Teithio rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Mae’r rheolau yn dibynnu a ydych yn teithio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon neu o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.

Teithio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Os ydych yn teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) i Ogledd Iwerddon, nid oes angen i chi ddatgan eich nwyddau os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn breswylydd yn y DU
  • rydych eisoes wedi talu TAW a tholl ecséis (alcohol a thybaco yn unig) ar y nwyddau ym Mhrydain Fawr

Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddatgan eich nwyddau os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn breswylydd yn y DU
  • rydych yn mynd ag alcohol neu dybaco i mewn dros eich lwfansau ar gyfer Gogledd Iwerddon ac ni thalwyd toll ecséis arnynt ym Mhrydain Fawr
  • rydych yn mynd â nwyddau i mewn sy’n werth mwy na £390 ac nid ydych wedi talu TAW arnynt ym Mhrydain Fawr

Gwirio a oes angen i chi ddatgan eich nwyddau.

Os ydych yn mynd â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr

Bydd yn rhaid i chi ddatgan y cerbyd os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn mynd â fe i Ogledd Iwerddon yn barhaol – er enghraifft, rydych yn byw yna ac rydych yn mynd â’r cerbyd yn ôl gyda chi
  • gwnaethoch ei brynu ym Mhrydain Fawr at eich defnydd eich hun neu i’w roi fel rhodd
  • mae gwerth y cerbyd, ynghyd ag unrhyw nwyddau eraill rydych yn dod â nhw, dros £390
  • mae eisoes wedi’i gofrestru â DVLA
  • nid ydych wedi talu TAW arno ym Mhrydain Fawr – er enghraifft, fe brynoch y cerbyd gan berson neu werthwr nad yw wedi cofrestru ar gyfer TAW

Teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Os ydych yn teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) nid oes rhaid i chi ddatgan unrhyw nwyddau.

Bydd angen i chi dalu TAW Mewnforio ar unrhyw nwyddau rydych yn eu prynu yng Ngogledd Iwerddon o siopau sy’n cynnig siopa di-dreth o dan y Cynllun TAW ar gyfer Allforio Nwyddau Manwerthu.