Canllawiau

Gwneud cais am ad-daliad o dreth ar gyfraniadau drwy ddefnyddio Elusennau Ar-lein

Gwybodaeth ynglŷn â sut i gyflwyno cais am ad-daliadau o dreth drwy ddefnyddio ffurflenni a chronfeydd data ar-lein.

Gall eich elusen, clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC), enwebai, asiantaeth gasglu neu asiant awdurdodedig ddefnyddio Elusennau Ar-lein er mwyn gwneud cais am ad-daliadau treth ar gyfer:

Unigolyn neu sefydliad yw enwebai yr ydych yn eu hawdurdod i gyflwyno Rhodd Cymorth neu unrhyw geisiadau eraill am ad-daliad o dreth ar eich rhan.

Mae enwebai yn unigolyn neu’n sefydliad a awdurdodir gennych i gyflwyno ceisiadau Rhodd Cymorth neu unrhyw geisiadau eraill am ad-daliad o dreth ar eich rhan. Mae asiantaeth gasglu yn derbyn rhoddion i’ch elusen a datganiadau Rhodd Cymorth drwy gyfrwng ei gwefan. Bydd yr asiantaeth yn gwneud cais am Rodd Cymorth y mae’n derbyn ar gyfer eich elusen ar roddion cymwys, ar eich rhan.

Asiant awdurdodedig yw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan, ee, eich cyfrifydd, asiant treth neu ymgynghorydd treth.

Cofrestru ar gyfer Elusennau Ar-lein

Er mwyn gwneud cais drwy ddefnyddio Elusennau Ar-lein, bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif Gwasanaeth Ar-lein CThEM drwy ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair.

Os nad oes gennych gyfrif, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar-lein.

Er mwyn cofrestru ar gyfer cyfrif Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM (CThEM) bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Ewch i Hafan Gwasanaethau Ar-lein CThEM, dewiswch yr opsiwn ‘Cymraeg’ a dewiswch ‘Cofrestru’.
  2. Dewiswch ‘Ymuno â Gwasanaethau Ar-lein CThEM’.
  3. Dewiswch ‘sefyfdliad’, sy’n mynd â chi i’r dudalen ‘Defnyddiwr newydd’.
  4. Dewiswch ‘elusennau’ ac ewch i’r dudalen nesaf.

Yna, bydd rhaid i chi roi’r manylion canlynol ar gyfer eich elusen neu CChAC:

  • Cod post
  • Cyfeirnod Adran Elusennau CThEM (hyd at 5 rhif, sy’n dechrau gydag 1 neu 2 lythyren)
  • Eich rhif ar gyfer cyfrif y cwsmer (ychwanegwch sero i’r dechrau os yw’n 9 digid) neu 4 digid olaf rhif eich cyfrif banc os oedd CThEM wedi cydnabod eich bod yn elusen neu’n CChAC cyn mis Ebrill 2013

Unwaith eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau a rhoi eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, bydd yn rhaid i chi greu cyfrinair. Mae’n rhaid bod eich cyfrinair yn cynnwys rhwng 8 a 12 o gymeriadau (llythrennau a rhifau) ac ni all gynnwys y gair ‘password’.

Yna fe welwch rif Dynodydd Defnyddiwr (ID) unigryw, 12 digid, ar y sgrin a gofynnir i chi roi manylion eich elusen hefyd.

Dylech wneud nodyn o’ch rhif Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn ogystal â’ch cyfrinair, a’u cadw’n ddiogel. Bydd eu hangen nhw arnoch er mwyn cyrchu Gwasanaethau Ar-lein CThEM.

Cychwyn eich cyfrif Elusennau Ar-lein

Unwaith eich bod wedi cofrestru, bydd Porth y Llywodraeth yn anfon cod cychwyn Elusennau Ar-lein atoch drwy’r post. Dylai hwn gymryd oddeutu wythnos i’ch cyrraedd. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cod hwn o fewn 28 diwrnod.

Mewngofnodwch i Wasanaethau Ar-lein CThEM drwy ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair, a byddwch yn gweld ‘Elusennau’ wedi ei restru fel un o’r ‘gwasanaethau y gallwch eu defnyddio’. Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Dewis ‘cychwyn y gwasanaeth’.
  2. Nodi eich cod cychwyn ar gyfer Elusennau Ar-lein.
  3. Dewis ‘cychwyn’.

Os ydych wedi mewngofnodi ar gyfer defnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM yn y gorffennol, dangosir y dyddiad a’r amser pan wnaethoch fewngofnodi ddiwethaf.

Os yw’r dyddiad a’r amser a ddangosir yn anghywir, dylech roi gwybod i CThEM ynglŷn â hyn ar unwaith drwy ddewis ‘diogelwch ar-lein’ a dilyn y camau a ddangosir.

Gwneud cais

Er mwyn cyrchu Elusennau Ar-lein a dechrau gwneud cais am ad-daliad, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif Elusennau Ar-lein a mynd i’r dudalen ‘Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio’.

O’r fan honno, dewiswch ‘cyrchu gwasanaeth’ (ger ‘Elusennau’) yna ‘Gwneud cais am ad-daliad elusen’, a gofynnir cwestiynau i chi ynglŷn â’r math o gais rydych yn ei wneud.

Wedi i chi lenwi manylion ynglŷn â’ch cais, gofynnir i chi roi mwy o wybodaeth ynglŷn â’ch elusen neu CChAC ar dudalen o’r enw ‘Ynglŷn â’r sefydliad’.

Ar y dudalen ‘Ynglŷn â’r sefydliad’, dim ond elusennau a reolir gan gwmni ymddiriedol, corfforaeth ymddiriedol neu adran ymddiriedol o fewn banc, ddylai ateb ‘iawn’ i’r cwestiwn ‘A ydych yn ymddiriedolwr corfforaethol?’

Yna, gofynnir i chi lenwi tudalen ‘manylion y cais am ad-daliad’. Ar y dudalen hon, gallwch roi gwybod i CThEM am gyfraniadau i’ch elusen neu CChAC y gallwch wneud cais am ad-daliad o dreth ar eu cyfer. Gallwch anfon y manylion hyn ar ddogfen o’r enw taenlen atodlen.

Defnyddiwch daenlen atodlen i roi gwybod i CThEM am gyfraniadau ar gyfer:

Sylwer y gallwch ond wneud cais drwy ddefnyddio’r GASDS ar gyfer cyfraniadau a gasglwyd ar ôl 2013.

Pan fyddwch wedi llenwi’r daenlen atodlen berthnasol, bydd yn rhaid i chi ei chadw ar eich cyfrifiadur.

Bydd yn rhaid i chi ei hatodi i’r ffurflen Elusennau Ar-lein drwy ddewis ‘pori’ neu ‘dewis ffeil’.

Gallwch hefyd gyflwyno eich ceisiadau drwy ddull electronig drwy ddefnyddio eich cronfa ddata Rhodd Cymorth eich hun os yw’n addas ar gyfer gwneud ceisiadau ar-lein.

Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r un dull bob tro.

Os ydych yn allgofnodi neu’n dod i ddiwedd eich terfyn amser yn ystod y broses o wneud cais, caiff eich manylion eu cadw. Pan fyddwch yn mewngofnodi eto, gofynnir i chi a ydych am barhau.

Os ydych am wneud hyn, cewch eich tywys i’r cam a gyrhaeddoch yn gynharach. Er mwyn dileu cais, dewiswch ‘parhau â’r cais am ad-daliad elusen’ ac yna ‘dileu’.

Byddwch wedi cwblhau eich cais am ad-daliad pan fydd tic gwyrdd i’w weld wrth ochr pob cam o’r broses o wneud cais ar y dudalen ‘crynodeb o’r cais am ad-daliad’. Yn y fan hon, gallwch ddewis ‘nesaf’ a mynd i ‘dudalen y datganiad’ er mwyn cwblhau eich cais.

Cyflwyno eich cais

Pan fyddwch yn cyflwyno cais, byddwch yn derbyn cadarnhad ar y sgrin sy’n dangos y dyddiad a’r amser pan gafodd ei anfon. Cewch weld cyfeirnod hefyd. Gwnewch nodyn o hwn. Gallwch ei ddefnyddio os bydd yn rhaid i chi gysylltu â CThEM ynglŷn â’r cais. Serch hynny, nid yw’n cadarnhau taliad.

Gwneud cais atodol ar gyfer Rhodd Cymorth neu gyfraniad bach

Gyda chyfrif Elusennau Ar-lein, gallwch gyflwyno cais atodol Rhodd Cymorth neu gyfraniad bach drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Gallwch wneud cais am hyd at 1,000 o gyfraniadau Rhodd Cymorth ar un tro drwy lenwi ac atodi taenlen atodlen CThEM i’r ffurflen gais ar-lein. Dylai’r daenlen gynnwys manylion am eich cyfraniadau. Gallwch ond lenwi un ffurflen ar-lein ar y tro. Mae’n rhaid i chi ei chyflwyno cyn gwneud cais newydd.

Gallwch gadw ceisiadau sydd ar eu hanner , ac ailddechrau gweithio arnynt ar unrhyw adeg cyn pen 30 diwrnod.

Digwyddiadau sydd wedi eu noddi

Gallwch gynnwys cyfraniadau a dderbyniwyd gan gyfranogwr mewn digwyddiad wedi’i noddi, o dan gofnod sengl, drwy ddefnyddio enw a chyfeiriad cartref y cyfranogwr. Mae’n rhaid bod cyfraniadau’n llai na £500. Golyga hyn na fydd angen i chi restru pob cyfrannwr unigol a wnaeth noddi’r cyfranogwr.

Os yw unrhyw gyfraniad unigol yn fwy na £500, mae’n rhaid i chi neu’r person sy’n gweithredu ar eich rhan ei ddangos fel cyfraniad Rhodd Cymorth ar wahân, gan gynnwys enw chyfeiriad y cyfrannwr.

Cyfraniadau cyfansymiol

Mae Elusennau Ar-lein yn cynnig yr opsiwn i chi ychwanegu cyfraniadau bach o £20 neu lai at ei gilydd, hyd at gyfanswm o £1,000 fesul cofnod. Golyga hyn nad oes yn rhaid i chi roi manylion ar gyfer cyfraniadau unigol (er y gallwch wneud hynny os yw’n well gennych).

Bydd yn dal i fod rhaid i chi gadw manylion pob cyfraniad ar gyfer eich cofnodion eich hun, rhag ofn y bydd yn rhaid i CThEM wirio eich cais.

Defnyddio eich cronfa ddata eich hun

Os ydych yn gwneud ceisiadau’n rheolaidd ar gyfraniadau a wnaed gan fwy nag 1,000 o gyfranwyr Rhodd Cymorth, gallech brynu eich cronfa ddata Rhodd Cymorth eich hunan. Caiff eich cais ei brosesu’n gynt.

Nid oes terfyn i’r nifer o geisiadau y gallwch eu cyflwyno. Er enghraifft, os yw eich cais blynyddol yn cynnwys 6,000 o gyfraniadau, gallwch gyflwyno 6 chais ar-lein gyda hyd at 1,000 o gyfraniadau ar bob ffurflen gais.

Gallwch hefyd wneud cais ar gyfer taliadau atodol ar gyfraniadau bach drwy gyfrwng eich cronfa ddata eich hun. Ni fyddwch yn gallu anfon mwy nag un cais bob dydd yn uniongyrchol o’ch cronfa ddata. Y nifer uchaf o gyfranwyr y gellir eu cynnwys mewn ffeil a grëwyd gan fas-data Rhodd Cymorth yw 500,000.

I wneud cais drwy gyfrwng eich cronfa ddata eich hun, bydd yn rhaid i chi ddatblygu eich meddalwedd gytûn eich hun neu brynu meddalwedd gytûn gan ddarparwr. Mae CThEM wedi cyhoeddi rhestr o feddalwedd msanacholcydnaws.

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio mwy nag un dull ar y tro. Ee, gallech ddefnyddio meddalwedd Rhodd Cymorth i hawlio treth ar gyfraniadau, a defnyddio taenlenni atodlenni CThEM ar gyfer hawlio treth a ddidynnwyd o incwm arall a dderbyniwyd gennych.

Asiantau, enwebeion ac asiantau casglu

Mae Elusennau Ar-lein yn caniatáu asiantau, enwebeion ac asiantau casglu i wneud ceisiadau am ad-daliadau ar eich rhan.

Gallant gyflwyno eich ceisiadau am ad-daliadau Rhodd Cymorth, GASDS neu ‘incwm arall’ drwy ddull electronig drwy ddefnyddio taenlenni atodlenni CThEM, neu eu meddalwedd eu hunain.

Gall asiantau, enwebeion ac asiantau casglu ond wneud cais ar gyfer eich elusen neu CChAC os ydych wedi rhoi gwybod i CThEM eich bod wedi eu hawdurdodi i’ch cynrychioli.

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEM bod unigolyn neu sefydliad wedi ei awdurdodi i wneud cais ar eich rhan drwy lenwi ffurflen ChV1. Dylech gadw’r ffurflen gais (ChV1) ar eich cyfrifiadur a’i chwblhau ar y sgrin. Dylech gynnwys manylion yr asiant yn yr adran ‘Newidiadau i fanylion yr enwebai a’r asiantaeth gasglu’. Yna dylech ei hargraffu, ei llofnodi a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Asiantau, enwebeion neu asiantau casglu - y broses gofrestru

Mae’n rhaid i asiantau, enwebeion ac asiantau casglu ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM cyn cofrestru ar gyfer Elusennau Ar-lein.

Bydd yn rhaid iddynt fewngofnodi i Wasanaethau Ar-lein ac ychwanegu ‘Elusennau i Asiantau’ i’w portffolio o’r adran ‘Gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu’ yn ‘Eich gwasanaethau CThEM’, wedyn:

  1. Ewch i hafan CThEM a dewis ‘Cofrestru (defnyddwyr newydd)’ o dan yr adran ‘Ewch ar-lein’.
  2. Dilynwch y cysylltiad ‘Ymuno â Gwasanaethau Ar-lein CThEM’ yn yr adran ‘Ymunwch ar gyfer cyflwyno datganiadau drwy ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM’.
  3. Dewiswch yr opsiwn ‘Asiant’ a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Bydd CThEM yn cydnabod yr awdurdodiad hwn ac yn anfon cyfeirnod asiant unigryw a chyfeirnod cyfrif y cwsmer at eich asiant, enwebai neu asiant casglu. Er mwyn ymrestru bydd yn rhaid iddo ddefnyddio’r 2 gyfeirnod hyn a’i god post.

Bydd CThEM yn anfon y cyfeirnodau pan fyddwch wedi rhoi gwybod iddynt eich bod wedi awdurdodi asiant, enwebai neu asiant casglu i wneud ceisiadau ar eich rhan.

Bydd CThEM yn anfon cod cychwyn drwy’r post at eich asiant, enwebai neu asiant casglu o fewn 7 diwrnod. Mae’n rhaid iddo gychwyn y gwasanaeth o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad ar y llythyr.

Bydd yn rhaid i’r asiant gyflwyno cais ar-lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl ei ddechrau. Os na fydd yn gwneud eich cais cyn pen yr amser hwn, dilëir unrhyw wybodaeth ar y cais a gadwyd yn rhannol, a bydd yn rhaid iddo ddechrau arni eto.

Derbyn taliad

Fel arfer, caiff ceisiadau a wneir drwy gyfrwng Elusennau Ar-lein eu talu o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i CThEM dderbyn y cais. Bydd CThEM yn anfon cadarnhad ar bapur atoch fod taliad wedi cael ei wneud i’ch cyfrif banc.

Cyhoeddwyd ar 8 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 October 2022 + show all updates
  1. Corrected to say that Charities Online gives you the option to add together small donations of £20 or less, up to a total of £1,000 per entry. This means you do not have to provide details for individual donations (although you can do if you prefer).

  2. Aggregated Donations have been updated from £20 to £30 for Gift Aid.

  3. Added translation

  4. First published.