Diweddaru eich amserlen dalu

Byddwch yn cael amserlen dalu fisol drwy’r post ar ôl i chi gael gorchymyn didynnu o enillion (DEO)

Bydd yn dweud wrthych chi am eich holl weithwyr sydd â Gorchymyn Didynnu o Enillion a’r swm sy’n ddyledus ar gyfer pob gweithiwr. 

Rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os na allwch anfon y swm didyniad llawn. 

Rhaid i chi gynnwys faint rydych chi wedi’i ddidynnu a pham nad ydych chi wedi gallu didynnu’r swm llawn. 

Sut i anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru 

Gallwch ddiweddaru eich amserlen dalu ar-lein

Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen a gawsoch yn y post a’i hanfon neu ei hanfon drwy e-bost at Dîm Taliadau Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. 

$C  Tîm Taliadau Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\  2012scheme.employerservice@dwp.gov.uk  $C 

 
Child Maintenance Service Employer Payment Team 
Child Maintenance Service 21 
Mail Handling Site A 
Wolverhampton 
WV98 2BU