Gwneud cwyn am wasanaeth y Swyddfa Brisio
Cysylltwch â’r Swyddfa Brisio i wneud cwyn am y gwasanaeth ar gyfer Treth Gyngor, ardrethi busnes, llety gwyliau hunanddarpar neu Lwfans Tai Lleol a rhenti teg.
Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y mae modd i’r Swyddfa Brisio ystyried eich cwyn:
-
pan fyddwn wedi darparu gwasanaeth gwael
-
pan fyddwch wedi profi oedi afresymol
-
pan na fyddwn wedi gweithredu yn unol â’n siarter
-
pan na fyddwn wedi rhoi polisi ac arweiniad ar waith mewn ffordd deg a chyson
-
pan fyddwn wedi gwneud camgymeriad neu wedi rhoi cyngor camarweiniol neu annigonol
Darllenwch weithdrefnau’r Swyddfa Brisio ynglŷn â gwneud cwyn i ddysgu rhagor o wybodaeth.
Drwy e-bost neu drwy’r post
Anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch atom er mwyn gwneud cwyn am wasanaeth y mae’r Swyddfa Brisio wedi’i roi ynghylch y canlynol:
-
Treth Gyngor
-
ardrethi busnes
-
llety gwyliau hunanddarpar
-
Budd-dal Tai a Lwfansau Tai Lleol
-
rhenti teg
Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich cwyn:
-
eich enw, cyfeiriad gartref a’ch rhif ffôn
-
cyfeiriad yr eiddo dan sylw, os yw’n wahanol i’ch cyfeiriad gartref
-
unrhyw gyfeirnodau achosion
-
beth aeth o’i le a sut oedd hyn wedi effeithio arnoch
-
copïau o unrhyw ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r gŵyn
-
beth hoffech ei weld yn digwydd o ganlyniad i’ch cwyn
-
os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol
Anfonwch e-bost at y Swyddfa Brisio i wneud cwyn: valuationofficecomplaints@hmrc.gov.uk
Ysgrifennwch at y Swyddfa Brisio i wneud cwyn:
Swyddfa Brisio
Wycliffe House, Green Lane
Durham
DH1 3UW
Ffôn
Galwch i wneud cwyn am wasanaeth gan y Swyddfa Brisio ynghylch y canlynol:
-
Treth Gyngor
-
ardrethi busnes
-
llety gwyliau hunanddarpar
-
Budd-dal Tai a Lwfansau Tai Lleol
-
rhenti teg
Bydd angen unrhyw gyfeirnodau achosion arnoch sy’n ymwneud â’ch cwyn pan fyddwch yn galw.
Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol.
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Mawrth: 9am tan 4:30pm
Dydd Mercher: 10am tan 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener: 9am tan 4:30pm
Ar gau yn ystod gwyliau banc