Ymgynghoriad agored

Defnyddio sganiau amsugniametreg pelydrau X egni-deuol (DEXA) at ddibenion anfeddygol fel arfer a gyfiawnheir

Crynodeb

Rydym yn gofyn am safbwyntiau ar y defnydd posibl o sganiau DEXA y tu allan i lwybr gofal iechyd.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Nod yr ymgynghoriad hwn yw gofyn am safbwyntiau ar y defnydd posibl o sganiau DEXA at ddibenion anfeddygol, yn benodol:

  • a ddylid cyfiawnhau’r defnydd o DEXA at ddibenion anfeddygol ar gyfer athletwyr elît ac unigolion eraill sy’n monitro cyfansoddiad eu corff o dan raglenni ffitrwydd cyffredinol a chwaraeon
  • a ddylai ei ddefnydd eithrio plant, pobl ifanc ac unigolion y mae’n hysbys eu bod yn feichiog
  • a ddylai fod cyfyngiadau ar nifer y sganiau a gyflawnir gan unigolyn o fewn cyfnod amser penodedig

Gallai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymgymryd ag ymgysylltu wedi’i dargedu gyda chyrff perthnasol yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ran y llywodraethau datganoledig. Yn unol â hynny, mae’r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn parhau i ymgysylltu trwy gydol y cyfnod ymgynghori i sicrhau bod safbwyntiau pob un o’r 4 gwlad yn cael eu clywed. Bydd y llywodraethau datganoledig i gyd yn derbyn canfyddiadau o’r ymgynghoriad cyhoeddus i hysbysu penderfyniadau polisi i bob un o’r 4 gwlad.

See the English version.

Dogfennau

Ffyrdd o ymateb

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mai 2026

Argraffu'r dudalen hon