Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr
Gwneud taliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO)
Anfonwch daliadau gorchymyn didynnu o enillion (DEO) i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted ag y byddwch yn gwneud didyniad.
Os na allwch wneud y didyniad llawn, rhaid i chi anfon amserlen dalu wedi’i diweddaru i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant drwy’r post neu ar-lein.
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda DEO, anfonwch bob taliad ar wahân.
Gallwch gael dirwy o £500 am bob taliad a fethwyd a hyd at £1,000 am beidio â darparu gwybodaeth y gofynnwyd i chi amdani.%
Talu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Gallwch dalu drwy:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
- ffonio Tîm Talu Cyflogwyr y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- defnyddio System Glirio Awtomataidd y Banciau (Bacs), Taliadau Cyflymach neu drosglwyddiad CHAPS
- anfon siec i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Gallwch reoli eich taliadau Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar-lein. Mae angen i chi gysylltu â Thîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gofrestru.
Talu dros y ffôn
Ffoniwch Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
$C Tîm Talu Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\ Ffôn: 0800 232 1961 Ffôn testun: 18001 0800 171 2345 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm Dysgwch am gostau galwadau $C
Talu drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPS
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc naill ai drwy Bacs, Taliadau Cyflymach neu CHAPS.
Dylech ddefnyddio:
- cod didoli: 60 70 80
- rhif cyfrif: 10026584
- enw cyfrif: DWPCMGEMPLOYER
- cod cyfrif: 0
- cod trafodiad: 99
Bydd angen i chi roi rhif Yswiriant Gwladol y gweithiwr fel y cyfeirnod.
Talu drwy siec
Anfonwch siec yn daladwy i ‘Child Maintenance Service’.
$A Child Maintenance Service 21 Mail Handling Site A Wolverhampton WV98 2BU $A
Rhaid i’r siec:
- gyd-fynd â’r swm ar yr amserlen dalu
- cynnwys rhif cyfeirnod eich cyflogwr ar y cefn - mae hwn yn rhif 12 digid sy’n dechrau gyda 5
- cynnwys rhif Yswiriant Gwladol eich gweithiwr ar y cefn
Os oes gennych fwy nag un gweithiwr gyda Gorchymyn Diddymu Enillion, anfonwch gopi o’ch amserlen dalu gyda’r siec.
Os oes angen help arnoch gyda thaliad
Gallwch naill ai:
- rheoli eich taliadau Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar-lein
- ffonio Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
$C Tîm Taliadau Cyflogwyr Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant\ Ffôn: 0800 232 1961 Ffôn testun: 18001 0800 171 2345 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm [Dysgwch am gostau galwadau](/ ](/call-charges) $C
Dywedwch wrth eich gweithiwr
Rhaid i chi ddweud wrth eich gweithiwr yn ysgrifenedig am bob didyniad pan fyddwch chi’n rhoi eu slip cyflog iddyn nhw. Cynhwyswch a ydych chi wedi cymryd costau gweinyddol o £1.