Diwygio Prynu a Gwerthu Cartrefi
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i fynd i’r afael â phroblemau hirsefydlog â’n system prynu a gwerthu cartrefi. Mae’r broses bresennol yn hir, yn gymhleth ac yn rhwystredig. Mae’n cymryd 120 o ddiwrnodau i gwblhau, ar gyfartaledd, ac mae 1 o bob 3 o drafodiadau yn methu.
Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyhoeddi map trywydd sy’n amlinellu sut bydd y llywodraeth yn trawsnewid prynu a gwerthu cartrefi yn ystod cyfnod y senedd hon.
Rydym eisiau sicrhau bod diwygiadau yn y dyfodol yn ymarferol, yn gallu cael eu gorfodi ac wedi’u llunio i bara, yn ogystal â sicrhau bod defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn hyderus y bydd y system yn newid mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy.
Croesawn safbwyntiau gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu a gwerthu cartrefi, yn enwedig gweithwyr eiddo proffesiynol sy’n ymwneud â phrynu a gwerthu cartrefi ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi profi’r broses naill ai fel prynwr neu werthwr.
Dogfennau
Ffyrdd o ymateb
or
E-bostio at:
homebuyingandselling@communities.gov.uk
Ysgrifennu at:
Home Buying and Selling Consultation,
Attn: Homeownership Division,
Fry Building,
2 Marsham Street,
Westminster,
London,
SW1P 4DF