Diwygio cewyll: gwaharddiad arfaethedig ar gadw ieir dodwy, cywennod ac ieir bridio mewn cewyll
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi am waharddiad arfaethedig ar gadw ieir dodwy, cywennod ac ieir bridio mewn cewyll.
Rydym ni’n cynnig diddymu’r defnydd o gewyll ‘nythfa’ wedi’u cyfoethogi yn raddol ar gyfer ieir dodwy ac unrhyw systemau cewyll eraill a ddefnyddir ar gyfer cywennod ac ieir bridioyn, a gwahardd parhau i ddefnyddio cewyll ‘batri’ confensiynol ar gyfer ceidwaid sydd â llai na 350 o adar.
Rydym hefyd eisiau casglu rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- effeithiau ar les anifeiliaid
- effeithiau ar y diwydiant