Tâl ac Absenoldeb Mamolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EM (CThEM), gan gynnwys:

  • tystiolaeth o feichiogrwydd – fel arfer nodyn gan feddyg neu dystysgrif MATB1 (mae llungopi’n iawn)
  • y dyddiad y dechreuodd Tâl Mamolaeth Statudol
  • eich taliadau Tâl Mamolaeth Statudol (gan gynnwys dyddiadau)
  • y Tâl Mamolaeth Statudol rydych wedi’i adennill
  • unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu a pham

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi, er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SMP2 neu drwy gadw’ch cofnodion eich hun.