Defnyddio sganiau amsugniametreg pelydrau X egni-deuol (DEXA) at ddibenion anfeddygol fel arfer a gyfiawnheir
Cyhoeddwyd 1 Mai 2026
Cyflwyniad
O dan Reoliadau Cyfiawnhau Arferion sy’n ymwneud ag Ymbelydredd Ïoneiddio 2004 (JoPIIRR), mae’n rhaid cyfiawnhau unrhyw arfer sy’n cynnwys amlygu unigolion yn fwriadol i ymbelydredd ïoneiddio cyn y gellir ei gyflwyno yn gyfreithlon. Techneg ddelweddu sy’n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio i fesur dwysedd mwynol esgyrn yw amsugniametreg pelydrau X egni-deuol (a adnabyddir fel DXA neu DEXA). Mae’n offeryn meddygol a ddefnyddir yn eang i wneud diagnosis o osteoporosis ac osteopeniat a’u monitro, ac i asesu risg unigolyn o dorri esgyrn. Gellir defnyddio DEXA hefyd i asesu cyfansoddiad corff, gan gynnig gwybodaeth am y cyfrannau cymharol o fraster, asgwrn a chyhyr heb lawer o fraster o fewn llwybr meddygol.
Mae defnydd meddygol o DEXA yn cynnig budd clinigol eglur sy’n drech na’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymbelydredd dos isel. O’r herwydd, caniateir defnydd meddygol o DEXA o dan JoPIIRR. Rheoleiddir pob amlygiad meddygol sy’n cynnwys ymbelydredd ïoneiddio o dan Reoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (IR(ME)R) a Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) Gogledd Iwerddon 2018 (NI IR(ME)R).
Problemau a risgiau
Er bod DEXA wedi’i hen sefydlu fel arfer meddygol diogel, mae ei ddefnydd at ddibenion chwaraeon a lles cyffredinol yn gofyn am ystyriaeth ofalus. Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol bod rhai busnesau yn cynnig ar hyn o bryd, a bod eraill yn dymuno cynnig, sganiau DEXA yn fasnachol ar gyfer monitor cyfansoddiad corff anfeddygol, gan olrhain newidiadau i gyfran a dosbarthiad cyhyr heb lawer o fraster a meinwe braster. Mae rhai athletwyr elît a sefydliadau chwaraeon proffesiynol hefyd yn defnyddio DEXA i fonitro a llywio rhaglenni hyfforddi.
Mae’r defnydd o DEXA anfeddygol at ddibenion chwaraeon a lles cyffredinol wedi ei wahardd gan nad yw wedi ei gyfiawnhau o dan JoPIIRR. Fodd bynnag, fel y cadarnhawyd yng nghanllawiau JoPIIRR, caniateir archwiliadau DEXA a gyflawnir at ddibenion yswiriant neu gyfreithiol, lle nad oes unrhyw ddynodiad meddygol. At ddiben yr ymgynghoriad hwn, mae ‘DEXA anfeddygol’ yn cyfeirio’n benodol at sganiau DEXA a ddarperir at ddibenion chwaraeon a lles.
Gallai risgiau sylweddol sy’n gysylltiedig â defnydd anfeddygol o DEXA at ddibenion chwaraeon a lles gynnwys:
Amlygiad ailadroddus a dosio cronnol
Er bod DEXA yn defnyddio dos cymharol isel o ymbelydredd, o’i gymharu â thechnegau delweddu eraill, gallai amlygiad ailadroddus gyfrannu at berygl cynyddol bach o ganser dros amser.
Mwy o effaith ar grwpiau risg uwch
Mae tystiolaeth o amlygiad i ymbelydredd dos uwch yn dynodi bod risgiau canser o ymbelydredd yn uwch ymhlith plant ifanc a ffetysau sy’n datblygu.
Diffyg gwaith dilynol ar gyfer canfyddiadau atodol
Gallai gwasanaethau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles cyffredinol ganfod annormaleddau atodol, er enghraifft briwiau metastatig, toresgyrn fertebrol a chalcheiddiad pibellau. Heb oruchwyliaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol, ceir perygl y gallai canfyddiadau o’r fath gael eu methu neu na fydd camau dilynol priodol yn cael eu cymryd yn eu sgil.
Ansawdd a diogelwch gwasanaeth amrywiadwy
Mae risgiau cynyddol yn gysylltiedig â darparwyr masnachol sganiau DEXA anfeddygol na fyddant wedi’u trwyddedu ar hyn o bryd gyda rheoleiddiwr priodol gan nad yw’r arfer yn ddefnydd a gyfiawnheir o ymbelydredd ïoneiddio. Heb oruchwyliaeth gan reoleiddiwr, mae defnydd anfeddygol o DEXA at ddibenion chwaraeon a lles yn creu risgiau posibl yn ymwneud â hyfforddiant gweithredwyr, cynnal a chadw offer a chywirdeb dehongliadau. Gallai’r risgiau hyn arwain at wybodaeth gamarweiniol i ddefnyddwyr, gan gymell penderfyniadau ffordd o fyw neu hyfforddiant annoeth o bosibl.
Cyngor arbenigol
Yn 2019, gofynnodd y llywodraeth am gyngor arbenigol annibynnol ar ddefnydd anfeddygol o DEXA. Mewn ymateb, cyhoeddodd y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Ymbelydredd yn yr Amgylchedd(COMARE) Issues for sports performance assessment using DXA scans.
Fe wnaeth COMARE gynghori:
- y gellid cyfiawnhau DEXA ar gyfer asesu cyfansoddiad corff mewn chwaraeon ond y dylid ei ystyried yn rhan o raglen hyfforddi gydnabyddedig yn unig
- y dylai defnydd anfeddygol o DEXA ymgorffori cyfyngiadau ar amlder sganiau a chyfnodau gofynnol rhwng sganiau, gan gymryd gofal arbennig ar gyfer plant
- na ddylid defnyddio DEXA anfeddygol yn ymwybodol yn ystod beichiogrwydd - er bod perygl i’r ffetws yn isel iawn, byddai’r canlyniadau o werth cyfyngedig oherwydd newidiadau ffisiolegol yn ystod beichiogrwydd
- byddai angen i weithdrefnau cydsyniad DEXA anfeddygol nodi’n benodol sut y byddai canfyddiadau atodol yn cael eu trin, gan gynnwys atgyfeirio delweddau a chanlyniadau i feddyg meddygol
Cyfiawnhad
Cyn y gellir cyflwyno unrhyw ddosbarth neu fath o arfer newydd sy’n cynnwys ymbelydredd ïoneiddio yn y DU, mae’n rhaid i’r llywodraeth asesu gyntaf pa un a yw’r budd unigol neu gymdeithasol posibl yn drech na’r niwed i iechyd y gallai ei achosi. Cyfiawnhad yw enw’r broses hon.
Fel yr esbonnir yn JoPIIRR: guidance on their application and administration, diffinnir ‘arfer’ mewn deddfwriaeth fel ‘gweithgarwch dynol a all gynyddu amlygiad unigolion i ymbelydredd o ffynhonnell ymbelydredd’. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau o gynhyrchu pŵer niwclear i’r defnydd o ymbelydredd ïoneiddio ar gyfer diagnosis a thriniaeth meddygol a deintyddol.
Cyfiawnhau arfer
I allu cyfiawnhau arfer, mae’n rhaid iddo ddangos budd cyffredinol gan roi ystyriaeth:
- i’w ddiben a’i ganlyniadau disgwyliedig
- i risgiau posibl
- i’r boblogaeth a effeithir
- i’r dulliau amgen sydd ar gael
Pe bai defnydd anfeddygol o DEXA at ddibenion chwaraeon a lles yn cael ei gydnabod fel arfer a gyfiawnheir, byddai angen i fusnesau sy’n dymuno cynnig gwasanaethau anfeddygol gofrestru gyda’r rheoleiddiwr perthnasol a fyddai’n eu rheoleiddio o dan IR(ME)R. Mae IR(ME)R yn gorfodi rhwymedigaethau penodol ar gyfer ‘delweddau anfeddygol gan ddefnyddio offer radiolegol meddygol’. Mae rhwymedigaethau o dan IR(ME)R yn cynnwys:
- swyddogaethau eglur i ddeiliaid dyletswyddau (cyflogwr, atgyfeiriwr, ymarferwr, gweithredwr)
- hyfforddiant a chymhwysedd addas i bob deiliad dyletswydd
- offer radiolegol wedi’i gynnal a’i gadw’n dda
- amlygiadau i gael eu hoptimeiddio a’u cadw mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol
Rhesymeg dros ymgynghori
Gan adeiladu ar ganfyddiadau COMARE o 2019 a chydnabod y diddordeb cynyddol mewn defnydd anfeddygol o DEXA gan gyrff chwaraeon, clybiau ffitrwydd a chanolfannau iechyd, mae’r llywodraeth bellach o’r farn ei bod yn angenrheidiol gofyn am safbwyntiau ehangach ar ba un a ddylid cydnabod defnydd anfeddygol o DEXA fel arfer a gyfiawnheir a chyfreithlon.
Ers cyhoeddi adroddiad COMARE yn 2019, mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal a rheoleiddwyr eraill wedi adrodd galw cynyddol i ddefnyddio DEXA at ddibenion fel asesiad cyfansoddiad corff cyffredinol ac i gefnogi optimeiddiad perfformiad chwaraeon. I hysbysu penderfyniad ar gyfiawnhad, mae’n rhaid i’r llywodraeth bwyso a mesur yn gyntaf y risgiau iechyd posibl yn erbyn y buddion posibl. I wneud hyn, nod y llywodraeth yw casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau, gan gynnwys rhai darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr ac arbenigwyr gwyddonol.
Sut i ymateb
Ymatebwch drwy ein harolwg ar-lein.
Peidiwch â darparu data personol wrth ymateb i gwestiynau arolwg testun rhydd. Bydd unrhyw ddata personol sy’n cael eu cynnwys yn cael eu dileu cyn dadansoddiad o’r ymatebion hyn ac felly ni fyddant yn cael eu hystyried yng nghanlyniad yr ymgynghoriad.
Mae’r ymgynghoriad ar agor am 9 wythnos a bydd yn dod i ben am 11:59pm ar 3 Gorffennaf 2026. Os byddwch yn ymateb ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd eich ymateb yn cael ei ystyried.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost i environmental.hazards@dhsc.gov.uk. Peidiwch ag anfon eich atebion i’r ymgynghoriad nac unrhyw wybodaeth bersonol i’r cyfeiriad e-bost hwn.
Cwestiynau ymgynghori
Amdanoch chi
Cwestiynau i bawb
Ym mha rinwedd ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn?
- Unigolyn yn rhannu fy safbwyntiau a’m profiadau personol
- Unigolyn yn rhannu fy safbwyntiau proffesiynol
- Ar ran sefydliad
Cwestiynau i unigolion sy’n rhannu eu safbwyntiau personol neu broffesiynol
Faint yw eich oed?
- Dan 16
- 16 i 24
- 25 i 34
- 35 i 44
- 45 i 54
- 55 i 64
- 65 i 74
- 75 i 84
- 85 neu hŷn
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
A ydych chi’n weithiwr meddygol neu ofal iechyd proffesiynol?
- Ydw
- Nac ydw
Ble yn y DU ydych chi’n byw?
- Lloegr
- Yr Alban
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Rwy’n byw y tu allan i’r DU
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Os gwnaethoch chi ddweud ‘Lloegr’, ym mha ardal o Loegr ydych chi’n byw?
- Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Swydd Efrog a Humber
- Dwyrain Lloegr
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Llundain
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Cwestiwn i’r holl ymatebwyr
A oes gennych chi arbenigedd yn nefnyddiau meddygol ymbelydredd ïoneiddio? Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyfeiriwch at arbenigedd eich sefydliad.
- Oes
- Nac oes
Cwestiynau i bobl sy’n ymateb ar ran sefydliad
Pa fath o sefydliad ydych chi’n ymateb ar ei ran? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Busnes (er enghraifft, cyfleusterau iechyd a lles, campfeydd)
- Corff iechyd clinigol a phroffesiynol
- Darparwr perfformiad chwaraeon elît
- Sefydliad nid-er-elw
- Grŵp cleifion
- Rheoleiddiwr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Sefydliad ymchwil a/neu academaidd
- Cymdeithas fasnach
- Arall, nodwch
Ble mae eich sefydliad yn gweithredu neu’n darparu gwasanaethau? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Lloegr
- Yr Alban
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Y tu allan i’r DU
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Os gwnaethoch chi ddweud ‘Lloegr’, ble yn Lloegr mae eich sefydliad yn gweithredu neu’n darparu gwasanaethau? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Swydd Efrog a Humber
- Dwyrain Lloegr
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Llundain
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Lloegr gyfan
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Eich defnydd o sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol
Mae’r cwestiynau nesaf am ba un a ydych wedi darparu sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol. Gallai hyn gynnwys:
- asesiadau perfformiad chwaraeon
- monitro iechyd corfforol gan gynnwys asesiad colli pwysau a chyfansoddiad corff anfeddygol
- dibenion ffitrwydd cyffredinol
A ydych chi wedi darparu sganiau DEXA i unigolion at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol? (Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, a yw eich sefydliad yn cynnig sganiau DEXA i unigolion at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol?)
- Ydw
- Nac ydw
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
- Amherthnasol
Os gwnaethoch chi ddweud ‘nac ydw’ neu ‘Byddai’n well gen i beidio â dweud’, a oes gennych chi (neu a oes gan eich sefydliad neu fusnes) ddiddordeb mewn cynnig sganiau DEXA i unigolion at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol? Er enghraifft, ar gyfer asesiadau perfformiad chwaraeon neu asesiadau cyfansoddiad corff.
- Oes
- Nac oes
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Os gwnaethoch chi ddweud eich bod yn darparu sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol, ar gyfer beth ydych chi’n darparu sganiau DEXA anfeddygol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Asesu perfformiad chwaraeon
- Monitro iechyd corfforol, gan gynnwys colli pwysau anfeddygol
- Dibenion ffitrwydd cyffredinol
- Ymchwil
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
- Arall, nodwch
Mae’r cwestiwn nesaf am ba un a ydych chi’n bersonol wedi cael sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol. Gallai hyn gynnwys:
- asesiadau perfformiad chwaraeon
- monitro iechyd corfforol gan gynnwys asesiad colli pwysau a chyfansoddiad corff anfeddygol
- dibenion ffitrwydd cyffredinol
A ydych chi wedi cael sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol?
- Ydw
- Nac ydw
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
- Amherthnasol
Os gwnaethoch chi ddweud ‘nac ydw’ neu ‘Byddai’n well gen i beidio â dweud’, a oes gennych chi ddiddordeb mewn cael sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol?
- Oes
- Nac oes
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Os ydych chi wedi cael sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol, ar gyfer beth ydych chi wedi cael sganiau DEXA anfeddygol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Asesu perfformiad chwaraeon
- Monitro iechyd corfforol, gan gynnwys colli pwysau anfeddygol
- Dibenion ffitrwydd cyffredinol
- Ymchwil
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
- Arall, nodwch
Os ydych chi wedi cael sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol, tua faint o sganiau DEXA anfeddygol ydych chi wedi eu cael yn y 3 blynedd diwethaf?
- Dim sganiau
- 1 i 2 o sganiau
- 3 i 5 o sganiau
- 6 i 10 o sganiau
- Mwy na 10 o sganiau
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Eich safbwyntiau ar sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol?
Dylid caniatáu sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol ar gyfer athletwyr elît, er enghraifft i gefnogi eu rhaglen hyfforddi. Pan fyddwn yn dweud athletwr elît, rydym yn golygu unigolyn sy’n gwneud bywoliaeth o gystadlu mewn camp, sy’n gynrychiolydd uwch wedi’i enwebu gan gorff chwaraeon perthnasol, sy’n aelod o’r garfan hyfforddi uwch ar gyfer corff chwaraeon perthnasol neu sy’n 16 oed neu’n hŷn ac ar lwybr datblygu elît.
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Dylid caniatáu sganiau DEXA at unrhyw ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol. Mae hyn yn cynnwys monitro cyfansoddiad corff ar gyfer colli pwysau anfeddygol, ffitrwydd cyffredinol neu’n rhan o raglenni chwaraeon.
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
A ddylai fod cyfyngiadau oed ar sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol?
- Dylai
- Na ddylai
- Ddim yn gwybod
Os gwnaethoch chi ddweud ‘dylai’, i bwy ddylid cyfyngu sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol?
- Pobl 16 oed a hŷn
- Pobl 18 oed a hŷn
- Ddim yn gwybod
- Arall, nodwch
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau canlynol?
Dylai sganiau DEXA anfeddygol at ddibenion chwaraeon a lles eithrio unigolion y mae’n hysbys eu bod yn feichiog.
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Dylai fod cyfyngiad ar nifer y sganiau DEXA anfeddygol at ddibenion chwaraeon a lles y gall unigolyn eu cael bob blwyddyn.
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Byddai’n well gen i beidio â dweud
Os oes gennych unrhyw safbwyntiau pellach ar y defnydd o sganiau DEXA at ddibenion chwaraeon a lles anfeddygol yr hoffech eu rhannu, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau posibl na drafodwyd eisoes, nodwch nhw yma. (Dewisol, uchafswm o 200 o eiriau)
Hysbysiad preifatrwydd
Ni fyddwn yn casglu enwau a chyfeiriadau ymatebwyr unigol, ond byddwn yn gofyn i chi nodi pa gategori o ymatebwr ydych chi, er enghraifft, busnes sy’n darparu sganiau DEXA, rheoleiddiwr neu ddefnyddiwr o DEXA ar gyfer gwasanaethau asesu perfformiad chwaraeon. Byddwn hefyd yn gofyn ym mha ranbarth yr ydych chi’n byw. Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu cyhoeddi.
Efallai y bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn destun rhyddhad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Efallai y bydd achlysuron pan fydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu mewn ymateb i’r ymgynghoriad Gyda dadansoddwyr allanol. Mae hyn at ddibenion dadansoddi ymatebion i’r ymgynghoriad a darparu adroddiad ar y crynodeb o ymatebion yn unig. Bydd unrhyw ddyfyniadau o ymatebion sy’n cael eu cynnwys yn ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad yn ddienw.
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn prosesu data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Geirfa
Cyfansoddiad corff
Y canrannau o fraster, asgwrn, dŵr a chyhyr heb lawer o fraster yn y corff.
Dwysedd mwynol esgyrn
Y màs esgyrn mewn man diffiniedig wedi’i rannu gyda’r arwynebedd esgyrn yn yr un man, er enghraifft, gwddf y forddwyd.
Cydsyniad
Proses lle mae unigolyn yn rhoi caniatâd cyn iddo dderbyn unrhyw fath o driniaeth, prawf neu archwiliad.
Dos
Mesur o faint o ymbelydredd a dderbynnir.
Athletwr elît
Fel y diffinnir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Lloegr) (Diwygiad) (Rhif 3) 2020, y diffiniad o athletwr elît yw:
unigolyn sydd (1) yn gwneud bywoliaeth o gystadlu mewn camp, (2) yn gynrychiolydd uwch a enwebir gan gorff chwaraeon perthnasol, (3) yn aelod o’r garfan hyfforddi uwch ar gyfer corff chwaraeon perthnasol, neu (4) ar lwybr datblygiad elît.
Canfyddiad atodol
Canfyddiad sydd â phwysigrwydd iechyd neu atgynhyrchiol posibl nad yw’r unigolyn yn ymwybodol ohono, sy’n cael ei ddarganfod yn ystod archwiliad a gyflawnir am reswm cwbl wahanol.
Ymbelydredd ïoneiddio
Ymbelydredd sy’n ddigon grymus i dynnu electronau o atomau yn ei lwybr. Mewn amlygiadau dynol neu anifeiliaid, gall ymbelydredd ïoneiddio arwain at ffurfio gronynnau hynod adweithiol yn y corff a all achosi niwed i elfennau unigol o gelloedd a meinweoedd byw.
Cyfiawnhad
Ystyriaeth y bydd amlygiad meddygol yn dangos budd net digonol, gan bwyso a mesur cyfanswm y buddion diagnostig neu therapiwtig posibl y mae’n eu cynhyrchu i unigolyn a’r buddion i gymdeithas, yn erbyn y niwed unigol y gallai amlygiad ei achosi, gan gymryd i ystyriaeth effeithiolrwydd, buddion a risgiau technegau amgen sydd ar gael â’r un amcan ond yn golygu dim neu lai o amlygiad i ymbelydredd ïoneiddio.
Anfeddygol
Amlygu unigolyn yn fwriadol i ymbelydredd ïoneiddio gan ddefnyddio offer meddygol lle nad y prif fwriad yw dod â budd iechyd i’r unigolyn.
Osteoporosis
Cyflwr meddygol lle mae’r esgyrn yn troi’n frau ac yn fregus o golli meinwe, yn nodweddiadol o ganlyniad i newidiadau hormonaidd, neu ddiffyg calsiwm neu fitamin D.
Ffisiolegol
Yn ymwneud â ffisioleg. Swyddogaethau celloedd, meinweoedd, organau a systemau, a sut maent yn rhyngweithio i gynnal bywyd a chyflwr mewnol sefydlog.
Arfer
Gweithgaredd dynol a all gynyddu amlygiad unigolion i ymbelydredd o ffynhonnell ymbelydredd ac a reolir fel sefyllfa amlygiad a gynlluniwyd.
Atgyfeiriwr
Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â hawl yn unol â gweithdrefnau’r cyflogwr i atgyfeirio unigolion ar gyfer amlygiad meddygol o ymarferwr.
Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig
Unigolyn sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff y cyfeirir ato yn adran 25(3) Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2004 - er enghraifft, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.