Skip to main content
Casgliad

Bwyd a Chi 2

Arolwg ystadegyn swyddogol blynyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau y mae pobl wedi’u hadrodd eu hunain mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion bwyd eraill.

Os ydych chi wedi cael llythyr yn eich gwahodd i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, ewch i wefan yr arolwg.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth yw Bwyd a Chi 2? 

Bwyd a Chi 2 yw arolwg ystadegyn swyddogol yr ASB y mae oedolion (16 oed neu hŷn) yn cyfrannu ato yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. 

Mae’r arolwg yn mesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau y mae pobl wedi’u hadrodd eu hunain o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill. 

Mae Bwyd a Chi yn defnyddio dull ‘gwthio-i’r-we’. Mae hyn yn golygu bod yr ymatebwyr, i ddechrau, yn cael llythyr drwy’r post yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein. Maen nhw hefyd yn gallu llenwi fersiwn bapur o’r holiadur. 

Caiff Bwyd a Chi 2 ei gynnal bob blwyddyn, ac mae cylch 11 (Mawrth 2026) yn nodi cylch cyntaf yr arolwg blynyddol ers newid o gylch casglu data ddwywaith y flwyddyn. Cyn y newid hwn, cafodd yr arolwg ei gynnal tua phob chwe mis o gylch 1 (Gorffennaf 2020) i gylch 10 (Medi 2025). 

Y pynciau sy’n cael eu cynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2 

Mae Bwyd a Chi 2 yn ymdrin â phynciau fel diogelwch bwyd yn y cartref, siopa am fwyd, bwyta allan a bwyd tecawê, diogelwch bwyd, pryderon ynghylch bwyd, ac ymddiriedaeth yn yr ASB a’r gadwyn cyflenwi bwyd. 

Yn ystod y gyfres flaenorol a oedd yn digwydd ddwywaith y flwyddyn (cylchoedd 1 i 10), roedd rhai cwestiynau’n cael eu gofyn ym mhob un cylch, tra bo eraill yn codi’n llai aml. Ar ôl newid i gasglu data’n flynyddol, cafodd yr holiadur ei safoni fel bod yr un cwestiynau’n codi ym mhob un cylch. 

Er bod llawer o’r un meysydd pwnc bras yn dal i godi yn yr arolwg blynyddol, mae rhai cwestiynau o’r gyfres flaenorol, a oedd yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, wedi’u tynnu’n ôl ac nid ydyn nhw’n rhan o’r arolwg mwyach. O ganlyniad, efallai na fydd mesurau penodol o fewn pwnc ar gael ar ôl cylch penodol.  

Cafodd rhai modiwlau eu tynnu’n ôl yn llwyr hefyd yn dilyn y newid i gasglu data’n flynyddol.  

Ewch i’r cylch perthnasol am restr lawn o’r cwestiynau sydd wedi’u cynnwys. 

Mae’r tabl canlynol yn rhoi rhestr o’r pynciau dan sylw a phryd cafodd y canfyddiadau ar bob pwnc eu cyhoeddi ddiwethaf: 

Modiwl Pynciau dan sylw Data diweddaraf sydd ar gael
Amdanoch chi a’ch cartref Dewisiadau deietegol.
Cyfrifoldebau siopa a choginio.
Gwybodaeth ddemograffig ac am y cartref.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Bwyd y gallwch ymddiried ynddo Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth ynddi.
Hyder yn niogelwch a dilysrwydd bwyd.
Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
Pryderon ynghylch bwyd sydd wedi’i gynhyrchu y tu mewn a’r tu allan i’r DU ac Iwerddon.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Diogeledd bwyd Pa mor gyffredin yw diffyg diogeledd bwyd (modiwl diogeledd bwyd yr USDA).
Defnyddio banciau bwyd a pha mor aml y bydd pobl yn eu defnyddio.
Defnyddio archfarchnadoedd cymdeithasol.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Siopa a labelu bwyd Ymddygiadau wrth brynu bwyd.
Defnyddio labeli bwyd a gwybodaeth am gynhyrchion wrth siopa.
Ystyriaethau deietegol wrth brynu bwyd.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Bwyta allan a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) Agweddau ac ymddygiadau wrth fwyta allan ac archebu tecawê.
Ymwybyddiaeth o’r CSHB a’r defnydd ohono.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Bwyta gartref Gwybodaeth am ddiogelwch bwyd ac ymddygiadau yn y cartref Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Gorsensitifrwydd i fwyd Pa mor gyffredin yw gorsensitifrwydd i fwyd, y math o orsensitifrwydd a’i ddifrifoldeb.
Hyder yn y broses o labelu alergenau.
Hyder wrth fwyta allan.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Bwyta’n iach (Gogledd Iwerddon yn unig) Bwyta’n iach.
Defnyddio fitaminau ac atchwanegiadau.
Defnyddio cynigion arbennig wrth siopa.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Dewisiadau bwyd Newidiadau i ddeiet am resymau iechyd.
Newidiadau i ddeiet am resymau cynaliadwyedd.
Agweddau tuag at gynaliadwyedd, effeithiau amgylcheddol, a lles anifeiliaid wrth siopa.
Bwyd a Chi 2: Cylch 11  
Materion sy’n dod i’r amlwg Defnyddio dewisiadau amgen i gig ac agweddau tuag atynt.
Ymwybyddiaeth o Dechnolegau Genetig a gwybodaeth amdanynt.
Bwyd a Chi 2: Cylch 9  
Pryderon ynghylch bwyd Pryderon ynghylch bwyd Bwyd a Chi 2: Cylch 9  

Cyhoeddiadau 

Adroddiadau Ystadegyn Swyddogol Bwyd a Chi 2 

Gallwch ddod o hyd i’r prif adroddiad, yr adroddiad technegol a’r data ar gyfer pob cylch drwy ddilyn y dolenni canlynol: 

Adroddiad technegol 

Adroddiad Technegol Bwyd a Chi 2 (pob cylch)

Adroddiadau dadansoddi eilaidd 

Tueddiadau Bwyd a Chi 2 

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) 

Adroddiadau gwledydd unigol 

Tablau data, set ddata, a chanllawiau i ddefnyddwyr data 

Data SPSS ac adnoddau’r arolwg (ar gael drwy Wasanaeth Data’r DU) 

Bwyd a Chi 2: o gylch 1 ymlaen

Cyhoeddiadau yn y dyfodol 

Adroddiad Dyddiad
Bwyd a Chi 2: Prif ganfyddiadau Cylch 12 Gwanwyn 2027

Manylion cyswllt 

Cysylltwch â thîm Bwyd a Chi 2 drwy anfon e-bost i foodandyou@food.gov.uk.

Ymchwil gysylltiedig

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Awst 2026