Cyrraedd Gogledd Iwerddon

Mae’r rheolau a’ch lwfansau ar gyfer Gogledd Iwerddon yn dibynnu a ydych yn teithio o’r Undeb Ewropeaidd (yn agor tudalen Saesneg) (yr UE) neu wlad arall.

Teithio o un o wledydd yr UE

Nid oes angen i chi ddatgan na thalu treth na tholl ar unrhyw nwyddau y dewch â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE cyn belled â’ch bod yn gwneud y canlynol:

  • eich bod yn eu cludo eich hun

  • byddwch yn eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

  • rydych wedi talu treth a tholl yn y wlad lle roeddech wedi’u prynu

Os ydych yn dod â nwyddau o’r Ynysoedd Dedwydd, gogledd Cyprus, Gibraltar neu Ynysoedd y Sianel, bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer gwledydd y tu allan i’r UE.

Gwiriadau tollau

Os yw swyddog tollau o’r farn eich bod, o bosibl, yn dod â nwyddau i mewn i’w gwerthu, gall wirio’ch nwyddau a gofyn cwestiynau i ddarganfod a yw’r nwyddau at ddefnydd personol.

Mae’r rheolau hyn yr un fath ag yr oeddent cyn 1 Ionawr 2021.

Er nad oes unrhyw derfynau i’r alcohol a’r tybaco y gallwch ddod â nhw i mewn o wledydd yr UE, mae’n fwy tebygol y gofynnir cwestiynau i chi os oes gennych fwy na’r symiau canlynol.

Math o nwyddau Swm
Sigaréts 800
Sigarau 200
Sigarilos 400
Tybaco 1kg
Darnau o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco 800
Cwrw 110 litr
Gwin 90 litr
Gwirodydd 10 litr
Gwin cadarn (er enghraifft sieri, port) 20 litr

Teithio o’r tu allan i’r UE

Mae’ch lwfansau personol yn golygu y gallwch ddod â faint penodol o nwyddau i mewn heb dalu treth na tholl.

Pan fyddwch yn dod â nwyddau i mewn, mae’n rhaid:

  • eich bod yn eu cludo eich hun

  • eich bod yn eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

Os ewch dros eich lwfansau, mae’n rhaid i chi ddatgan eich holl nwyddau a thalu treth a tholl ar yr holl nwyddau yn y categori hwnnw.

Er enghraifft, os byddwch yn dod â 200 sigarét a 50 sigâr i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y sigaréts a’r sigarau gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans yn y categori tybaco. Neu os byddwch yn dod â 5 litr o win i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y cyfan gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans 4 litr am win.

Ni allwch gyfuno’ch lwfans personol â neb arall.

Os ewch dros eich lwfansau, mae’n rhaid i chi ddatgan eich nwyddau ar-lein cyn i chi deithio neu wrth y ffin pan gyrhaeddwch. Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu os na fyddwch yn eu datgan.

Lwfans alcohol

Mae faint y gallwch ddod ag ef i mewn yn dibynnu ar y math o alcohol. Gallwch ddod â’r ddau beth canlynol i mewn:

  • cwrw - 16 litr
  • gwin (llonydd) - 4 litr

Gallwch hefyd ddod â’r naill neu’r llall o’r canlynol i mewn:

  • gwirodydd dros 22% o alcohol - 1 litr
  • diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol (heb gynnwys cwrw na gwin llonydd) - 2 litr

Diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol, yn cynnwys:

  • gwin pefriog
  • gwin cadarn (er enghraifft port, sieri)
  • seidr

Gallwch rannu’r lwfans olaf hwn. Er enghraifft, gallwch ddod â hanner litr o wirodydd a 1 litr o win cadarn (a’r naill neu’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Lwfans tybaco

Gallwch ddod ag un o’r canlynol i mewn:

  • 200 sigarét
  • 100 sigarilo
  • 50 sigâr
  • 250g o dybaco
  • 200 darn o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco

Gallwch rannu’r lwfans hwn – gallech ddod â 100 sigarét a 25 sigâr i mewn (a’r naill neu’r llall yn hanner o’ch lwfans yr un).

Lwfansau alcohol a thybaco os ydych o dan 17 oed

Nid oes unrhyw lwfansau personol ar gyfer tybaco nac alcohol os ydych o dan 17 oed. Gallwch ddod ag alcohol a thybaco i’r DU at eich defnydd eich hun, ond mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl arnynt cyn i chi gyrraedd y DU.

Lwfans ar gyfer nwyddau eraill

Gallwch ddod â nwyddau eraill gwerth hyd at £390 (neu hyd at £270 os byddwch yn cyrraedd mewn cwch neu awyren breifat).

Os ewch dros eich lwfans, rydych yn talu treth a tholl ar gyfanswm gwerth y nwyddau, nid dim ond y gwerth dros eich lwfans.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu toll dramor os ewch dros eich lwfans.

TAW mewnforio

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio ar gyfanswm y nwyddau ynghyd ag unrhyw doll. Rydych yn talu TAW ar gyfradd TAW gyfredol y DU (yn agor tudalen Saesneg).