Tâl ac Absenoldeb Mamolaeth Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfnod Rhybudd

Nid oes rhaid i rybudd fod yn ysgrifenedig oni bai’ch bod yn gofyn amdano.

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

O leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir i’r babi ddod, mae’n rhaid i’ch cyflogeion ddweud wrthych y dyddiad:

  • y disgwylir i’r babi gael ei eni
  • y maent am ddechrau eu habsenoldeb mamolaeth – gallant newid hyn gyda 28 diwrnod o rybudd

Wedyn, mae’n rhaid i chi gadarnhau eu dyddiadau dechrau a dod i ben yr absenoldeb yn ysgrifenedig cyn pen 28 diwrnod.

Gall cyflogeion newid eu dyddiad dychwelyd i’r gwaith os ydynt yn rhoi 8 wythnos o rybudd.

Ni allwch wrthod absenoldeb mamolaeth na newid faint o absenoldeb y mae’ch cyflogeion am ei gymryd.

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Mae’n rhaid i’ch cyflogai roi 28 diwrnod o rybudd i chi o’r dyddiad y mae am ddechrau ei Thâl Mamolaeth Statudol. Mae hyn, fel arfer, yr un dyddiad y mae am ddechrau ei habsenoldeb.

Gallwch wrthod talu Tâl Mamolaeth Statudol os na fydd eich cyflogai’n rhoi’r rhybudd hwn i chi ac nad yw’n rhoi esgus rhesymol i chi.