Tâl ac Absenoldeb Mamolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra a thystiolaeth o feichiogrwydd

Ni fydd rhai cyflogeion yn gymwys am absenoldeb a thâl.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion fodloni’r canlynol:

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Mae’n rhaid i gyflogeion fodloni’r canlynol:

  • maent ar eich cyflogres yn yr ‘wythnos gymwys’ – y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni
  • maent yn rhoi’r rhybudd cywir i chi
  • maent yn rhoi tystiolaeth i chi eu bod yn feichiog
  • maent wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos gymwys
  • maent yn ennill o leiaf £123 yr wythnos (gros) dros ‘gyfnod perthnasol’ o 8 wythnos

Os yw’ch cyflogai fel arfer yn ennill £123 neu fwy’r wythnos ar gyfartaledd, a gwnaeth ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd ei bod yn cael ei thalu ond ddim yn gweithio (‘ar ffyrlo’) o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gall fod yn gymwys o hyd.

Defnyddiwch y gyfrifiannell tâl mamolaeth i wirio cymhwystra cyflogai ac i gyfrifo’i chyfnod perthnasol, ei chyfnod rhybudd a’i thâl mamolaeth statudol.

Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai sefyllfaoedd (er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu os yw’r babi’n cael ei eni cyn yr wythnos gymwys).

Tystiolaeth o feichiogrwydd

Mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth o feichiogrwydd cyn i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol. Fel rheol, llythyr gan y meddyg neu dystysgrif mamolaeth (a elwir yn dystysgrif MATB1) yw hyn. Mae bydwragedd a meddygon fel arfer yn anfon y rhain 20 wythnos hyn cyn y dyddiad disgwyl.

Dylai’r cyflogai roi tystiolaeth i chi cyn pen 21 diwrnod o ddyddiad dechrau’r Tâl Mamolaeth Statudol. Gallwch gytuno i’w derbyn yn nes ymlaen os ydych eisiau gwneud hynny. Nid oes rhaid i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol os nad ydych wedi cael tystiolaeth o’r dyddiad disgwyl 13 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r Tâl Mamolaeth Statudol.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth o feichiogrwydd.

Efallai y bydd cyflogeion nad oes ganddynt hawl i Dâl Mamolaeth Statudol yn gallu cael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.