Seithfed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Llywodraeth Agored: galw am dystiolaeth
Updated 8 April 2026
Cyflwyniad
Mae’r alwad yma am dystiolaeth yn ceisio mewnbwn i lywio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol nesaf y DU ar gyfer Llywodraeth Agored, ac fe’i cydlynir gan yr Uned Strategaeth Gwasanaeth Sifil o fewn Swyddfa’r Cabinet. Gwahoddir cyflwyniadau i nodi meysydd ffocws posibl ar gyfer y cynllun hwn.
Cefndir
Llywodraeth agored yw’r syniad syml bod llywodraethau a sefydliadau’n gweithio’n well i ddinasyddion pan fyddant yn dryloyw, yn atebol ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd.
Mae Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Llywodraeth Agored (NAPs) yn darparu canolbwynt ar gyfer ymrwymiadau uchelgeisiol i symud yr agenda llywodraeth agored ymlaen yn sylweddol, a thrwy wneud hynny byddant yn cyfrannu at gyflawni ein dyheadau o dan y Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd. Yn ogystal, mae ymdrechion llywodraeth agored hefyd yn digwydd y tu allan i’r broses NAP, ac mae llawer o ddatblygiadau’r gorffennol bellach wedi’u hymgorffori fel rhan arferol o’r llywodraeth.
Datblygu cynlluniau gweithredu
Datblygir NAPs drwy broses o gyd-greu rhwng cymdeithas sifil a’r llywodraeth. Maent yn nodi ymrwymiadau i wella tryloywder, atebolrwydd a chyfranogiad mewn llywodraeth.
Cydlynir cyfranogiad y llywodraeth gan Uned Strategaeth y Gwasanaeth Sifil, rhan o Swyddfa’r Cabinet, tra bod cyfranogiad cymdeithas sifil yn cael ei gydlynnu gan yr UK Open Government Civil Society Network (UK OGN). Maent yn gweithio gyda’i gilydd i oruchwylio’r NAP drwy’r UK Multi-Stakeholder Forum for Open Government (MSF).
Mae UK OGN yn gyfuniad o sefydliadau cymdeithas sifil a dinasyddion gweithredol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo mwy o dryloywder, cyfranogiad dinesig ac atebolrwydd mewn polisi cyhoeddus a darpariaeth o wasanaethau.
Cynlluniau gweithredu blaenorol a NAP7
Cyd-greodd a gweithredodd y DU chwe chynllun gweithredu rhwng 2011 a 2025, gydag ystod eang o ymrwymiadau ym mhob un. Gallwch weld yr ymrwymiadau ar dudalen casgliad Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Llywodraeth Agored.
Gallwch ddarganfod am y camau sy’n gysylltiedig â datblygu ymrwymiadau fel rhan o’r Seithfed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Agored (NAP7) yng nghanllawiau cyfranogi NAP7.
Mae’r cyfle cyntaf i gyd-greu ymrwymiadau unigol yn ystod NAP7 i fod o fis Mehefin 2026 ymlaen, gyda’r ymrwymiadau terfynol cychwynnol i’w cyhoeddi erbyn diwedd 2026.
Partneriaeth Llywodraeth Agored
Mae’r DU yn aelod o’r Open Government Partnership (OGP) ryngwladol, ac mae pob aelod ohoni’n datblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain. Gallwch weld ymrwymiadau pob gwlad sy’n aelod ar Ddangosfwrdd Data OGP, y gellir ei hidlo yn ôl lleoliad, meysydd polisi, a blwyddyn.
Cynulleidfa
Mae hon yn alwad agored am dystiolaeth gyda croeso i unrhyw un gyfrannu ati. Efallai y bydd o ddiddordeb mwyaf i unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i fod yn uchelgeisiol wrth ddiwygio llywodraeth agored, a/neu’r rhai sydd ag arbenigedd i helpu i lywio’r cyfnod darganfod hwn.
Bydd eich barn yn cael ei ystyried mewn dau gam:
- Helpu i nodi meysydd ffocws posibl
- Helpu i lywio trafodaeth y llywodraeth a chymdeithas sifil mewn cyfarfod o’r MSF ar ba feysydd ffocws i’w datblygu
Sut i gyflwyno eich tystiolaeth
Rydym yn gwahodd cyflwyniadau byr ar feysydd ffocws posibl ar gyfer NAP7. Gallwch wneud cyflwyniadau lluosog ar wahanol feysydd thematig neu bynciau, naill ai trwy ddarparu syniadau lluosog fesul cyflwyniad, neu drwy wneud mwy nag un cyflwyniad, gan ddefnyddio’r Ffurflen GOV.UK:
Rhaid i gyflwyniadau gael eu derbyn erbyn 10:00 am ddydd Llun 11eg Mai i gael eu cynnwys yn y dadansoddiad.
Yn seiliedig ar adborth o Gynlluniau Gweithredu Cenedlaethol blaenorol y DU ar gyfer Llywodraeth Agored, dylai pob syniad:
- ddim fod yn fwy na 250 gair o hyd
- ganolbwyntio/ffocysu ar un thema neu bwnc, pa bynnag mor eang neu gul
- Gallai ddangos a oes gennych chi, neu’r gymuned/sefydliad rydych yn ei gynrychioli, ddiddordeb mewn cyfrannu at gyd-greu ymrwymiad
Sylwch nad yw gwneud cyflwyniad i’r alwad hon am dystiolaeth yn gwarantu y bydd ymrwymiad cysylltiedig yn cael ei ddatblygu fel rhan o NAP7.
Dadansoddiad ac allbwn disgwyliedig
Bydd cyflwyniadau i’r alwad yma am dystiolaeth yn cael eu dadansoddi ochr yn ochr â gwaith allgymorth mewnol y llywodraeth i asesu’r potensial ar gyfer cyd-greu, a byddant hefyd yn cael eu llywio gan Grynodeb Cyd-greu’r Deyrnas Unedig 2026 gan OGP. Cyhoeddir canlyniad y dadansoddiad hwn ar dudalen yr alwad am dystiolaeth ar GOV.UK.
Bydd y potensial i ddatblygu ymrwymiad ar gyfer thema benodol yn cael ei asesu i weld a yw:
- Yn berthnasol i hyrwyddo un neu fwy o egwyddorion llywodraeth agored: tryloywder, atebolrwydd, a chyfranogiad mewn llywodraeth;
- Yn hyrwyddo diwygiadau uchelgeisiol sy’n ymestyn y llywodraeth y tu hwnt i’w chyflwr arfer presennol trwy gryfhau un neu fwy o egwyddorion llywodraeth agored;
- Mae gallu ac adnoddau yn y llywodraeth a chymdeithas sifil i alluogi cyd-greu ystyrlon i ddigwydd.
Bydd y dadansoddiad yn asesu syniadau yn erbyn y meini prawf hyn a bydd yn cael ei gyflwyno yn Fforwm Aml-Rhanddeiliaid nesaf y DU ar gyfer Llywodraeth Agored i’w ystyried.
Hysbysiad preifatrwydd
Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol, a’ch hawliau. Fe’i gwneir o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU).
Eich data
Diben
Y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol yw lansio galwad gyhoeddus am dystiolaeth i wahodd syniadau ar feysydd ffocws posibl ar gyfer Seithfed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Llywodraeth Agored (NAP7).
Mae Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Agored (NAP) yn hyrwyddo egwyddorion tryloywder, atebolrwydd, a chyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth. Fel aelod o’r Bartneriaeth Llywodraeth Agored ryngwladol (OGP), mae’r DU wedi ymrwymo i gyd-greu a gweithredu NAP7 mewn partneriaeth â chymdeithas sifil.
I gyflawni hyn rydym yn gwahodd aelodau’r cyhoedd, sefydliadau cymdeithas sifil, a chyrff eraill i ddarparu syniadau ar feysydd ffocws posibl. Gan y bydd y Syniadau a gyflwynir yn cael eu hasesu’n bennaf am botensial ar gyfer cyd-greu yn hytrach na datblygu polisïau unigol, anogir cyflwyniadau byr. Os bydd syniad ar gyfer ymrwymiad yn mynd ymlaen i gyd-greu yn dilyn yr alwad am dystiolaeth, efallai y bydd cyfleoedd i ddarparu mewnbwn mwy manwl yn ddiweddarach.
Fel rhan o hyn, bydd data personol yn cael ei gasglu’n uniongyrchol gan ymatebwyr trwy’r ffurflen ddigidol (GOV.UK Forms) a bydd yn cynnwys enwau, sefydliadau (os yn berthnasol), a chyfeiriadau e-bost.
Bydd y data hwn yn cael ei brosesu i lywio “cyfnod darganfod” NAP7. Mae hyn yn angenrheidiol i’n helpu i ddeall pwy sydd wedi ymateb ac, mewn rhai achosion, i gysylltu ag ymatebwyr i drafod eu syniadau. Dim ond gyda’r rhai sydd wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny y byddwn yn cysylltu â nhw neu’n rhannu data personol.
Byddwn yn cynnal dadansoddiad o allgymorth i asesu’r potensial ar gyfer cyd-greu a byddwn yn cynhyrchu adroddiad ar sail na ellir ei briodoli (sy’n golygu na fydd unrhyw unigolion yn cael eu henwi), a fydd yn cael ei gyhoeddi ar dudalen galwad am dystiolaeth GOV.UK.
Y data
Byddwn yn prosesu’r data personol canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Barn
- Arall: Enw’r sefydliad
Sail gyfreithiol y prosesu
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw lle mae’n angenrheidiol ar gyfer swyddogaeth gyhoeddus.
Derbynwyr
Gyda’ch caniatâd, byddwn yn rhannu eich data personol ag Adrannau eraill Llywodraeth Ei Fawrhydi, Llywodraethau Datganoledig, llywodraethau lleol, Rhwydwaith Cymdeithas Sifil Llywodraeth Agored y DU (UK OGN), y Bartneriaeth Llywodraeth Agored (OGP), Google a Gov Forms.
Cadw
Byddwn yn cadw eich data personol am lai nag 1 flwyddyn
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, ac i ofyn am gopi o’r data personol hwnnw.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gywiro unrhyw anghywirdebau yn eich data personol heb oedi.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn, gan gynnwys trwy ddatganiad atodol.
Mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu eich data personol os nad oes cyfiawnhad mwyach dros eu prosesu.
Mae gennych yr hawl mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle mae cywirdeb yn cael ei herio) i ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol
Trosglwyddiadau rhyngwladol
Gan fod eich data personol yn cael ei storio ar ein seilwaith TG Corfforaethol, a’i rannu gyda’n proseswyr data, gellir ei drosglwyddo a’i storio’n ddiogel y tu allan i’r DU. Lle bo hynny’n wir, bydd yn destun amddiffyniad cyfreithiol cyfatebol drwy benderfyniad digonolrwydd, dibynnu ar Gymalau Cytundebol Safonol, neu ddibynnu ar Gytundeb Trosglwyddo Data Rhyngwladol y DU.
Cwynion
Os ydych chi’n ystyried bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drin, gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF, neu 0303 123 1113, neu icocasework@ico.org.uk. Ni fydd unrhyw gŵyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhagfarnu eich hawl i geisio iawndal drwy’r llysoedd.
Manylion cyswllt
Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolwr data ar gyfer eich data personol. Manylion cyswllt y rheolwr data yw: Cabinet Office, 70 Whitehall, London, SW1A 2AS, neu 0207 276 1234, neu gallwch ddefnyddio’r ffurflen we hon.
Manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r rheolwr data yw: dpo@cabinetoffice.gov.uk.
Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro defnydd Swyddfa’r Cabinet o wybodaeth bersonol.