Diwygio Prynu a Gwerthu Cartrefi
Cyhoeddwyd 20 Hydref 2025
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar gynigion i wella’r broses prynu a gwerthu cartrefi.
Cwmpas daearyddol
Rydym yn gwahodd safbwyntiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon).
Corff/cyrff sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad
The Ministry of Housing, Communities and Local Government (MHCLG).
Hyd
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 12 wythnos o 6 Hydref i 24 December 2025.
Ymholiadau
Am unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â: homebuyingandselling@communities.gov.uk.
Sut i ymateb
Gallwch ymateb drwy gwblhau arolwg ar-lein ar Citizen Space.
Fel arall, gallwch e-bostio eich ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn i homebuyingandselling@communities.gov.uk.
Nid yw ein system bresennol ar gyfer prynu a gwerthu cartrefi yn gweithio
Cartref yw’r peth pwysicaf y bydd llawer o bobl yn ei brynu yn eu hoes. Bob blwyddyn, mae tua 1.2 filiwn o drafodiadau eiddo preswyl yn digwydd yn y Deyrnas Unedig gyda chymorth gan asiantiaid eiddo, trawsgludwyr, syrfewyr, benthycwyr morgais, a llawer o weithwyr eraill ar draws y sector proffesiynol[troednodyn 1].
Mae’r broses yn sail i’r farchnad dai ehangach ac o bwys economaidd sylweddol, gan gyfrannu tua £100bn bob blwyddyn at economi’r Deyrnas Unedig a chyflogi 1.2m o bobl [troednodyn 2].
Mae system sy’n gweithio’n dda yn caniatáu i bobl symud i’r cartrefi iawn ar yr adeg iawn, yn galluogi aelwydydd i fwrw gwreiddiau mewn cymuned ac yn cefnogi symudedd llafur trwy hwyluso’r broses o adleoli ar gyfer swyddi. Mae ei heffaith hefyd yn ymestyn y tu hwnt i dai i sectorau fel symudwyr dodrefn, adeiladu, manwerthu, ac eiddo masnachol. Felly, mae sicrhau bod y broses yn gyflym, yn ddi-dor, ac yn ddibynadwy yn bwysig nid yn unig i unigolion ond i’r economi gyfan.
Fodd bynnag, mae’r broses prynu a gwerthu cartrefi yn hir, yn gymhleth ac yn rhwystredig ar hyn o bryd. Mae’n cymryd 120 o ddiwrnodau i gwblhau, ar gyfartaledd, pan fydd cynnig y prynwr wedi cael ei dderbyn[troednodyn 3], ac mae amserau trafodiadau wedi cynyddu 60% ers hynny i 2007[troednodyn 4]. Mae tua 1 o bob 3 o drafodiadau yn methu, gan golli tua £400m y flwyddyn i brynwyr a gwerthwyr mewn costau gwastraff[troednodyn 5]. Mae pobl hŷn yn aml yn wynebu heriau penodol wrth geisio symud i gartref gwahanol neu lai o faint, gan fod prosesau hir ac ansicr yn eu hatal rhag gwerthu cartrefi nad ydynt yn bodloni eu hanghenion mwyach.
Mae’r aneffeithlonrwydd hwn yn effeithio ar y farchnad dai a’r economi ehangach. Mae trafodiadau araf yn lleihau’r galw am gartrefi a’r cyflenwad ohonynt, gan gyfrannu at brinder tai a phwysau fforddiadwyedd. Mae oedi’n cyfyngu ar y farchnad swyddi trwy ei gwneud yn anoddach i unigolion adleoli i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd. Yn aml, mae gwerthwyr, yn enwedig pobl hŷn neu’r rhai sydd eisiau symud i gartref llai o faint, yn cael eu hatal gan y drafferth a’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r broses. Mae hyn yn golygu, yn ei dro, bod llai o gartrefi’n cael eu rhestru.
Un o’r rhesymau allweddol dros yr aneffeithlonrwydd hwn yw nad yw’r wybodaeth iawn ar gael i ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol ar yr adeg iawn. Yn aml, nid yw problemau fel lleithder neu ddiffyg caniatâd cynllunio ar gyfer newidiadau yn dod i’r amlwg tan ar ôl i gynnig gael ei dderbyn. Mae cynnydd yn cael ei lesteirio ymhellach gan ddiffyg digidoleiddio ar draws y broses, gan fod sawl cam yn dibynnu ar waith papur a systemau digyswllt o hyd. Hyd yn oed pan fydd gwerthiant yn symud ymlaen, mae defnyddwyr yn aml yn wynebu misoedd heb ddiweddariadau ac yn colli miloedd o bunnoedd os bydd eu cadwyn yn methu. Mae’r diffyg safonau a ddiffiniwyd yn glir ar gyfer rhai gweithwyr eiddo proffesiynol yn dwysáu’r rhwystredigaeth, gan olygu efallai na fydd prynwyr a gwerthwyr yn derbyn y gwasanaeth maen nhw’n ei haeddu neu’n gwybod at bwy i droi pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Mae gwledydd eraill yn dangos bod y system yn gallu bod yn well. Yn Norwy, mae trafodiadau’n cwblhau ymhen pedair wythnos neu lai, ac mae digidoleiddio’n sbarduno arbedion amcangyfrifedig o hyd at £1bn dros 10 mlynedd. Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, yn yr Alban mae gwybodaeth ymlaen llaw a chontractau mwy cyfrwymol eisoes yn arwain at lai o fethiannau. Mae llawer o wledydd yn osgoi cymhlethdod lesddaliad trwy ddefnyddio mathau o gyfunddaliad, lle mae telerau safonedig a amlinellir mewn deddfwriaeth yn egluro hawliau a rhwymedigaethau, gan arwain at drawsgludo symlach a rhatach, a thrafodiadau cyflymach. Er na ellir copïo systemau cyfan, mae gwersi clir i’n system eiddo.
Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Rydym eisiau darparu system prynu a gwerthu cartrefi fwy dibynadwy, sy’n cael ei hysgogi gan ddefnyddwyr gwybodus, technoleg arloesol a gwasanaethau proffesiynol o safon uchel.
Fe ddylai’r wybodaeth iawn fod ar gael i brynwyr, gwerthwyr a gweithwyr eiddo proffesiynol ar yr adeg iawn, gan wneud trafodiadau’n symlach ac yn gyflymach. Dylai defnyddwyr ddeall rôl gweithwyr eiddo proffesiynol, dylent allu cymharu arbenigedd a pherfformiad cwmnïau, a dylent wybod bod eu hasiant eiddo’n bodloni safonau proffesiynol diffiniedig, sy’n helpu trafodiadau i ddigwydd yn ddidrafferth a chefnogi penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Mae’n rhaid i dechnoleg fod wrth wraidd y newid hwn. Bydd offer digidol a data cyson, dibynadwy yn caniatáu i ddefnyddwyr gwblhau tasgau ac olrhain cynnydd ar y pryd, ble bynnag y bônt. Rydym hefyd eisiau rhoi mwy o sicrwydd i ddefnyddwyr trwy gontractau cyfrwymol cynharach.
Gyda’i gilydd, fe allai’r cynigion isod greu system sy’n symlach, yn achosi llai o straen, ac yn addas i’r dyfodol. Byddai’r diwygiadau hyn yn cefnogi agenda ehangach y llywodraeth i ddatgloi’r cyflenwad tai, gwella fforddiadwyedd, a helpu i ddarparu 1.5 miliwn o gartrefi dros gyfnod y senedd nesaf. Mae system prynu a gwerthu cartrefi wedi’i moderneiddio yn hanfodol i gyflawni’r uchelgais hwn.
Ein dull
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i gyflawni’r weledigaeth uchod a mynd i’r afael â’r problemau hirsefydlog â’n system prynu a gwerthu cartrefi. Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyhoeddi map trywydd sy’n amlinellu sut bydd y llywodraeth yn trawsnewid prynu a gwerthu cartrefi yn ystod cyfnod y senedd hon. Nid yw ymdrechion blaenorol i wella’r broses wedi cyflawni newid parhaus. Rydym eisiau sicrhau bod diwygiadau yn y dyfodol yn ymarferol, yn gallu cael eu gorfodi ac wedi’u llunio i bara, yn ogystal â sicrhau bod defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn gallu bod yn hyderus y bydd y system yn newid mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy. Dyna pam y credwn fod angen map trywydd sy’n amlinellu cynlluniau gweithredu clir ar gyfer ein hymrwymiadau yn y blynyddoedd i ddod.
Cydnabyddwn fod y cynigion isod yn cynrychioli newid mawr i’r sector, felly rydym yn ymgynghori er mwyn sicrhau ein bod wedi ceisio mewnbwn gan weithwyr proffesiynol, defnyddwyr a’r cyhoedd cyn cyhoeddi map trywydd terfynol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau dros gyfnod o 12 wythnos a bydd map trywydd yn cael ei gyhoeddi yn y gaeaf 2025/26.
Bydd hyd a lled tiriogaethol unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol. Cydnabyddwn fod systemau tai a thrawsgludo yn amrywio ledled y Deyrnas Unedig, a bod fframwaith penodol ar waith yn yr Alban. Yn rhan o’r broses ymgynghori hon, gwahoddwn safbwyntiau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu i ffurfio’r cynigion terfynol.
Cwestiynau amdanoch chi
Cwestiwn 1
A ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu sefydliad?
Cwestiwn 2
Os ydych yn ymateb fel unigolyn – beth yw’ch enw?
Cwestiwn 3
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad – beth yw enw eich sefydliad a beth yw’ch rôl?
Cwestiwn 4
Pa fath o sefydliad ydych chi’n ymateb ar ei ran – asiant eiddo, syrfëwr, trawsgludwr, corff proffesiynol, datblygwr, arall?
Amcanion ar gyfer diwygio prynu a gwerthu cartrefi
Credwn y dylai’r system prynu a gwerthu cartrefi yn y dyfodol gael ei ffurfio o amgylch yr amcanion canlynol:
- Trafodiadau cyflymach a mwy dibynadwy – a alluogir gan offer digidol, prosesau symlach, a llai o ailadrodd
- Llai o fethiannau a risgiau, gan gynnwys y rhai a achosir gan gadwyni eiddo – gan roi mwy o eglurder i ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol
- Safonau proffesiynol uchel – gan sicrhau cymhwysedd ac atebolrwydd ar draws y sector
- Defnyddwyr mwy gwybodus – trwy well addysg a thryloywder
- Ymddiriedaeth a hyder yn y system – gan arwain at fwy o foddhad a marchnad fwy cydnerth
Astudiaethau achos: Cymariaethau rhyngwladol
Yn ogystal â’r enghreifftiau o Norwy a’r Alban a roddwyd yn y cyflwyniad i’r ddogfen hon:
Yn Awstralia, gellir prynu cartrefi trwy broses ddigidol o’r dechrau i’r diwedd a weithredir gan ddarparwr y platfform cwblhau eiddo ar-lein, Property Exchange Australia Ltd (PEXA).
Mae system eiddo tirol ddigidol y Ffindir, sef Dias, yn galluogi cwsmeriaid i gwblhau eu trafodiad yn ddigidol, gan gynnwys llofnodi’r holl ddogfennau a chontractau ar-lein. Cwblheir trafodiadau ymhen tua 2 wythnos.
Yn unol â’u system E-Breswylio, mae system prynu a gwerthu cartrefi Estonia wedi’i digidoleiddio’n helaeth ac mae Cofrestrfa Tir Estonia ar-lein yn gyfan gwbl. Ategir y system gan seilwaith digidol allweddol, gan gynnwys llofnodion digidol a gwasanaethau sy’n gallu rhyngweithredu.
Cwestiwn 5
A ydych chi’n cytuno â’r amcanion arfaethedig ar gyfer diwygio’r system prynu a gwerthu cartrefi?
Cwestiwn 6
A oes unrhyw amcanion y credwch y dylid eu newid, eu dileu, neu eu hychwanegu?
Gwaith parhaus
Byddai’r diwygiadau yn yr ymgynghoriad hwn yn ychwanegu at y camau y mae’r Llywodraeth eisoes wedi’u cymryd tuag at ddiwygio a digidoleiddio’r system prynu a gwerthu cartrefi.
- Gan weithio gyda Chofrestrfa Tir EF, rydym wedi lansio cyfres o gynlluniau peilot gydag awdurdodau lleol i agor a digidoleiddio data eiddo sy’n allweddol i’r broses prynu a gwerthu cartrefi.
- Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno safonau data cyffredin i’r sector prynu a gwerthu cartrefi, gan greu rheolau cyffredin clir ar gyfer cywirdeb data fel ei fod yn ddibynadwy ac yn gallu cael ei rannu’n rhwydd rhwng gweithwyr eiddo proffesiynol, gan gynnwys trawsgludwyr a benthycwyr, heb fod angen dilysu droeon.
- Rydym yn gweithio i alluogi defnyddio hunaniaethau dibynadwy ar draws economi’r Deyrnas Unedig trwy osod fframwaith o safonau a threfniadau llywodraethu ar gyfer gwasanaethau hunaniaeth ddigidol, wedi’u seilio ar fesurau a gynhwysir yn Neddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025.
- Dan arweiniad Cofrestrfa Tir EF, rydym yn rhoi rhaglen data geo-ofodol uchelgeisiol ar waith i sicrhau bod data pridiannau lleol ar gael yn fwy eang. Erbyn mis Medi 2025, roedd 127 o awdurdodau lleol wedi trosglwyddo i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol, ac mae tri arall yn yr arfaeth.
- Parhau i ariannu Tîm Asiantiaid Eiddo Safonau Masnach Cenedlaethol, sef y prif awdurdod gorfodi ar gyfer y sector asiantiaid eiddo, ac ymgysylltu â nhw’n rheolaidd i benderfynu ar y ffordd orau o fynd i’r afael â materion penodol y sector, fel gwerthu amodol.
- Gweithredu’r Ddeddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad er mwyn sicrhau bod perchentywyr ystad lesddaliad a rhydd-ddaliad yn gallu dod o hyd i wybodaeth am eiddo sy’n angenrheidiol i werthu eu cartrefi yn gyflymach ac am bris fforddiadwy. Pan fydd y mesurau hyn yn cael eu deddfu, byddant yn helpu i symleiddio’r broses werthu ar gyfer eiddo ystad lesddaliad a rhydd-ddaliad.
Mynnu gwybodaeth am eiddo ymlaen llaw
Dangosodd arolwg barn diweddar o bobl a oedd yn symud cartref nad oedd mwy na 2% yn credu eu bod wedi derbyn digon o wybodaeth cyn gwneud cynnig. Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn cyfrannu at drafodiadau cyflymach a mwy sicr yn yr Alban, ac mae cynlluniau peilot yn Lloegr yn awgrymu y gallai chwiliadau cynnar gyflymu’r trafodiad cyffredin gan bedair wythnos[troednodyn 6].
Yn y dyfodol, fe allai gwerthwyr ac asiantiaid eiddo gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod gwybodaeth gynhwysfawr ar gael ar yr adeg rhestru. Fel cam cyntaf, rydym yn cynorthwyo asiantiaid eiddo i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol o ran gwybodaeth berthnasol trwy ymgynghori ar sut y dylai gwybodaeth berthnasol gael ei chyflwyno mewn rhestriadau eiddo ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.
Mae gennym ddiddordeb mewn cyflwyno gofyniad gorfodol i werthwyr weithio gyda thrawsgludwyr a syrfewyr i gynnal chwiliadau ac asesiad o gyflwr eiddo cyn rhestru. Cydnabyddwn y byddai hyn yn newid mawr, felly ni fyddai’n digwydd yn syth. Byddem yn gweithio gyda’r diwydiant i ddeall sut a phryd y dylai hyn gael ei gyflwyno.
Fe allai gwybodaeth ymlaen llaw fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol gan y gyfraith ar hyn o bryd o ran “gwybodaeth berthnasol” mewn rhestriadau eiddo. Cynigiwn fynnu set data safonedig, hawdd ei deall ar yr adeg rhestru. Fe allai hyn gynnwys ffeithiau allweddol fel deiliadaeth, band treth gyngor, sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni, a’r math o eiddo, ochr yn ochr â gwybodaeth gyfreithiol a thrafodiadol fel gwybodaeth am y teitl, dilysu hunaniaeth y gwerthwr, telerau lesddaliad, a data am ddiogelwch yr adeilad. Fe allai hefyd gynnwys chwiliadau safonol (awdurdod lleol, draenio a dŵr, amgylcheddol, a risgiau penodol i’r ardal fel mwyngloddio neu sialc), gwybodaeth am yr eiddo (e.e. fel honno a gesglir ar y ffurflen TA6), ac asesiad o gyflwr eiddo wedi’i deilwra i oedran yr eiddo a’r math o eiddo. Gellid sicrhau bod manylion ychwanegol ar gael hefyd, fel taliadau gwasanaeth, cydsyniadau cynllunio, perygl llifogydd, statws cadwyn, a chynllun llawr clir.
Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn archwilio opsiynau deddfwriaethol ar gyfer mynnu bod gwerthwyr yn casglu a darparu’r wybodaeth gynhwysfawr hon am eiddo, a bod asiantiaid eiddo’n ei chynnwys ym mhob rhestriad. Byddai hyn yn sicrhau cydymffurfedd ac yn rhoi mynediad at wybodaeth i brynwyr a allai effeithio ar eu penderfyniad. Byddai ymgynghoriadau’n cael eu cynnal cyn deddfu er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â’r broses yn elwa o’r newid hwn, sef yn benodol gwell effeithlonrwydd a llai o fethiannau.
Cydnabyddwn fod mentrau blaenorol, fel Pecynnau Gwybodaeth am Gartref, wedi wynebu heriau yn ymwneud ag ymddiriedaeth, dibynadwyedd, a hen wybodaeth. Byddai ein dull yn mynd i’r afael â’r materion hyn trwy gael gafael ar ddata o ffynonellau dibynadwy, wedi’i seilio ar safonau clir, a’i ddiweddaru, fel y bo angen. Fe allai’r dulliau ar gyfer gwneud hyn gynnwys manteisio ar ffynonellau amser real e.e. gan Gofrestrfa Tir EF, sesiynau gloywi am ddim gan ddarparwyr chwiliadau, a gosod cyfnodau dilysu safonol e.e. 6 mis ar gyfer chwiliadau. Byddai safon ofynnol ar gyfer tarddiad data yn sicrhau dibynadwyedd a chysondeb. Byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat safonedig, hawdd ei ddeall, gydag arweiniad ar atebolrwydd a dilysu i sicrhau bod data allweddol yn cael ei ddilysu’n broffesiynol, yn hytrach na’i fod yn dibynnu ar ddatganiadau’r gwerthwr yn unig.
Astudiaethau achos: Comisiynu chwiliadau eiddo ymlaen llaw
Mae Optimus Accelerate, sef gwasanaeth a ddarperir gan Grŵp Gwybodaeth Landmark, yn galluogi trefnu chwiliadau eiddo ar eiddo cyn gynted ag y bydd prynwr neu werthwr yn cyfarwyddo ei gynrychiolydd cyfreithiol, yn hytrach nag aros tan yn ddiweddarach yn y broses pan baratoir pecyn contract drafft.
Trwy ddwyn y cam hwn ymlaen, bydd y gwasanaeth yn lleihau’r amser a dreulir yn casglu gwybodaeth hanfodol am eiddo, yn cyflymu’r cyfnod o gyfarwyddo trawsgludwr i gwblhau gan bedair wythnos ar gyfartaledd, ac yn lleihau risg methiant trafodiadau.
Cwestiwn 7
A ydych chi’n cytuno y dylai fod gofyniad gorfodol ar werthwyr ac asiantiaid eiddo i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr ymlaen llaw?
Cwestiwn 8
A ydych chi’n cytuno y dylai hyn gynnwys gofyniad i drefnu chwiliadau eiddo a llunio adroddiad cyflwr eiddo?
Cwestiwn 9
Pa gamau y dylai’r llywodraeth eu cymryd i sicrhau bod cyfreithwyr trawsgludo, asiantiaid eiddo a syrfewyr yn meddu ar y capasiti a’r gallu i weithredu’r newid hwn?
Cwestiwn 10
Pa adnoddau a hyfforddiant ychwanegol fyddai’n angenrheidiol i weithredu’r newidiadau hyn?
Proffesiynoli asiantiaid eiddo
Mae asiantiaid eiddo’n allweddol i’r broses prynu a gwerthu cartrefi ac mae llawer ohonynt yn darparu gwasanaeth rhagorol. Fodd bynnag, mae gormod yn siomi defnyddwyr. O gymharu â gweithwyr eiddo proffesiynol eraill a safonau rhyngwladol, mae’r sector yn cael ei reoleiddio’n ysgafn. Mae hyn yn cyfrannu at sgorau isel o ran ymddiriedaeth y cyhoedd, gyda 37% o bobl yn unig yn mynegi ymddiriedaeth yn y proffesiwn (Mynegai Cywirdeb Ipsos MORI, Tachwedd 2024). Mae ymddiriedaeth isel, diffyg cymwysterau, ac absenoldeb safonau proffesiynol gofynnol yn cynyddu’r baich ar y diwydiant, gan greu gwaith cyfreithiol a gweinyddol ychwanegol i drawsgludwyr.
Cynigiwn gyflwyno Cod Ymarfer sy’n amlinellu’r safonau gofynnol a ddisgwylir gan bob asiant eiddo preswyl, gan gynnwys asiantiaid eiddo, gosod, a rheoli. Byddwn yn archwilio’r opsiynau cyflawni mwyaf effeithiol i gynyddu effaith y Cod i’r eithaf, ond disgwyliwn y byddai Safonau Masnach Cenedlaethol, y cynlluniau gwneud iawn, cyrff proffesiynol a’r llysoedd yn ei ddefnyddio i godi safonau.
Ar 4 Gorffennaf 2025, ymgynghorodd y llywodraeth ar gyflwyno cymwysterau gofynnol gorfodol ar gyfer asiantiaid rheoli eiddo lesddaliad, cyfunddaliad, a rhan o rydd-ddaliad, a rheolwyr ystad ystadau rhydd-ddaliad. Caeodd yr ymgynghoriad hwn ar 26 Medi, ac rydym yn dadansoddi’r ymatebion. Amlinellodd yr ymgynghoriad opsiwn a ffefrir i gyflwyno cymwysterau trwy benodi cyrff proffesiynol dynodedig gan y llywodraeth i weithredu’r gofynion cymwysterau, a gefnogir gan drefniadau gorfodi gan awdurdodau lleol. Bwriadwn ymestyn y model hwn i asiantiaid eiddo a gosod ac, fel cam cyntaf, gallem ymgynghori ar gymwysterau gorfodol ar gyfer y sectorau hyn. Bydd cyfnewidiadau, gan gynnwys yr effeithiau posibl ar ddefnyddwyr ac asiantiaid (e.e. costau), yn cael eu hasesu’n ofalus. Yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, cynigiwn ddeddfu ar gyfer cymwysterau gorfodol pan fydd cyfrwng deddfwriaethol addas ar gael ac ystyried deddfwriaeth i sicrhau y cydymffurfir â’r Cod Ymarfer. Ochr yn ochr â hyn, byddem yn gwella addysg i ddefnyddwyr fel bod y cyhoedd yn deall rolau asiantiaid ac yn gwybod at bwy i droi os bydd pethau’n mynd o chwith. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i sicrhau bod ei bwerau newydd o dan Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Defnyddwyr a Chystadleuaeth (2024) yn cefnogi safonau uchel yn y sector hwn. Byddai ymyriadau ychwanegol yn cael eu hystyried pe byddai eu hangen i godi safonau.
Astudiaethau achos: Asiantiaid eiddo yn Nenmarc
Yn Nenmarc, mae’n rhaid i asiantiaid eiddo gael eu cymeradwyo a’u cofrestru gan Awdurdod Busnes Denmarc (Erhvervsstyrelsen). I ymuno â’r gofrestr, mae’n rhaid iddynt feddu ar gymwysterau ffurfiol a gallu dangos cymhwysedd proffesiynol. Mae asiantiaid eiddo’n gyfrifol am baratoi adroddiad gwerthu, arolwg adeilad, arolwg trydan ac adroddiad ynni ar gyfer pob eiddo maen nhw’n ei werthu.
Cwestiwn 11
A ydych chi’n cytuno y dylem ymyrryd i godi safonau ymhlith asiantiaid eiddo a gwella ymddiriedaeth ynddynt?
Cwestiwn 12
A ydych chi’n cytuno â’n cynnig i gyflwyno Cod Ymarfer ar sail anstatudol, a deddfu i’w wneud yn statudol yn y dyfodol os bydd angen?
Cwestiwn 13
A ydych chi’n cytuno â’n cynnig i ymgynghori ar gymwysterau gorfodol ar gyfer asiantiaid eiddo a gosod?
Cwestiwn 14
A oes ymyriadau ychwanegol y credwch y dylai’r llywodraeth eu rhoi ar waith i godi safonau ymhlith asiantiaid eiddo?
Cwestiwn 15
A oes unrhyw feysydd eraill ar draws y sector asiantiaid eiddo y mae angen eu monitro neu eu rheoleiddio er mwyn gwella taith y cwsmer?
Llyfrau log a phecynnau eiddo digidol
Mae pecynnau eiddo digidol yn storio gwybodaeth gyfredol a hanesyddol am eiddo, gan roi rheolaeth i berchentywyr ar eu data a lleihau risg trafodiadau trwy ddilysu tarddiad. Mae hyn yn caniatáu i weithwyr eiddo proffesiynol symud ymlaen â thrafodiadau’n gyflymach a chyda mwy o hyder yn y wybodaeth a ddarparwyd. Mae pecynnau hefyd yn lleihau’r angen i berchentywyr gadw pentyrrau o ddogfennau papur.
Byddai defnydd helaeth o’r offer hyn yn safoni gwybodaeth ymlaen llaw am eiddo, gan leihau’r angen i drawsgludwyr gasglu’r wybodaeth hon o’r dechrau bob tro y caiff eiddo ei farchnata. Mewn rhai gwledydd, mae pecynnau neu lyfrau log digidol yn orfodol; er enghraifft, yn Ffrainc, maen nhw’n ofynnol ar gyfer pob eiddo a adeiledir o’r newydd.
Mae cartrefi a adeiledir o’r newydd yn cynnig cyfle clir i arwain y ffordd wrth fabwysiadu llyfrau log eiddo digidol a gwybodaeth ymlaen llaw. Mae datblygwyr eisoes yn dal data cynhwysfawr am eiddo, sy’n golygu ei bod yn syml darparu gwybodaeth safonedig, wedi’i dilysu o’r dechrau. Dyma un o’r rhesymau pam y gall fod yn gyflymach prynu eiddo a adeiledir o’r newydd. Byddai ymgorffori pecynnau eiddo digidol mewn trafodiadau adeiladu o’r newydd yn darparu gwerthiannau cyflymach a mwy sicr, yn gosod meincnod ar gyfer y farchnad ehangach, ac yn cefnogi uchelgais y llywodraeth o ddarparu 1.5 miliwn o gartrefi yn ystod cyfnod y senedd nesaf.
Cynigiwn y dylai pecynnau eiddo digidol ddod yn nodwedd safonol o drafodiadau eiddo yn y Deyrnas Unedig. I gyflawni hyn, rydym yn ceisio safbwyntiau ar b’un a ddylai’r llywodraeth ystyried deddfu i fynnu eu bod yn cael eu defnyddio. Cyn hynny, byddem yn gweithio gyda’r sector i’w annog i’w mabwysiadu, datblygu’r dull hunanreoleiddiol a sefydlwyd gan y Gymdeithas Llyfrau Log Preswyl, a dileu rhwystrau polisi rhag defnydd ehangach.
I gefnogi cysondeb a hyder defnyddwyr, byddem yn archwilio gorfodi set ddata graidd safonedig ar gyfer pob pecyn digidol, yn gysylltiedig â’r Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) a chofnodion y Gofrestrfa Tir. Mae’n rhaid i becynnau allu rhyngweithredu hefyd, gan integreiddio trwy Ryngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIau) â phlatfformau trawsgludo, systemau awdurdodau lleol, offer ôl-osod, a cheisiadau cynllunio i alluogi data byw a thrafodiadau di-dor.
O ystyried natur sensitif y data a ddelir yn y pecynnau hyn, bydd safonau diogelwch a phreifatrwydd data cadarn yn hanfodol. Byddem yn gweithio gyda’r diwydiant i sefydlu ac esblygu protocolau diogelwch a meini prawf cymeradwyo ar gyfer darparwyr.
Astudiaethau achos: Pecynnau eiddo digidol
Mae Moverly wedi datblygu platfform i helpu asiantiaid eiddo a gwerthwyr i gasglu’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen i werthu eu heiddo’n gyflym ac yn rhwydd.
Mae’r ap yn casglu data’n awtomatig o ystod o ffynonellau digidol i ddwyn gwybodaeth ynghyd am yr eiddo, gan gynnwys manylion y teitl, band treth gyngor, cysylltedd band eang lleol a mwy.
Mae’r wybodaeth hon yn ffurfio dechreuadau Pecyn Parod i Werthu Digidol, ac mae’n cael ei gwella ymhellach gan chwiliadau cyfreithiol, dogfennau teitl ychwanegol, gwybodaeth gyfreithiol ychwanegol am yr eiddo a gwybodaeth awtomataidd. Gellir rhannu hyn â phrynwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol i gyflymu a symleiddio’r broses werthu.
Cwestiwn 16
A ydych chi’n cytuno y dylai’r llywodraeth geisio cefnogi defnydd ehangach o lyfrau log a phecynnau eiddo digidol?
Cwestiwn 17
Os ydych, beth ydych chi’n credu fyddai’n ysgogi eu mabwysiadu’n ehangach? Sut gallai’r llywodraeth gefnogi hyn ac a ydych yn credu y gallai fod angen deddfwriaeth i gyflawni’r newid hwn?
Cwestiwn 18
Pa risgiau y byddai angen eu hystyried wrth greu a storio llyfrau log digidol?
Contractau amodol cyfrwymol
Ar hyn o bryd, gall prynwyr neu werthwyr dynnu’n ôl o drafodiad unrhyw bryd rhwng derbyn cynnig a chyfnewid contractau, a hynny’n aml er colled fawr i’r ochr arall. Gellir defnyddio contractau amodol i wneud trafodiadau’n gyfrwymol ar gam cynnar. Yn nodweddiadol, mae tynnu’n ôl ar ôl i gytundeb cyfrwymol gael ei lofnodi yn arwain at gosb ariannol, e.e. colli blaendal y prynwr. Yn y tymor hir, gallem archwilio p’un a allai mwy o ddefnydd o gytundebau cyfrwymol fod yn fuddiol i ddefnyddwyr. Byddai hyn yn gwneud ein system ni’n debycach i awdurdodaethau fel yr Alban a’r Unol Daleithiau, ac yn golygu y byddai trafodiadau’n llawer llai tebygol o fethu cyn cwblhau. Dim ond 9% o drafodiadau sy’n methu yn yr Alban, ac mae trafodiadau mwy cyfrwymol yn rhannol gyfrifol am hynny. Byddai angen i unrhyw ystyriaeth o ddefnydd ehangach yn y dyfodol ddod ar ôl cyflwyno gwybodaeth gynhwysfawr ymlaen llaw, gan na fyddai’n rhesymol mynnu bod prynwyr yn ymrwymo i drafodiad eiddo cyfrwymol o dan system lle nad oes gwybodaeth fanwl am eiddo ar gael iddynt.
Astudiaethau achos: Cytundebau cadw arloesol
Pan fydd eiddo’n cael ei restru trwy broses Securemove Redbrik, mae’r gwerthwr yn cyfarwyddo cyfreithiwr ac yn paratoi dogfennau cyfreithiol allweddol ymlaen llaw, fel bod gwybodaeth hanfodol yn barod i brynwyr o’r cychwyn cyntaf. Pan gytunir i werthu, mae’r prynwr yn llunio cytundeb cadw ac yn talu ffi nad yw’n ad-daladwy, sy’n sicrhau’r eiddo ac yn rhoi cyfnod cyfyngu iddo tra bod y gwerthiant yn symud ymlaen. Os bydd y prynwr yn tynnu’n ôl, cedwir y ffi, ond os bydd y gwerthwr yn tynnu’n ôl, fe’i had-delir yn llawn.
Mae’r dull hwn yn cynnwys gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn y broses ar yr adeg cyfarwyddo, yn lleihau oedi, ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r ddwy ochr.
Mae treialon wedi dangos bod hyn yn gallu lleihau cyfraddau methu hyd at 30% a helpu trafodiadau i gwblhau hyd at 33% yn gyflymach.
Cwestiwn 19
A ydych chi’n cytuno y dylai’r llywodraeth gefnogi dulliau i wneud trafodiadau eiddo’n fwy cyfrwymol ar gam cynharach?
Cwestiwn 20
Beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn, yn eich barn chi – rhoi cymhellion i asiantiaid eiddo gynnig hyn fel gwasanaeth; cynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr o gytundebau cyfrwymol; deddfu i fynnu eu bod yn cael eu defnyddio mewn trafodiadau eiddo, ac ati?
Cwestiwn 21
Beth fyddai’r costau neu’r cosbau priodol am fethu cydymffurfio â chontractau cyfrwymol?
Cwestiwn 22
A fyddai unrhyw eithriadau rhestredig, neu sefyllfaoedd penodol, ar gyfer peidio â chymhwyso contractau cyfrwymol?
Cynyddu addysg defnyddwyr a thryloywder
Ar hyn o bryd, prin yw’r cymorth sydd ar gael i ddefnyddwyr wrth ddewis gwasanaethau priodol ar gyfer prynu a gwerthu cartrefi. Gall y wybodaeth sydd ar gael fod yn llethol neu’n anodd ei deall, sy’n golygu nad yw defnyddwyr yn llwyr ddeall sut i asesu p’un a yw trawsgludwr neu asiant eiddo penodol yn cynnig y gwasanaeth iawn i’w hanghenion. Bwriadwn archwilio opsiynau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am asiantiaid eiddo a thrawsgludwyr, sy’n cynnwys pethau fel arbenigeddau proffesiynol (e.e. arbenigedd lleol; lesddaliad), perfformiad (e.e. cyflymder ac ansawdd y gwasanaeth) a phrosesau (e.e. a ydynt yn cefnogi arferion digidol fel darparu pecyn eiddo neu lyfr log digidol). Byddai hyn nid yn unig yn helpu defnyddwyr i ddewis y gwasanaethau priodol, ond hefyd yn rhoi cyfle i gymharu gwasanaethau trwy ffynhonnell ddibynadwy a sicrhau bod defnyddwyr yn talu pris teg. Dangoswyd bod gwasanaethau cymorth o’r fath sydd eisoes yn bodoli yn arbed £490 i ddefnyddwyr fesul trafodiad, ar gyfartaledd.
Mae gennym ddiddordeb mewn mesurau ychwanegol a allai gynorthwyo defnyddwyr i adnabod gwasanaethau o ansawdd da. Er enghraifft, fe allem gyhoeddi siarter sy’n amlinellu’r camau syml y gall gweithwyr eiddo proffesiynol a defnyddwyr eu dilyn i helpu trafodiadau i symud ymlaen yn effeithlon. Fe allai siarter gyfarwyddo gwerthwyr i gasglu gwybodaeth am eiddo ymlaen llaw, prynwyr i sicrhau eu bod yn deall eu sefyllfa ariannol cyn gwneud cynnig ar eiddo neu drawsgludwyr i rannu gwybodaeth yn brydlon â benthycwyr. Fe allai hyn gyd-fynd â system achredu sy’n dangos gwasanaethau proffesiynol sy’n dilyn egwyddorion y siarter fel bod defnyddwyr yn gallu adnabod gwasanaethau o ansawdd da.
Astudiaethau achos: Gwneud cynnydd trafodiadau’n fwy amlwg ar draws cadwyni
Mae seilwaith eiddo cenedlaethol ViewMyChain yn mapio’r trafodiadau cysylltiedig sy’n ffurfio cadwyn eiddo. Gall asiantiaid eiddo, trawsgludwyr a defnyddwyr weld sut mae trafodiadau unigol yn perthyn i’w gilydd, gyda diweddariadau awtomatig wrth i gynnydd neu newidiadau ddigwydd ar draws y gadwyn.
Mae’r amlygrwydd ehangach hwn yn golygu y gellir rhoi diweddariadau cyflymach a chliriach i gleientiaid ac yn tynnu sylw at oedi sy’n gofyn am weithredu neu ymyrryd. Mae datgelu strwythur a statws y gadwyn ehangach hefyd yn lleihau ansicrwydd, yn cefnogi cydlynu, ac yn helpu i gyflymu’r broses symud cartref.
Cwestiwn 23
A ydych chi’n cytuno y byddai cyhoeddi gwybodaeth am wasanaethau gweithwyr eiddo proffesiynol yn gwella prynu a gwerthu cartrefi trwy gefnogi dewis defnyddwyr ac ysgogi cystadleuaeth?
Cwestiwn 24
Pa wybodaeth fyddech chi eisiau iddi gael ei chynnwys mewn gwasanaeth o’r fath?
Cwestiwn 25
A ydych chi’n credu y byddai siarter, fel yr amlinellir uchod, yn ddefnyddiol wrth helpu defnyddwyr i adnabod gwasanaethau eiddo proffesiynol o ansawdd da?
Symleiddio trafodiadau
Mae rôl trawsgludwyr wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac, o ganlyniad, mae’r rhan hon o’r broses symud cartref yn cymryd llawer mwy o amser nag o’r blaen, sef 60% yn hirach yn 2025 nag yn 2007, ar gyfartaledd[troednodyn 7].
Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i reoliadau newyddach, fel y rhai sy’n gosod y fframwaith cyfreithiol ar gyfer Atal Gwyngalchu Arian, sy’n golygu bod defnyddwyr yn wynebu gwiriadau dyblygol gan drawsgludwyr, benthycwyr, asiantiaid eiddo a gweithwyr eiddo proffesiynol eraill yn ystod un trafodiad. Mae teitlau eiddo wedi dod yn gynyddol gymhleth hefyd, gyda materion fel eiddo rhydd-ddaliadol a reolir a thaliadau rhent ystad yn dod yn fwy cyffredin. Mae hyn yn ychwanegu’n uniongyrchol at lwyth gwaith trawsgludwyr, ond hefyd yn golygu bod gan fenthycwyr ofynion ychwanegol ar gyfer trawsgludwyr i reoli eu risg wrth fenthyca yn erbyn eiddo sydd â’r telerau hyn.
Bwriadwn symleiddio trawsgludo er mwyn sicrhau nad yw defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn wynebu oedi a dyblygu diangen. Awgrymwn ddechrau’r broses hon trwy symleiddio gwiriadau Atal Gwyngalchu Arian fel nad yw defnyddwyr yn wynebu gwiriadau niferus yn ystod un trafodiad. Fe allem hefyd archwilio cyfleoedd i gefnogi technoleg drawsgludo deallusrwydd artiffisial i arbed amser i drawsgludwyr.
Cwestiwn 26
A ydych chi’n cytuno y dylai gwiriadau Atal Gwyngalchu Arian gael eu symleiddio?
Cwestiwn 27
Sut gall y llywodraeth gefnogi’r broses o ddefnyddio technoleg drawsgludo deallusrwydd artiffisial yn fwyaf effeithiol?
Cwestiwn 28
Beth arall ydych chi’n credu y dylai’r llywodraeth ei wneud i symleiddio’r broses drawsgludo?
Y camau nesaf ar gyfer digidoleiddio
Rydym eisiau darparu system prynu a gwerthu cartrefi sy’n gwneud defnydd llawn o wybodaeth a phrosesau digidol i ddarparu profiad i gwsmeriaid sy’n addas i’r 21ain ganrif.
Rydym eisiau gweld technoleg arloesol sy’n manteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial, wedi’i seilio ar ddata sy’n gyson, yn ddibynadwy, ac yn gallu cael ei rannu ar draws y farchnad.
Byddwn yn ychwanegu at arloesedd a ddatblygwyd eisoes gan y sector technoleg prynu a gwerthu cartrefi, fel:
- Platfform digidol Coadjute, sy’n hwyluso rhannu data ac yn gwneud trafodiadau’n fwy tryloyw i ddefnyddwyr
- Technoleg deallusrwydd artiffisial Orbital ar gyfer cynnal diwydrwydd ar drafodiadau eiddo.
Bwriadwn hyrwyddo’r arloesedd hwn trwy ychwanegu at y camau rydym eisoes yn eu cymryd i wneud gwybodaeth allweddol am eiddo yn fwy hygyrch, gan sicrhau y gellir rhannu’r data hwn rhwng gweithwyr proffesiynol, a sbarduno’r broses o fabwysiadu gwasanaethau hunaniaeth ddigidol y gellir ymddiried ynddynt.
Yn benodol, fe allai hyn gynnwys:
- Cefnogi’r broses o weithredu set o safonau data ar gyfer llywodraethu data prynu a gwerthu cartrefi.
- Gweithio gyda’r sector i gefnogi’r broses o dreialu fframwaith ymddiried mewn data yn ymarferol i warantu tarddiad data.
- Ychwanegu at ganfyddiadau ein cynlluniau peilot data gydag awdurdodau lleol (a ddaw i ben yn 2026) i gyflawni marchnad chwiliadau eiddo gynaliadwy sy’n; darparu data dibynadwy, hygyrch am bris teg; sicrhau bod y rhai sy’n cyflenwi ac yn cynnal y data hwn yn gweithredu yn unol â safonau uchel yn rhan o system sy’n eu cynnal; a chaniatáu iddynt fuddsoddi yn eu data a’i wella.
- Yn unol â Strategaeth Ddiwydiannol Fodern y Llywodraeth, rydym yn ystyried y posibilrwydd o archwilio a sefydlu cynllun Data Deallus mewn perthynas â data prynu a gwerthu cartrefi, fel y gellir rhannu data’n ddiogel rhwng sefydliadau a thrydydd partïon dibynadwy ar gais y cwsmer.
- Galluogi defnyddio gwasanaethau dilysu digidol dibynadwy a fydd yn lleihau’r angen beichus i brynwyr a gwerthwyr brofi pwy ydynt sawl gwaith i sawl gweithiwr proffesiynol. Bydd hyn yn symleiddio’r broses prynu a gwerthu cartrefi trwy leihau dyblygu ac oedi ac yn sicrhau bod holl aelodau allweddol y farchnad, gan gynnwys trawsgludwyr a benthycwyr morgais, yn rhan o’r daith ddigidoleiddio. Rydym yn gweithio’n agos ar draws y llywodraeth ar wasanaethau ymddiriedaeth ac e-lofnodion. Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg alwad am safbwyntiau ar fabwysiadu gwasanaethau ymddiriedaeth, a ddaeth i ben ar 20 Medi 2025. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol oherwydd defnyddir Llofnodion Electronig Cymwys yn aml i alluogi trafodiadau eiddo.
- Parhau â’n gwaith gyda Grŵp Llywio’r Farchnad Eiddo Ddigidol i gyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg ddigidol ar draws y farchnad eiddo ar yr un pryd â sicrhau ei bod yn dryloyw, yn ddiogel ac yn addas i ddefnyddwyr. Mae’r Grŵp Llywio’n cynnwys 20 o gynrychiolwyr y diwydiant, cyrff rheoleiddiol ac adrannau’r llywodraeth.
Cefnogi’r broses o fabwysiadu Protocol Gwybodaeth Ddigidol am Eiddo Grŵp Llywio’r Farchnad Eiddo Ddigidol. Protocol ar-lein yw hwn a fydd yn disgrifio proses ddigidol ar gyfer prynu a gwerthu eiddo o’r dechrau i’r diwedd ac yn esbonio rolau a chyfrifoldebau pob proffesiwn ar bob cam. Bwriedir iddo annog mabwysiadu prosesau digidol a mynediad at ffynonellau data wedi’u digidoleiddio wrth iddynt ddod ar gael, er mwyn cyflymu’r broses prynu a gwerthu eiddo a darparu proses fwy tryloyw sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Cwestiwn 29
A ydych chi’n cytuno mai dyma’r cyfeiriad iawn?
Cwestiwn 30
A oes unrhyw beth arall y dylai’r llywodraeth fod yn ei wneud i hyrwyddo digidoleiddio’r sector eiddo?
Gwybodaeth Werthu Lesddaliad
Mae llawer o lesddeiliaid yn wynebu oedi parhaus a chostau uchel wrth geisio gwerthu eu heiddo. Ar hyn o bryd, mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth werthu hanfodol, ond, yn aml, prin yw’r cymhellion iddynt wneud hynny’n effeithlon. Yn wir, fe allent elwa o oedi’r broses, gan fod hynny’n caniatáu iddynt godi ffioedd uchel, nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, am becynnau gwybodaeth. Gall perchentywyr sy’n byw ar ystadau deiliadaeth breifat neu gymysg, sy’n cyfrannu at gynnal a chadw ardaloedd cymunedol, wynebu heriau tebyg wrth geisio cael gwybodaeth berthnasol gan eu rheolwr ystad.
Mae mesurau yn Neddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn ceisio cyflymu’r broses o ddarparu gwybodaeth i lesddeiliaid a pherchentywyr ar ystadau deiliadaeth breifat neu gymysg sy’n dymuno gwerthu eu heiddo, ac amddiffyn gwerthwyr rhag ffioedd afresymol pan fyddant yn gofyn am y wybodaeth hon.
Byddwn yn deddfu’r ddeddfwriaeth hon trwy:
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddiffinio a mireinio’r mesurau hyn ar y cyd
- Diffinio safonau clir ar gyfer cynnwys, graddfeydd amser, a chapiau ar ffioedd ceisiadau
- Cydlynu â thribiwnlysoedd a chynlluniau gwneud iawn er mwyn paratoi seilwaith gorfodi i sicrhau cydymffurfedd a gwneud iawn am oedi neu daliadau gormodol
- Cyhoeddi canllawiau i sicrhau tryloywder a chysondeb
- Deddfu’r ddeddfwriaeth, rhoi gwybod am ddyddiadau cychwyn, a sefydlu dulliau monitro i olrhain cydymffurfedd.
Effaith Gyffredinol y Cynigion
Byddai’r cynigion hyn yn cael effaith fawr ar ddefnyddwyr a gweithwyr proffesiynol, fel ei gilydd. Fe allai prynwyr ddisgwyl i drafodiadau symud tua phedair wythnos yn gyflymach, a methiannau leihau o 1 o bob 3 o drafodiadau i 1 o bob 7. Fe allai’r gyfradd fethu is hon arwain yn uniongyrchol at arbed tua £255m y flwyddyn i ddefnyddwyr, ar ben osgoi’r straen sy’n gysylltiedig â thrafodiadau sy’n methu. Disgwylir i werthwyr dreulio pythefnos yn llai ar drafodiad, ar gyfartaledd, gan roi llawer mwy o sicrwydd i aelwydydd a chefnogi hyder ehangach yn y farchnad.
Byddai defnyddwyr yn gweld buddion ariannol clir fesul trafodiad, hefyd. Disgwylir i brynwyr tro cyntaf arbed tua £710 fesul trafodiad, tra gallai pobl sy’n symud cartref arbed £400. Bydd gwerthwyr terfynol yn wynebu £310 o gostau uwch ymlaen llaw yn sgil cynnwys asesiadau ac arolygon ymlaen llaw. Fodd bynnag, byddant yn elwa yn y pen draw oherwydd bydd trafodiadau llwyddiannus yn fwy tebygol, gan fod gwerthwyr yn colli tua £800 ar hyn o bryd pan fydd trafodiad cyffredin yn methu.
Byddai gweithwyr proffesiynol ar draws y sector yn elwa o system fwy effeithlon a chystadleuol, hefyd. Disgwylir i gostau trawsgludo cyfartalog, sef tua £1,540 ar gyfer prynwyr a £930 ar gyfer gwerthwyr ar hyn o bryd, ostwng wrth i gystadleuaeth gynyddu, gyda chostau amrywiol yn lleihau £340 ar gyfer prynwyr a £250 ar gyfer gwerthwyr. Ar yr un pryd, bydd gwneud arolygon yn rhan arferol o’r broses yn cynyddu’r gwariant ar arolygon o £38 i £380 ar gyfartaledd, gan gynyddu costau sefydlog i werthwyr i oddeutu £710. Er bod hyn yn newid sut mae costau’n cael eu dosbarthu, bydd yn arwain at system fwy tryloyw, dibynadwy, ac effeithlon yn gyffredinol.
Dylid cydnabod ei bod yn anodd amcangyfrif effaith lawn y newid a ddaw yn sgil diwygiadau ar y raddfa hon o ystyried cymhlethdodau’r system prynu a gwerthu cartrefi. Mae newidiadau mewn un rhan o’r broses yn creu sgil-effeithiau ar draws y gadwyn, gan gynnwys yn y sector eiddo masnachol, sy’n dibynnu ar yr un mathau o ddata a systemau i raddau helaeth. Er hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf fod y buddion cyffredinol o ran cyflymder, sicrwydd, a hyder defnyddwyr, yn sylweddol drech na’r costau.
Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn
Cynlluniwyd y ddogfen ymgynghori a’r broses ymgynghori hon i gadw at yr Egwyddorion Ymgynghori a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet.
Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli a, lle bo’n berthnasol, pwy arall y maent wedi ymgynghori â nhw wrth ddod i’w casgliadau pan fyddant yn ymateb.
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth diogelu data’r DU). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn felly gynnwys data personol, lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Os ydych chi am i’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol fod yr Adran, fel awdurdod cyhoeddus, wedi’i rhwymo gan y cyfundrefnau mynediad at wybodaeth ac felly efallai y bydd yn ofynnol iddi ddatgelu’r holl wybodaeth neu rywfaint o’r wybodaeth a roddwch. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn cael cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr Adran.
Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn prosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedi’i gynnwys isod.
Ni fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir am hynny yn benodol.
Mae eich barn yn werthfawr i ni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb.
A ydych chi’n fodlon bod yr ymgynghoriad hwn wedi dilyn yr Egwyddorion Ymgynghori? Os nad ydych yn fodlon, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill am sut y gallwn wella’r broses, cysylltwch â ni drwy’r weithdrefn gwyno.
Data personol
Mae’r paragraffau canlynol yn egluro’ch hawliau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.
Noder bod yr adran hon yn cyfeirio at ddata personol yn unig (eich enw, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud yn bersonol â chi neu unigolyn arall a enwir neu sy’n adnabyddadwy), nid at gynnwys eich ymateb i’r ymgynghoriad fel arall.
1. Manylion y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data
Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yw’r rheolydd data. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk neu drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:
Data Protection Officer
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
2. Pam rydyn ni’n casglu eich data personol
Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu â chi ynghylch eich ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.
Byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP os byddwch yn cwblhau ymgynghoriad ar-lein. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn i sicrhau mai dim ond unwaith y bydd pob person yn cwblhau arolwg. Ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall.
Mathau sensitif o ddata personol
Peidiwch â rhannu data personol categori arbennig neu ddata troseddau os nad ydym wedi gofyn am hyn oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol at ddibenion eich ymateb i’r ymgynghoriad. Wrth gyfeirio at ‘ddata personol categori arbennig’ rydym yn golygu gwybodaeth am:
- hil
- tarddiad ethnig
- barn wleidyddol
- credoau crefyddol neu athronyddol
- aelodaeth undeb llafur
- geneteg
- biometreg
- iechyd (gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd)
- bywyd rhywiol; neu
- gyfeiriadedd rhywiol
unigolyn byw.
Wrth gyfeirio at ‘ddata troseddau’ rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau neu droseddau unigolyn byw neu fesurau diogelwch cysylltiedig.
3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol
Mae casglu eich data personol yn gyfreithlon o dan erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn i MHCLG gyflawni tasg er budd y cyhoedd/wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data. Mae Adran 8(d) Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y bydd hyn yn cynnwys prosesu data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth h.y. ymgynghoriad yn yr achos hwn.
4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol
Gall MHCLG benodi ‘prosesydd data’, yn gweithredu ar ran yr Adran ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y gwaith prosesu ar eich data personol yn parhau i fod yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.
5. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol, neu’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cyfnod cadw
Caiff eich data personol ei gadw am ddwy flynedd ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, oni bai ein bod yn canfod cyn hynny nad oes angen parhau i’w gadw.
6. Eich hawliau, e.e. cyrchu, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu
Eich data personol yw’r data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawliau canlynol:
a. gweld pa ddata sydd gennym amdanoch chi
b. gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data, ond i gadw cofnod ohono
c. gofyn i’ch data gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn
d. gwrthwynebu ein defnydd o’ch data personol o dan rai amgylchiadau
e. cyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol (ICO) os ydych yn meddwl nad ydym yn trin eich data yn deg neu’n unol â’r gyfraith. Gallwch gysylltu â’r ICO trwy https://ico.org.uk/, neu trwy ffonio 0303 123 1113.
Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol os hoffech arfer yr hawliau a restrir uchod, ac eithrio’r hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO: dataprotection@communities.gov.uk neu’r
Knowledge and Information Access Team
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
7. Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor
8. Ni fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd
9. Caiff eich data personol ei storio yn system TG ddiogel y llywodraeth
Rydym yn defnyddio prosesydd trydydd parti, Citizen Space, i gasglu ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel yn y DU. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted â phosibl, a chaiff ei storio yno am ddwy flynedd cyn ei ddileu.
-
Ystadegau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi – Property transactions in the UK. ↩
-
2023, y Comisiwn Geo-ofodol, Building Better Decision Making. ↩
-
2025, Grŵp Gwybodaeth Landmark, Transaction times rise despite slower market - research. ↩
-
Chwefror 2025, Grŵp Gwybodaeth Landmark, Transaction times rise despite slower market - research. ↩
-
2023, ymchwil TPX Impact ar gyfer y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, heb ei chyhoeddi. ↩
-
Roedd prosiect Optimus Move Landmark yn cynnwys trefnu chwiliadau’n gynnar. Mae Landmark wedi rhoi gwybod i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol fod trafodiadau yn y prosiect hwn 4 wythnos yn gyflymach na’r cyfartaledd. ↩
-
2025, Grŵp Gwybodaeth Landmark, Transaction times rise despite slower market - research. ↩