Canllawiau

Cronfeydd wrth gefn ariannol elusennau

Sut i lunio polisi cronfeydd wrth gefn ar gyfer eich elusen ac adrodd ar ei chronfeydd wrth gefn yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr

Applies to England and Wales

Cronfeydd wrth gefn ariannol elusennau

Gallwch neilltuo arian fel cronfa wrth gefn i ddiogelu eich elusen yn erbyn lleihad mewn incwm neu er mwyn iddi fanteisio ar gyfleoedd newydd. Gall cronfeydd wrth gefn eich elusen gael eu gwario ar unrhyw un o’i nodau

Lluniwch bolisi cronfeydd wrth gefn i esbonio i eraill pam eich bod yn neilltuo arian yn hytrach na’i wario ar nodau eich elusen.

Mae canllaw ar gronfeydd wrth gefn y Comisiwn Elusennau yn rhoi rhagor o wybodaeth am ysgrifennu polisi cronfeydd wrth gefn.

Sut i lunio polisi cronfeydd wrth gefn

Dylai’ch polisi cronfeydd wrth gefn amlinellu:

  • faint y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw mewn cronfa wrth gefn a pham
  • sut a phryd y gellir gwario cronfeydd wrth gefn eich elusen
  • pa mor aml y caiff y polisi cronfeydd wrth gefn ei adolygu

Gallwch neilltuo digon o arian i ateb angen posibl, fel lleihad annisgwyl mewn incwm. Os ydych yn neilltuo arian ar gyfer pwrpas penodol, fel gwaith adeiladu, dylech egluro bod hwn yn rhywbeth ar wahân i gronfeydd wrth gefn cyffredinol yr elusen.

Adolygwch eich polisi cronfeydd wrth gefn yn gyson er mwyn sicrhau nad ydych yn neilltuo gormod neu ddim digon.

Adroddiadau blynyddol yr ymddiriedolwyr: sut i adrodd ar gronfeydd wrth gefn

Defnyddiwch adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr i ddweud wrth roddwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid eraill:

  • pam bod angen i chi neilltuo’r arian yn hytrach na’i wario ar nodau eich elusen
  • faint y mae’ch elusen yn ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn
  • pam bod rhaid i’ch elusen ddal y swm hwn wrth gefn
  • beth y gellir gwario cronfeydd wrth gefn eich elusen arno

Os ydych yn paratoi cyfrifon croniadau, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i chi amlinellu’ch polisi cronfeydd wrth gefn - neu’r rhesymau dros beidio â chael cronfeydd wrth gefn - yn adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2013