Astudiaeth achos

Trawsnewidiad gwerth £19 miliwn yng Ngwynedd

Bydd bron i £19 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn trawsnewid cymunedau yn nhirwedd llechi Treftadaeth y Byd Gwynedd.

Bydd y cyllid yn adeiladu ar Statws Treftadaeth y Byd a ddyfarnwyd i’r ardal ac i gefnogi pecyn o brosiectau ar gyfer yr Amgueddfa Lechi a’r ardal gyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Chymunedau:

Bydd gan lawer o deuluoedd lleol hynafiaid a weithiodd naill ai yn chwareli Eryri neu mewn diwydiannau cysylltiedig ac rydym yn falch y bydd eu hetifeddiaeth dosbarth gweithiol Cymraeg yn cael ei gwarchod, ei hyrwyddo a’i dathlu, diolch i Statws Treftadaeth y Byd UNESCO a’n bod yn gallu defnyddio’r dynodiad hwn fel sbardun i ddenu cyllid fel y Gronfa Ffyniant Bro.

Hwb Dinorwig – Amgueddfa Lechi Cymru

Bydd canolfan Safle Treftadaeth y Byd newydd yn cael ei chreu a fydd yn gwella’r profiad i ymwelwyr. Bydd Parc Padarn, sef y parc cyhoeddus o amgylch Amgueddfa Lechi Cymru yn cael ei ailddatblygu, hefyd.

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys:

  • mannau addysg ac arddangos gwell
  • ailbwrpasu adeiladau hanesyddol yn y parc

Bydd llwybrau cyhoeddus a mynediad i’r anabl hefyd yn cael eu gwella rhwng yr hwb a’r chwarel.

Ffyniant Bro Gwynedd

Yn ogystal ag ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a’r ardal gyfagos, mae cyllid Ffyniant Bro gwerth £18.8m ar gyfer Gwynedd hefyd yn cyfrannu at:

  • datblygu canolfan dreftadaeth newydd ym Methesda
  • gwneud gwelliannau i neuadd gyngerdd Bethesda, sef Neuadd Ogwen
  • creu llwybr cerdded a beicio newydd sy’n cysylltu Bethesda â Chwarel Penrhyn
  • gwneud gwelliannau mawr i ganol tref Blaenau Ffestiniog
  • adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd yn cysylltu Blaenau Ffestiniog â Chwarel Llechwedd

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, sef Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Lechi Cymru:

Rydym eisiau dathlu a defnyddio ein gorffennol diwydiannol i greu cyfleoedd newydd cyffrous er budd cymunedau a busnesau presennol yng Ngwynedd.

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023