Ystyr y llythrennau

Mae’r llythrennau sy’n rhan o god treth y cyflogai yn cyfeirio at ei sefyllfa a sut mae’n effeithio ar ei Lwfans Personol.

Cod Sut mae treth yn cael ei didynnu Pryd y defnyddir y cod hwn fel arfer
0T O bob incwm - does dim Lwfans Personol Pan nad yw’r cyflogai wedi rhoi P45 i chi, na digon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi cael ei ddefnyddio
BR O bob incwm ar y gyfradd sylfaenol Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
C O incwm yn haenau treth Cymru Ar gyfer cyflogai y mae ei brif gartref yng Nghymru
C0T O bob incwm – does dim Lwfans Personol Pan nad yw cyflogai, y mae ei brif gartref yng Nghymru, wedi rhoi P45 i chi, neu ddigon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi’i ddefnyddio
CBR O bob incwm ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
CD0 O bob incwm ar y gyfradd uwch yng Nghymru Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
CD1 O bob incwm ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
D0 Ar gyfer pob incwm ar y gyfradd uwch Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
D1 O bob incwm ar y gyfradd ychwanegol Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
L Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol gan ddibynnu ar swm yr incwm trethadwy Ar gyfer cyflogai sydd â’r hawl i gael y Lwfans Personol safonol rhydd o dreth
M Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol gan ddibynnu ar swm yr incwm trethadwy Ar gyfer cyflogai y mae ei briod neu’i bartner sifil wedi trosglwyddo rhywfaint o’i Lwfans Personol iddo
N Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol gan ddibynnu ar swm yr incwm trethadwy Ar gyfer cyflogai sydd wedi trosglwyddo cyfran o’i Lwfans Personol i’w briod neu ei bartner sifil
NT Ni ddidynnir treth Achosion penodol iawn, er enghraifft cerddorion yr ystyrir eu bod yn hunangyflogedig ac nad ydynt yn agored i TWE
S Ar y cyfraddau yn yr Alban Ar gyfer cyflogai y mae ei brif gartref yn yr Alban.
S0T O bob incwm - does dim Lwfans Personol Pan nad yw’r cyflogai sydd â’i brif gartref yn yr Alban wedi rhoi P45 i chi, na digon o fanylion i gyfrifo’i god treth, neu pan fo’i Lwfans Personol eisoes wedi cael ei ddefnyddio
SBR O’r holl incwm ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
SD0 O’r holl incwm ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
SD1 O’r holl incwm ar y gyfradd uwch yn yr Alban Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
SD2 O’r holl incwm ar y gyfradd uchaf yn yr Alban Ar gyfer ail swydd neu bensiwn
T Ar gyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol gan ddibynnu ar swm yr incwm trethadwy Pan fo angen i CThEM wirio rhai eitemau gyda’r cyflogai

Os oes ‘W1’ neu ‘M1’ i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai

Codau treth dros dro yw W1 (wythnos 1) a M1 (mis 1) sydd i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai, er enghraifft ‘577L W1’ neu ‘577L M1’. Cyfrifwch dreth eich cyflogai dim ond ar y swm y telir iddo yn y cyfnod cyflog presennol, nid y flwyddyn gyfan.

Codau treth sydd â’r llythyren ‘K’

Defnyddir y llythyren K yng nghod treth y cyflogai pan fydd didyniadau sy’n ddyledus ar gyfer buddiannau cwmni, pensiwn y wladwriaeth, neu dreth sy’n ddyledus o flynyddoedd blaenorol, yn fwy na’i Lwfans Personol.

Lluoswch y rhif yn ei god treth â 10 i ddangos y swm y dylid ei ychwanegu at ei incwm trethadwy cyn y cyfrifir y didyniadau.

Enghraifft Mae gan gyflogai sydd â’r cod treth K475 a chyflog o £27,000 incwm trethadwy o £31,750 (£27,000 a £4,750).

Ni all y didyniad treth ar gyfer unrhyw gyfnod cyflog fod yn fwy na hanner cyflog neu bensiwn y cyflogai, cyn treth.