bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch adnewyddu neu nes bydd y drwydded wedi bod ar waith ers 5 mlynedd.

Bydd y bennod hon hefyd yn trafod ffioedd: er bod y ddeddf yn caniatáu i reoliad gael ei wneud ynghylch ffioedd, nid yw’r pŵer hwn yn cael ei gymryd ar hyn o bryd, felly ni fydd cost yn gysylltiedig â cheisiadau ar hyn o bryd.

Gwybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ceisiadau

Cwmpas gwasanaeth

O dan adran 82(4), rhaid i’r drwydded nodi’r ardaloedd lle mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a’r cerbydau (neu ddisgrifiad o’r cerbydau) dan sylw. Felly, byddwn yn gofyn i ymgeiswyr nodi’r canlynol:

  • yr ardal lle bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu
  • nifer y cerbydau y bwriedir eu defnyddio a disgrifiad ohonynt
  • amseroedd gweithredu

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd gadarnhau ym mha ystyr y mae’r gwasanaeth wedi’i awtomeiddio, o dan adran 82(2). Pwrpas hyn yw deall a fydd y gwasanaeth arfaethedig yn defnyddio cerbydau sydd wedi’u rhestru neu eu hawdurdodi fel rhai sy’n gallu teithio heb yrrwr, neu a ydynt yn cael eu defnyddio gyda gyrrwr diogelwch mewn treial gyda’r nod o ddatblygu gwasanaethau awtomataidd.

Nid yw cynllun trwyddedu’r APS yn ffordd o osgoi llwybrau trwyddedu ar gyfer tacsis, PHVs neu PSVs arferol.

Asesiadau ehangach gwasanaethau arfaethedig

Gofynnir am ragor o wybodaeth er mwyn gallu asesu gwasanaeth arfaethedig a gallu gweithredol y sefydliad. Byddai hyn yn cynnwys elfennau fel:

  • cymhwysedd gweithredol, fel depos, canolfannau gweithredol eraill a seilwaith cymorth, cynnal a chadw, monitro ac ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys lle mae gwasanaethau trydydd parti yn cael eu contractio
  • cynllun gweithredol, fel yr ardal gyflwyno, cynlluniau wrth gefn os bydd ffyrdd ar gau, mathau o gerbydau a gwasanaethau, unrhyw amserlenni, a darparu gwybodaeth am brisiau tocynnau
  • rheoli diogelwch teithwyr, gan gynnwys polisi diogelu
  • polisi rheoli data
  • yswiriant priodol ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr a sefydlogrwydd ariannol
  • tystiolaeth o unrhyw ymgysylltu ag awdurdodau cydsynio a rhanddeiliaid priodol eraill
  • ystyried darparu gwasanaeth hygyrch

Rydym wedi rhoi rhagor o fanylion am rai o’r agweddau hyn isod.

Ymgysylltu ag awdurdodau traffig a’r gwasanaethau brys

O dan adran 87(1), rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ymgynghori â’r canlynol:

  • awdurdodau traffig, fel y’u diffinnir gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a.121A
  • y gwasanaethau brys maen nhw’n credu sy’n debygol o gael eu heffeithio os caiff y drwydded ei rhoi

Yn yr un modd ag awdurdodau cydsynio, rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i ymgysylltu â’r awdurdodau traffig a’r gwasanaethau brys priodol cyn cyflwyno eu cais.

Er mwyn gwneud hon yn broses gynhyrchiol, ar gyfer yr ymgysylltu a’r cais, dylai ymgeiswyr gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • sut bydd y gwasanaeth yn effeithio ar dagfeydd ac ar lif traffig
  • sut bydd eu cerbydau’n ymateb i sefyllfaoedd a cherbydau argyfwng
  • sut gall y gwasanaethau brys a swyddogion eraill ymgysylltu â’r cerbyd a/neu’r ymgeisydd

Gallai gwybodaeth am dagfeydd a llif traffig, er enghraifft, gynnwys:

  • beth fydd yn digwydd i gerbydau rhwng teithiau
  • sut yr ymatebir os bydd y cerbyd yn torri i lawr
  • sut bydd mannau codi a gollwng yn gweithredu, yn enwedig wrth ystyried ardaloedd prysur

Mae hyn yn ychwanegol at gwmpas y gwasanaeth, sy’n debygol o fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyd-destun ehangach y defnydd arfaethedig.

Rydym yn ystyried darparu canllawiau i gefnogi trafodaeth rhwng ymgeiswyr, gwasanaethau brys ac awdurdodau traffig. Rydym yn croesawu barn ar hyn.

Gwasanaethau arfaethedig sy’n debyg i dacsi, cerbyd hurio preifat neu fws

Mae’r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu rhwng gwasanaethau sy’n debyg i dacsis neu gerbydau hurio preifat a’r rheini sy’n debyg i fysiau. I ddefnyddio’r categorïau hyn, ystyriwch faint o deithwyr y gall pob cerbyd eu cludo a sut y codir tâl am docynnau. Er enghraifft, bydd angen gwybod am gerbyd cyfan neu gerbyd ar wahân.

Os yw gwasanaeth arfaethedig yn defnyddio cerbydau mawr (sy’n cludo 9 teithiwr neu fwy) neu’n codi prisiau ar wahân, gallai fod yn debyg i wasanaeth bws lleol. Bydd angen i’r ystyriaeth gynnwys:

  • sut bydd y gwasanaeth yn gweithredu
  • os gall teithwyr ddod oddi ar y gwasanaeth o fewn 15 milltir i’r man cychwyn (wedi’i fesur mewn llinell syth)
  • a fyddai’n dod o fewn un o’r eithriadau statudol

Pan nad yw eithriad yn berthnasol, gellir ystyried bod y gwasanaeth yn debyg i fws.

Ar gyfer gwasanaeth bysiau, dylai’r gwasanaeth gydymffurfio â’r darpariaethau rheoleiddio sy’n ymwneud â bysiau yn yr ardal gwasanaeth oni bai fod rheswm da pam na ddylai’r darpariaethau fod yn berthnasol. Felly, dylai unrhyw weithredwr sy’n bwriadu gweithredu gwasanaethau bysiau ddangos sut byddant yn cyd-fynd â darpariaethau rheoleiddio presennol, fel cymryd rhan mewn cynlluniau tocynnau. Dylai ymgeiswyr hefyd ddarparu amserlenni drafft.

Pan fydd angen cydsyniad, bydd y ffurflen gais yn gofyn am fanylion unrhyw ymgysylltiad â’r awdurdod cydsynio.

Diogelu

Dylai darparwyr gwasanaethau sicrhau bod unrhyw staff sy’n delio â theithwyr yn destun archwiliadau manwl gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddai hyn yn berthnasol i:

  • unrhyw staff a gyflogir yn y cerbydau (fel stiwardiaid neu yrwyr diogelwch)
  • y rheini sy’n goruchwylio o bell
  • y rheini sy’n cefnogi gyda’r gallu i reoli neu ryngweithio â’r cerbyd a/neu’r teithiwr/teithwyr

Ar gyfer y gwasanaeth ei hun, bydd gofyn i ymgeiswyr nodi sut maent wedi ystyried diogelu teithwyr a’u polisïau diogelu. O dan adran 87(4)(b), rhaid i ddeiliaid trwyddedau fod yn ddarostyngedig i amod i gyhoeddi adroddiadau am y camau y maent yn eu cymryd i ddiogelu teithwyr.

Os rhoddir trwydded, bydd disgwyl i’r deiliad gyhoeddi ei bolisi diogelu ar ei wefan ar ddechrau’r gwasanaeth.

Gwybodaeth am brisiau siwrnai

Nid ydym yn bwriadu rheoleiddio prisiau tocynnau. Fodd bynnag, credwn y dylai teithwyr gael cyfle i gymharu prisiau cyn archebu. O ystyried pwysigrwydd gwybodaeth am brisiau tocynnau, mae’n debygol o fod yn un o amodau’r cynllun.

Bydd ceisiadau hefyd yn cynnwys gwybodaeth am strwythur prisiau a sut mae hyn yn cael ei gyfleu i deithwyr. Dylai ymgeiswyr ddatgelu a oes unrhyw amgylchiadau lle byddai ffioedd ychwanegol yn cael eu codi na chytunwyd arnynt ymlaen llaw.

Plant

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod plant o dan 14 oed yn defnyddio’r seddi diogel cywir [troednodyn 29], gydag eithriadau ar gyfer rhai bysiau a darpariaethau arbennig ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.

Os na ddarperir y sedd car gywir, gall plant deithio heb un, ond dim ond os ydynt yn teithio yn y sedd gefn ac yn:

  • gwisgo gwregys diogelwch oedolyn os yw’n 3 oed neu’n hŷn
  • peidio â gwisgo gwregys diogelwch os ydynt o dan 3 oed [troednodyn 30]

Dylai ymgeiswyr nodi yn eu ceisiadau sut maent yn bwriadu darparu ar gyfer plant yn eu cerbydau.

Gwasanaeth cymorth i gwsmeriaid

Yn ogystal â’r ystyriaethau diogelu ar gyfer y rheini mewn rolau cymorth i gwsmeriaid, dylai’r cais ddarparu rhagor o wybodaeth am sut bydd cwsmeriaid yn cael eu cefnogi cyn ac ar ôl y daith.

Byddai disgwyl i hyn gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • sut bydd cwsmeriaid yn cael eu cefnogi os bydd argyfwng
  • pan fydd angen cymorth ar frys ar gwsmeriaid

Dylid darparu gwybodaeth hefyd am sut gall cwsmeriaid ac eraill gysylltu â’r cwmni’n fwy cyffredinol, er enghraifft, i wneud cwyn.

Gwybodaeth arall

Nid yw’r uchod yn cynnwys popeth y bydd ei angen, ond mae’n rhoi dealltwriaeth o’r syniadau cyfredol ar gyfer APS.

Wrth i ddulliau newydd o ddarparu trafnidiaeth i deithwyr ddod i’r amlwg, mae’n bwysig bod y cais yn cael ei fireinio i sicrhau ei fod yn dal yn briodol ar gyfer y gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio.

Cyfnod hwyaf ar gyfer trwydded

Mae rheoliad 3 arfaethedig yn pennu na chaiff trwydded fod yn ddilys am gyfnod sy’n hwy na 5 mlynedd. Mae hyn yn seiliedig ar yr un cyfnod â thrwyddedau gweithredwyr ar gyfer PHVs [troednodyn 31].

Pan fydd y cynllun wedi’i sefydlu’n llawn, credwn ei bod yn bwysig bod gweithredwyr yn cael digon o sicrwydd i wneud cynlluniau, felly rydym wedi cynnig cyfnod sy’n hwyach na’r 3 blynedd a argymhellir gan Gomisiynau’r Gyfraith [troednodyn 32].

Mae’n bwysig nodi mai dyma’r cyfnod hwyaf a gynigir, ac y gellir rhoi trwyddedau am unrhyw gyfnod hyd at 5 mlynedd. Disgwylir y bydd y trwyddedau cyntaf a roddir yn debygol o fod yn rhan o’r broses beilot cyn y ddeddf. Credwn y dylai’r trwyddedau hyn fod yn ddilys am ddigon o amser i ganiatáu i’r deiliad gasglu data am y cerbydau a’r gwasanaeth a gwneud cais i adnewyddu.

Rydym yn rhagweld, yn amodol ar drafodaethau gyda’r ymgeisydd, y dylid rhoi trwyddedau APS peilot am oddeutu 12 i 18 mis, a chaniatáu cyfnod priodol i ganiatáu iddynt adnewyddu ar ôl gweithredu’r ddeddf yn llawn.

Ar ôl gweithredu’r ddeddf yn llawn, rydym yn cynnig mabwysiadu dull tebyg gyda chyfnodau trwydded byrrach yn cael eu rhoi i wasanaethau newydd i ddechrau. Pwrpas hyn fyddai rhoi hyder i awdurdodau cydsynio, y gwasanaethau brys a rhanddeiliaid eraill y byddant yn parhau i fod â rôl yn y gwaith o ganiatáu ceisiadau am drwyddedau er mwyn meithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth mewn lleoliadau.

Wrth i ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth ddatblygu, a allai amrywio rhwng ymgeiswyr, yn dibynnu ar brofiad o ddefnyddio, byddai hyd trwyddedau’n cael ei ystyried am gyfnodau hirach.

Cyfnod adnewyddu

Yn yr un modd â’r broses ymgeisio, y bwriad ar gyfer adnewyddu yw y bydd yn hyblyg ac yn adeiladu ar y broses ymgeisio a’r profiad o gyflwyno gwasanaeth. Er mwyn ceisio osgoi bod mewn sefyllfa lle gallai fod yn rhaid atal gwasanaeth oherwydd oedi yn y broses adnewyddu, lle mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynghylch faint o amser gallai gymryd, mae rheoliad 4 arfaethedig yn nodi cyfnod adnewyddu. Yn rheoliad 4(2) arfaethedig, nodir fod y cyfnod yn dechrau 6 mis cyn dyddiad dod i ben y drwydded ac yn gorffen 2 fis cyn y dyddiad dod i ben.

Bydd deiliad trwydded sy’n gwneud cais i adnewyddu yn ystod y cyfnod hwn wedi’i ddiogelu rhag oedi wrth adnewyddu, a fyddai fel arall wedi golygu bod y drwydded yn dod i ben.

Bydd y rheoliad arfaethedig yn golygu y bydd trwydded yn parhau y tu hwnt i’w dyddiad dod i ben gwreiddiol nes naill ai bod penderfyniad yn cael ei wneud i’w adnewyddu neu y cyrhaeddir cyfnod hwyaf y drwydded, sef 5 mlynedd. Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud i adnewyddu, bydd y drwydded newydd yn ddarostyngedig i uchafswm cyfnod newydd o 5 mlynedd.

Ffioedd

Mae adran 89(3) o’r ddeddf yn nodi y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch ffioedd sy’n daladwy am y canlynol:

  • gwneud cais am drwydded, neu wneud cais i adnewyddu trwydded
  • rhoi, cadw neu adnewyddu trwydded

Caniateir i unrhyw set o ffioedd gael ei phennu drwy gyfeirio at gostau a ysgwyddir, neu sy’n debygol o gael eu hysgwyddo, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth mewn cysylltiad â rheoli cynllun trwyddedu’r APS. Byddai hyn yn golygu y gallai ffi fod yn fwy na chost swyddogaeth benodol, er enghraifft, gellid ychwanegu’r costau am gamau gorfodi at gost y cais.

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn ystyried y ffioedd y gallai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth eu codi ar gyfer:

  • gwasanaethau sy’n debyg i fws ym Mhrydain Fawr
  • gwasanaethau tacsi a cherbydau hurio preifat tebyg yn Lloegr

Bwriedir peidio ag arfer y pŵer hwn ar hyn o bryd, er mwyn galluogi’r Llywodraeth i gael gwell dealltwriaeth o’r gost y mae’r DVSA yn debygol o’i hwynebu wrth reoli cynllun trwyddedau’r APS. Edrychwyd ar nifer o gynlluniau codi ffioedd wrth ystyried beth fyddai strwythur priodol ar gyfer ffioedd. Fodd bynnag, mae’r rhain yn amrywio’n sylweddol.

Y bwriad yw i’r pŵer hwn gael ei arfer yn y dyfodol, ac y codir ffioedd i adennill costau’n llawn wrth reoli’r system trwyddedau. Mae’n bosibl y byddwn yn dechrau codi ffioedd ochr yn ochr â gweithredu’r ddeddf yn llawn.

Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o bryd i ystyried bandiau ffioedd ar sail nifer y cerbydau a hyd y drwydded. Rydym yn croesawu barn ar ffioedd a rheoli’r broses o’u cyflwyno.

Cwestiynau ar gyfer y broses ymgeisio ac adnewyddu

Cwestiwn 8: pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y dylid gofyn amdani yn y broses gwneud cais am drwydded APS?

Cwestiwn 9: pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y dylid gofyn amdani ym mhroses adnewyddu trwyddedau’r APS?

Cwestiwn 10: pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol ei chynnwys mewn unrhyw ganllawiau i gefnogi trafodaethau rhwng ymgeiswyr trwyddedau APS a’r gwasanaethau brys ac awdurdodau traffig?

Cwestiwn 11: a ydych yn cytuno y dylai gyrwyr diogelwch neu gynorthwywyr teithwyr fod yn ddarostyngedig i’r un gwiriadau cofnodion troseddol a safonau meddygol â gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat, a pham?

Cwestiwn 12: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai rheoliadau bennu’r cyfnod hwyaf o 5 mlynedd ar gyfer dilysrwydd trwyddedau?

Cwestiwn 13: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o roi trwyddedau’r APS am gyfnod dilysrwydd byrrach?

Cwestiwn 14: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â hyd y cyfnod adnewyddu trwyddedau APS arfaethedig?

Cwestiwn 15: a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i drwydded APS bresennol barhau’n ddilys, yn amodol ar y cyfnod 5 mlynedd hiraf, os yw’r broses adnewyddu’n cael ei gohirio?

Cwestiwn 16: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i beidio â chodi ffi ymgeisio APS ar unwaith?

Cwestiwn 17: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno ffi yn y dyfodol, ar ôl rhoi’r Ddeddf lawn ar waith?

5. Amrywio trwydded, atal trwydded dros dro neu dynnu trwydded yn ôl

Drwy adran 89(1) o’r ddeddf, caniateir amrywio trwydded, atal trwydded dros dro neu dynnu trwydded yn ôl o dan unrhyw amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau. Mae’r rheoliadau arfaethedig yn nodi’r seiliau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hyn.

Nod y rheoliadau yw taro cydbwysedd. Mae’n bwysig darparu sicrwydd masnachol wrth gynllunio gwasanaeth a deall disgwyliadau o ran pa ddulliau cyflwyno newydd allai fod.

Mae hefyd yn bwysig y gallai fod angen newid neu atal gwasanaethau sy’n profi’n anniogel neu sy’n methu â gweithredu yn ôl y bwriad.

Er mwyn sicrhau’r cydbwysedd hwn, rydym yn edrych ar y rhesymau dros amrywio, atal neu dynnu trwydded yn ôl, cyn trafod y weithdrefn ar gyfer gwneud hynny.

Amrywio drwy gytundeb

Mae rheoliad 5(1) arfaethedig yn caniatáu amrywiad drwy gytundeb (ochr yn ochr ag atal a thynnu’n ôl), sy’n debygol o gael ei arwain gan gais gan ddeiliad y drwydded. Dim ond yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth all wneud hyn gyda chydsyniad deiliad y drwydded.

Ni ellir defnyddio’r pŵer hwn i osgoi’r gofynion cydsynio a nodir yn y Ddeddf, gan fod rheoliad 6 arfaethedig yn darparu, os oedd angen cydsyniad awdurdod cydsynio ar y drwydded wreiddiol, na ellir amrywio’r drwydded heb ei gydsyniad newydd.

Er enghraifft, os yw deiliad trwydded yn dymuno ymestyn ei ardal weithredu, rhaid cael caniatâd ar gyfer ei gynlluniau newydd. Nodir y weithdrefn ar gyfer cael y cydsyniad hwnnw yn rheoliad 6(2) ac mae’n adlewyrchu’r weithdrefn yn y ddeddf ei hun.

Seiliau

Mewn achosion eraill, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth amrywio, atal neu dynnu trwydded yn ôl yn unochrog, ar un o’r seiliau a nodir yn y rheoliad 5(2) arfaethedig.

Dyma’r seiliau arfaethedig (a drafodir yn fanylach isod):

  • deiliad y drwydded yn torri amod trwydded
  • mae cerbyd y mae’r drwydded yn berthnasol iddo yn torri cyfreithiau traffig y mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o’r farn ei fod yn ddifrifol neu wedi’i ailadrodd
  • mae mwy nag un cerbyd y mae’r drwydded yn berthnasol iddynt yn torri’r un cyfreithiau traffig neu rai tebyg
  • nid yw deiliad y drwydded yn cyflawni ymrwymiad a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
  • yn ystod y broses ymgeisio, gwnaeth yr ymgeisydd ddatganiad ffeithiau a oedd (boed yr ymgeisydd yn ymwybodol o hynny ai peidio) yn ffug
  • yn ystod y broses ymgeisio, gwnaeth yr ymgeisydd ddatganiad disgwyliadau, ac nid yw’r disgwyliadau hynny wedi’u cyflawni
  • ers i’r drwydded gael ei rhoi, bod newid sylweddol wedi bod yn unrhyw amgylchiadau a oedd yn berthnasol i roi’r drwydded
  • mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu’n rhesymol, mewn perthynas â cherbyd y mae’r drwydded yn berthnasol iddo:
    • bod pryderon difrifol am ddiogelwch y cerbyd,
    • bod y cerbyd wedi, neu y bydd yn, tarfu’n ddifrifol neu’n barhaus ar draffig
    • bod y cerbyd wedi achosi, neu y bydd yn achosi, oedi annerbyniol i weithiwr brys sy’n ymateb i amgylchiadau brys
    • bod cerbyd y mae’r drwydded yn berthnasol iddo mewn cyflwr anaddas i fod ar y ffordd o dan adran 75 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (peidio â gwerthu cerbydau mewn cyflwr anaddas i fod ar y ffyrdd nac eu haddasu i fod yn anaddas i fod ar y ffordd)

Torri amod trwydded

O dan adran 82 o’r Ddeddf, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth roi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, sydd naill ai’n cyfyngu ar y gwasanaeth arfaethedig neu’n gosod rhwymedigaethau ar ddeiliad y drwydded. Os yw deiliad y drwydded yn methu â chydymffurfio, mae’n bosib gosod sancsiynau sifil o dan Atodlen 6.

I ddechrau, nid yw’r llywodraeth yn bwriadu rhoi sancsiynau sifil ar waith nes bydd y ddeddf wedi’i rhoi ar waith yn llawn, ac amrywio, atal neu dynnu’n ôl yw’r ffordd o orfodi amodau trwyddedau.

Mae’r rheoliad 5(2)(a) arfaethedig yn galluogi amrywio, atal dros dro neu dynnu trwydded yn ôl pan fo deiliad y drwydded yn torri amod trwydded.

Torri rheolau traffig difrifol neu fwy nag unwaith

Mae gyrwyr yn wynebu amrywiaeth eang o droseddau neu gosbau ariannol os nad ydynt yn cydymffurfio â chyfreithiau traffig. Ein bwriad yw y dylai cerbydau sy’n gyrru eu hunain gydymffurfio â’r un cyfreithiau traffig.

O dan reoliad arfaethedig 5(3)(b), mae cerbyd yn ‘torri rheolau traffig’ os yw’n gwneud unrhyw beth a fyddai, pe byddai unigolyn mewn rheolaeth, yn gyfystyr â throsedd neu’n achosi i’r unigolyn hwnnw ddod yn agored i gosb ariannol.

Mae rheoliad arfaethedig 5(2)(b) yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth amrywio, atal neu dynnu trwydded yn ôl heb gydsyniad deiliad y drwydded os bernir bod cerbyd wedi torri rheolau traffig difrifol neu fwy nag unwaith.

Ni fydd trwyddedau’n cael eu hamrywio, eu tynnu’n ôl na’u hatal o ganlyniad i dorri rheol sy’n cael ei hystyried yn fân reol, fel mynd i mewn i gyffordd sgwâr melyn cyn i’r allanfa fod yn glir, ond gallai wneud os yw’r cerbyd yn parhau i wneud hynny.

Mwy nag un cerbyd yn torri’r un cyfreithiau traffig neu rai tebyg

Mae rheoliad arfaethedig 5(2)(c) yn gymwys pan fo cerbydau yn yr un fflyd yn torri’r un rheolau.

Methu â chyflawni ymrwymiad a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth

Ar gyfer torri dyletswyddau llai difrifol neu fethu â chyflawni ymgymeriadau eraill y cytunwyd arnynt, gall DVSA ofyn am ymrwymiad na fydd y broblem yn codi eto.

O dan reoliad arfaethedig 5(2)(ch), gellir cymryd camau os yw deiliad y drwydded yn methu â chyflawni ymrwymiad o’r fath.

Camliwio yn y broses ymgeisio

Gall trwydded hefyd gael ei hamrywio, ei hatal neu ei thynnu’n ôl yn dilyn camliwio yn ystod y broses ymgeisio. Mae hyn yn gymwys os gwnaeth yr ymgeisydd ddatganiad ffeithiau a oedd yn anwir (rheoliad arfaethedig 5(2)(d)).

Nid oes angen i’r ymgeisydd fod wedi gwybod bod y datganiad yn anwir. Mae’r dull hwn yn debyg i ddiddymu trwydded PSV o dan adran 17(3)(a) o Ddeddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981.

Methu â chyflawni datganiad disgwyliadau

Fel uchod, gall trwydded hefyd gael ei hamrywio, ei hatal neu ei thynnu’n ôl yn dilyn datganiad disgwyliadau sydd heb ei gyflawni (rheoliad arfaethedig 5(2)(f)).

Newidiad sylweddol mewn amgylchiadau

O dan reoliad arfaethedig 5(2)(g), caniateir i drwydded gael ei hamrywio, ei hatal neu ei thynnu’n ôl yn dilyn newid sylweddol mewn amgylchiadau a fyddai wedi bod:

yn berthnasol o ran rhoi’r drwydded o ran na fyddai’r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi’r drwydded pe bai’r amgylchiadau hynny’n bodoli ar yr adeg y rhoddwyd y drwydded.

Byddai enghreifftiau o hyn yn codi pe bai’r deiliad yn mynd yn ansolfent neu pe byddai cerbydau’n cael eu tynnu oddi ar y rhestr [troednodyn 33].

Pryderon difrifol am ddiogelwch neu darfu ar draffig

Gall trwydded gael ei hamrywio, ei hatal neu ei thynnu’n ôl yn dilyn pryderon difrifol am ddiogelwch neu darfu ar draffig.

Mae rheoliad arfaethedig 5(2)(h) yn gymwys pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn credu’n rhesymol bod cerbyd:

  • yn codi pryderon difrifol ynghylch diogelwch
  • wedi, neu y bydd yn, tarfu’n ddifrifol neu’n barhaus ar draffig
  • wedi achosi, neu y bydd yn achosi, oedi annerbyniol i weithwyr brys sy’n ymateb i argyfyngau

At y dibenion hyn, mae ‘gweithiwr brys’ yn cynnwys yr heddlu a’r holl wasanaethau a restrir yn adran 1(2) o Ddeddf Gweithwyr Argyfwng (Rhwystro) 2006.

Methu â chynnal addasrwydd ar gyfer y ffordd

O dan reoliad arfaethedig 5(2)(i), gall trwyddedau gael eu hamrywio, eu hatal neu eu tynnu’n ôl os yw cerbydau’n cael eu defnyddio mewn cyflwr anaddas i fod ar y ffordd, o fewn ystyr adran 75 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.

Rydym yn croesawu barn ar hyn.

Gweithdrefn

Mae’r weithdrefn arfaethedig ar gyfer amrywio, atal neu dynnu trwydded APS yn ôl yn debyg i’r weithdrefn ar gyfer amrywio, atal neu dynnu awdurdodiad yn ôl o dan Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae’r weithdrefn yn gwahaniaethu rhwng achosion cyffredin ac achosion brys.

Yn y ddau achos, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliad y drwydded a’r awdurdod cydsynio.

Os mai’r penderfyniad terfynol yw amrywio neu atal y drwydded dros dro, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gyhoeddi dogfen sy’n rhoi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Achosion cyffredin

Mewn achosion cyffredin (rheoliad arfaethedig 7), rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded a’r awdurdod cydsynio o’i fwriad i amrywio, atal neu dynnu’n ôl.

Rhaid i’r hysbysiad roi rhesymau a gwahodd sylwadau o fewn cyfnod penodedig.

Achosion brys

O dan y weithdrefn frys (rheoliad arfaethedig 8), caiff yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth atal dros dro neu wneud amrywiad dros dro yn gyntaf ac yna wahodd sylwadau.

Cwestiynau am amrywio trwydded, atal trwydded dros dro neu dynnu trwydded yn ôl

Cwestiwn 18: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o amrywio, atal neu dynnu trwydded APS yn ôl?

Cwestiwn 19: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, mewn achosion cyffredin, roi hysbysiad i ddeiliad trwydded yr APS a’r awdurdod cydsynio o fwriad i amrywio trwydded a gwahodd sylwadau?

Cwestiwn 20: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno, mewn achosion brys, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth atal neu wneud amrywiad dros dro i drwydded APS yn gyntaf, ac yna wahodd sylwadau?

6. Adolygu’r penderfyniad

Mae’r ddeddf yn nodi pŵer i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch ‘adolygiadau o benderfyniadau, neu apeliadau yn eu herbyn’. [troednodyn 34]

Gyda’r potensial i APS alluogi gwasanaethau newydd i ddod ymlaen a deall eu gweithrediad heb yrrwr, ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig sefydlu system apelio ffurfiol lle mae llys neu dribiwnlys yn archwilio a yw’r rheolau wedi cael eu dilyn.

Fodd bynnag, rhaid cael llwybr i sicrhau y bod penderfyniadau’n cael eu craffu’n llawn. Felly, mae rheoliad 9 arfaethedig yn darparu cyfle i ofyn i DVSA adolygu penderfyniad y mae wedi’i wneud ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

Adolygiad mewnol DVSA

O dan reoliad 9(1), bydd gan ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau hawl i ofyn am adolygiad mewnol os ydynt yn anfodlon â phenderfyniad y mae’r DVSA wedi’i wneud ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

Mae’r hawl i adolygiad yn berthnasol i holl ystod penderfyniadau’r DVSA, gan gynnwys:

  • gwrthod rhoi trwydded
  • gwrthod adnewyddu trwydded
  • gosod amod trwydded
  • gwrthod cais i amrywio neu dynnu trwydded
  • amrywio trwydded, ei hatal dros dro neu ei thynnu’n ôl o dan reoliad 5(2)
  • manylebau a wneir o dan adran 82(4) ynghylch yr ardaloedd a’r cerbydau y caniateir darparu gwasanaethau ynddynt a’r cyfnod y mae’r drwydded yn ddilys ar ei gyfer

Caiff unrhyw ymgeisydd neu ddeiliad trwydded ofyn am adolygiad mewnol o fewn 28 diwrnod, sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd y penderfyniad. Rhaid i’r cais gynnwys unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’n dymuno eu gwneud.

O dan reoliad 9(3), bydd DVSA wedyn yn cadarnhau ei fod wedi cael y cais o fewn 14 diwrnod ac yn rhoi dyddiad pryd y mae’n rhagweld y bydd yn anfon canlyniad yr adolygiad mewnol at yr ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded.

Mae gofyn am adolygiad o benderfyniad awdurdod cydsynio y tu allan i gwmpas y pŵer i’w adolygu. Byddai angen i unrhyw ystyriaeth o adolygiad neu apêl ddilyn proses leol yr awdurdod cydsynio.

Statws trwydded bresennol yn ystod y broses adolygu

Mewn rhai achosion, bydd deiliad y drwydded wedi gofyn am adnewyddu neu amrywio’r drwydded bresennol. O dan reoliad 9(4) arfaethedig, bydd y drwydded wreiddiol yn parhau’n ddilys hyd nes y bydd y broses adolygu wedi’i chwblhau.

Bwriad hyn yw diogelu deiliaid trwyddedau rhag unrhyw oedi yn y broses adnewyddu. Ar yr amod bod deiliad trwydded yn gwneud cais i adnewyddu o fewn cyfnod o 2 i 6 mis yn rheoliad 4(3), dylai ei drwydded bresennol barhau’n ddilys naill ai tan:

  • caiff ei adnewyddu
  • mae’r penderfyniad llawn a’r broses adolygu wedi’u cwblhau
  • ei fod yn mynd y tu hwnt i’r cyfnod dilysrwydd hwyaf, sef 5 mlynedd

Cwestiynau am adolygu’r penderfyniad

Cwestiwn 21: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o adolygu penderfyniadau mae’r DVSA yn eu gwneud?

7. Datgelu a defnyddio gwybodaeth

Mae adran 88(1) o’r Ddeddf yn nodi y gall amodau trwyddedau ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chasglu a’i rhannu naill ai gydag awdurdodau cyhoeddus neu fusnesau preifat.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei diogelu gan adran 88(6), sy’n nodi ei bod yn drosedd i’r sawl sy’n cael yr wybodaeth hon ei datgelu i drydydd parti neu ei defnyddio at ddiben gwahanol, oni bai fod rheoliadau’n awdurdodi ei datgelu neu ei defnyddio. Gall y drosedd hon arwain at ddirwy ddiderfyn.

Dyma’r amddiffyniadau sydd ar gael i ddiffynnydd sydd wedi datgelu gwybodaeth yn y modd hwn:

  • bod darparwr yw wybodaeth wedi cydsynio i’r datgeliad
  • bod y diffynnydd yn credu’n rhesymol bod y datgeliad yn gyfreithlon
  • bod gan y trydydd parti fynediad cyfreithlon eisoes

Mae’r ddeddf yn pwysleisio pwysigrwydd peidio â defnyddio gwybodaeth sy’n cael ei rhannu o dan amod trwydded i niweidio buddiannau masnachol.

Ni ddylid defnyddio rheoliadau i awdurdodi datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth mewn ffordd a fyddai’n debygol o niweidio buddiannau masnachol unrhyw berson oni bai bod y rheoliad yn caniatáu hynny’n benodol, neu os yw’n angenrheidiol ar gyfer y rheoliad.

Mae’r rheoliadau arfaethedig yn caniatáu i rywfaint o wybodaeth sy’n ofynnol o dan amod trwydded gael ei datgelu gan y derbynnydd i unrhyw berson at unrhyw ddiben. Yn benodol, mae gwasanaethau rheolaidd yn debygol o fod yn destun gofynion data agored bysiau.

Os felly, gellir rhannu gwybodaeth am y canlynol:

  • llwybrau, mannau aros, amserlenni, prisiau a thocynnau
  • newidiadau neu newidiadau arfaethedig i’r uchod
  • gweithrediad gwasanaethau, ee gwybodaeth fyw, lleoliad cerbydau a’r amser y disgwylir iddynt gyrraedd, a gwybodaeth hanesyddol am wasanaethau

Mae’r rheoliad arfaethedig hefyd yn cynnwys, pan fydd amod trwydded yn mynnu bod gwybodaeth am ddamweiniau’n cael ei rhannu â’r heddlu, y gall y derbynnydd ei defnyddio at unrhyw ddiben y gallai ddefnyddio adroddiad ar ei gyfer o dan adran 170 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (dyletswydd gyrrwr i stopio, rhoi gwybod am ddamwain a rhoi gwybodaeth neu ddogfennau).

Efallai y bydd amod trwydded yn mynnu bod gwybodaeth ychwanegol sy’n ymwneud â diogelwch yn cael ei rhannu â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Os felly, mae’r rheoliad arfaethedig yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i ddatgelu’r wybodaeth hon os yw o’r farn y byddai er budd y cyhoedd i wneud hynny, a bod yr wybodaeth a ddatgelir yn ffeithiol.

Pan fydd angen rhannu gwybodaeth arall â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, gall ddatgelu’r wybodaeth i asiantaethau a chyrff priodol i ymchwilio i droseddau posibl ac ar gyfer apêl neu achos llys y mae’n berthnasol iddo.

Lle nad yw gwybodaeth wedi cael ei chyhoeddi a’i bod yn ofynnol ei chyhoeddi, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael er mwyn cydymffurfio ag amod y drwydded.

Pan fydd gwybodaeth am gŵyn yn cael ei rhannu ag unrhyw sefydliad delio â chwynion, cynigir bod y corff hwn yn cael rhoi’r wybodaeth i’r achwynydd.

Bwriad y rheoliad arfaethedig yw galluogi rhannu’r wybodaeth hon ar gyfer enghreifftiau fel y rhai isod.

Data agored bysiau

Yn 2024, canfu ymchwil fod llawer o bobl yn dewis peidio â defnyddio bysiau am nad oes gwybodaeth ddibynadwy ar gael am deithiau. Ers 2020, mae camau wedi cael eu cymryd i wella’r wybodaeth sydd ar gael i deithwyr am lwybrau bysiau, safleoedd bysiau, amserlenni, lleoliad bysiau a phrisiau tocynnau.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau 2017, rhaid i weithredwyr gwasanaethau bysiau lleol yn Lloegr rannu gwybodaeth am amserlenni, lleoliadau bysiau a phrisiau gyda’r gwasanaeth data agored bysiau. Mae wedyn yn dod yn ddata agored am ddim y gall unrhyw un sy’n sefydlu ap, cynnyrch neu wasanaeth, neu’n dadansoddi patrymau traffig, ei lawrlwytho. Y bwriad yw y byddai hyn yn berthnasol i wasanaethau’r APS sy’n darparu gwasanaeth tebyg i fws.

Byddai’n rhaid i wasanaethau o’r fath rannu gwybodaeth am lwybrau bysiau, mannau aros, amserlenni, prisiau a thocynnau (neu newidiadau iddynt) â gwasanaeth data agored bysiau, a fydd wedyn ar gael i unrhyw un eu defnyddio.

Digwyddiadau sy’n codi pryderon diogelwch

Mae Adran 20 Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 yn gosod dyletswydd ar weithredwyr PSV i roi gwybod i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth am unrhyw fethiant neu ddifrod y tybir iddo effeithio ar ddiogelwch teithwyr.

Mae canllawiau DVSA ar roi gwybod am ddigwyddiad sy’n ymwneud â bws eich sefydliad yn egluro bod yn rhaid i weithredwyr PSV, yn ôl y gyfraith, roi gwybod am y canlynol: 

  • marwolaethau
  • anafiadau difrifol (fel torri esgyrn, niwed i brif organau neu arosiadau dros nos yn yr ysbyty)
  • honiadau o ddiffygion diogelwch
  • difrod neu niwed sylweddol o ganlyniad i’r digwyddiad (fel niwed sylweddol i’r corff neu ddifrod i gydrannau mecanyddol lle mae angen tynnu’r cerbyd allan o wasanaeth i gael ei drwsio gan arbenigwr)
  • cydran diogelwch hanfodol yn methu neu hanes o’r un gydran yn methu
  • cerbyd yn mynd ar dân

Rhaid i weithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus hefyd anfon adroddiad os bydd yr heddlu’n gofyn iddynt wneud hynny.[troednodyn 35]

Mae’n debygol y bydd gofyn i ddeiliad trwydded APS roi gwybod, o leiaf, i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth am unrhyw fethiant neu ddifrod sy’n effeithio ar ddiogelwch (gan weithredu drwy DVSA) - ni waeth pa fath o wasanaeth ydyw.

Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn hyn i fethiannau sy’n effeithio ar ddiogelwch pawb sy’n defnyddio’r ffordd ac unrhyw wrthdrawiad, yn hytrach na dim ond y rheini sy’n golygu nad yw’r cerbyd yn gallu cael ei ddefnyddio mwyach.

Wrth ystyried rhannu’r wybodaeth hon, mae angen cydbwysedd rhwng yr hyn sy’n debygol o fod o fudd amlwg i’r cyhoedd a niweidio buddiannau masnachol. Bwriad y rheoliad arfaethedig yw galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i rannu’r wybodaeth hon:

  • lle mae’n cael ei ystyried er budd y cyhoedd
  • er mwyn cefnogi ymchwiliadau troseddol posibl

Logiau cwynion

Gyda systemau cwyno ar waith ar hyn o bryd ar gyfer gweithredwyr bysiau yn ogystal â chwmnïau tacsis a cherbydau hurio preifat, disgwylir y bydd y gofyniad am system gwyno yn sail i amod trwydded. Ni fyddai cwmpas hyn yn cael ei dargedu at gasglu pryderon diogelwch, ond, er enghraifft, i ddarparu ffordd i deithwyr godi pryderon am ansawdd y gwasanaeth a gawsant.

Mae’n bosibl y bydd pobl sydd ddim yn defnyddio’r gwasanaeth hefyd yn dymuno cwyno, er enghraifft, os ydynt yn credu eu bod wedi gweld parcio neu yrru gwael. Y disgwyliad fyddai i ddeiliaid trwyddedau gofnodi cwynion, yn debygol o fewn categorïau penodol, a bod manylion categorïau a rhifau gael eu cyhoeddi drwy’r gofyniad adrodd.

Efallai y bydd DVSA hefyd yn dymuno cael mynediad at wybodaeth o logiau cwynion sy’n ymwneud â diogelwch, hygyrchedd a diogelu, neu ymchwilio pan fydd achwynydd yn anfodlon ag ymateb. Gellid defnyddio nifer fawr o gwynion i gyfiawnhau peidio ag adnewyddu trwydded neu, mewn achosion difrifol, i gyfiawnhau amrywio neu dynnu trwydded yn ôl.

Mae’n bwysig bod DVSA yn gallu rhannu’r wybodaeth sy’n cyfiawnhau penderfyniad o’r fath gydag unrhyw adolygydd, tribiwnlys neu lys. Mae’n debygol y bydd gan gyrff cydsynio lleol, awdurdodau traffig a gwasanaethau brys ddiddordeb hefyd.

Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi

Bydd rhai amodau trwydded yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi. O dan adran 87(4), rhaid i drwyddedau gynnwys amod sy’n mynnu bod y deiliad yn cyhoeddi adroddiadau sy’n gorfod cynnwys sut mae’r gwasanaeth yn diwallu anghenion teithwyr hŷn neu anabl ac yn diogelu teithwyr yn fwy cyffredinol.

Gallai gofynion adrodd pellach gynnwys elfennau fel cyhoeddi adroddiad blynyddol, rhestru unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch a rhoi ffigurau cwynion, wedi’u dadansoddi yn ôl categori.

Lle nad yw adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy’n ofynnol, mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth rannu’r wybodaeth hon.

Ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch

Nod y ddeddfwriaeth arfaethedig yw taro cydbwysedd rhwng ei defnyddio yn y tymor byr cyn gweithredu’r ddeddf ac yn y tymor hwy ar ôl ei rhoi ar waith.

Mae’r cydbwysedd hwn yn rhoi ffordd i wybodaeth am ddamweiniau gael ei rhannu â’r heddlu, ac i’r heddlu allu gofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennau gan ddeiliad y drwydded.

Pan fydd gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelwch yn cael ei rhannu â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth at ddibenion tryloywder, gall ddatgelu’r wybodaeth hon i unrhyw un os yw’n teimlo ei bod er budd y cyhoedd ac yn gwneud hynny’n ffeithiol.

Cwestiynau am ddatgelu a defnyddio gwybodaeth

Cwestiwn 22: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o rannu gwybodaeth?

Sut i ymateb

Gweler yr adran ‘Ffyrdd o ymateb’ ar dudalen yr ymgynghoriad ar GOV.UK i gael gwybod sut gallwch chi ymateb i’r ymgynghoriad hwn. 

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 21 Gorffennaf 2025 a bydd yn para tan 23:59 ar 28 Medi 2025. Gwnewch yn siŵr bod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y Llywodraeth ar dudalen hafan yr ymgynghoriad hwn. Bydd copïau papur ar gael os gofynnwch. 

Os oes gennych chi gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch â:

CCAV 
3ydd llawr, Tŷ’r Eglwys Fawr 
33 Ffordd Horseferry 
Llundain, SW1P 4DR

Neu gallwch anfon e-bost i: consultation@ccav.gov.uk.

Rhestr lawn o’r cwestiynau

Mae’r cwestiynau hyn wedi’u rhestru yma i roi trosolwg i chi o’r hyn rydym yn ei ofyn. Gall y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad gynnwys rhagor o gwestiynau, er enghraifft, cwestiynau am bwy ydych chi. 

Gweler yr adran Ffyrdd o ymateb ar hafan GOV.UK ar gyfer yr ymgynghoriad hwn i ddarllen rhestr lawn o gwestiynau a chael gwybod sut gallwch chi ymateb iddynt.

Cwestiwn 1: pa ganllawiau, os o gwbl, ydych chi’n meddwl y dylai’r Llywodraeth eu darparu i alluogi trafodaethau rhagarweiniol rhwng y rheini sy’n dymuno gwneud cais am drwydded APS ac awdurdodau?

Cwestiwn 2: yn eich barn chi, a ddylem gefnogi unrhyw gydlynu, rhannu gwybodaeth a rhannu arferion gorau rhwng awdurdodau?

Cwestiwn 3: beth fyddech chi’n disgwyl ei weld yn cael ei gynnwys er mwyn gwneud y canllawiau arfaethedig mor ddefnyddiol â phosibl i’ch awdurdod?

Cwestiwn 4: pa wybodaeth y mae awdurdodau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn debygol o’i hystyried yn ddefnyddiol wrth benderfynu a ddylid cydsynio ai peidio?

Cwestiwn 5: pa wybodaeth y mae cyrff masnachfreinio bysiau yn debygol o’i hystyried yn ddefnyddiol wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ai peidio?

Cwestiwn 6: pa wybodaeth fyddech chi’n disgwyl ei gweld yn cael ei chyhoeddi gan ddeiliaid trwyddedau ar ddiogelu teithwyr?

Cwestiwn 7: pa wybodaeth fyddech chi’n disgwyl ei gweld yn cael ei chyhoeddi gan ddeiliaid trwyddedau ynghylch sut roedd y gwasanaeth yn diwallu anghenion pobl hŷn a phobl anabl?

Cwestiwn 8:  pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y dylid gofyn amdani yn y broses gwneud cais am drwydded APS?

Cwestiwn 9: pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y dylid gofyn amdani ym mhroses adnewyddu trwyddedau’r APS?

Cwestiwn 10: pa wybodaeth ydych chi’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol ei chynnwys mewn unrhyw ganllawiau i gefnogi trafodaethau rhwng ymgeiswyr trwyddedau APS a’r gwasanaethau brys ac awdurdodau traffig?

Cwestiwn 11: a ydych yn cytuno y dylai gyrwyr diogelwch neu gynorthwywyr teithwyr fod yn ddarostyngedig i’r un gwiriadau cofnodion troseddol a safonau meddygol â gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat, a pham?

Cwestiwn 12: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai rheoliadau bennu’r cyfnod hwyaf o 5 mlynedd ar gyfer dilysrwydd trwyddedau?

Cwestiwn 13: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o roi trwyddedau’r APS am gyfnod dilysrwydd byrrach?

Cwestiwn 14: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â hyd y cyfnod adnewyddu trwyddedau APS arfaethedig?

Cwestiwn 15: a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i drwydded APS bresennol barhau’n ddilys, yn amodol ar y cyfnod 5 mlynedd hiraf, os yw’r broses adnewyddu’n cael ei gohirio?

Cwestiwn 16: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i beidio â chodi ffi ymgeisio APS ar unwaith?

Cwestiwn 17: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno ffi yn y dyfodol, ar ôl rhoi’r Ddeddf lawn ar waith?

Cwestiwn 18: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o amrywio, atal neu dynnu trwydded APS yn ôl?

Cwestiwn 19: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, mewn achosion cyffredin, roi hysbysiad i ddeiliad trwydded yr APS a’r awdurdod cydsynio o fwriad i amrywio trwydded a gwahodd sylwadau?

Cwestiwn 20: ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno, mewn achosion brys, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth atal neu wneud amrywiad dros dro i drwydded APS yn gyntaf, ac yna wahodd sylwadau?

Cwestiwn 21: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o adolygu penderfyniadau mae’r DVSA yn eu gwneud?

Cwestiwn 22: a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n dull arfaethedig o rannu gwybodaeth?

Rhyddid gwybodaeth

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. 

Os ydych chi am i wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, cofiwch, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod cod ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio ag ymrwymiadau cyfrinachedd, ymysg pethau eraill. 

Oherwydd hyn, byddai’n fuddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn credu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os ydym yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, rhoddwn ystyriaeth lawn i’ch esboniad, ond ni allwn addo y gellir cynnal cyfrinachedd dan bob amgylchiad. Ni ystyrir y bydd ymwrthodiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn rhwymol ar yr adran.

Diogelu data

Mae eich ymateb i’r ymgynghoriad, a phrosesu data personol y mae’n ei chynnwys, yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau fel adran o’r Llywodraeth. O dan gyfraith diogelu data, yr Adran Drafnidiaeth fydd yn rheoli’r wybodaeth hon.

Mae polisi preifatrwydd yr Adran Drafnidiaeth yn cynnwys mwy o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno, a sut i gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data.

  1. Nid yw’r rhan fwyaf o ddarpariaethau Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024 mewn grym ar hyn o bryd. Mae cyfeiriadau yn y ddogfen hon at ddarpariaethau’r ddeddf wedi’u geirio i adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol ddisgwyliedig unwaith y bydd y darpariaethau perthnasol mewn grym. 

  2. Comisiwn y Gyfraith a Chomisiwn y Gyfraith yn yr Alban, Cerbydau Awtomataidd: adroddiad ar y cyd (2022) Law Com No 404, Scot Law Com No 258, paragraff 10.8. 

  3. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 82(2)(b). 

  4. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 82(2). 

  5. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 83. 

  6. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 85 ac a 86. 

  7. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 90(4). 

  8. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 89(7). 

  9. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 85(3). 

  10. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 86. 

  11. I gael manylion am bartneriaethau uwch o dan Ddeddf Gwasanaethau Bysiau 2017 (er enghraifft), gweler Deddf Gwasanaethau Bysiau 2017: partneriaethau gwell, (PDF)

  12. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 87(3). 

  13. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 87(1). 

  14. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 82(4). 

  15. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 82(5). 

  16. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 87(4). 

  17. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 89(3)(b). 

  18. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, Atodlen 6, paragraff 4. 

  19. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 89(1) a (2). 

  20. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 89(3)(d). 

  21. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 88(1) a (2). 

  22. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 88(6). 

  23. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 86(1) a (2). 

  24. I gael trafodaeth fanwl ar y diffiniadau, darllenwch bapur cefndir 2 adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ar gerbydau awtomataidd, (PDF)

  25. Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, a 75(1)(c) a (cc). 

  26. Gweler ystadegau tacsis a cherbydau hurio preifat, Lloegr, 2024 (diwygiedig)

  27. Gweler [Papur Gwyn ar Ddatganoli yn Lloegr] (https://www.gov.uk/government/publications/english-devolution-white-paper-power-and-partnership-foundations-for-growth/english-devolution-white-paper). 

  28. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a85(4) a (5) ac a86(5) a (6). 

  29. Deddf Traffig Ffyrdd 1988, a15. 

  30. Rheoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo Gwregysau Diogelwch) 1993, rheoliad 10(b) a (c). 

  31. Gweler trwyddedau gweithredwr ar gyfer cerbydau hurio preifat

  32. Comisiwn y Gyfraith a Chomisiwn y Gyfraith yn yr Alban, Cerbydau Awtomataidd: adroddiad ar y cyd (2022), paragraff 10.33. 

  33. Byddai dadrestru’n digwydd pan nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn credu mwyach bod cerbyd yn gallu gyrru ei hun yn ddiogel ac yn gyfreithlon o dan yr amgylchiadau yr ystyriwyd yn flaenorol ei fod yn gallu gwneud hynny. 

  34. Deddf Cerbydau Awtomataidd 2024, a 89(3)(d). 

  35. Ewch i rhoi gwybod am ddigwyddiad sy’n ymwneud â bws eich sefydliad i gael rhagor o wybodaeth.