Cwynion Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych am gwyno am y gwasanaeth a gawsoch, camgymeriadau y mae’r swyddfa wedi’u gwneud neu am oedi afresymol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Sut i gwyno

Gallwch wneud y canlynol:

  • cwyno ar-lein gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth - os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi wneud eich cwyn
  • ffonio neu ysgrifennu i’r Swyddfa Budd-dal Plant - fel arfer ymdrinnir â chwynion dros y ffôn yn gyflymach

Os ydych yn ysgrifennu, dylech gynnwys y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn
  • manylion beth ddigwyddodd a pha bryd
  • unrhyw gyfeirnodau a roddwyd i chi
  • sut yr hoffech i ni ddelio â’ch cŵyn
  • y gair ‘cŵyn’ wedi’i nodi ar frig eich llythyr

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant fel arfer yn ateb cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Os ydych yn anfodlon â’r ateb

Gofynnwch i’r Swyddfa Budd-dal Plant adolygu eu hymateb - bydd eu llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.

Os nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad terfynol, gallwch gysylltu â’r Dyfarnwr Annibynnol.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch AS (yn agor tudalen Saesneg) a gofyn iddo/iddi anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n bosibl y gallwch hawlio costau rhesymol (er enghraifft, costau postio neu am alwadau ffôn) os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfaddef iddynt wneud camgymeriad - gofynnwch iddynt am fanylion.