Datgan nwyddau a thalu treth a tholl i dollau’r DU

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn cyn cyrraedd y DU er mwyn:

  • gwirio a oes angen i chi dalu treth neu doll ar unrhyw nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn
  • datgan nwyddau os ewch dros eich lwfansau
  • talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch

Gallwch wneud hyn unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.

Os byddwch yn datgan eich nwyddau ar-lein, bydd y doll dramor a’r doll ecséis yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau symlach.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
  • nifer neu gyfaint eich nwyddau
  • y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu gwneud neu eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE
  • eich rhif pasbort neu rif cerdyn adnabod yr UE
  • eich dyddiad ac amser cyrraedd
  • cerdyn credyd neu ddebyd os oes angen i chi dalu treth neu doll

Gallwch ddefnyddio’ch rhif trwydded yrru neu’ch rhif ffôn yn lle rhif pasbort os ydych yn teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) i Ogledd Iwerddon.

Datgan a thalu unrhyw dreth neu doll

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwneud datganiad tollau ar-lein
  • diweddaru datganiad tollau ar-lein
  • talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch cyn i chi gyrraedd y DU

Dechrau nawr

Ar ôl i chi ddatgan eich nwyddau

Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost, cewch e-bost mewn ymateb. Os na, gwnewch nodyn o’r cyfeirnod a roddir i chi.

Gall swyddogion tollau ofyn am yr e-bost mewn ymateb neu’r rhif cadarnhau wrth ffin y DU.

Gallwch ddefnyddio’r sianel werdd ‘dim i’w ddatgan’ wrth ddod i mewn i’r DU.

Os oes angen i chi ddatgan rhagor o nwyddau

Gallwch wneud newidiadau ar-lein ar ôl gwneud eich datganiad gwreiddiol.

I newid eich datganiad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod eich datganiad
  • union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
  • nifer yr eitemau neu gyfaint eich nwyddau
  • y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth

Ffoniwch y llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis
Ffôn: 0300 200 3705
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:30 - 17:00
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Gwneud cais am ad-daliad

Llenwch ffurflen C82 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi talu gormod o dreth neu doll ac mae angen i chi wneud cais am ad-daliad. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

E-bostiwch CThEF os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn fformat arall: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk