Gwneud didyniadau cynhaliaeth plant o gyflog gweithiwr
Beth sy'n cyfrif fel enillion
Dim ond o enillion net gweithiwr y gellir gwneud gorchymyn didyniad o enillion (DEO).
Wrth gyfrifo swm DEO, mae enillion net yn golygu enillion ar ôl didynnu:
- Treth Incwm
- Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
- cyfraniadau pensiwn neu bensiwn
Gallwch wneud didyniad o’r enillion canlynol:
- cyflogau, ffioedd, bonws, comisiwn, tâl goramser neu unrhyw daliadau ar ben cyflogau
- pensiynau preifat neu alwedigaethol a thaliadau iawndal
- Tâl Salwch Statudol
- tâl salwch cytundebol
- tâl mamolaeth cytundebol
- tâl tadolaeth cytundebol
- tâl mabwysiadu cytundebol
- tâl diswyddo cytundebol
Tâl statudol yw arian y mae gan eich gweithwyr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Tâl cytundebol yw’r hyn rydych chi’n cytuno arno gyda’ch gweithwyr yn ogystal â thâl statudol.
Beth nad yw’n cyfrif fel enillion
Ni allwch wneud didyniad o unrhyw un o’r canlynol:
-
symiau a delir gan adran gyhoeddus o lywodraeth Gogledd Iwerddon neu unrhyw wlad y tu allan i’r DU
- unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal nawdd cymdeithasol
- credydau treth
- unrhyw bensiwn neu lwfans a delir am anabledd
- pensiwn lleiaf gwarantedig o fewn Deddf Pensiynau Nawdd Cymdeithasol 1975
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Tadolaeth Statudol
- Tâl Mabwysiadu Statudol
- Tâl Diswyddo Statudol
Os mai unrhyw un o’r taliadau hyn yw unig incwm eich gweithiwr, peidiwch â gwneud didyniad. Dylech ddiweddaru eich amserlen dalu.