Cyrraedd Prydain Fawr

Os ydych yn teithio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) o’r tu allan i’r DU, y gallwch ddod â swm penodol o nwyddau i mewn heb dalu treth na tholl arnynt. Yr enw ar hyn yw ‘eich lwfans personol’.

Pan fyddwch yn dod â nwyddau i mewn, mae’n rhaid:

  • eich bod yn eu cludo eich hun
  • i chi eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

Os byddwch yn mynd dros eich lwfans personol

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu os na fyddwch yn eu datgan.

Ni allwch gyfuno’ch lwfans personol ag unrhyw un arall.

Lwfans alcohol

Mae faint y gallwch ddod ag ef i mewn yn dibynnu ar y math o alcohol. Gallwch ddod â’r ddau beth canlynol i mewn:

  • cwrw - 42 litr
  • gwin (llonydd) - 18 litr

Gallwch hefyd ddod â’r naill neu’r llall o’r canlynol i mewn:

  • gwirodydd dros 22% o alcohol - 4 litr
  • diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol (heb gynnwys cwrw na gwin llonydd) - 9 litr

Mae diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol yn cynnwys y canlynol:

  • gwin pefriog
  • gwin cadarn (er enghraifft port, sieri)
  • seidr

Gallwch rannu’r lwfans olaf hwn. Er enghraifft, gallech ddod â 2 litr o wirodydd a 4.5 litr o win cadarn (a’r naill a’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Enghraifft

Os byddwch yn dod â 19 litr o win i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y cyfan gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans 18 litr am win

Lwfans tybaco

Gallwch ddod ag un o’r canlynol i mewn:

  • 200 sigarét
  • 100 sigarilo
  • 50 sigâr
  • 250g o dybaco
  • 200 darn o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco

Gallwch rannu’r lwfans hwn – gallech ddod â 100 sigarét a 25 sigâr i mewn (a’r naill a’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Enghraifft

Os byddwch yn dod â 200 sigarét a 50 sigâr i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y sigaréts a’r sigarau gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans yn y categori tybaco

Lwfansau alcohol a thybaco os ydych o dan 17 oed

Nid oes unrhyw lwfansau personol ar gyfer tybaco nac alcohol os ydych o dan 17 oed. Gallwch ddod ag alcohol a thybaco i’r DU at eich defnydd eich hun, ond mae’n rhaid i chi eu datgan cyn i chi gyrraedd y DU.

Lwfans ar gyfer nwyddau eraill

Gallwch ddod â nwyddau eraill gwerth hyd at £390 (neu hyd at £270 os byddwch yn cyrraedd mewn cwch neu awyren breifat).

Os ewch dros eich lwfans, byddwch yn talu treth a tholl ar gyfanswm gwerth y nwyddau, nid dim ond y gwerth dros y lwfans.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio a tholl dramor os ewch dros eich lwfans.

TAW mewnforio

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio ar gyfanswm gwerth y nwyddau ynghyd ag unrhyw doll. Byddwch yn talu hwn ar gyfradd TAW gyfredol y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Datgan nwyddau a wneir neu a gynhyrchir yn yr UE

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dreth na tholl ar nwyddau personol rydych yn dod â nhw i mewn i Brydain Fawr, cyn belled â’u bod o fewn eich lwfansau personol.

Os yw’r nwyddau dros eich lwfansau, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • eu datgan
  • talu unrhyw doll dramor sy’n ddyledus
  • talu unrhyw doll ecséis sy’n ddyledus (am dybaco neu alcohol)
  • talu unrhyw TAW mewnforio sy’n ddyledus

Pan fyddwch yn datgan eich nwyddau, mae angen i chi ddatgan pob eitem a brynoch. Pan fyddwch yn datgan eich eitemau, efallai na fydd angen i chi dalu toll dramor ar eitemau lle mae’r canlynol i gyd yn wir:

  • cawsant eu tyfu neu eu gwneud yn yr UE gan ddefnyddio cynhwysion neu ddeunyddiau o’r UE yn unig
  • gwnaethoch eu prynu yn yr UE
  • rydych yn dod â nhw i mewn o un o wledydd yr UE

Os yw’r rhain yn wir, gallwch hawlio toll dramor ar gyfradd sero ar gyfer pob eitem. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • meddu ar dystiolaeth bod y rhain yn wir am bob eitem rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn amdani
  • gallu dangos y dystiolaeth hon os bydd swyddog Llu’r Ffiniau yn gofyn amdani

Mae lefel y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar gyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn ar eu cyfer.

Os yw cyfanswm y gwerth yn llai na £1,000

Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan yn llai na £1,000, gall y dystiolaeth ar gyfer pob eitem fod ar ffurf:

  • label neu becyn yn dangos iddi gael ei thyfu neu ei gwneud yn yr UE
  • tystiolaeth iddi gael ei gwneud â llaw neu ei thyfu yn yr UE (er enghraifft, dogfen neu nodyn ysgrifenedig gan y person neu’r busnes y gwnaethoch ei phrynu oddi wrtho)

Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw doll dramor sydd arnoch.

Os yw cyfanswm y gwerth dros £1,000

Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £1,000, gallwch hawlio toll dramor ar gyfradd sero os gallwch brofi bod pob eitem wedi’i thyfu neu ei gwneud yn yr UE.

Gallai’r dystiolaeth hon fod yn anfoneb neu’n ddogfen gan y person neu’r busnes y gwnaethoch brynu’r eitemau oddi wrtho, sy’n cynnwys:

  • yr eitem rydych yn ei phrynu
  • ble a’r dyddiad y gwnaethoch ei phrynu
  • ‘datganiad tarddiad’

Mae’r ‘datganiad tarddiad’ yn eiriad ffurfiol gan y person neu’r busnes y gwnaethoch brynu’r eitemau oddi wrtho sy’n cadarnhau’r canlynol:

  • roedd y deunydd a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem yn dod o’r UE
  • ei rif allforiwr cofrestredig (os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £5,500)

Gallech hefyd brofi eich bod yn gwybod sut y gwnaed yr eitemau yn yr UE drwy ddefnyddio dogfennau neu gofnodion sy’n dangos bod yr eitem yn bodloni’r rheolau o ran tarddiad. Mae adran ‘gwybodaeth y mewnforiwr’ o’r canllaw tystiolaeth o darddiad (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i wneud hyn. Mae hyn yn berthnasol os byddwch yn dod â’r eitemau hyn i mewn (eu mewnforio) naill ai at ddefnydd personol neu at ddefnydd masnachol.

Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw doll dramor sydd arnoch.