Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr
Pryd mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhaid i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn 10 diwrnod os:
- gofynnir i chi sefydlu gorchymyn didynnu o enillion (DEO) ar gyfer rhywun nad yw’n gweithio i chi
- mae problem wrth sefydlu DEO gweithiwr
- mae eich gweithiwr yn gadael eich cyflogaeth
- mae eich busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu
Sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Gallwch naill ai:
- defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar-lein
- ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
2012scheme.employerservice@dwp.gov.uk
Ffôn: 0800 232 1961
Ffôn testun: 18001 0800 171 2345
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Llinell Gymorth Gymraeg: 0800 232 1979
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4pm
Dysgwch fwy am gostau galwadau