Deall codau treth eich cyflogeion

Neidio i gynnwys y canllaw

Diweddaru ar gyfer y flwyddyn dreth newydd

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhoi gwybod i chi rhwng mis Ionawr a mis Mawrth am unrhyw godau treth newydd i’w defnyddio ar gyfer eich cyflogeion yn y flwyddyn dreth newydd. 6 Ebrill yw dechrau’r flwyddyn dreth.

Os nad yw cod treth y cyflogai’n newid, ni fydd CThEM yn cysylltu â chi a dylech gario cod treth y cyflogai ymlaen i’r flwyddyn dreth newydd.

Os oes ‘M1’ neu ‘W1’ (‘mis 1’ neu ‘wythnos 1’) i’w gweld ar ddiwedd cod treth y cyflogai, peidiwch â chario’r rhan hon o’r cod treth ymlaen i’r flwyddyn dreth newydd.